Search Legislation

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

rheoliadau 4 a 9

ATODLEN 1Y LLEIAF O'R GOFYNION AR GYFER MAPIO Sŵn STRATEGOL

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “grid” (“grid”) yw grid o bwyntiau fector—

(a)

a chanddynt fylchau 10 metr wrth 10 metr rhyngddynt,

(b)

a chanddynt gyfeiriad gofodol i system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans, a hynny fel pâr o gyfanrifau i ddangos mewn metrau Ddwyreiniau ac yna Ogleddiadau o'r tarddiad, ac

(c)

sydd wedi'u halinio â fertigau 10 metr system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans a hynny fel bod y cyfeiriadau'n diweddu â'r Rhif sero;

ystyr “y gellir eu golygu” (“editable”) yw eu bod ar fformat sy'n caniatáu cynhyrchu'n electronig (heb fod angen trin y fformat)—

(a)

data Rhif iadol mewn tablau, a

(b)

plotiau graffigol,

er mwyn arddangos yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.5, 1.6, 1.7, 2.5, 2.6 a 2.7 o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb.

Gofynion cyffredinol ar gyfer mapiau sŵn strategol

2.—(1Rhaid i fapiau sŵn strategol a'u diwygiadau—

(a)bodloni'r lleiaf o'r gofynion a osodir yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb; a

(b)bod yn glir ac yn ddealladwy.

(2Wrth gymhwyso paragraff 1(a) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb at—

(a)Erthygl 8 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliadau 15, 17 ac 19 o'r Rheoliadau hyn;

(b)Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 29 o'r Rheoliadau hyn.

Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i grynodrefi

3.—(1Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)map sŵn strategol a wnaed o dan reoliad 7(1)(a), 7(2)(a), 12(1) neu 12(2); neu

(b)diwygiad o'r cyfryw fap sŵn strategol.

(2Rhaid i fapiau sŵn strategol—

(a)cynnwys (ar fformat electronig) yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.1 i 1.4 yn gynhwysol o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb; a

(b)cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys y gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.

Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i brif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr

4.—(1Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)unrhyw fap sŵn strategol a wnaed o dan—

(i)rheoliad 7(1)(b) i (ch),

(ii)rheoliad 7(2)(b) i (ch),

(iii)rheoliad 11(2); neu

(b)unrhyw ddiwygiad o'r cyfryw fap.

(2Rhaid i fapiau sŵn strategol—

(a)cynnwys yr wybodaeth (ar fformat electronig) a ddisgrifir ym mharagraffau 2.1 i 2.4 yn gynhwysol o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb; a

(b)cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.

rheoliad 4

ATODLEN 2DULLIAU ASESU AR GYFER DANGOSYDDION Sŵn

Rhagarweiniad

1.—(1Rhaid canfod gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol drwy gyfrifiannu (yn y safle asesu).

(2Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Argymhelliad” (“Recommendation”) yw Argymhelliad y Comisiwn 2003/613/EC dyddiedig 6 Awst 2003 ynghylch y canllawiau ar ddulliau cyfrifiannu interim diwygiedig ar gyfer sŵn diwydiannol, sŵn awyrennau, sŵn traffig ffyrdd a sŵn rheilffyrdd, a data gollyngiadau perthynol(1);

ystyr “safle asesu” (“assessment position”) yw'r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb.

Dull asesu ar gyfer dangosyddion sŵn traffig ffyrdd

2.  Ar gyfer dangosyddion traffig ffyrdd rhaid defnyddio'r dull asesu “Calculation of road traffic noise” (Yr Adran Drafnidiaeth, 7 Mehefin 1988, Y Llyfrfa)(2) wedi'i addasu gan ddefnyddio'r adroddiad “Method for converting the UK road traffic noise index LA10,18h to the EU noise indeces for road noise mapping” (DEFRA, 24 Ionawr 2006)(3).

Dull asesu ar gyfer dangosyddion swn rheilffyrdd

3.  Ar gyfer dangosyddion sŵn rheilffyrdd rhaid defnyddio'r dull asesu “Calculation of railway noise” (Yr Adran Drafnidiaeth, 13 Gorffennaf 1995, Y Llyfrfa)(4) wedi'i addasu fel a welir yn Ffigur 6.5 yn yr adroddiad “Rail and wheel roughness – implications for noise mapping based on the Calculation of Railway Noise procedure” (DEFRA, Mawrth 2004)(5).

Dulliau asesu ar gyfer dangosyddion sŵn awyrennau

4.  Ar gyfer sŵn awyrennau rhaid defnyddio'r dull asesu “Report on Standard Method of Computing Noise Contours around Civil Airports” (Ailargraffiad, Y Gynhadledd Ewropeaidd ar Hedfan Sifil, 2-3 Gorffennaf 1997)(6) a hynny'n unol â pharagraff 2.4 o'r Atodiad i'r Argymhelliad.

Dulliau asesu ar gyfer dangosyddion sŵn diwydiannol a dangosyddion sŵn porthladdoedd

5.—(1Ar gyfer dangosyddion sŵn diwydiannol a dangosyddion sŵn porthladdoedd rhaid defnyddio'r dull lledaenu o asesu a ddisgrifir yn “ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation” (International Standards Organisation, 1996) a hynny'n unol â pharagraff 2.5 o'r Atodiad i'r Argymhelliad.

(2Gellir cael data gollyngiadau sŵn addas (data mewnbwn) ar gyfer “ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation” naill ai o fesuriadau a wneir yn unol ag un o'r dulliau canlynol:

(a)“Acoustics. Determination of sound power levels of multisource industrial plants for evaluation of sound pressure levels in the environment. Engineering method” (BS ISO 8297:1994, Y Sefydliad Safonau Prydeinig);

(b)“Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Engineering method in an essentially free field over a reflecting plane” (BS EN ISO 3744: 1995, Y Sefydliad Safonau Prydeinig);

(c)“Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Survey method using an enveloping measurement surface over a reflecting plane” (BS EN ISO 3746:1996, Y Sefydliad Safonau Prydeinig),

neu drwy ddefnyddio Arweinlyfr 10 o “Good Practice Guide for Strategic Noise Mapping and the Production of Associated Data on Noise Exposure Version 2, Position Paper Final Draft” (Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw i Sŵn, 13 Ionawr 2006).

rheoliad 4

ATODLEN 3DANGOSYDDION Sŵn ATODOL

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • “LA10, 18h” yw'r lefel sŵn cymedr Rhif yddol mewn dB(A) yr aed y tu hwnt iddi am 10% o bob awr dros y cyfnod 06:00 – 24:00 o'r gloch;

  • “LAeq, 16h” yw'r lefel sŵn parhaus cyfatebol mewn dB(A) sydd, dros y cyfnod 07:00 – 23:00 o'r gloch, yn cynnwys yr un ynni sŵn â'r gwir sŵn amrywiol a oedd i'w glywed yn y cyfnod hwnnw;

  • “LAeq, 18h” yw'r lefel sŵn parhaus cyfatebol mewn dB(A) sydd, dros y cyfnod 06:00 – 24:00 o'r gloch, yn cynnwys yr un egni sŵn â'r gwir sŵn amrywiol a oedd i'w glywed yn y cyfnod hwnnw;

  • “LAeq, 6h” yw'r lefel sŵn parhaus cyfatebol mewn dB(A) sydd, dros y cyfnod 24:00 – 06:00 o'r gloch, yn cynnwys yr un egni sŵn â'r gwir sŵn amrywiol a oedd i'w glywed yn y cyfnod hwnnw.

Swn Traffig Ffyrdd

2.  Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn traffig ffyrdd yw

(a)LA10,18h;

(b)LAeq, 16h;

(c)Lday; ac

(ch)Levening.

Sŵn Rheilffyrdd

3.  Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn rheilffyrdd yw—

(a)LAeq, 16h;

(b)LAeq, 18h;

(c)LAeq,6h;

(ch)Lday; a

(d)Levening.

Sŵn Awyrennau

4.  Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn awyrennau yw—

(a)LAeq, 16h;

(b)Lday; ac

(c)Levening.

Sŵn Diwydiannol a Sŵn Porthladdoedd

5.  Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn diwydiannol a sŵn porthladdoedd yw—

(a)LAeq, 16h;

(b)Lday; a

(c)Levening.

rheoliad 15

ATODLEN 4Y LLEIAF O OFYNION Y CYNLLUNIAU GWEITHREDU

Cyffredinol

1.—(1Rhaid i gynllun gweithredu—

(a)bodloni'r lleiaf o'r gofynion yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb; a

(b)cynnwys crynodeb, heb fod yn fwy nad deg tudalen o hyd, yn cwmpasu pob un o'r agweddau pwysig y cyfeirir atynt yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb.

(2Wrth gymhwyso paragraff (1) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb at—

(a)Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn;

(b)Erthygl 8(7) o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn.

(1)

O.J. Rhif L212, 22.8.2003, t. 49.

(2)

ISBN 0115508473.

(3)

Paratowyd gan TRL Limited a Casella Stanger, Cyfeirnod y Ddogfen st/05/91/AGG04442.

(4)

ISBN 0115517545.

(5)

Paratowyd gan AEA Technology plc, Cyfeirnod y Ddogfen: AEATR-PC&E-2003-002.

(6)

Mabwysiadwyd gan Unfed Cyfarfod Llawn ar Hugain ECAC, Cyfeirnod y Ddogfen: ECAC.CEAC Doc. 29.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources