- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
19.—(1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —
(a)ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu;
(b)ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 18(3); ac
(c)rhoi sylw i'r ystyriaeth a nodir yn adran 1(2) o'r Ddeddf
wrth benderfynu a ddylid lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
(2) Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, os yw eu cyfeiriad yn hysbys i'r asiantaeth, hysbysu ei phenderfyniad yn ysgrifenedig a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu unrhyw benderfyniad ynglyn â threfniadau cyswllt i—
(a)rhiant neu warcheidwad y plentyn;
(b)unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys unrhyw berson y gall fod gorchymyn cyswllt ganddo o dan adran 8 o Ddeddf 1989 neu orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; ac
(c)os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn; ac
(ch)rhaid i'r asiantaeth esbonio ei phenderfyniad i'r plentyn mewn modd priodol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn.
(4) Oni wnaed cais y gellid gwneud gorchymyn gofal o ran y plentyn, nas penderfynwyd arno, neu os yw'r plentyn yn llai na 6 wythnos oed, rhaid i'r asiantaeth ganfod a yw rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod—
(a)i gydsynio o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr a enwir yn y cydsyniad neu iddo gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydag unrhyw ddarpar fabwysiadwyr y caiff yr asiantaeth eu dewis; a
(b)ar yr un adeg i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsynio ymlaen llaw i fabwysiadu).
(5) Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth esbonio a chadarnhau yn ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn —
(a)y gellir tynnu unrhyw gydsyniad a roddir o dan adran 20 o'r Ddeddf yn ôl ond bydd y tynnu'n ôl hwnnw yn aneffeithiol os gwneir hynny ar ôl i gais am orchymyn mabwysiadu gael ei wneud;
(b)drwy roi hysbysiad i'r asiantaeth caiff, ar yr adeg honno neu rywbryd wedyn, ddatgan nad yw'n dymuno cael ei hysbysu o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu; ac
(c)caniateir tynnu'r cyfryw ddatganiad yn ôl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: