- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Rhaid i berson beidio â mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod â hwy i mewn i'r DU neu at ddibenion tramwy i Aelod-wladwriaeth arall) unrhyw anifail neu gynnyrch anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai bod yr anifail hwnnw neu'r cynnyrch anifail hwnnw yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw (yn ddarostyngedig i unrhyw ran-ddirymiadau a bennir yn y Rhan honno) ac ag unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno.
(2) Pan fo anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod ag ef i mewn i'r DU neu wrth dramwy i Aelod-wladwriaeth arall), rhaid i'r mewnforiwr, a'r person sydd â gofal dros yr anifail, os ydynt yn bersonau gwahanol, gydymffurfio â phob un o ddarpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw nes iddo gyrraedd ei gyrchfan neu ymadael â Chymru, yn ôl y digwydd.
(3) Pan fo gwartheg, moch, defaid neu eifr yn cael eu mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w cigydda yng Nghymru a'u bod yn cael eu cymryd i ganolfan gynnull, rhaid i'r mewnforiwr sicrhau eu bod yn cael eu symud o'r ganolfan gynnull yn uniongyrchol i ladd-dy ac yn cael eu cigydda yno, a hynny yn achos defaid a geifr o fewn 5 niwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull, ac yn achos gwartheg a moch o fewn 3 diwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull.
(4) Pan na fydd anifail y mae paragraff (3) yn berthnasol iddo yn cael ei gigydda o fewn y cyfnod penodedig, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gigydda yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Pan fo anifail yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w gigydda, a hwnnw'n anifail nad yw wedi'i gymryd i ganolfan gynnull, rhaid ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, ac os nad yw'n cael ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gymryd i unrhyw ladd-dy a bennir yn yr hysbysiad.
(6) Os os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir naill ai o dan baragraff (4) neu (5) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: