Search Legislation

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 4 Hydref 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) yn golygu y dylai mapiau sŵn strategol a wneir neu a ddiwygir o dan y Rheoliadau hyn fod yn gyfyngedig i Gymru.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sŵn amgylcheddol sydd o fewn clyw pobl, a hynny'n benodol mewn ardaloedd adeiledig, mewn parciau cyhoeddus neu mewn ardaloedd tawel eraill mewn crynodref, yn agos i ysgolion, ysbytai ac adeiladau ac ardaloedd eraill sy'n sensitif o ran sŵn.

(5Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sŵn a achosir gan y person ei hun sydd o fewn clyw i'r sŵn, sŵn sy'n deillio o weithgareddau domestig, sŵn a gaiff ei greu gan gymdogion, sŵn mewn gweithleoedd, sŵn y tu mewn i gyfrwng cludo neu sŵn a achosir gan weithgareddau milwrol mewn ardaloedd milwrol.

Dehongli

2.—(1Oni bai eu bod yn cael eu diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i eiriau a thermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb yr ystyr sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ar ffurf rheoliadau” (“in the form of regulations”) yw ar ffurf rheoliadau a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

ystyr “ardal dawel mewn crynodref” (“quiet area in an agglomeration”) yw ardal y nodir ei bod yn ardal dawel mewn crynodref yn unol â rheoliad 13;

ystyr “blwyddyn galendr” (“calendar year”) yw cyfnod o flwyddyn yn dechrau ar 1 Ionawr;

“cefnffordd” (“trunk road”) yw unrhyw briffordd os y Cynulliad yw'r awdurdod priffyrdd perthnasol drosti;

ystyr “crynodref” (“agglomeration”) yw ardal y nodir ei bod yn grynodref yn unol â rheoliad 3;

ystyr “crynodref cylch cyntaf” (“first round agglomeration”) yw ardal y nodir ei bod yn grynodref cylch cyntaf yn unol â rheoliad 3;

ystyr “Cyfarwyddeb” (“Directive”) yw Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy'n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol(1);

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae i “dangosydd sŵn atodol” (“supplementary noise indicator”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(6);

ystyr “dB(A)” (“dB(A)”) yw mesur o lefel pwysedd sŵn (a'r lefel wedi'i phwysoli yn unol ag “A”) mewn desibelau fel a bennir yn y Safon Brydeinig BS EN 61672-2: 2003(2);

ystyr “DEFRA” yw Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;

mae i “ffordd arbennig” yr ystyr sydd i “special road” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980;

ystyr “gweithredydd maes awyr” (“airport operator”) yw'r person sydd, ar y pryd, mewn cysylltiad â maes awyr penodol, yn rheoli'r maes awyr hwnnw;

ystyr “heb ei ddynodi” (“non-designated”) pan y'i defnyddir mewn perthynas â maes awyr yw nad yw wedi'i ddynodi o dan adran 80 at ddibenion adran 78 o Ddeddf Hedfan Sifil 1982;

mae “Lday” yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 07:00 a 19:00 o'r gloch mewn unrhyw gyfnod o 24 awr;

mae “Levening” yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 19:00 a 23:00 o'r gloch mewn unrhyw gyfnod o 24 awr;

mae “Lnight” yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 23:00 a 07:00 o'r gloch mewn unrhyw gyfnod o 24 awr;

ystyr “prif faes awyr” (“major airport”) yw maes awyr y nodir ei fod yn brif faes awyr yn unol â rheoliad 3;

ystyr “prif ffordd” (“major road”) yw ffordd y nodir ei bod yn brif ffordd yn unol â rheoliad 3;

ystyr “prif ffordd cylch cyntaf” (“first round major road”) yw ffordd y nodir ei bod yn brif ffordd cylch cyntaf yn unol â rheoliad 3;

ystyr “prif ffordd neu ffordd ddosbarth” (“principal or classified road”) yw ffordd a elwir—

(a)

priff ffordd;

(b)

ffordd ddosbarth; neu

(c)

prif ffordd yn ogystal â ffordd ddosbarth,

yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p'un ai oherwydd ei bod yn dod o fewn is-adran (1), neu oherwydd ei bod yn ffordd ddosbarth o dan is-adran (3));

ystyr “prif reilffordd” (“major railway”) yw rheilffordd y nodir ei bod yn brif reilffordd yn unol â rheoliad 3;

ystyr “prif reilffordd cylch cyntaf” (“first round major railway”) yw rheilffordd y nodir ei bod yn brif reilffordd cylch cyntaf yn unol â rheoliad 3;

ystyr “traffordd” (“motorway”) (ac eithrio fel a ddarperir fel arall gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 17 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(3)) yw ffordd arbennig y gellir ei defnyddio'n unig gan draffig Dosbarth I neu II fel a bennir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980(4); ac

ystyr “wedi'i ddynodi” (“designated”) pan y'i defnyddir mewn perthynas ag unrhyw faes awyr yw ei fod wedi'i ddynodi o dan adran 80 at ddibenion adran 78 o Ddeddf Hedfan Sifil 1982(5).

Nodi ffynonellau sŵn

3.—(1Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2006, yr holl—

(a)crynodrefi cylch cyntaf;

(b)prif ffyrdd cylch cyntaf;

(c)prif reilffyrdd cylch cyntaf; ac

(ch)prif feysydd awyr.

(2Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, yr holl—

(a)crynodrefi;

(b)prif ffyrdd;

(c)prif reilffyrdd; ac

(ch)prif feysydd awyr.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw'r rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir yn unol â'r rheoliad hwn yn briodol mwyach.

(4Mewn unrhyw flwyddyn berthnasol rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau—

(a)crynodrefi;

(b)prif ffyrdd;

(c)prif reilffyrdd; neu

(ch)prif feysydd awyr,

yn ôl yr angen.

(5Ym mharagraff (4) ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw 2016 a phob pumed flwyddyn ar ôl hynny.

(6Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(a) i nodi crynodrefi cylch cyntaf, rhaid i'r Cynulliad nodi ardaloedd—

(a)y mae eu poblogaeth yn fwy na 250,000 o bersonau ac y mae dwysedd eu poblogaeth yn hafal i 500 o bobl fesul km2 neu'n fwy na hynny; a

(b)y mae o'r farn eu bod yn drefoledig.

(7Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(a) neu (4)(a) i nodi crynodrefi, rhaid i'r Cynulliad nodi ardaloedd—

(a)y mae eu poblogaeth yn fwy na 100,000 o bersonau ac y mae dwysedd eu poblogaeth yn hafal i 500 o bobl fesul km2 neu'n fwy na hynny; a

(b)y mae o'r farn eu bod yn drefoledig.

(8Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(b) i nodi prif ffyrdd cylch cyntaf rhaid i'r Cynulliad nodi ffyrdd—

(a)sydd—

(i)yn gefnffyrdd,

(ii)yn draffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd, neu

(iii)yn brif ffyrdd neu'n ffyrdd dosbarth;

(b)y mae arnynt fwy na chwe miliwn o dramwyadau cerbyd y flwyddyn; ac

(c)y mae o'r farn eu bod yn ffyrdd rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol.

(9Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(b) neu (4)(b) i nodi prif ffyrdd rhaid i'r Cynulliad nodi ffyrdd—

(a)sydd—

(i)yn gefnffyrdd,

(ii)yn draffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd, neu

(iii)yn brif ffyrdd neu'n ffyrdd dosbarth;

(b)y mae arnynt fwy na thair miliwn o dramwyadau cerbyd y flwyddyn; ac

(c)y mae o'r farn eu bod yn ffyrdd rhanbarthol, cenedlaethol neu ryngwladol.

(10Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(c) i nodi prif reilffyrdd cylch cyntaf rhaid i'r Cynulliad nodi rheilffyrdd y mae arnynt fwy na 60,000 o dramwyadau trên y flwyddyn.

(11Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(c) neu (4)(c) i nodi prif reilffyrdd rhaid i'r Cynulliad nodi rheilffyrdd y mae arnynt fwy na 30,000 o dramwyadau trên y flwyddyn.

(12Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(ch), (2)(ch) neu (4)(ch) i nodi prif feysydd awyr rhaid i'r Cynulliad nodi meysydd awyr sifil lle y mae mwy na 50,000 o symudiadau y flwyddyn (ac mae symudiad yn golygu awyren yn codi neu'n glanio), heb gynnwys symudiadau at ddiben hyfforddiant yn unig ar awyrennau ysgafn.

RHAN 2MAPIAU Sŵn STRATEGOL

PENNOD 1GOFYNION CYFFREDINOL AR GYFER MAPIAU Sŵn STRATEGOL

Mapiau sŵn strategol: gofynion cyffredinol

4.—(1Rhaid i unrhyw fap sŵn strategol a wnaed neu a ddiwygiwyd o dan y Rhan hon fodloni'r gofynion cymwys yn Atodlen 1.

(2Rhaid i awdurdod cymwys o dan reoliad 6 neu 10 gymhwyso—

(a)y dangosyddion sŵn Lden ac Lnight yn unol ag Atodiad I i'r Gyfarwyddeb; a

(b)y dangosyddion sŵn atodol ym mhob achos a restrir fel enghreifftiau ym mharagraff 3 o Atodiad I i'r Gyfarwyddeb,

pan fydd yn gwneud neu'n diwygio mapiau sŵn strategol o dan y Rhan hon.

(3Rhaid canfod gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol drwy gyfrwng y dulliau asesu a geir yn Atodlen 2.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir trosi dangosyddion sŵn presennol a data perthynol yn Lden ac yn Lnight.

(5Rhaid i'r data y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) beidio â bod yn fwy na thair blwydd oed.

(6ystyr “dangosydd sŵn atodol” (“supplementary noise indicator”) yw dangosydd sŵn fel a ddiffinnir yn Atodlen 3.

PENNOD 2MAPIAU Sŵn STRATEGOL –FFYNONELLAU Sŵn AC EITHRIO MEYSYDD AWYR HEB EU DYNODI

Cymhwyso

5.  Nid yw'r Bennod hon yn gymwys i sŵn o feysydd awyr heb eu dynodi.

Awdurdod Cymwys

6.  Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol

7.—(1Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2007, wneud ac, yn unol â rheoliad 23, fabwysiadu mapiau sŵn strategol yn dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol ar gyfer yr holl—

(a)crynodrefi cylch cyntaf;

(b)prif ffyrdd cylch cyntaf;

(c)prif reilffyrdd cylch cyntaf; ac

(ch)prif feysydd awyr.

(2Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2012, a phob pum mlynedd ar ôl hynny, wneud ac, yn unol â rheoliad 23, fabwysiadu mapiau sŵn strategol yn dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol ar gyfer yr holl—

(a)crynodrefi;

(b)prif ffyrdd;

(c)prif reilffyrdd; ac

(ch)prif feysydd awyr.

(3O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

unrhyw fapiau sŵn strategol a wnaed yn unol â pharagraffau (1) neu (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.

PENNOD 3MAPIAU Sŵn STRATEGOL – MEYSYDD AWYR HEB EU DYNODI

Cymhwyso

8.  Mae'r Bennod hon yn gymwys i sŵn o feysydd awyr heb eu dynodi.

Dehongli

9.—(1Yn y Bennod hon—

ystyr “data mewnbwn” (“input data”) yw'r holl ddata a'r wybodaeth berthynol a ddefnyddir i gynhyrchu'r data Rhif iadol y mae paragraff 3(2)(b) neu 4(2)(b) (fel y bo'n briodol) yn Atodlen 1 yn eu gwneud yn ofynnol a hynny ar ffurf electronig;

ystyr “metadata” (“metadata”) yw'r cyfryw elfennau yn Adran 2 y “SPIRE Data Standard, Version 1.0” (DEFRA, 25 Tachwedd 2004)(6) ag y mae eu hangen i ddisgrifio—

(a)

y data mewnbwn; a

(b)

yr wybodaeth a'r data y mae paragraff 3(2) neu 4(2) (fel y bo'n briodol) yn Atodlen 1 yn eu gwneud yn ofynnol.

(2Mae unrhyw ofyniad yn y Bennod hon am gyflwyno data mewnbwn i awdurdod cymwys yn ofyniad am gyflwyno'r data mewnbwn hynny ar fformat—

(a)sy'n electronig;

(b)sy'n caniatáu ei drin yn electronig; ac

(c)nad yw'n ofynnol ei drin er mwyn atgynhyrchu'r data Rhif iadol ar ffurf electronig y mae paragraff 3(2)(b) neu 4(2)(b) (fel y bo'n briodol) yn Atodlen 1 yn eu gwneud yn ofynnol.

Awdurdod Cymwys

10.  Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw gweithredydd y maes awyr.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol: prif feysydd awyr heb eu dynodi

11.—(1Dim ond i brif feysydd awyr heb eu dynodi y mae'r rheoliad hwn yn gymwys.

(2Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2007, a phob pum mlynedd wedi hynny—

(a)gwneud map sŵn strategol yn dangos beth oedd y sefyllfa o ran y maes awyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; a

(b)cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data mewnbwn a metadata.

(3O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

unrhyw fap sŵn strategol map a wnaed yn unol â pharagraff (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.

(4Rhaid i'r awdurdod cymwys gyflwyno i'r Cynulliad unrhyw fap sŵn strategol a ddiwygiwyd yn unol â pharagraff (3)(b), ynghyd â data mewnbwn a metadata, a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol: crynodrefi

12.—(1Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2007—

(a)gwneud map sŵn strategol yn dangos beth oedd y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol o ran unrhyw grynodrefi cylch cyntaf perthnasol; a

(b)cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data mewnbwn a metadata.

(2Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2012, a phob pum mlynedd wedi hynny—

(a)gwneud map sŵn strategol yn dangos beth oedd y sefyllfa o ran unrhyw grynodref berthnasol yn y flwyddyn galendr flaenorol; a

(b)cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data a metadata.

(3O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

unrhyw fap sŵn strategol a wnaed yn unol â pharagraffau (1) neu (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.

(4Rhaid i'r awdurdod cymwys gyflwyno i'r Cynulliad unrhyw fap sŵn strategol a ddiwygiwyd yn unol â pharagraff (3)(b), ynghyd â data mewnbwn a metadata, a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “crynodref berthnasol” (“relevant agglomeration”) yw crynodref lle y mae traffig awyr o'r maes awyr yn arwain at sŵn traffig awyr—

(a)

y mae ei werth Lden yn 55 dB(A) neu fwy; neu

(b)

y mae ei werth Lnight yn 50 dB(A) neu fwy,

yn unrhyw le o fewn y grynodref;

ystyr “crynodref cylch cyntaf perthnasol” (“relevant first round agglomeration”) yw crynodref cylch cyntaf lle y mae traffig awyr o'r maes awyr yn arwain at sŵn traffig awyr—

(a)

y mae ei werth Lden yn 55 dB(A) neu fwy; neu

(b)

y mae ei werth Lnight yn 50 dB(A) neu fwy,

yn unrhyw le o fewn y grynodref cylch cyntaf.

RHAN 3ARDALOEDD TAWEL

Nodi ardaloedd tawel

13.—(1Heb fod yn hwyrach na—

(a)30 Medi 2007; a

(b)30 Medi 2012,

rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau, ardaloedd tawel mewn crynodrefi.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw'r rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir yn unol â'r rheoliad hwn yn briodol mwyach.

(3Rhaid i'r Cynulliad, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn unrhyw flwyddyn berthnasol, ac os yw o'r farn bod angen hynny, nodi ardaloedd tawel mewn crynodrefi.

(4Ym mharagraff (3) ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw 2017 a phob pumed flwyddyn ar ôl hynny.

RHAN 4CYNLLUNIAU GWEITHREDU

PENNOD 1CYFFREDINOL

Dyletswydd i gyhoeddi meini prawf neu werthoedd terfyn

14.  Rhaid i'r Cynulliad, a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2007 gyhoeddi canllawiau sy'n gosod gwerthoedd terfyn neu feini prawf eraill ar gyfer nodi blaenoriaethau i gynlluniau gweithredu.

Cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol

15.—(1Rhaid i unrhyw gynllun gweithredu a gaiff ei lunio neu ei ddiwygio o dan y Rhan hon—

(a)bodloni amcanion Erthygl 1(c) o'r Gyfarwyddeb;

(b)gael ei gynllunio i drafod materion ac effeithiau sŵn, gan gynnwys lleihau sŵn os bydd angen;

(c)amcanu i ddiogelu ardaloedd tawel mewn crynodrefi rhag cynnydd mewn sŵn;

(ch)ymdrin â blaenoriaethau y mae'n rhaid eu nodi drwy roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir yn unol â rheoliad 14;

(d)bod yn gymwys yn benodol i'r ardaloedd mwyaf pwysig fel y'u cadarnhawyd gan fapiau sŵn strategol a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23; ac

(dd)bodloni'r gofynion yn Atodlen 4.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys i—

(a)unrhyw gynllun gweithredu; a

(b)unrhyw ddiwygiad o gynllun gweithredu,

a gaiff ei lunio o dan y Rhan hon ar gyfer crynodref.

(3Rhaid i gynllun gweithredu ac unrhyw ddiwygiad o gynllun gweithredu gael ei seilio ar yr ardaloedd mwyaf pwysig a sefydlwyd gan y canlynol a bod yn gymwys yn benodol i'r ardaloedd hynny—

(a)pob map sŵn strategol—

(i)a wneir neu a ddiwygir yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 ac a fabwysiedir yn unol â rheoliad 23, a

(ii)yn ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r cynllun gweithredu'n ymdrin â hi; a

(b)map sŵn cyfunol.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “map sŵn cyfunol” (“consolidated noise map”) yw un map sŵn strategol sy'n gyfuniad o bob map sŵn strategol—

(a)a wneir neu a ddiwygir yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 ac a fabwysiedir yn unol â rheoliad 23; a

(b)sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r cynllun gweithredu'n ymdrin â hi.

PENNOD 2CYNLLUNIAU GWEITHREDU – FFYNONELLAU Sŵn AC EITHRIO PRIF FEYSYDD AWYR

Awdurdod Cymwys

16.  Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad.

Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu

17.—(1Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 18 Gorffennaf 2008, lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—

(a)lleoedd yn agos i brif ffyrdd cylch cyntaf;

(b)lleoedd yn agos i brif reilffyrdd cylch cyntaf; ac

(c)crynodrefi cylch cyntaf.

(2Rhaid i'r awdurdod cymwys a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2013 lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—

(a)lleoedd yn agos i brif ffyrdd;

(b)lleoedd yn agos i brif reilffyrdd; ac

(c)crynodrefi.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys—

(a)pa bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran swn; a

(b)pob pum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.

(4Rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

y cynllun gweithredu.

PENNOD 3CYNLLUNIAU GWEITHREDU – PRIF FEYSYDD AWYR

Awdurdod Cymwys

18.  Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw gweithredydd y maes awyr.

Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu

19.—(1Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2008—

(a)llunio cynllun gweithredu ar gyfer lleoedd yn agos i'r brif faes awyr; a

(b)cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.

(2Dim ond os nad oedd hi'n ofynnol i'r awdurdod cymwys lunio cynllun gweithredu ar gyfer y prif faes awyr yn unol â pharagraff (1) oherwydd nad ef oedd yr awdurdod cymwys ar 30 Ebrill 2008 neu cyn hynny y mae paragraff (3) yn gymwys.

(3Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2013—

(a)llunio cynllun gweithredu ar gyfer lleoedd yn agos i'r prif faes awyr; a

(b)cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys—

(a)pa bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn; a

(b)o leiaf bob pum mlynedd ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.

(5Rhaid i'r awdurdod cymwys—

(a)adolygu; a

(b)diwygio, os bydd angen,

y cynllun gweithredu.

(6Rhaid cyflwyno i'r Cynulliad gynllun gweithredu wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (5)(b) a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.

PENNOD 4CYNLLUNIAU GWEITHREDU – CYFRANOGIAD CYHOEDDUS

Cyfranogiad cyhoeddus

20.—(1Rhaid i awdurdodau cymwys, wrth baratoi a diwygio cynlluniau gweithredu o dan reoliadau 16 ac 18 sicrhau—

(a)yr ymgynghorir â'r cyhoedd ynghylch cynigion ar gyfer cynlluniau gweithredu;

(b)y rhoddir i'r cyhoedd gyfleoedd cynnar ac effeithiol i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi ac adolygu'r cynlluniau gweithredu;

(c)y rhoddir sylw i ganlyniadau'r cyfranogiad cyhoeddus hwnnw;

(ch)y rhoddir gwybod i'r cyhoedd am y penderfyniadau a wneir; a

(d)y darperir amserlenni rhesymol yn caniatáu digon o amser ar gyfer pob cam o gyfranogiad y cyhoedd.

PENNOD 5RHOI CYNLLUNIAU GWEITHREDU AR WAITH

Rhoi cynlluniau gweithredu ar waith

21.—(1Os bydd cynllun gweithredu neu ddiwygiad o gynllun gweithredu—

(a)wedi'i fabwysiadu yn unol â rheoliad 24; a

(b)yn nodi bod awdurdod cyhoeddus yn gyfrifol am weithred benodol,

rhaid i'r awdurdod cyhoeddus hwnnw drin y cynllun gweithredu fel pe bai'n bolisi iddo i'r graddau y mae'n ymwneud â'r weithred honno.

(2Caiff awdurdod cyhoeddus wyro oddi wrth unrhyw bolisi a grybwyllir ym mharagraff (1)—

(a)os yw'n darparu ar gyfer—

(i)y Cynulliad, a

(ii)yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am baratoi'r cynllun gweithredu neu'r diwygiad (os nad y Cynulliad sy'n gyfrifol am hynny),

o roi rhesymau ysgrifenedig am wyro oddi wrth y polisi hwnnw; a

(b)os yw'n cyhoeddi'r rhesymau hynny.

(3Yn y rheoliad hwn mae “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, ond nid yw'n cynnwys—

(a)Tŷ'r Cyffredin na Thŷ'r Arglwyddi na pherson sy'n arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â thrafodion yn y Senedd yn Llundain;

(b)llysoedd na thribiwnlysoedd; nac

(c)y Cynulliad.

RHAN 5CYDWEITHIO AG AWDURDODAU CYMWYS ALLANOL

Cydweithio ag awdurdodau cymwys allanol

22.—(1Pan fydd angen hynny er mwyn iddo fodloni ei rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod cymwys wneud pob ymdrech resymol i sicrhau cydweithrediad awdurdod cymwys allanol.

(2Rhaid i awdurdod cymwys—

(a)pan ofynnir iddo wneud hynny gan awdurdod cymwys allanol; a

(b)os oes angen hynny er mwyn iddo fodloni rhwymedigaethau'r awdurdod cymwys hwnnw sy'n deillio o dan y Gyfarwyddeb,

gydweithredu â'r awdurdod cymwys allanol hwnnw.

(3Yn y Rhan hon ystyr “awdurdod cymwys allanol” (“external competent authority”) yw awdurdod cymwys yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, neu yn Lloegr a ddynodwyd at ddibenion Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb.

RHAN 6MABWYSIADU MAPIAU Sŵn STRATEGOL A CHYNLLUNIAU GWEITHREDU

Mabwysiadu mapiau sŵn strategol

23.—(1Os yw'r Cynulliad o'r farn bod map sŵn strategol—

(a)a gyflwynwyd iddo yn unol â rheoliad 11 neu 12;

(b)a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (4); neu

(c)a wnaed neu a ddiwygiwyd ganddo,

yn bodloni gofynion rheoliad (4), rhaid iddo fabwysiadu'r map.

(2Os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw map sŵn strategol a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 11 neu 12 neu baragraff (4) yn bodloni'r gofynion yn rheoliad 4 caiff—

(a)gwneud newidiadau i'r map a'i fabwysiadu; neu

(b)gwrthod y map.

(3Os gwrthodir map sŵn strategol yn unol â pharagraff (2)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—

(a)o'r rheswm pam na fabwysiadwyd y map; a

(b)o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid diwygio'r map a'i ailgyflwyno.

(4Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (3) gyflwyno'r map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(5Mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i fap sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio fel y maent yn gymwys i fap sŵn strategol a gyflwynir yn unol â rheoliad 11 neu 12.

(6Os yw'r Cynulliad yn gwneud newidiadau i—

(a)map sŵn strategol; neu

(b)map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio,

rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y map yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 4.

Mabwysiadu cynlluniau gweithredu

24.—(1Os yw'r Cynulliad o'r farn bod cynllun gweithredu—

(a)a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6);

(b)a gyflwynir iddo yn unol â pharagraff (5); neu

(c)a lunnir neu a ddiwygir ganddo,

yn bodloni gofynion rheoliad 15, caiff fabwysiadu'r cynllun gweithredu.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys—

(a)os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw cynllun gweithredu a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6) yn bodloni gofynion rheoliad 15; neu

(b)os na fabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (1).

(3Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys rhaid i'r Cynulliad—

(a)wneud newidiadau i'r cynllun a'i fabwysiadu; neu

(b)gwrthod y cynllun.

(4Os gwrthodir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (3)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—

(a)o'r rheswm pam na chafodd y cynllun ei fabwysiadu; a

(b)o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid diwygio ac ailgyflwyno'r cynllun.

(5Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (4) gyflwyno'r cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(6Mae paragraffau (1) i (5) yn gymwys i gynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio fel y maent yn gymwys i gynllun gweithredu a gyflwynir yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6).

(7Os yw'r Cynulliad yn gwneud newidiadau i—

(a)cynllun gweithredu; neu

(b)cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio,

rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y cynllun gweithredu'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.

RHAN 7PWERAU'R CYNULLIAD MEWN PERTHYNAS Å SWYDDOGAETHAU AWDURDODAU CYMWYS ERAILL

Cymhwyso

25.  Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn os y Cynulliad yw'r awdurdod cymwys ar eu cyfer.

Pwerau

26.—(1Caiff y Cynulliad ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cymwys ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(2O ran cais am wybodaeth yn unol â pharagraff (1)—

(a)rhaid iddo gael ei wneud yn ysgrifenedig;

(b)caiff bennu ar ba fformat y mae'n rhaid darparu gwybodaeth; ac

(c)caiff bennu o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid i ymateb ddod i law.

(3Os bydd cais yn dod i law awdurdod yn unol â pharagraff (1) rhaid iddo ymateb—

(a)o fewn y cyfnod o amser a bennir yn unol â pharagraff (2)(c); neu

(b)os na phennir y cyfryw gyfnod, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg i dderbyn y cais.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys—

(a)pan fydd y Cynulliad wedi ymgynghori â'r awdurdod cymwys; a

(b)pan fydd o'r farn oherwydd unrhyw weithred neu ddiffyg gweithredu, neu unrhyw weithred debygol neu ddiffyg gweithredu tebygol gan yr awdurdod cymwys fod—

(i)un o ofynion y Rheoliadau hyn; neu

(ii)gofyniad a osodwyd ar y Deyrnas Unedig gan y Gyfarwyddeb,

yn annhebygol o gael ei fodloni.

(5Caiff y Cynulliad arfer y cyfryw swyddogaethau hynny o blith swyddogaethau'r awdurdod cymwys ag y mae o'r farn eu bod yn briodol.

Adennill treuliau

27.—(1Os bydd y Cynulliad yn tynnu treuliau yn unol â—

(a)rheoliad 23(2);

(b)rheoliad 24(3); neu

(c)rheoliad 26(5),

caiff adennill y treuliau hynny oddi wrth yr awdurdod cymwys perthnasol ar ffurf dyled sifil.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod cymwys perthnasol” (“relevant competent authority”)—

(a)mewn perthynas â rheoliad 23(2), yw'r awdurdod cymwys a gyflwynodd y map swn strategol yn unol â rheoliad 11 neu 12;

(b)mewn perthynas â rheoliad 24(3), yw'r awdurdod cymwys a gyflwynodd y cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 19; ac

(c)mewn perthynas â rheoliad 26(5), yw'r awdurdod cymwys y mae'r Cynulliad yn arfer ei swyddogaethau yn unol â'r rheoliad hwnnw.

RHAN 8GWYBODAETH I'R CYHOEDD

Awdurdod Cymwys

28.  Yr awdurdod cymwys o ran y Rhan hon yw'r Cynulliad.

Argaeledd mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu

29.—(1Rhaid i unrhyw—

(a)map sŵn strategol y sicrheir ei fod ar gael i'r cyhoedd cyn iddo gael ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 23; neu

(b)cynllun gweithredu y sicrheir ei fod ar gael i'r cyhoedd cyn iddo gael ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 24,

gynnwys, a hynny mewn lle amlwg, eiriau yn nodi mai drafft ydyw hyd oni chaiff ei fabwysiadu gan y Cynulliad.

(2Rhaid i unrhyw—

(a)map sŵn strategol a gaiff ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 23; neu

(b)cynllun gweithredu a gaiff ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 24,

gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod cymwys yn unol â gofynion paragraff (3).

(3O ran map sŵn strategol neu gynllun gweithredu a gyhoeddir yn unol â pharagraff (2)—

(a)rhaid bod crynodeb yn mynd gydag ef sy'n nodi'r pwyntiau pwysicaf;

(b)rhaid ei arddangos ar wefan y Cynulliad;

(c)rhaid iddo fod ar gael i'w archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol ym mhrif swyddfa'r Cynulliad; ac

(ch)rhaid ei gyflenwi am ffi resymol pan ofynnir amdano.

RHAN 9CANLLAWIAU

30.  Rhaid i awdurdod cymwys, wrth arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad o dan y rheoliad hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Hydref 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources