- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Gwybodaeth i Denantiaid Diogel) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 28 Medi 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1985;
ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw'r ddogfen a baratowyd gan landlord yn unol ag adran 121AA o'r Ddeddf;
ystyr “landlord” (“landlord”) yw corff sy'n gosod tai annedd o dan denantiaethau diogel.
3. Mae'r materion a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn faterion a bennir at ddibenion adran 121AA o'r Ddeddf.
4.—(1) Rhaid i landlord gyhoeddi'r ddogfen o fewn dau fis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(2) Os bydd landlord yn diwygio'r ddogfen o dan adran 121AA(4) o'r Ddeddf rhaid iddo gyhoeddi'r ddogfen yn ei ffurf ddiwygiedig o fewn mis o'r diwygio.
5.—(1) Ar ôl cyhoeddi'r ddogfen yn unol ag erthygl 4(1) neu (2) rhaid i landlord roi copi o'r ddogfen—
(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i bob un o'i denantiaid diogel ar yr adeg honno; a
(b)i bob tenant diogel newydd wedyn, ar yr adeg y llofnodir y denantiaeth.
(2) Rhaid i landlord roi i bob un o'i denantiaid diogel gopi o fersiwn gyfredol y ddogfen o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan roddwyd y ddogfen yn unol ag erthygl 5(1)(a).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Medi 2005
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: