Search Legislation

Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, dirymu a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir y Rheoliadau a restrir yn y golofn gyntaf a'r ail o'r tabl yn Atodlen 1 i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r tabl hwnnw.

(3Mae unrhyw gynllun, sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2006, ac a wnaed o dan y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), i barhau mewn grym tan 1 Medi 2006 er gwaethaf y ffaith bod y paragraff hwnnw yn dirymu'r Rheoliadau y cafodd y cynllun ei wneud odano.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “addysg feithrin” yr ystyr a roddir i “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf 1998, ac mae lleoedd meithrin i'w dehongli yn unol â hynny;

  • mae “a waherddir” ac “a waharddwyd” (“excluded”) yn golygu gwahardd am resymau disgyblu, ac mae “wedi'u gwahardd” a “gwaharddiad” (“exclusion”) i'w dehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru sy'n awdurdod addysg lleol(1);

  • ystyr “awdurdod esgobaethol priodol” (“appropriate diocesan authority”) mewn perthynas ag un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw—

    (i)

    y Bwrdd Cyllid Esgobaethol neu berson arall a ddynodir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 142(1) o Ddeddf 1998(2) (yn ôl y digwydd) ar gyfer pob un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, a

    (ii)

    esgob pob un o esgobaethau'r Eglwys Gatholig Rufeinig,

    y mae unrhyw ran o'u hardal (ym mhob achos) yn dod o fewn ardal yr awdurdod;

  • ystyr “Cynllun Addysg Sengl” (“Single Education Plan”) yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 3(3) ac, oni nodir yn wahanol, mae'n cynnwys yr Wybodaeth Ategol;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(4);

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Plant 2004(5);

  • ystyr “Targedau” (“Targets”) yw'r Targedau y cyfeirir atynt yn Rhan 3 o Atodlen 2;

  • mae i “un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig” yr ystyr a roddir i “Roman Catholic Church school” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998;

  • mae i “un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “Church in Wales school” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “yr Wybodaeth Ategol” (“the Supporting Information”) yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 4; a

  • mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod penodol) yr ystyr a roddir i “school maintained by a local education authority” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyhoeddi (sut bynnag y cânt eu mynegi) yn gyfeiriadau at gyhoeddi yn unol â rheoliad 11.

Awdurdodau i baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl

3.—(1Rhaid i bob awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i'r cynllun gynnwys datganiad ynghylch y weledigaeth a'r gwerthoedd strategol cyffredinol y mae'r awdurdod yn eu harddel wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o ran addysg, gan gadw mewn cof ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb gan gynnwys, yn benodol, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993(6), Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975(7), Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976(8), Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(9), a Deddf Hawliau Dynol 1998(10).

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “Cynllun Addysg Sengl” (“Single Education Plan”) yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 26(1) o Ddeddf 2004 sy'n cwmpasu strategaethau'r awdurdod ar gyfer—

(a)codi safonau addysg plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod neu heb fod yn yr ysgol;

(b)gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;

(c)cynllunio lleoedd ysgol a lleoedd meithrin i fodloni anghenion poblogaeth ardal yr awdurdod; ac

(ch)addysgu disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd neu am resymau eraill;

ac yn cwmpasu Targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad a phresenoldeb disgyblion, ac ar gyfer gostwng nifer y disgyblion a waherddir o'r ysgol.

(4Rhaid i gynnwys Cynllun Addysg Sengl gydymffurfio â rheoliad 4.

Cynnwys Cynllun Addysg Sengl

4.  Rhaid i bob Cynllun Addysg Sengl gynnwys darpariaeth sy'n ymdrin â'r materion y cyfeirir atynt yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r wybodaeth ategol y cyfeirir ati yn Atodlen 3 (“yr Wybodaeth Ategol”) fynd gydag ef.

Cyfnod Cynllun Addysg Sengl

5.  Mae pob Cynllun Addysg Sengl i fod yn effeithiol am gyfnod yn cychwyn ar 1 Medi 2006 ac yn gorffen ar 31 Awst 2008.

Ymgynghori

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r ymgynghoriad y mae'n ofynnol i bob awdurdod ei gynnal wrth iddo lunio'i Gynllun Addysg Sengl.

(2Rhaid ymgynghori â'r canlynol ynghylch y cynllun drafft—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pennaeth a chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod;

(c)mewn perthynas â phob uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod—

(i)yr athro neu'r athrawes â gofal, a

(ii)pan fo Rheoliadau o dan baragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996(11) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod sefydlu pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned honno, y pwyllgor hwnnw;

(ch)yr awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer unrhyw un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig a gynhelir gan yr awdurdod;

(d)Bwrdd yr Iaith Gymraeg (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993);

(dd)Byrddau Iechyd Lleol (o fewn yr ystyr sydd i Local Health Boards yn adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(12));

(e)Ymddiriedolaethau GIG (o fewn yr ystyr sydd i NHS Trusts yn adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(13));

(f)y Bartneriaeth Pobl Ifanc(14);

(ff)Partneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn yr ystyr sydd i Early Years Development and Childcare Partnership yn adran 119 o Ddeddf 1998)(15);

(g)Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (o fewn yr ystyr sydd i Standing Advisory Council on Religious Education yn adran 390 o Ddeddf 1996)(16);

(ng)Timau Troseddau Ieuenctid (o fewn yr ystyr sydd i Youth Offending Teams yn adran 39 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998)(17);

(h)Partneriaeth Diogelwch Cymunedol(18);

(i)Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc(19); a

(j)y cyfryw bobl neu gyrff eraill sydd ym marn yr awdurdod yn briodol.

(3Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) i (i) o baragraff (2), dim ond â chyrff sy'n cwmpasu ardal gyfan yr awdurdod neu unrhyw ran ohoni y mae'n rhaid ymgynghori.

(4Rhaid i'r awdurdod ymgynghori ar y cynllun drafft am gyfnod o ddim llai nag wyth wythnos.

(5Rhaid i'r awdurdod gynnal yr ymgynghoriad drwy anfon at bob ymgynghorai gopi drafft o'r cynllun yn gwahodd sylwadau o fewn cyfnod penodedig.

(6Caniateir bodloni'r gofyniad ym mharagraff (5) am anfon copi drafft o'r cynllun at ymgyngoreion drwy anfon copïau'n electronig.

(7At ddibenion y rheoliad hwn nid yw “Cynllun Addysg Sengl” yn cynnwys yr Wybodaeth Ategol.

Mabwysiadu Cynllun Addysg Sengl

7.  Rhaid i bob awdurdod fabwysiadu Cynllun Addysg Sengl erbyn 31 Gorffennaf 2006.

Cyhoeddi Cynllun Addysg Sengl

8.  Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi ei Gynllun Addysg Sengl, fel y'i mabwysedir felly, erbyn 1 Medi 2006.

Diwygio Targedau

9.—(1Rhaid diwygio'r Targedau, a rhaid cyhoeddi'r Targedau diwygiedig ar 31 Gorffennaf 2007 neu cyn hynny.

(2Rhaid i'r Targedau diwygiedig gwmpasu blwyddyn ysgol 2007-08 a blwyddyn ysgol 2008-09.

(3Nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ynghylch ei Dargedau diwygiedig.

Diwygio'r Wybodaeth Ategol

10.—(1Rhaid diwygio'r Wybodaeth Ategol a rhaid cyhoeddi'r Wybodaeth Ategol ddiwygiedig ar neu cyn 31 Gorffennaf 2007.

(2Rhaid i'r wybodaeth ddiwygiedig gwmpasu—

(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 1(a) i (ch) o Atodlen 3 am y flwyddyn ysgol 2006-07 a'r pum mlynedd ysgol ganlynol;

(b)yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (d) o Atodlen 3 am y flwyddyn ysgol 2006-07, 2007-08 a 2008-09; ac

(c)yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (dd) o Atodlen 3 ar gyfer y flwyddyn ysgol 2006-07.

(3Nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ynghylch yr Wybodaeth Ategol ddiwygiedig.

Gofynion cyhoeddi

11.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin dogfennau y mae'n ofynnol eu cyhoeddi fel pe baent wedi eu cyhoeddi ar y dyddiad y bodlonir y gofynion a nodir isod yn y rheoliad hwn neu, os bodlonir gofynion gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, ar yr olaf o'r dyddiadau hynny.

(2Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi'r ddogfen yn electronig ar safle'r awdurdod ar y rhyngrwyd.

(3Rhaid i bob awdurdod ar unrhyw adegau a fyddo'n rhesymol sicrhau bod copïau o'r ddogfen ar gael i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd—

(a)yn swyddfeydd yr awdurdod; a

(b)mewn unrhyw fannau eraill a fyddo'n rhesymol.

Darparu copïau o Gynllun Addysg Sengl

12.—(1Rhaid i bob awdurdod ddarparu copi o'i Gynllun Addysg Sengl ar gyfer—

(a)yr holl rai hynny y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan reoliad 6; a

(b)unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.

(2Rhaid darparu copi o'r diwygiadau a wneir i'r Targedau yn unol â rheoliad 9 ar gyfer—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; ac

(c)unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.

(3Rhaid darparu copi o'r diwygiadau a wneir i'r Wybodaeth Ategol yn unol â rheoliad 10 ar gyfer—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; ac

(c) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.

(4Pan fo person yn gofyn am gopi o dan baragraff (1), (2) neu (3) caniateir bodloni'r gofyniad drwy anfon y copi'n electronig.

Darpariaeth drosiannol

13.  Hyd oni ddaw adran 44 o Ddeddf Addysg 2005 i rym(20), mae cyfeiriadau ym mharagraff 3(a)(ii) a (iii) o Atodlen 2 sy'n nodi ei bod yn ofynnol cymryd mesurau arbennig mewn cysylltiad â'r ysgol i'w darllen fel pe bai'r cyfeiriadau'n nodi bod mesurau arbennig yn ofynnol ar gyfer yr ysgol o fewn ystyr adran 13(9) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(21), ac mae cyfeiriadau yn y paragraffau hynny sy'n nodi ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol i'w darllen fel pe bai'r cyfeiriadau'n nodi bod gan yr ysgol ddiffygion difrifol yn ystyr adran 16A(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(22).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(23).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources