- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3(1)
1. Nodau ac amcanion yr asiantaeth.
2. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a'r rheolwr cofrestredig.
3. Unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r personau cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.
4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr cofrestredig.
5. Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
6. Strwythur trefniadaethol yr asiantaeth.
7. Disgrifiad o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan yr asiantaeth.
8. Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr asiantaeth yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaethau hynny o safon briodol.
9. Crynodeb o'r weithdrefn gwynion.
10. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.
Rheoliadau 5(3)(c), 7(2)(c), 22(2)(ch)
1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Naill ai —
(a)os bydd tystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000)(1), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997(2), tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na 3 blynedd mewn cysylltiad â hi wedi mynd heibio ers iddi gael ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na 3 blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi ers iddi gael ei dyroddi,
gan gynnwys, i'r graddau a ganiatawyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 y materion a bennwyd yn adrannau 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(3).
3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.
4. Pan fo person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5. Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymhwyster perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
Rheoliad 25(1)
Cofnod sy'n dangos ar gyfer pob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth —
1. Enw llawn.
2. Rhyw.
3. Dyddiad geni.
4. Cyfeiriad cartref.
5. Cymwysterau sy'n berthnasol i weithio gyda phersonau sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu a phrofiad o weithio gyda phersonau o'r fath ac (o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant) cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant, a phrofiad o waith o'r fath.
6. Y dyddiadau pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben.
7. A yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd cofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r darparydd cofrestredig.
8. Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos gan y darparydd cofrestredig neu'n cael ei gontractio bob wythnos i weithio i'r darparydd hwnnw.
9. Yr hyfforddiant y mae'r person wedi ymgymryd ag ef, y gwaith o'i oruchwylio a'i werthuso, y camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn, y cwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn â'r person a chanlyniad y cwynion hynny ac unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'i gyflogaeth at ddibenion yr asiantaeth.
Rheoliad 27(1)
Colofn 1 | Colofn 2 | ||
---|---|---|---|
Y digwyddiad | I'w hysbysu i: | ||
Yr awdurdod cofrestru | Y Bwrdd Iechyd Lleol /Yr Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol | Yr awdurdod perthnasol | |
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i'r asiantaeth at yr Ysgrifenydd Gwladol neu'r Cynulliad yn unol ag adran (1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 | Ie | ||
Marwolaeth oedolyn neu blentyn neu anaf difrifol i oedolyn neu blentyn wrth iddo gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth | Ie | Ie | Ie (pan fo'n marwolaeth plentyn neu'n anaf difrifol i blentyn) |
Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.
Mewnosodwyd adrannau 113(3A) a 115(6A) yn Neddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(p.14) a'u diwygio gan adrannau 104, 106 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: