- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11. Mae rheoliadau 11 i 20 yn gymwys pan fydd asiantaeth fabwysiadu yn ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn.
12.—(1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drefnu cofnod achos o ran y plentyn a rhoi ynddo unrhyw wybodaeth a gafwyd ac unrhyw adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a wnaed yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.
(2) Os yw'r plentyn—
(a)yn derbyn gofal; neu
(b)yn cael llety o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989 (darparu llety gan gyrff gwirfoddol),
rhaid i'r awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, y gymdeithas fabwysiadu gofrestredig gael gafael ar unrhyw wybodaeth y mae angen cael gafael arni gan yr asiantaeth yn rhinwedd y Rhan hon, o'r cofnodion a gynhelir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan Ddeddf 1989, a rhoi'r wybodaeth honno yn y cofnod achos y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
13.—(1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn—
(a)darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y plentyn;
(b)esbonio i'r plentyn mewn modd priodol y weithdrefn ynglyn â'i fabwysiadu, a goblygiadau cyfreithiol ei fabwysiadu, a rhoi'r wybodaeth ysgrifenedig briodol i'r plentyn ynglyn â'r materion hyn; ac
(c)canfod dymuniadau a theimladau'r plentyn o ran—
(i)posibilrwydd lleoliad gyda theulu newydd a'i fabwysiadu;
(ii)ei fagwraeth grefyddol a diwylliannol; a
(iii)cyswllt â'i riant, ei warcheidwad, perthynas neu berson arwyddocaol arall.
14.—(1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol —
(a)darparu gwasanaeth cwnsela i riant neu warcheidwad y plentyn;
(b)esbonio a darparu gwybodaeth ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn ar y materion canlynol—
(i)y weithdrefn o ran mabwysiadu a lleoliad ar gyfer mabwysiadu a;
(ii)goblygiadau cyfreithiol —
(aa)cydsynio i leoliad ar gyfer mabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant);
(bb)cydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu);
(cc)gorchymyn lleoliad; a
(iii)goblygiadau cyfreithiol mabwysiadu; ac
(c)canfod dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn neu unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol o ran y canlynol—
(i)y materion a nodir yn adran 1(4)(f)(ii) a (iii) o'r Ddeddf (materion y mae'n rhaid i'r asiantaeth eu hystyried);
(ii)lleoliad y plentyn ar gyfer mabwysiadu a'i fabwysiadu gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a theimladau ynghylch magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a
(iii)cyswllt â'r plentyn os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu os mabwysiedir y plentyn.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae'r asiantaeth yn gwybod pwy yw'r tad.
(3) Os yw paragraff (2) yn gymwys a bod yr asiantaeth fabwysiadu wedi'i bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid i'r asiantaeth—
(a)cyflawni o ran y tad ofynion paragraff (1)(a), (b)(i), a (iii) ac (c) fel pe baent yn gymwys i'r tad, a
(b)canfod i'r graddau y mae'n bosibl p'un a yw'r tad—
(i)yn dymuno cael cyfrifoldeb rhiant am y plentyn o dan adran 4 o Ddeddf 1989) (caffael cyfrifoldeb rhiant)(1); neu
(ii)yn bwriadu gwneud cais am orchymyn preswylio neu orchymyn cyswllt ynglyn â'r plentyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (preswyliad, cyswllt a gorchmynion eraill ynglyn â phlant) neu lle y bo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, gorchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal).
15.—(1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am y plentyn a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —
(a)gwneud trefniadau i'r plentyn gael ei archwilio gan ymarferydd meddygol cofrestredig; a
(b)cael adroddiad ysgrifenedig gan yr ymarferydd hwnnw ar gyflwr iechyd y plentyn a rhaid iddo gynnwys unrhyw driniaeth y mae'r plentyn yn ei chael, anghenion y plentyn am ofal iechyd a'r materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1,
oni chafodd yr asiantaeth gyngor gan y cynghorydd meddygol nad oes angen yr archwiliad a'r adroddiad hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud trefniadau —
(a)bod archwiliadau meddygol a seiciatryddol eraill, a phrofion eraill, yn cael eu cyflawni ar y plentyn yn ôl argymhelliad cynghorydd meddygol yr asiantaeth; a
(b)cael gafael ar adroddiadau ysgrifenedig o'r archwiliadau a'r profion hynny.
(4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys os yw'r plentyn yn deall digon i wneud penderfyniad seiliedig ar wybodaeth ac yn gwrthod cael archwiliadau neu brofion eraill.
16.—(1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am deulu'r plentyn a bennir yn Rhannau 3 a 4 o Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am iechyd pob un o rieni a brodyr a chwiorydd naturiol y plentyn a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 1.
17.—(1) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried yn ngoleuni'r holl wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd rheoliadau 12 i 16 mai mabwysiadu yw'r dewis gorau er mwyn sefydlogrwydd ar gyfer y plentyn, rhaid i'r asiantaeth baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys —
(a)yr wybodaeth am y plentyn a theulu'r plentyn a bennir yn Rhannau 1, 3 a 4 o Atodlen 1;
(b)crynodeb, a ysgrifenwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, o gyflwr iechyd y plentyn, hanes ei iechyd ac unrhyw angen am ofal iechyd a all godi yn y dyfodol;
(c)dymuniadau a theimladau'r plentyn ynglyn â'r materion a nodir yn rheoliad 13(1)(c);
(ch)dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn, a phan fo rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn, ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol, ynghylch y materion a nodir yn rheoliad 14(1)(c);
(d)barn yr asiantaeth fabwysiadu am angen y plentyn o ran cyswllt â'i riant neu ei warcheidwad neu berthynas arall neu ag unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol (gan gynnwys tad y plentyn pan fo rheoliad 14(2) yn gymwys) a'r trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud i ganiatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;
(dd)asesiad o ddatblygiad emosiynol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad ac unrhyw anghenion cysylltiedig;
(e)asesiad o gynneddf rhiant neu warcheidwad y plentyn i fod yn rhiant, ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad;
(f)cronoleg o'r penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan yr asiantaeth ynglyn â'r plentyn;
(ff)dadansoddiad o'r opsiynau am ofal y plentyn yn y dyfodol a gafodd eu hystyried gan yr asiantaeth a pham yr ystyrir mai lleoliad ar gyfer mabwysiadu yw'r dewis gorau; a
(g)unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â'r adroddiadau eraill y mae eu hangen yn rhinwedd rheoliad 15 a 16 at y panel mabwysiadu.
(3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.
18.—(1) Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried achos pob plentyn a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth honno ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
(2) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, rhaid i'r panel mabwysiadu roi sylw i'r dyletswyddau a osodwyd ar yr asiantaeth fabwysiadu o dan adran 1(2), (4), (5) a (6) o'r Ddeddf (ystyriaethau sy'n gymwys wrth arfer pwerau o ran mabwysiadu plentyn) a —
(a)rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 17;
(b)caiff ofyn i'r asiantaeth gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol;
(c)rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.
(3) Pan fo'r panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu rhaid iddo ystyried a chaiff ar yr un pryd roi cyngor i'r asiantaeth ynghylch —
(a)y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;
(b)os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, a ddylid gwneud cais am orchymyn lleoliad ynglyn â'r plentyn.
19.—(1) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —
(a)ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu;
(b)ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 18(3); ac
(c)rhoi sylw i'r ystyriaeth a nodir yn adran 1(2) o'r Ddeddf
wrth benderfynu a ddylid lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
(2) Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, os yw eu cyfeiriad yn hysbys i'r asiantaeth, hysbysu ei phenderfyniad yn ysgrifenedig a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu unrhyw benderfyniad ynglyn â threfniadau cyswllt i—
(a)rhiant neu warcheidwad y plentyn;
(b)unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys unrhyw berson y gall fod gorchymyn cyswllt ganddo o dan adran 8 o Ddeddf 1989 neu orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; ac
(c)os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn; ac
(ch)rhaid i'r asiantaeth esbonio ei phenderfyniad i'r plentyn mewn modd priodol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn.
(4) Oni wnaed cais y gellid gwneud gorchymyn gofal o ran y plentyn, nas penderfynwyd arno, neu os yw'r plentyn yn llai na 6 wythnos oed, rhaid i'r asiantaeth ganfod a yw rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod—
(a)i gydsynio o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr a enwir yn y cydsyniad neu iddo gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydag unrhyw ddarpar fabwysiadwyr y caiff yr asiantaeth eu dewis; a
(b)ar yr un adeg i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsynio ymlaen llaw i fabwysiadu).
(5) Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth esbonio a chadarnhau yn ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn —
(a)y gellir tynnu unrhyw gydsyniad a roddir o dan adran 20 o'r Ddeddf yn ôl ond bydd y tynnu'n ôl hwnnw yn aneffeithiol os gwneir hynny ar ôl i gais am orchymyn mabwysiadu gael ei wneud;
(b)drwy roi hysbysiad i'r asiantaeth caiff, ar yr adeg honno neu rywbryd wedyn, ddatgan nad yw'n dymuno cael ei hysbysu o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu; ac
(c)caniateir tynnu'r cyfryw ddatganiad yn ôl.
20.—(1) Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) ac, yn ôl y digwydd, yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi un o'i swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru(2) neu, pan fydd y plentyn yn arferol yn preswylio yn Lloegr, ofyn i CAFCASS benodi un o'i swyddogion er mwyn iddo gymeradwyo'r cydsyniad i'r lleoli neu i'r mabwysiadu ac, wrth ofyn, anfon hefyd yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu o ran y plentyn gadw'r canlynol yn y cofnod achos a gynhelir yn unol â rheoliad 12 —
(a)y ffurflen gydsynio wedi'i llofnodi'n briodol gan y rhiant neu'r gwarcheidwad a swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS yn dyst i hynny;
(b)unrhyw hysbysiad a roddir i'r asiantaeth o dan adran 20(4)(a) o'r Ddeddf (datganiad na ddymunir cael hysbysiad o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu); ac
(c)hysbysiad tynnu'n ôl unrhyw gydsyniad neu ddatganiad a roddwyd o dan adrannau 19 neu 20 o'r Ddeddf.
Diwygiwyd adran 4 gan adran 111 o'r Ddeddf.
Gweler adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004 p.31.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: