Search Legislation

Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

5.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cynllunio lleoedd ysgolion (gan gynnwys y camau sydd eu hangen ym marn yr awdurdod i baru cyflenwad o leoedd ysgol â'r angen a nodwyd), gan ystyried—

(a)unrhyw ostyngiad neu godiad arfaethedig yn niferoedd y disgyblion, yn unrhyw ran o ardal yr awdurdod, sy'n arwain at fod y lleoedd sydd ar gael yn rhy niferus neu'n rhy brin;

(b)unrhyw lefelau sy'n bodoli o leoedd sy'n rhy niferus ac achosion o orlenwi;

(c)y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg;

(ch)y galw am leoedd mewn ysgolion crefyddol;

(d)yr angen am sicrhau bod yr holl adeiladau ysgolion o safon addas ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac y gwneir hynny, pan fo'n briodol, mewn ffordd sy'n hwyluso defnyddio mangreoedd ysgol gan y gymuned;

(dd)y gofynion cyfreithiol am sicrhau cydymffurfedd â'r terfyn statudol ar faint dosbarthiadau babanod a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf 1998(1), a'i bod yn ddymunol cyfyngu dosbarthiadau iau i 30 o ddisgyblion;

(e)yr angen am sicrhau addysg feithrin (yn unol â gofynion a osodwyd yn rhinwedd Rheoliadau o dan adran 118 o Deddf 1998)(2);

(f)cyfrifoldebau cyfreithiol yr awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(3), neu unrhyw ddeddfwriaeth arall, i wella mynediad i ddisgyblion anabl ac i hwyluso mynediad i gyflogeion anabl a defnyddwyr eraill mangreoedd ysgol;

(ff)yr angen am ddarparu lleoedd ôl-16 mewn ysgolion; ac

(g)yr angen am ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod, neu mewn unedau arbennig sy'n gysylltiedig â chategorïau eraill o ysgolion a gynhelir felly, neu drwy leoliad mewn ysgolion arbennig nas cynhelir neu mewn ysgolion annibynnol.

(1)

Mae Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1943) yn pennu 30 yn derfyn maint dosbarthiadau babanod fel arfer.

(2)

Gweler Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/893, (Cy.113) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 O.S. 2005/1813, (Cy. 143).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources