Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 3CEISIADAU AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU

Cymhwysiad y darpariaethau

10.  Dim ond i asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) y mae'r darpariaethau canlynol a gynhwysir yn y Rhan hon yn gymwys.

Dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen os nad yw'n briodol

11.—(1Nid yw'n ofynnol i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) ddechrau darparu gwasanaethau o'r fath, neu ar ôl iddi ddechrau darparu'r gwasanaethau hynny, nid yw'n ofynnol iddi barhau i'w darparu os yw'r asiantaeth o'r farn na fyddai'n briodol iddi wneud hynny.

(2Wrth benderfynu a yw'n briodol iddi ddarparu'r gwasanaethau hynny (neu ddechrau darparu'r gwasanaethau o'r fath), rhaid i'r asiantaeth roi sylw i'r canlynol:

(a)lles y person a fabwysiadwyd sy'n gofyn am y gwasanaeth;

(b)lles y perthynas sy'n gofyn am y gwasanaeth;

(c)unrhyw feto a gofnodwyd o dan reoliad 13;

(ch)unrhyw wybodaeth a ddelir gan y Cofrestrydd Cyffredinol ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu;

a holl amgylchiadau eraill yr achos.

(3Rhaid i asiantaeth beidio â dechrau darparu gwasanaethau i berson a fabwysiadwyd nac i berthynas i'w cynorthwyo i gysylltu â pherson sydd o dan 18 oed, na pharhau i ddarparu gwasanaethau o'r fath—

(a)oni bai bod amgylchiadau eithriadol, a

(b)oni chydymffurfir â darpariaethau paragraff (4).

(4Rhaid i asiantaeth beidio â bwrw ymlaen â darparu gwasanaethau o'r math y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) oni bai—

(a)bod person gyda chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wedi cydsynio, a

(b)bod naill ai

(i)y plentyn, a hwnnw'n blentyn sy'n gymwys i gydsynio, wedi cydsynio, neu

(ii)unrhyw ddymuniadau neu deimladau gan blentyn nad yw'n gymwys wedi'u cymryd i ystyriaeth.

Cydsyniad y gwrthrych â datgeliad etc

12.—(1Rhaid i asiantaeth beidio â datgelu unrhyw wybodaeth adnabod am y gwrthrych i'r person sy'n gofyn am yr wybodaeth honno heb sicrhau cydsyniad y gwrthrych.

(2Rhaid i'r asiantaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y gwrthrych ddigon o wybodaeth i'w alluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio ag unrhyw ddatgeliad o'r fath.

(3Os yw'r gwrthrych wedi marw neu os bydd yr asiantaeth yn penderfynu ei fod yn analluog i gydsynio, caiff yr asiantaeth ddatgelu'r wybodaeth adnabod am y gwrthrych sy'n briodol o ystyried lles y rhai y gallai'r datgeliad effeithio ar eu lles a chaniateir i'r broses hon gynnwys dod o hyd i farn y personau hynny.

(4Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 14, ystyr “gwybodaeth adnabod” yw gwybodaeth a fyddai'n galluogi o'i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall a feddir gan y person sy'n gofyn amdani, i'r gwrthrych gael ei adnabod a'i olrhain.

Feto gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas

13.—(1Mae feto yn gymwys ynglyn â darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2) (d) neu (dd) —

(a)os y person a fabwysiadwyd yw'r gwrthrych; neu

(b)os perthynas i'r person a fabwysiadwyd yw'r gwrthrych; ac

(c)os yw'r person hwnnw wedi hysbysu'r asiantaeth yn ysgrifenedig —

(i)nad yw'n dymuno i'r asiantaeth gysylltu ag ef; neu

(ii)mai dim ond o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig y mae'n dymuno cael cyswllt.

(2Pan fo'r asiantaeth yn cael ei hysbysu o feto o dan baragraff (1), rhaid iddi gadw cofnod ohono.

(3Pan fo asiantaeth yn ymwybodol bod feto yn gymwys, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â'r cais.

Darparu gwybodaeth gefndir pan fo cais am gydsyniad yn cael ei wrthod etc

14.  Pan fo cais am gydsyniad y gwrthrych yn cael ei wrthod neu pan na ellir ei gael o dan reoliad 12 neu pan fo feto yn gymwys o dan reoliad 13, ni fydd dim yn y rheoliadau hynny yn atal yr asiantaeth rhag datgelu unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw'n wybodaeth adnabod ond sy'n wybodaeth y mae'r asiantaeth yn barnu ei bod yn briodol ei datgelu i'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas a wnaeth y cais.

Cwnsela

15.—(1Rhaid i asiantaeth ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynglyn ag argaeledd cwnsela i unrhyw berson sydd—

(a)yn gwneud cais am wasanaethau cymorth mabwysiadu o dan Reoliadau 2(2)(d) neu (dd); neu

(b)yn wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried a ddylai gydsynio â datgelu gwybodaeth amdano i'r person a ofynnodd am yr wybodaeth honno.

(2Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)disgrifiadau o'r personau sy'n cynnig cwnsela; a

(b)y ffioedd y gall y personau hynny eu codi.

(3Os bydd person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn bod cwnsela yn cael ei ddarparu iddo, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu sicrhau bod gwasnaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.

(4Caiff yr asiantaeth ddarparu gwasanaethau cwnsela o'r fath ei hun neu wneud trefniadau naill ai

(a)gyda darparydd cofrestredig arall sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, neu

(b)gyda pherson sy'n darparu gwasanaethau o'r fath o dan gontract i ddarparydd cofrestredig.

(5Pan fo gwrthrych cais yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela y mae ffi yn daladwy amdano, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu roi cymorth a chefnogaeth, serch hynny, i'r gwrthrych sy'n gwneud penderfyniad.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources