Search Legislation

Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 877 (Cy.82)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

21 Mawrth 2006

Yn dod i rym

1 Ebrill 2006

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), (5) a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 26 a 66(1) o Ddeddf Plant 2004(3), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Enwi, cychwyn, dirymu a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir y Rheoliadau a restrir yn y golofn gyntaf a'r ail o'r tabl yn Atodlen 1 i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r tabl hwnnw.

(3Mae unrhyw gynllun, sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2006, ac a wnaed o dan y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), i barhau mewn grym tan 1 Medi 2006 er gwaethaf y ffaith bod y paragraff hwnnw yn dirymu'r Rheoliadau y cafodd y cynllun ei wneud odano.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “addysg feithrin” yr ystyr a roddir i “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf 1998, ac mae lleoedd meithrin i'w dehongli yn unol â hynny;

  • mae “a waherddir” ac “a waharddwyd” (“excluded”) yn golygu gwahardd am resymau disgyblu, ac mae “wedi'u gwahardd” a “gwaharddiad” (“exclusion”) i'w dehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru sy'n awdurdod addysg lleol(4);

  • ystyr “awdurdod esgobaethol priodol” (“appropriate diocesan authority”) mewn perthynas ag un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw—

    (i)

    y Bwrdd Cyllid Esgobaethol neu berson arall a ddynodir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 142(1) o Ddeddf 1998(5) (yn ôl y digwydd) ar gyfer pob un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, a

    (ii)

    esgob pob un o esgobaethau'r Eglwys Gatholig Rufeinig,

    y mae unrhyw ran o'u hardal (ym mhob achos) yn dod o fewn ardal yr awdurdod;

  • ystyr “Cynllun Addysg Sengl” (“Single Education Plan”) yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 3(3) ac, oni nodir yn wahanol, mae'n cynnwys yr Wybodaeth Ategol;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6);

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(7);

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Plant 2004(8);

  • ystyr “Targedau” (“Targets”) yw'r Targedau y cyfeirir atynt yn Rhan 3 o Atodlen 2;

  • mae i “un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig” yr ystyr a roddir i “Roman Catholic Church school” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998;

  • mae i “un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “Church in Wales school” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998;

  • ystyr “yr Wybodaeth Ategol” (“the Supporting Information”) yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 4; a

  • mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod penodol) yr ystyr a roddir i “school maintained by a local education authority” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyhoeddi (sut bynnag y cânt eu mynegi) yn gyfeiriadau at gyhoeddi yn unol â rheoliad 11.

Awdurdodau i baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl

3.—(1Rhaid i bob awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i'r cynllun gynnwys datganiad ynghylch y weledigaeth a'r gwerthoedd strategol cyffredinol y mae'r awdurdod yn eu harddel wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o ran addysg, gan gadw mewn cof ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb gan gynnwys, yn benodol, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993(9), Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975(10), Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976(11), Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(12), a Deddf Hawliau Dynol 1998(13).

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “Cynllun Addysg Sengl” (“Single Education Plan”) yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 26(1) o Ddeddf 2004 sy'n cwmpasu strategaethau'r awdurdod ar gyfer—

(a)codi safonau addysg plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod neu heb fod yn yr ysgol;

(b)gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;

(c)cynllunio lleoedd ysgol a lleoedd meithrin i fodloni anghenion poblogaeth ardal yr awdurdod; ac

(ch)addysgu disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd neu am resymau eraill;

ac yn cwmpasu Targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad a phresenoldeb disgyblion, ac ar gyfer gostwng nifer y disgyblion a waherddir o'r ysgol.

(4Rhaid i gynnwys Cynllun Addysg Sengl gydymffurfio â rheoliad 4.

Cynnwys Cynllun Addysg Sengl

4.  Rhaid i bob Cynllun Addysg Sengl gynnwys darpariaeth sy'n ymdrin â'r materion y cyfeirir atynt yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r wybodaeth ategol y cyfeirir ati yn Atodlen 3 (“yr Wybodaeth Ategol”) fynd gydag ef.

Cyfnod Cynllun Addysg Sengl

5.  Mae pob Cynllun Addysg Sengl i fod yn effeithiol am gyfnod yn cychwyn ar 1 Medi 2006 ac yn gorffen ar 31 Awst 2008.

Ymgynghori

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r ymgynghoriad y mae'n ofynnol i bob awdurdod ei gynnal wrth iddo lunio'i Gynllun Addysg Sengl.

(2Rhaid ymgynghori â'r canlynol ynghylch y cynllun drafft—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pennaeth a chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod;

(c)mewn perthynas â phob uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod—

(i)yr athro neu'r athrawes â gofal, a

(ii)pan fo Rheoliadau o dan baragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996(14) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod sefydlu pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned honno, y pwyllgor hwnnw;

(ch)yr awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer unrhyw un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig a gynhelir gan yr awdurdod;

(d)Bwrdd yr Iaith Gymraeg (o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993);

(dd)Byrddau Iechyd Lleol (o fewn yr ystyr sydd i Local Health Boards yn adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(15));

(e)Ymddiriedolaethau GIG (o fewn yr ystyr sydd i NHS Trusts yn adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(16));

(f)y Bartneriaeth Pobl Ifanc(17);

(ff)Partneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn yr ystyr sydd i Early Years Development and Childcare Partnership yn adran 119 o Ddeddf 1998)(18);

(g)Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (o fewn yr ystyr sydd i Standing Advisory Council on Religious Education yn adran 390 o Ddeddf 1996)(19);

(ng)Timau Troseddau Ieuenctid (o fewn yr ystyr sydd i Youth Offending Teams yn adran 39 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998)(20);

(h)Partneriaeth Diogelwch Cymunedol(21);

(i)Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc(22); a

(j)y cyfryw bobl neu gyrff eraill sydd ym marn yr awdurdod yn briodol.

(3Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) i (i) o baragraff (2), dim ond â chyrff sy'n cwmpasu ardal gyfan yr awdurdod neu unrhyw ran ohoni y mae'n rhaid ymgynghori.

(4Rhaid i'r awdurdod ymgynghori ar y cynllun drafft am gyfnod o ddim llai nag wyth wythnos.

(5Rhaid i'r awdurdod gynnal yr ymgynghoriad drwy anfon at bob ymgynghorai gopi drafft o'r cynllun yn gwahodd sylwadau o fewn cyfnod penodedig.

(6Caniateir bodloni'r gofyniad ym mharagraff (5) am anfon copi drafft o'r cynllun at ymgyngoreion drwy anfon copïau'n electronig.

(7At ddibenion y rheoliad hwn nid yw “Cynllun Addysg Sengl” yn cynnwys yr Wybodaeth Ategol.

Mabwysiadu Cynllun Addysg Sengl

7.  Rhaid i bob awdurdod fabwysiadu Cynllun Addysg Sengl erbyn 31 Gorffennaf 2006.

Cyhoeddi Cynllun Addysg Sengl

8.  Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi ei Gynllun Addysg Sengl, fel y'i mabwysedir felly, erbyn 1 Medi 2006.

Diwygio Targedau

9.—(1Rhaid diwygio'r Targedau, a rhaid cyhoeddi'r Targedau diwygiedig ar 31 Gorffennaf 2007 neu cyn hynny.

(2Rhaid i'r Targedau diwygiedig gwmpasu blwyddyn ysgol 2007-08 a blwyddyn ysgol 2008-09.

(3Nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ynghylch ei Dargedau diwygiedig.

Diwygio'r Wybodaeth Ategol

10.—(1Rhaid diwygio'r Wybodaeth Ategol a rhaid cyhoeddi'r Wybodaeth Ategol ddiwygiedig ar neu cyn 31 Gorffennaf 2007.

(2Rhaid i'r wybodaeth ddiwygiedig gwmpasu—

(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 1(a) i (ch) o Atodlen 3 am y flwyddyn ysgol 2006-07 a'r pum mlynedd ysgol ganlynol;

(b)yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (d) o Atodlen 3 am y flwyddyn ysgol 2006-07, 2007-08 a 2008-09; ac

(c)yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (dd) o Atodlen 3 ar gyfer y flwyddyn ysgol 2006-07.

(3Nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ynghylch yr Wybodaeth Ategol ddiwygiedig.

Gofynion cyhoeddi

11.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin dogfennau y mae'n ofynnol eu cyhoeddi fel pe baent wedi eu cyhoeddi ar y dyddiad y bodlonir y gofynion a nodir isod yn y rheoliad hwn neu, os bodlonir gofynion gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, ar yr olaf o'r dyddiadau hynny.

(2Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi'r ddogfen yn electronig ar safle'r awdurdod ar y rhyngrwyd.

(3Rhaid i bob awdurdod ar unrhyw adegau a fyddo'n rhesymol sicrhau bod copïau o'r ddogfen ar gael i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd—

(a)yn swyddfeydd yr awdurdod; a

(b)mewn unrhyw fannau eraill a fyddo'n rhesymol.

Darparu copïau o Gynllun Addysg Sengl

12.—(1Rhaid i bob awdurdod ddarparu copi o'i Gynllun Addysg Sengl ar gyfer—

(a)yr holl rai hynny y mae'n ofynnol ymgynghori â hwy o dan reoliad 6; a

(b)unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.

(2Rhaid darparu copi o'r diwygiadau a wneir i'r Targedau yn unol â rheoliad 9 ar gyfer—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; ac

(c)unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.

(3Rhaid darparu copi o'r diwygiadau a wneir i'r Wybodaeth Ategol yn unol â rheoliad 10 ar gyfer—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; ac

(c) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.

(4Pan fo person yn gofyn am gopi o dan baragraff (1), (2) neu (3) caniateir bodloni'r gofyniad drwy anfon y copi'n electronig.

Darpariaeth drosiannol

13.  Hyd oni ddaw adran 44 o Ddeddf Addysg 2005 i rym(23), mae cyfeiriadau ym mharagraff 3(a)(ii) a (iii) o Atodlen 2 sy'n nodi ei bod yn ofynnol cymryd mesurau arbennig mewn cysylltiad â'r ysgol i'w darllen fel pe bai'r cyfeiriadau'n nodi bod mesurau arbennig yn ofynnol ar gyfer yr ysgol o fewn ystyr adran 13(9) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(24), ac mae cyfeiriadau yn y paragraffau hynny sy'n nodi ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol i'w darllen fel pe bai'r cyfeiriadau'n nodi bod gan yr ysgol ddiffygion difrifol yn ystyr adran 16A(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(25).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(26).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2006

Rheoliad 1

ATODLEN 1Rheoliadau a Ddirymwyd

OS Rhif EnwDarpariaethau a ddirymwyd
O.S. 1998/ 644Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998Pob un
O.S. 2001/ 606 (Cy.29)Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001Pob un
O.S. 2002/ 1187 (Cy.135)Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002Pob un
O.S. 2003/ 893 (Cy.113)Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003Rheoliadau 5, 6 a 7 a'r Atodlen.
O.S. 2003/ 1732 (Cy.190)Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003Pob un
O.S. 2005/ 434 (Cy.45)Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Diwygio) (Cymru) 2005Pob un

Rheoliad 4

ATODLEN 2MATERION I YMDRIN Å HWY MEWN CYNLLUNIAU ADDYSG SENGL

RHAN 1Cyflwyniad

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312(1) o Ddeddf 1996;

  • ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod o flwyddyn yn cychwyn ar 1 Medi;

  • mae “cyfnod allweddol” i'w ddehongli'n unol â “key stage” yn adran 103 o Ddeddf 2002;

  • mae i “datganiad o anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “statement of special educational needs” gan adran 324 o Ddeddf 1996(27);

  • ystyr “disgyblion yr ail gyfnod allweddol” (“second key stage pupils”) a “disgyblion y trydydd cyfnod allweddol” (“third key stage pupils”) a “disgyblion y pedwerydd cyfnod allweddol” (“fourth key stage pupils”) yw disgyblion sydd yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd a'r pedwerydd yn y drefn honno;

  • ystyr “lefel 4” (“level 4”) a “lefel 5” (“level 5”) yw lefelau 4 a 5, yn y drefn honno, ar raddfa lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru fel a ddyfernir gan asesiad athrawon;

  • ystyr “NQF” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau a achredir ar y cyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n arfer swyddogaethau a freiniwyd gynt yn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru a'r awdurdodau rheoleiddio cyfatebol ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon(28), ac ystyr “lefel” (“level”) (ac eithrio mewn perthynas â “lefel 4” a “5”, a ddiffinnir uchod) yw'r lefel yr achredir cymhwyster ati o fewn yr NQF; a

  • ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd.

RHAN 2Strategaethau

2.  Rhaid i Gynllun Addysg Sengl gynnwys, ar gyfer y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 5, y strategaethau y cyfeirir atynt yn y Rhan hon.

3.  Datganiad sy'n nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, gan gynnwys ei strategaethau ar gyfer y canlynol—

(a)cefnogi ysgolion—

(i)y mae eu perfformiad yn sylweddol waeth na pherfformiad ysgolion eraill yng Nghymru sydd â lefelau tebyg o ddisgyblion â'r hawl i brydau am ddim yn yr ysgol; neu

(ii)a arolygwyd gan arolygydd cofrestredig, y mae ei adroddiad arolygu'n datgan bod mesurau arbennig yn ofynnol o ran yr ysgol, neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, ym marn yr arolygydd, a bod y Prif Arolygydd yn cytuno â'r farn honno; neu

(iii)a arolygwyd gan aelod o'r Arolygiaeth y mae ei adroddiad arolygu'n datgan bod mesurau arbennig yn ofynnol o ran yr ysgol, neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, ym marn yr arolygydd;

(b)cefnogi ysgolion yn y gwaith o wella'r modd y trosglwyddir disgyblion rhwng yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd;

(c)cefnogi ysgolion yn y gwaith o wella safonau llythrennedd neu rifedd, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer gwella sgiliau'r sawl sy'n tangyflawni;

(ch)darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu sy'n sylweddol fwy na rhai'r mwyafrif o'u cyfoedion;

(d)cefnogi ysgolion a'r gefnogaeth honno wedi'i hanelu at gadw disgyblion yn yr ysgol ac at ailintegreiddio disgyblion a waharddwyd;

(dd)cefnogi ysgolion i ddatblygu ffocws cymunedol;

(e)cefnogi parhad ieithyddol yn yr iaith Gymraeg; ac

(f)cefnogi ysgolion yn y gwaith o wella cyfradd presenoldebau disgyblion.

4.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod, a'r ddarpariaeth y mae'n bwriadu ei gwneud, boed yn rhan amser neu'n amser llawn, ar gyfer disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd, neu am resymau eraill, ac ar gyfer codi safonau addysg y disgyblion hynny.

5.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cynllunio lleoedd ysgolion (gan gynnwys y camau sydd eu hangen ym marn yr awdurdod i baru cyflenwad o leoedd ysgol â'r angen a nodwyd), gan ystyried—

(a)unrhyw ostyngiad neu godiad arfaethedig yn niferoedd y disgyblion, yn unrhyw ran o ardal yr awdurdod, sy'n arwain at fod y lleoedd sydd ar gael yn rhy niferus neu'n rhy brin;

(b)unrhyw lefelau sy'n bodoli o leoedd sy'n rhy niferus ac achosion o orlenwi;

(c)y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg;

(ch)y galw am leoedd mewn ysgolion crefyddol;

(d)yr angen am sicrhau bod yr holl adeiladau ysgolion o safon addas ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac y gwneir hynny, pan fo'n briodol, mewn ffordd sy'n hwyluso defnyddio mangreoedd ysgol gan y gymuned;

(dd)y gofynion cyfreithiol am sicrhau cydymffurfedd â'r terfyn statudol ar faint dosbarthiadau babanod a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf 1998(29), a'i bod yn ddymunol cyfyngu dosbarthiadau iau i 30 o ddisgyblion;

(e)yr angen am sicrhau addysg feithrin (yn unol â gofynion a osodwyd yn rhinwedd Rheoliadau o dan adran 118 o Deddf 1998)(30);

(f)cyfrifoldebau cyfreithiol yr awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(31), neu unrhyw ddeddfwriaeth arall, i wella mynediad i ddisgyblion anabl ac i hwyluso mynediad i gyflogeion anabl a defnyddwyr eraill mangreoedd ysgol;

(ff)yr angen am ddarparu lleoedd ôl-16 mewn ysgolion; ac

(g)yr angen am ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod, neu mewn unedau arbennig sy'n gysylltiedig â chategorïau eraill o ysgolion a gynhelir felly, neu drwy leoliad mewn ysgolion arbennig nas cynhelir neu mewn ysgolion annibynnol.

6.  Datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro cynnydd o ran pob un o'i strategaethau y cyfeirir atynt yn y Rhan hon.

RHAN 3Targedau

Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad

7.—(1O ran y blynyddoedd ysgol 2006-07 a 2007-08 ceir y Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad yn is-baragraffau (2), (3) a (5) isod.

(2Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer cyrhaeddiad fel a ganlyn—

(a)Y ganran o ddisgyblion yr ail gyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cyrraedd lefel 4 neu uwch mewn mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg fel a asesir gan asesiad athrawon;

(b)Y ganran o ddisgyblion y trydydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cyrraedd lefel 5 neu uwch mewn mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg fel a asesir gan asesiad athrawon;

(c)Y ganran o ddisgyblion y pedwerydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill gradd C neu uwch mewn arholiadau TGAU mewn mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg;

(ch)Y ganran o ddisgyblion 15 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill unrhyw radd o A* i C mewn pum arholiad TGAU neu fwy, neu gymhwyster cyfatebol mewn arholiadau eraill ar NQF lefel 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU neu arholiadau eraill ar NQF lefel 2;

(d)Cyfrifir y nifer o bwyntiau ar gyfartaledd a enillir gan ddisgyblion 15 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod mewn arholiadau o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(32) yn unol â'r paragraff hwnnw; ac

(dd)Y ganran o ddisgyblion sy'n gorffen addysg lawnamser heb unrhyw gymhwyster a gymeradwywyd(33).

(3Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer presenoldeb fel a ganlyn—

(a)Cyfanswm cyfradd y presenoldebau ar gyfer ysgolion cynradd a gynhelir gan yr awdurdod; a

(b)Cyfanswm cyfradd y presenoldebau ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod.

(4Yn is-baragraff (3)—

ystyr “cyfanswm cyfradd y presenoldebau” (“the total attendance rate”) yw cyfanswm nifer y presenoldebau yn y flwyddyn ysgol, y gosodir y targed mewn perthynas â hi, wedi'i fynegi fel canran o gyfanswm nifer y presenoldebau posibl yn y flwyddyn ysgol honno; ac

ystyr “cyfanswm nifer y presenoldebau posibl” (“the total number of possible attendances”) yw'r nifer a geir o luosi'r nifer o ddisgyblion dydd o oedran ysgol gorfodol a gofrestrir, yn ôl y digwydd, mewn ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol y gosodir y targed mewn perthynas â hi gan nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn ysgol honno.

(5Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer gwaharddiadau fel a ganlyn—

(a)yn achos y sector cynradd a'r sector uwchradd, y ganran o ddiwrnodau ysgol a gollwyd oherwydd gwaharddiadau am gyfnod penodol a hyd y gwaharddiadau am gyfnod penodol ar gyfartaledd mewn diwrnodau; a

(b)yn achos ysgolion uwchradd, y gyfradd o waharddiadau parhaol fesul 1000 o ddisgyblion.

(6At ddibenion paragraff (2), mae cyfeiriad at ddisgyblion 15 oed yn gyfeiriad at ddisgyblion a oedd yn 15 oed ar yr 31 Awst yn union cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y gosodwyd y targed ar ei chyfer.

Rheoliad 4

ATODLEN 3Gwybodaeth Ategol

Rhaid i Atodiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol fynd gyda Chynllun Addysg Sengl—

(a)y nifer o ddisgyblion cynradd ac uwchradd yn ardal yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06, a nifer arfaethedig y disgyblion hynny ar gyfer y pum mlynedd ysgol ddilynol;

(b)y nifer o ddisgyblion ar y gofrestr ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (gan gynnwys ysgolion meithrin ac ysgolion arbennig) yn y flwyddyn ysgol 2005-06 o'i chymharu â chapasiti'r ysgol, a'r nifer arfaethedig ar y gofrestr ar gyfer y pum mlynedd ysgol ddilynol;

(c)y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o'i gymharu â'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06 a'r pum mlynedd ysgol ddilynol;

(ch)y galw am ddarpariaeth mewn ysgolion crefyddol a gynhelir gan yr awdurdod o'i gymharu â'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06 a'r pum mlynedd ysgol ddilynol ;

(d)O ran y flwyddyn ysgol 2005-06—

(i)y nifer o leoedd meithrin mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;

(ii)y nifer o leoedd o'r fath a ariennir gan yr awdurdod mewn sefydliadau nas cynhelir; a

(iii)y nifer o leoedd yn y mannau canlynol, gan roi'r ffigurau ar wahân o ran yr wybodaeth a bennir yn is-baragraffau (i) a (ii)—

  • ysgolion neu sefydliadau cyfrwng Cymraeg, a

  • ysgolion neu sefydliadau cyfrwng Saesneg,

ac, ym mhob achos, y nifer arfaethedig o leoedd ar gyfer y blynyddoedd ysgol 2006-07 a 2007-08; ac

(dd)O ran y flwyddyn ysgol 2005-06 cyfanswm y lleoedd hynny yn y sefydliadau canlynol—

(i)ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod, a

(ii)dosbarthiadau arbennig sy'n gysylltiedig â chategorïau eraill o ysgolion a gynhelir felly,

gyda dadansoddiad yn ôl y math o angen addysgol arbennig y darperir ar ei gyfer ym mhob un o'r ddau fath hwnnw o sefydliad, ac (ar gyfer pob sefydliad o'r fath ac ar wahân ar gyfer pob math o angen addysgol arbennig y darperir ar ei gyfer ym mhob sefydliad o'r fath) dadansoddiad pellach yn ôl y canlynol—

(i)a yw'r ddarpariaeth yn ddarpariaeth ddydd yn unig,

(ii)a oes darpariaeth fyrddio o dymor i dymor ar gael,

(iii)a oes darpariaeth fyrddio am 52 wythnos ar gael, neu

(iv)a yw'r ddarpariaeth yn ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ynteu cyfrwng Saesneg.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 29 o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996), yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Addysg Lleol (yr awdurdod) ddarparu gwybodaeth ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol).

Mae adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (Deddf 2004) yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol, drwy Reoliadau, i awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru, o bryd i'w gilydd, baratoi a chyhoeddi cynllun yn nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc berthnasol.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 29(3), (5) a 569 o Ddeddf 1996 a 26 o Ddeddf 2004, ac maent yn dirymu ac yn disodli'r Rheoliadau canlynol:—

  • Rheoliadau Awdurdod Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998;

  • Rheoliadau Awdurdod Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001;

  • Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002;

  • Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003;

  • Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003, rheoliadau 5 i 7 a'r Atodlen;

  • Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Diwygio) (Cymru) 2005.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y materion canlynol:—

  • Y gofyniad am i awdurdod baratoi a chyhoeddi Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 3);

  • Cynnwys Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 4 ac Atodlenni 2 a 3);

  • Cyfnod Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 5);

  • Y personau a'r cyrff y mae'n ofynnol i awdurdod ymgynghori â hwy pan fo'n paratoi Cynllun Addysg Sengl, ac ym mha ddull y mae'n ofynnol iddynt gyflawni'r ymgynghoriad hwnnw (rheoliad 6);

  • Y dyddiad y mae'n ofynnol i awdurdod fabwysiadu Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 7);

  • Y dyddiad y mae'n ofynnol i awdurdod gyhoeddi Cynllun Addysg Sengl (rheoliad 8);

  • Diwygio Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad (rheoliad 9 a Rhan 3 o Atodlen 2);

  • Diwygio Gwybodaeth Ategol (rheoliad 10 ac Atodlen 3);

  • Ym mha ddull y mae'n ofynnol i'r awdurdod gyhoeddi dogfennau (rheoliad 11);

  • Y personau y mae'n ofynnol i awdurdod ddarparu copïau o Gynllun Addysg Sengl ar eu cyfer (rheoliad 12);

  • Y darpariaethau trosiannol sy'n ymwneud ag adran 44 o Ddeddf Addysg 2005 yn dod i rym (rheoliad 13).

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd is-adran (3) o adran 29 gan adran 140(1) a (3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), ac Atodlenni 30 a 31 iddi. Am y diffiniad o “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1) o Ddeddf 1998.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672).

(3)

2004 p.31. Cafodd adran 26 ei chychwyn ar 1 Ebrill 2006 gan O.S. 2006/885 (Cy.85)(C.23).

(4)

Gweler adran 65(1) o Ddeddf 2004 ar gyfer ystyr awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru, sy'n golygu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(5)

Trosglwyddwyd swyddogaeth dynodi o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).

(10)

1975 p.65.

(11)

1976 p.74.

(12)

1995 p.50.

(13)

1998 p.42.

(14)

Mewnosodwyd paragraff 15 gan adran 48 o Dddeddf Addysg 1997 (p.44), ac fe'i ddiwygiwyd gan adran 140 o Ddeddf 1998, ac Atodlen 30 iddi, a chan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol ac Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002, O.S. 2002/808 (Cy.89).

(15)

1977 p.49. Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).

(16)

1990 p.19.

(17)

Mae partneriaeth o dan yr enw hwnnw yn cynnwys unrhyw bartneriaeth a sefydlwyd er hyrwyddo amcanion adran 123(2) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).

(18)

Diwygiwyd adran 119 gan adran 150 o Ddeddf 2002.

(19)

Diwygiwyd adran 390 gan adran 140(1) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 30 iddi.

(20)

1998 p.37. Mae adran 39 wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43), a Deddf Plant 2004.

(21)

Sefydlwyd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol at ddibenion adrannau 5 a 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn1998.

(22)

Mae Partneriaeth o dan yr enw hwnnw yn cynnwys unrhyw Bartneriaeth Plant a sefydlwyd i hybu amcanion adrannau 25 a 26 o Ddeddf Plant 2004.

(23)

2005 p.18.

(24)

1996 p.57.

(25)

Mewnosodwyd adran 16A(4) gan adran 54 o Ddeddf 2002.

(26)

1998 p.38.

(27)

Diwygiwyd adran 324 gan adran 9 o Ddeddf Anghenion Arbennig ac Anabledd 2001 p.10, adran 140 ac Atodlen 30 i Ddeddf 1998, ac adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 21 iddi.

(28)

O ran trosglwyddo swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol, gweler Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 O.S. 2005/3239 (Cy.244). Yr awdurdodau rheoleiddio cyfatebol yw Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir y cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir gweld y Fframwaith ar www.qca.org.uk.

(29)

Mae Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1943) yn pennu 30 yn derfyn maint dosbarthiadau babanod fel arfer.

(30)

Gweler Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/893, (Cy.113) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 O.S. 2005/1813, (Cy. 143).

(31)

1995 p.50.

(32)

O.S. 1999/1812, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1736 (Cy. 179).

(33)

Mae cymhwyster a gymeradwywyd yn gymhwyster a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, at ddibenion adran 96 o'r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources