Search Legislation

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Gwybodaeth i Denantiaid Diogel) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2681 (Cy.187)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Gwybodaeth i Denantiaid Diogel) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

27 Medi 2005

Yn dod i rym

28 Medi 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 121AA a 121B o Ddeddf Tai 1985(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Gwybodaeth i Denantiaid Diogel) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 28 Medi 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1985;

ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw'r ddogfen a baratowyd gan landlord yn unol ag adran 121AA o'r Ddeddf;

ystyr “landlord” (“landlord”) yw corff sy'n gosod tai annedd o dan denantiaethau diogel.

Materion y mae'n rhaid rhoi gwybodaeth amdanynt i denantiaid diogel

3.  Mae'r materion a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn faterion a bennir at ddibenion adran 121AA o'r Ddeddf.

Pryd y mae'n rhaid cyhoeddi'r ddogfen

4.—(1Rhaid i landlord gyhoeddi'r ddogfen o fewn dau fis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(2Os bydd landlord yn diwygio'r ddogfen o dan adran 121AA(4) o'r Ddeddf rhaid iddo gyhoeddi'r ddogfen yn ei ffurf ddiwygiedig o fewn mis o'r diwygio.

Pryd y mae'n rhaid rhoi copi o'r ddogfen

5.—(1Ar ôl cyhoeddi'r ddogfen yn unol ag erthygl 4(1) neu (2) rhaid i landlord roi copi o'r ddogfen—

(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i bob un o'i denantiaid diogel ar yr adeg honno; a

(b)i bob tenant diogel newydd wedyn, ar yr adeg y llofnodir y denantiaeth.

(2Rhaid i landlord roi i bob un o'i denantiaid diogel gopi o fersiwn gyfredol y ddogfen o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan roddwyd y ddogfen yn unol ag erthygl 5(1)(a).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Medi 2005

Erthygl 3

YR ATODLENMaterion y mae'n rhaid rhoi gwybodaeth amdanynt i denantiaid diogel

1.  Amlinelliad o effaith darpariaethau Rhan 5 o'r Ddeddf o ran—

(a)yr amgylchiadau pan ellir a phan na ellir arfer yr hawl i brynu;

(b)yr eithriadau i'r hawl i brynu a nodir yn Atodlen 5 i'r Ddeddf;

(c)y weithdrefn ar gyfer hawlio'r arfer hawl i brynu;

(ch)y dull o gyfrifo'r pris sy'n daladwy am y tŷ annedd gan denant sy'n arfer yr hawl i brynu; a

(d)y gweithdrefnau hysbysu oedi ar gyfer landlordiaid a thenantiaid a nodir yn adran 153A a 153B a hysbysiadau cwblhau'r landlord o dan adran 140 a 141 o'r Ddeddf.

2.—(1Y ffaith ei bod yn debygol y tynnir costau cychwynnol gan denant diogel sy'n arfer ei hawl i brynu.

(2Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at gostau cychwynnol yn cynnwys costau o ran—

(a)y doll stampiau;

(b)ffioedd cyfreithiol ac arolygu;

(c)ffioedd prisio a chostau sy'n gysylltiedig â chymryd morgais.

3.—(1Y ffaith ei bod yn debygol y bydd tenant diogel yn gorfod gwneud taliadau rheolaidd fel perchennog tŷ annedd.

(2Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at daliadau rheolaidd yn cynnwys taliadau o ran—

(a)unrhyw forgais neu arwystl ar y tŷ annedd;

(b)yswiriant adeiladau, yswiriant bywyd, ac yswiriant diogelu taliadau morgais;

(c)y dreth gyngor;

(ch)gwasanaethau dŵr, carthffosiaeth, nwy, trydan, neu gyfleustodau eraill.

4.  Risg adfeddiannu'r tŷ annedd os na wneir y taliadau morgais yn rheolaidd.

5.  Er mwyn cynnal yr eiddo mewn cyflwr da, y ffaith ei bod yn debygol y bydd yn rhaid i berchennog tŷ annedd dynnu gwariant a allai gynnwys talu taliadau gwasanaeth (blynyddol yn ogystal ag o ran gwaith mawr) lle bo'n briodol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (“y Ddeddf”) yn rhoi i denantiaid diogel landlordiaid penodol hawl i brynu eu cartrefi, yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig. Mae adran 189 o Ddeddf Tai 2004 yn mewnosod adrannau 121AA a 121B newydd yn Rhan 5 o'r Ddeddf, gan ddisodli'r ddyletswydd yn adran 104(1)(b) o'r Ddeddf sy'n ymwneud â landlordiaid yn darparu gwybodaeth mewn cysylltiad â'r hawl i brynu. O dan yr adrannau newydd hyn rhaid i landlord tenantiaid diogel yn awr roi i'r tenantiaid hynny ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth ar y materion (ac yn gyfyngedig i'r materion hynny) a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn gorchymyn. Caiff landlordiaid ddarparu gwybodaeth yn y ffurf y maent yn ystyried ei bod yn briodol, cyhyd â'i bod yn cwmpasu'r materion penodedig. Rhaid bod y ddogfen ar gael ym mhrif swyddfeydd y landlord ac mewn lleoedd eraill y mae'n ystyried sydd yn briodol, a rhaid rhoi copi o fersiwn gyfredol y ddogfen yn ddi-dâl i unrhyw berson sy'n gofyn amdani.

Mae erthygl 3 yn darparu bod y materion a nodir yn yr Atodlen yn cael eu pennu fel y rhai y mae'n rhaid darparu gwybodaeth amdanynt. Mae erthygl 4 yn pennu pryd y mae'n rhaid cyhoeddi'r ddogfen. Mae erthygl 5 yn rhoi manylion pryd y mae'n rhaid rhoi'r ddogfen i denantiaid diogel. Mae'n rhaid anfon y ddogfen at y tenantiaid cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei chyhoeddi gyntaf, pryd bynnag y diwygir hi, a beth bynnag o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Rhaid rhoi copi o'r ddogfen i bob tenant newydd ar yr adeg y llofnodir y denantiaeth.

Mae adrannau 121AA a 121B o'r Ddeddf yn cyfeirio'n unig at denantiaid diogel sy'n arfer yr hawl i brynu neu'r hawl i gaffael ar delerau rhentu i forgeisio. Ni phennir yr wybodaeth ar yr hawl i gaffael ar delerau rhentu i forgeisio oherwydd bod adran 190 o Ddeddf Tai 2004 yn darparu nad yw'n bosibl ar ôl 18 Gorffennaf 2005 i arfer yr hawl honno. Bydd ceisiadau a wnaed cyn y dyddiad hwnnw yn parhau i fod yn ddilys.

Drwy adran 171C(1) o'r Ddeddf ac adran 17(2) o Ddeddf Tai 1996, mae Rhan 5 o'r Ddeddf yn gymwys hefyd i'r tenantiaid hynny sydd â'r hawl i brynu a ddiogelwyd neu'r hawl i gaffael. Yn unol â hynny, mae adrannau 121AA a 121B, a'r Gorchymyn hwn hefyd yn gymwys i'r tenantiaid hynny.

(1)

1985 p.68. Mewnosodwyd adrannau 121AA a 121B gan adran 189 o Ddeddf Tai 2004 (p.34). Drwy adran 270(3) o'r Ddeddf honno daeth adran 189 i rym ar 18 Ionawr 2005. Drwy adran 267 o Ddeddf Tai 2004 mae cyfeiriadau at Ddeddf Tai 1985 i'w trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd yn rhinwedd Deddf Tai 2004.

(2)

Gweler O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 121AA, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources