Search Legislation

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2005.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yr ystyr sydd iddynt yn y Cyfarwyddebau canlynol—

    (a)

    Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (ynghylch gwiriadau milfeddygol a sootechnegol sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion penodol gyda golwg ar gwblhau'r farchnad sengl)(1); a

    (b)

    Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(2),

    y mae'r ddwy ohonynt wedi'u diwygio gan y ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 1;

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu awdurdod lleol, a phan fo'n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â pherson sydd wedi'i benodi felly gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

  • ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd milfeddygol gan y Cynulliad Cenedlaethol;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

  • ystyr “buches”, “cenfaint”, “geifre” a “gre” (“herd”) neu “diadell” neu “haid” (“flock”) yw grŵp o anifeiliaid sy'n cael eu cadw fel uned epidemiolegol;

  • ystyr “canolfan gynnull” (“assembly centre”) yw daliadau, canolfannau casglu a marchnadoedd lle mae gwartheg, moch, defaid neu eifr sy'n tarddu o wahanol ddaliadau yn cael eu grwpio gyda'i gilydd i ffurfio llwythi anifeiliaid sydd wedi'u bwriadu ar gyfer masnach ryng-Gymunedol neu sy'n cael eu defnyddio wrth gynnal masnach ryng-Gymunedol, ac sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “cyrchfan” (“place of destination”) yw'r cyfeiriad neu'r cyfeiriadau y mae'r llwyth yn cael ei draddodi iddo neu iddynt gan y traddodwr;

  • ystyr “dogfennau traddodi gofynnol” (“required consignment documentation”) yw unrhyw dystysgrifau neu ddogfennau eraill y mae'n ofynnol iddynt fynd gyda'r llwyth o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “masnachwr” (“dealer”)—

    (a)

    yn achos gwartheg neu foch, yw unrhyw berson sy'n prynu a gwerthu anifeiliaid yn fasnachol naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae ganddo drosiant rheolaidd o'r anifeiliaid hynny ac sydd o fewn 30 niwrnod i brynu anifeiliaid yn eu hailwerthu neu'n eu symud i fangre arall nad yw'n berchennog arni; a

    (b)

    yn achos defaid neu eifr, yw unrhyw berson sy'n prynu a gwerthu anifeiliaid yn fasnachol naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae ganddo drosiant o'r anifeiliaid hynny ac sydd o fewn 29 diwrnod i brynu anifeiliaid yn eu hailwerthu neu'n eu symud i fangre arall nad yw'n berchennog arni neu'n uniongyrchol i ladd-dy nad yw'n berchennog arno;

  • ystyr “offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd” (“European international instruments”) yw —

    (a)

    Act Ymaelodi â'r Cymunedau Ewropeaidd gan Deyrnas Denmarc, Iwerddon, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon(3);

    (b)

    y Penderfyniad ar gwblhau'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a wnaed rhwng y Cymunedau Ewropeaidd, eu Haelod-wladwriaethau a Gweriniaeth Awstria, Gweriniaeth y Ffindir, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy, Teyrnas Sweden, a Chydffederasiwn y Swistir(4);

    (c)

    yr Act ynghylch amodau ymaelodi Teyrnas Norwy, Gweriniaeth Awstria, Gweriniaeth y Ffindir a Theyrnas Sweden a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(5);

    (ch)

    yr Act ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(6); ac

  • ystyr “safle arolygu ar y ffin” (“border inspection post”), mewn perthynas â rhywogaeth anifail, yw man a bennir mewn perthynas â'r rhywogaeth honno yn Atodlen 2.

(3Rhaid i hysbysiadau, cymeradwyaethau neu ddatganiadau o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig. Caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a'u diwygio, eu hatal neu eu dirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

Eithrio

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wiriadau milfeddygol ar symudiadau anifeiliaid anwes (ac eithrio equidae) y mae person naturiol yn mynd gyda hwy ac yn gyfrifol drostynt, pan nad yw'r symudiadau hynny yn destun trafodiad masnachol.

(2Pan fo unrhyw berson yn mynd gyda mwy na phum anifail anwes sy'n teithio gyda'i gilydd ac yntau'n gyfrifol drostynt a bod yr anifeiliaid hynny —

(a)yn perthyn bob un i rywogaeth a restrir yn Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 998/2003(7); a

(b)yn dod o drydedd wlad nad yw'n un o'r rhai a restrir yn adran 2 o ran B o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 998/2003,

mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r gwiriadau milfeddygol ar symudiadau'r anifeiliaid hynny, er gwaethaf y ffaith nad yw eu symud yn destun trafodiad masnachol.

Gorfodi

3.—(1Ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, rhaid i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai ef, ac nid yr awdurdod lleol, sy'n gorfod cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).

RHAN 2Masnach Ryng-Gymunedol

Cymhwyso Rhan 2

4.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i'r fasnach rhwng Aelod-wladwriaethau mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3, ac eithrio cynhyrchion dyframaethu ar gyfer eu bwyta gan bobl sy'n cael eu rheoli gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC (ynghylch yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu rhoi ar y farchnad anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu)(8).

Allforion

5.—(1Rhaid i berson beidio ag allforio na thraddodi i'w allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid sy'n cael ei reoli o dan un neu fwy o'r offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai—

(a)ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offerynnau hynny (gan gynnwys unrhyw ddewis sydd wedi'i wneud gan Aelod-wladwriaeth y gyrchfan), ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno;

(b)pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod un o'r canlynol yn mynd gydag ef —

(i)tystsgrif iechyd allforio sydd wedi'i llofnodi gan arolygydd milfeddygol (neu, pan fo hynny wedi'i bennu mewn offeryn, wedi'i llofnodi gan filfeddyg a enwyd gan yr allforiwr); neu

(ii)unrhyw ddogfen arall sy'n ofynnol o dan yr offeryn;

(c)pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod unrhyw hysbysiad o glefyd ar y daliad y mae'r anifail wedi'i draddodi ohono wedi'i roi o fewn yr amser ac yn y modd a bennwyd (os o gwbl) yn yr offeryn; ac

(ch)os cafwyd yr anifail drwy ganolfan gynnull neu os yw'n teithio drwy ganolfan o'r fath, bod y ganolfan honno wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12 at ddibenion masnach ryng-Gymunedol ac yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC(9).

(2Os oes gan arolygydd le rhesymol i gredu bod person yn bwriadu allforio anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn groes i'r rheoliad hwn, caiff yr arolygydd wahardd yr allforio hwnnw drwy hysbysiad a gyflwynir i'r traddodwr, ei gynrychiolydd neu'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid, a chaiff ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gymryd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid i unrhyw fan a bennir yn yr hysbysiad a chymryd unrhyw gamau pellach a bennir yn yr hysbysiad mewn perthynas â hwy.

(3Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2), caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

(4Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail y mae darpariaethau Erthyglau 6, 7, 9 neu 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol gan y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(1) i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC)(10) yn gymwys oni bai yr anifail yn tarddu —

(a)o ddaliad sydd wedi'i gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a bod perchennog y daliad hwnnw neu'r person sydd â gofal dros y daliad hwnnw wedi rhoi ymrwymiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC; neu

(b)o gorff neu sefydliad sydd wedi'i gymeradwyo neu ganolfan sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 9(1) ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC.

(5Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw wyau deor, cywion diwrnod-oed na dofednod y mae Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 90/539/EEC (ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor, a'u mewnforio o drydydd gwledydd)(11) yn gymwys oni bai eu bod yn tarddu o sefydliad —

(a)sy'n aelod o'r cynllun monitro, a elwir y Cynllun Iechyd Dofednod, sy'n cael ei weithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn (mae sefydliad o'r fath i'w ystyried yn sefydliad a gymeradwywyd at ddibenion Erthygl 6(1)(a) o Gyfarwyddeb 90/539/EEC); a

(b)sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad II i Gyfarwyddeb 90/539/EEC.

Mewnforion

6.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod â hwy i mewn i'r DU neu at ddibenion tramwy i Aelod-wladwriaeth arall) unrhyw anifail neu gynnyrch anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai bod yr anifail hwnnw neu'r cynnyrch anifail hwnnw yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw (yn ddarostyngedig i unrhyw ran-ddirymiadau a bennir yn y Rhan honno) ac ag unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno.

(2Pan fo anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod ag ef i mewn i'r DU neu wrth dramwy i Aelod-wladwriaeth arall), rhaid i'r mewnforiwr, a'r person sydd â gofal dros yr anifail, os ydynt yn bersonau gwahanol, gydymffurfio â phob un o ddarpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw nes iddo gyrraedd ei gyrchfan neu ymadael â Chymru, yn ôl y digwydd.

(3Pan fo gwartheg, moch, defaid neu eifr yn cael eu mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w cigydda yng Nghymru a'u bod yn cael eu cymryd i ganolfan gynnull, rhaid i'r mewnforiwr sicrhau eu bod yn cael eu symud o'r ganolfan gynnull yn uniongyrchol i ladd-dy ac yn cael eu cigydda yno, a hynny yn achos defaid a geifr o fewn 5 niwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull, ac yn achos gwartheg a moch o fewn 3 diwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull.

(4Pan na fydd anifail y mae paragraff (3) yn berthnasol iddo yn cael ei gigydda o fewn y cyfnod penodedig, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gigydda yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.

(5Pan fo anifail yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w gigydda, a hwnnw'n anifail nad yw wedi'i gymryd i ganolfan gynnull, rhaid ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, ac os nad yw'n cael ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gymryd i unrhyw ladd-dy a bennir yn yr hysbysiad.

(6Os os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir naill ai o dan baragraff (4) neu (5) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

Cludo anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid

7.—(1Rhaid i berson beidio â chludo unrhyw anifail na chynnyrch anifail at ddibenion masnach ryng-Gymunedol oni bai bod y dogfennau sy'n ofynnol o dan Erthygl 3(1)(d) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC yn mynd gyda'r anifail neu'r cynnyrch anifail hwnnw.

(2Rhaid i berson beidio â danfon unrhyw anifail na chynnyrch anifail a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall i gyfeiriad heblaw'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol oni bai bod hysbysiad a gyflwynwyd iddo gan arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny; ac, os bydd anifail neu gynnyrch anifail yn cael ei ddanfon i gyfeiriad heblaw'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol ac yn groes i hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifail neu'r cynnyrch anifail yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ei gludo, ar draul y person hwnnw, i'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol.

(3Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(4Yn achos cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr, mae darpariaethau Rhan II o Atodlen 3 yn effeithiol, a gall unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny arwain at ddiwygio, atal neu ddirymu awdurdodiad i gludo'r anifeiliaid hynny a roddwyd o dan erthygl 12 o Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997(12) yn unol ag Atodlen 9 i'r Gorchymyn hwnnw.

Masnachwyr

8.—(1Rhaid i fasnachwyr gwartheg, moch, defaid neu eifr, sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol, gydymffurfio â Rhan III o Atodlen 3.

(2Rhaid i fasnachwyr anifeiliaid eraill sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol, os bydd hysbysiad a gyflwynir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny, gofrestru fel y cyfryw gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddynt roi'r ymrwymiadau ynglyn â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn a bennir yn yr hysbysiad.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o fasnachwyr sydd wedi'u cofrestru o dan baragraff (2).

(4Rhaid i unrhyw berson sydd wedi cofrestru o dan baragraff (2) gadw cofnod —

(a)o bob cyflenwad anifeiliaid; a

(b)pan fo llwyth wedi'i rannu neu wedi'i farchnata ar ôl hynny, o gyrchfan ddilynol yr anifeiliaid,

a rhaid iddo gadw'r cofnodion hynny am 12 mis o'r dyddiad y cyrhaeddodd y llwyth.

Cymeradwyo canolfannau a thimau at ddibenion Cyfarwyddeb 92/65/EEC a labordai at ddibenion Cyfarwyddeb 90/539/EEC

9.—(1At ddibenion Erthyglau 5 a 13 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw gorff, sefydliad neu ganolfan sydd wedi gwneud cais am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal, tynnu'n ôl neu adfer y gymeradwyaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn unol â phwynt 6 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(3At ddibenion Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw ganolfan casglu semen neu dîm casglu embryonau sydd wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n bodloni'r amodau sy'n gymwys iddi neu iddo o ran cymeradwyo a chyflawni ei dyletswyddau neu ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai yn unol ag Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn at ddibenion cyflawni'r profion ar gyfer heintiadau Mycoplasma sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC.

(5Rhaid i'r profion ar gyfer heintiadau Salmonela sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC gael eu cyflawni gan labordai a awdurdodwyd yn unol ag erthygl 2(1) o Orchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod 1993(13).

Arolygu a gwirio yn y gyrchfan

10.—(1Mae pŵer gan arolygydd milfeddygol i arolygu, yn eu cyrchfan, bob anifail a chynnyrch anifeiliaid sydd wedi'u mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall, er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion (gan gynnwys y gofynion ynglyn â dogfennau) yn narpariaethau perthnasol yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn Rhan I o Atodlen 3.

(2Mae gan arolygydd bŵer i arolygu yn unrhyw fan ac ar unrhyw bryd bob anifail a chynnyrch anifeiliaid sydd wedi'u mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall, yn ogystal â phob dogfen sy'n mynd gyda hwy, os oes gan yr arolygydd wybodaeth sy'n peri iddo amau bod unrhyw un o ofynion yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 neu unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn Rhan I o Atodlen 3 wedi'u torri.

Dyletswyddau ar draddodeion

11.—(1Rhaid i berson beidio â derbyn llwyth o anifeiliaid nac o gynhyrchion anifeiliaid (ac eithrio ceffylau cofrestredig y mae dogfen adnabod yn mynd gyda hwy a honno'n ddogfen y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar yr amodau sootechnegol ac achyddol sy'n llywodraethu masnach ryng-Gymunedol mewn equidae)(14)) oni bai bod y mewnforiwr neu'r traddodai wedi hysbysu arolygydd awdurdodedig yn ysgrifenedig, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, o natur y llwyth, o'r dyddiad y disgwylir iddo gyrraedd ac o'r gyrchfan.

(2Rhaid i draddodai ddal ei afael ar bob tystysgrif a anfonir yn unol â'r Rheoliadau hyn am 12 mis o'r dyddiad y mae'r llwyth yn cyrraedd.

(3Yr arolygydd awdurdodedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yw'r arolygydd a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwybodaeth am y dyddiad y disgwylir i anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid, a fewnforiwyd ar gyfer yr ardal y mae'r gyrchfan wedi'i lleoli ynddi, gyrraedd.

Canolfannau cynnull a lladd-dai

12.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gweithredu canolfan gynnull wneud hynny'n unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r ganolfan gynnull i gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael Rhif ganddo, a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â'i chymeradwyo oni chaiff ei fodloni -—

(a)yn achos canolfan gynnull sy'n cael ei defnyddio ar gyfer gwartheg neu foch, bod y ganolfan yn cydymffurfio â gofynion paragraffau (a) i (d) o Erthygl 11(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC;

(b)yn achos canolfan gynnull sy'n cael ei defnyddio ar gyfer defaid neu eifr, bod y ganolfan yn cydymffurfio â gofynion paragraffau (a) i (d) o Erthygl 8a(1) o Gyfarwyddeb 91/68/EEC; ac

(c)bod gweithredydd y ganolfan gynnull wedi cytuno i gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer gweithredu'r ganolfan y mae arolygydd wedi'u pennu mewn cytundeb gweithredol yn ofynion y mae'r arolygydd yn credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod modd gweithredu'r ganolfan yn unol ag ail baragraff indent Erthygl 3(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.

(3Yr unig anifeiliaid y caiff gweithredydd canolfan gynnull eu derbyn i'r fangre honno yw anifeiliaid sydd â manylion ar gyfer eu hadnabod ac sy'n dod o fuchesau, cenfeintiau, geifreoedd, greoedd, heidiau neu ddiadellau sy'n gymwys ar gyfer masnach o fewn y Gymuned.

(4Pan fo anifeiliaid yn cael eu traddodi i ganolfan gynnull, rhaid i weithredydd y ganolfan gynnull —

(a)sicrhau na chaiff unrhyw anifail ei dderbyn onid yw'n cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC; a

(b)cofnodi ar gofrestr —

(i)enw'r perchennog, tarddiad yr anifeiliaid, dyddiadau cyrraedd ac ymadael yr anifeiliaid, eu nifer a'u cyrchfan arfaethedig;

(ii)Rhif cofrestru'r cludydd a Rhif trwydded y cerbyd sy'n dod â'r anifeiliaid i'r ganolfan neu'n eu casglu ohoni;

(iii)yn achos gwartheg, dull adnabod yr anifeiliaid neu rif cofrestru'r daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii);

(iv)yn achos moch, Rhif cofrestru'r daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol neu'r genfaint y maent yn dod ohoni'n wreiddiol yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii); a

(v)yn achos defaid neu eifr, dull adnabod yr anifeiliaid, neu rif cofrestru'r daliad y mae'r anifeiliaid yn dod ohono'n wreiddiol, ac, os yw'n briodol, Rhif cymeradwyaeth neu rif cofrestru unrhyw canolfan gynnull y mae'r anifeiliaid wedi mynd drwyddi cyn mynd i mewn i'r ganolfan yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii),

a rhaid iddo gadw'r gofrestr yn ddiogel am dair blynedd o leiaf.

(5Pan fo anifeiliaid yn cael eu traddodi i ladd-dy o dan oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol a benodwyd o dan ddarpariaethau rheoliad 8 o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(15) neu reoliad 8 o Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(16), rhaid i'r milfeddyg swyddogol sicrhau na chaiff unrhyw anifail ei gigydda onid yw'n cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.

(6Os yw'r milfeddyg swyddogol, wrth gyflawni arolygiadau o dan y paragraff blaenorol, yn cadarnhau bod ardystiad anghywir wedi dod gydag anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall neu nad oes modd rhwydd o'u hadnabod, rhaid iddo hysbysu ar unwaith arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael hysbysiadau o'r fath, a rhaid i'r arolygydd hwnnw archwilio'r anifeiliaid a naill ai —

(a)ardystio eu bod yn ffit i'w cigydda ac i'w defnyddio at eu diben arfaethedig; neu

(b)drwy hysbysiad a gyflwynir i'r milfeddyg swyddogol ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda a'u difa neu gael eu hailallforio, a hynny ar draul y mewnforiwr yn y naill achos a'r llall.

(7Pan nad yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys, rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata unrhyw anifail sydd wedi'i draddodi iddo o Aelod-wladwriaeth arall, neu sy'n rhannu llwythi o anifeiliaid o'r fath i'w dosbarthu neu i'w marchnata —

(a)gwirio, cyn bod unrhyw anifail yn cael ei farchnata neu fod unrhyw lwyth yn cael ei rannu, fod pob un o'r anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol offeryn yn Rhan I o Atodlen 3, o ran marciau adnabod a'r dogfennau traddodi gofynnol;

(b)hysbysu ar unwaith arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael hysbysiad o'r fath o unrhyw afreoleidd-dra neu anghysondeb; ac

(c)os yw Erthygl 3(1)(d) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC wedi'i thorri(17), ynysu'r anifeiliaid o dan sylw nes bod arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i wneud hynny wedi rhoi awdurdodiad ysgrifenedig i'w rhyddhau.

Llwythi anghyfreithlon

13.—(1Os yw arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau bod asiantau sy'n gyfrifol am glefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6 yn bresennol, neu fod milhaint, unrhyw haint arall neu unrhyw achos sy'n debyg o fod yn berygl difrifol i anifeiliaid neu bobl yn bresennol, mewn anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall, neu fod yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny wedi dod o ranbarth sydd wedi'i halogi â chlefyd episootig, caiff gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny.

(2Rhaid i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw —

(a)cadw'n gaeth ar unwaith y cynnyrch anifail a fewnforiwyd, yr anifail a fewnforiwyd neu unrhyw anifail sydd wedi bod mewn cysylltiad a'r anifail hwnnw a fewnforiwyd (ac, yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw'n gaeth, p'un a ydynt yn anifeiliaid a fewnforiwyd neu'n rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad ag anifeiliaid a fewnforiwyd, eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill), yn unrhyw le a bennir yn yr hysbysiad, a chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â hwy a bennir yn yr hysbysiad er mwyn atal y clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu; neu

(b)yn ddi-oed, eu cigydda, neu eu cigydda a'u difa, neu, yn achos cynhyrchion, eu dinistrio, yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau nad yw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC, caiff roi i'r traddodwr neu i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, os bydd ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu i'r arolygydd wneud hynny, y dewisiadau canlynol ar ffurf hysbysiad —

(a)os y rheswm dros fethu â chydymffurfio yw'r ffaith bod gweddillion, y mae eu lefelau'n uwch na'r hyn a ganiateir o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997 (18), yn bresennol mewn anifeiliaid, cadw'r anifeiliaid o dan oruchwyliaeth tan y bydd lefelau'r gweddillion yn gostwng i'r lefelau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth ac, os na fydd lefelau'r gweddillion yn gostwng i'r lefelau a ganiateir, ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd pa gamau bynnag a bennir yn y ddeddfwriaeth honno; neu

(b)cigydda'r anifeiliaid neu ddinistrio'r cynhyrchion yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad; neu

(c)dychwelyd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion i'r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy ohoni, gydag awdurdodiad awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy ohoni a chan hysbysu ymlaen llaw unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant yn mynd drwyddi.

(4Os afreoleidd-dra ynglyn â'r dogfennau traddodi gofynnol yw'r unig reswm y mae'r llwyth yn methu â chydymffurfio, rhaid i'r arolygydd beidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (3) oni bai —

(a)ei fod wedi rhoi i'r traddodwr, i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddangos y dogfennau traddodi gofynnol o fewn 7 niwrnod a chadw'n gaeth yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)bod y dogfennau traddodi gofynnol heb gael eu dangos o fewn yr amser hwnnw.

(5Os na chydymffurfir ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

RHAN 3Trydydd Gwledydd

Cymhwyso Rhan 3

14.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys i anifeiliaid a fewnforir i Gymru —

(a)o wlad nad yw'n Aelod-wladwriaeth, a

(b)o Aelod-wladwriaeth arall os yw'r anifail yn tarddu o wlad nad yw'n Aelod-wladwriaeth ac nad yw'r holl wiriadau y darperir ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC wedi'u gwneud.

Milfeddygon swyddogol

15.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi o bryd i'w gilydd yr arolygwyr milfeddygol hynny sydd i weithredu fel milfeddygon swyddogol fel sy'n angenrheidiol at ddibenion y Rhan hon a chaiff ddirymu'r dynodiad hwnnw ar unrhyw bryd.

Mewnforio

16.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail —

(a)naill ai er mwyn dod ag ef i mewn i'r DU neu er mwyn ei allforio i Aelod-wladwriaeth arall oni chydymffurfir â'r amodau yn Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC; neu

(b)er mwyn ei ailallforio ar unwaith, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd oni bai bod y tramwyo hwnnw wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Cynulliad Cenedlaethol a bod y person hwnnw wedi cydymffurfio â'r amodau yn Erthygl 9 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC.

(2Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail ac eithrio o wlad neu diriogaeth a bennir o dan yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 7.

(3Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail y mae offeryn yn Rhan II o Atodlen 7 yn gymwys iddo oni bai bod yr anifail hwnnw yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno.

(4Pan fo anifail yn cael ei fewnforio i'w gigydda, rhaid ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, ac os nad yw'n cael ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gymryd i unrhyw ladd-dy a bennir yn yr hysbysiad.

(5Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (4), caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(6Rhaid i'r person sydd â gofal dros anifail sydd wedi'i fewnforio er mwyn ei ailallforio ar unwaith, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd gydymffurfio ag Erthygl 4, yr ail indent, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004(19).

Mannau mewnforio

17.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail ac eithrio wrth safle archwilio ar y ffin a bennir yn Atodlen 2 ar gyfer y rhywogaeth anifail honno, ac eithrio y caniateir mewnforio hefyd anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cwn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974(20) hefyd mewn mannau a ganiateir o dan y Gorchymyn hwnnw.

(2Os yw anifeiliaid yn cael eu mewnforio yn unman heblaw lle a ganiateir o dan baragraff (1), caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros y llwyth gadw'r anifeiliaid yn gaeth a'u hynysu yn unol â'r hysbysiad a bydd darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn effeithiol.

(3Yn dilyn archwiliad o'r anifeiliaid gan arolygydd milfeddygol, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad pellach i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros y llwyth a hwnnw'n hysbysiad sydd naill ai'n rhyddhau'r anifeiliaid o'r cyfyngiad neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda, neu gael eu cigydda a'u difa, neu eu hailallforio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd.

(4Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (3) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

Y weithdrefn fewnforio

18.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail oni bai ei fod wedi hysbysu o'i fwriad i wneud hynny yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004.

(2Yn syth ar ôl ei fewnforio, rhaid i'r mewnforiwr neu ei asiant fynd â'r anifail, o dan oruchwyliaeth yr awdurdod gorfodi, yn uniongyrchol i'r man archwilio ar y safle arolygu ar y ffin neu, pan fo'r offerynnau yn Atodlen 7 neu'r amodau ynghylch iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fewnforion yn gwneud hynny'n ofynnol, i ganolfan gwarantîn fel y darperir ar ei chyfer yn ail baragraff indent yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 10(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC.

(3Rhaid i berson beidio â symud unrhyw anifail o ganolfan gwarantîn na safle arolygu ar y ffin oni bai bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i llenwi yn unol ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 a bod y ddogfen honno'n dangos bod yr holl wiriadau milfeddygol angenrheidiol wedi'u gwneud er boddhad y milfeddyg swyddogol.

(4Rhaid i berson beidio â symud unrhyw anifail o fan lle mae'n cael ei storio dros dro o dan drefniadau'r Tollau —

(a)oni fydd y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dangos yn unol ag Erthygl 3(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 i un o swyddogion Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi a bod y symudiad wedi'i awdurdodi gan y swyddog hwnnw;

(b)i unrhyw fan ac eithrio'r gyrchfan a bennir yn y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin, onid yw wedi'i gwneud yn ofynnol iddo symud yr anifail i fan arall drwy gyfrwng hysbysiad a gyflwynwyd iddo gan arolygydd.

(5Rhaid i'r person sydd â gofal dros anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad sicrhau ei fod yn cael ei gludo i'w gyrchfan yn ddi-oed a bod gwreiddiol y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef i'w gyrchfan yn unol ag Erthygl 3(4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004.

(6Pan fo gwiriad yn golygu cymryd sampl i'w brofi ac nad yw canlyniad y prawf ar gael ar unwaith, caiff y milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r perchennog neu'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifail, ryddhau'r anifail hwnnw o'r safle arolygu ar y ffin, a'i gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gadw'r anifail yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad nes bod canlyniadau'r prawf ar gael; ac os yw'r prawf yn dangos nad yw'r anifail yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, yna bydd darpariaethau rheoliad 21 yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys ar safle arolygu ar y ffin.

(7Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (4) neu (6) caiff arolygydd milfeddygol atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

Talu ffioedd

19.  Rhaid i'r milfeddyg swyddogol beidio ag awdurdodi rhyddhau anifeiliaid o ganolfan gwarantîn na safle arolygu ar y ffin oni chaiff ei fodloni bod y ffioedd am yr holl wiriadau milfeddygol y codir tâl amdanynt wedi'u talu, a phan fo'n berthnasol, bod blaendal sy'n talu unrhyw gostau y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 9(1)(a), 9(2), ail a thrydydd paragraff indent Erthygl 10(1), Erthygl 10(6) ac Erthygl 12(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC wedi'i adneuo.

Llwythi sy'n beryglus i iechyd

20.  Pan fo gwiriadau yn y ganolfan gwarantîn neu'r safle arolygu ar y ffin neu pan fo canlyniadau prawf y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(6) yn datgelu bod anifail neu lwyth anifeiliaid yn debyg o fod yn berygl i iechyd anifeiliaid neu iechyd dynol, rhaid i'r milfeddyg swyddogol fynd ati ar unwaith i atafaelu'r anifail neu'r llwyth (yn ôl y digwydd) a'i ddifa a bydd costau'r camau hynny yn daladwy gan y mewnforiwr neu ei gynrychiolydd.

Llwythi anghyfreithlon

21.—(1Pan fo gwiriadau yn y ganolfan gwarantîn neu'r safle arolygu ar y ffin yn dangos nad yw'r anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC neu Erthyglau 3, 4 neu 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC(21), rhaid i arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid hynny, ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

(a)darparu cysgod, porthiant a dŵr i'r anifeiliaid ac, os bydd angen, rhoi triniaeth iddynt;

(b)eu rhoi mewn cwarantîn neu ynysu'r llwyth yn unrhyw le a bennir yn yr hysbysiad, a chymryd unrhyw gamau eraill sy'n angenrheidiol mewn perthynas â'r anifeiliaid er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu; neu

(c)eu hailanfon y tu allan i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd, pan fo ystyriaethau iechyd neu les anifeiliaid yn caniatáu hynny, o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(2Cyn arfer unrhyw un o'r pwerau ym mharagraff (1) rhaid i'r arolygydd milfeddygol ymgynghori â'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd.

(3Os yw'r anifeiliaid yn cael eu hailanfon yn unol ag is-baragraff (c), rhaid i'r milfeddyg swyddogol ganslo'r dystysgrif filfeddygol sy'n mynd gyda'r llwyth a wrthodwyd a llenwi'r blwch sy'n dwyn y geiriau 'details of re-consignment' yn rhan 3 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn unol ag ail baragraff indent Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 cyn gynted ag y daw'r wybodaeth berthnasol yn hysbys.

(4Os nad yw'n bosibl eu hanfon ymlaen ym marn yr arolygydd milfeddygol, a hynny am resymau lles yr anifeiliaid yn benodol, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid yn unol â'r paragraff canlynol.

(5Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol awdurdodi bod yr anifeiliaid i gael eu cigydda ar gyfer eu bwyta gan bobl os yw'r anifeiliaid yn cydymffurfio â'r holl ofynion deddfwriaethol y mae rhaid iddynt gydymffurfio â hwy cyn y caniateir eu cigydda ar gyfer eu bwyta gan bobl ond, os nad yw hynny'n bosibl, rhaid i'r hysbysiad naill ai—

(a)gorchymyn bod yr anifeiliaid yn cael eu cigydda at ddibenion heblaw ar gyfer eu bwyta gan bobl, neu

(b)gorchymyn bod yr anifeiliaid yn cael eu cigydda a'r carcasau yn cael eu dinistrio, gan bennu yn y naill achos a'r llall yr amodau ynghylch rheoli'r defnydd ar y cynhyrchion a geir.

(6Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (4) caiff arolygydd milfeddygol atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(7Mae'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd yn atebol am y costau a dynnir mewn mesurau o dan y rheoliad hwn, ond mae ganddo hawl, ar ôl didynnu costau, i gael enillion unrhyw werthiant.

Cyrraedd y gyrchfan

22.—(1Ar ôl iddynt gyrraedd eu cyrchfan, rhaid i eliffantod ac anifeiliaid sy'n perthyn i urdd yr Artiodactyla (a'u croesfridiau) sydd i'w defnyddio ar gyfer bridio, cynhyrchu neu besgi, neu sydd wedi'u bwriadu ar gyfer swau, parciau adloniant, gwarchodfeydd hela neu warchodfeydd bywyd gwyllt, gael eu cadw'n gaeth yn y fangre gan y person sydd â rheolaeth ar y fangre honno am o leiaf 30 niwrnod, a rhaid i'r person hwnnw beidio â'u rhyddhau oni chaiff awdurdodiad ysgrifenedig gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys yn achos anifeiliaid sy'n cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy.

(3Rhaid i anfeiliaid o rywogaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt ac sydd i'w defnyddio ar gyfer bridio neu gynhyrchu gael eu cadw'n gaeth yn y gyrchfan gan y person y mae'r fangre honno o dan ei reolaeth, a rhaid iddo beidio â'u rhyddhau oni chaiff awdurdodiad ysgrifenedig gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dulliau rheoli ôl-fewnforio

23.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau na chydymffurfiwyd â'r amodau mewnforio neu pan fo amheuon ynglyn â manylion adnabod yr anifail, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflawni unrhyw wiriadau milfeddygol ar yr anifail hwnnw y mae'n barnu eu bod yn briodol.

(2Os bydd y gwiriadau yn cadarnhau na chydymffurfiwyd â'r amodau mewnforio, yna bydd darpariaethau rheoliad 21 yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys i safle arolygu ar y ffin ac, os bydd pwer yn cael ei arfer i roi'r anifeiliaid mewn cwarantîn neu i'w hynysu, caiff arolygydd milfeddygol ei gwneud yn ofynnol at hynny i anifeiliaid eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r anifeiliaid a fewnforiwyd gael eu rhoi mewn cwarantîn neu gael eu hynysu.

RHAN 4Mewnforion pan fo Gwiriadau wedi'u Gwneud mewn Aelod-wladwriaeth Arall

Cymhwyso Rhan 4

24.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i anifeiliaid a fewnforiwyd ac sy'n tarddu o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd ond y mae'r holl wiriadau, sy'n ofynnol mewn perthynas â hwy, wedi'u gwneud o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC mewn Aelod-wladwriaeth arall.

Mewnforion

25.  Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo oni bai bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin a chopi a ddilyswyd o'r dystysgrif iechyd wreiddiol, a ddyroddwyd yn y man lle mewnforiwyd yr anifail i'r Gymuned Ewropeaidd o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC ac Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 282/2004, yn mynd gyda'r anifail hwnnw.

Y weithdrefn fewnforio

26.  Mae darpariaethau rheoliadau 7 i 13, 16(2) a (3), 22 a 23 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid y mae'r Rhan hon yn gymwys iddynt.

RHAN 5Cyffredinol

Brigiadau clefyd mewn gwladwriaethau eraill

27.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn dod i wybod neu pan fo ganddo le rhesymol i gredu, naill ai o dan y gweithdrefnau a nodir yn Erthygl 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC( ) neu Erthygl 18 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, neu drwy unrhyw ddull arall, fod clefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6, milhaint, neu unrhyw glefyd neu ffenomen arall sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, yn bresennol mewn unrhyw wladwriaeth arall.

(2O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu, atal drwy ddatganiad unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn i Gymru, neu osod amodau ynglyn â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru, o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r wladwriaeth honno.

(3Mae'r datganiad hwnnw i'w gyhoeddi yn y modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw wedi'i anfon, neu'n tarddu, o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar ddod ag unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid i mewn i Gymru, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw'n tarddu o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad, oni bai bod yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

Hysbysu o benderfyniadau

28.  Os bydd y traddodwr neu ei gynrychiolydd, neu'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd, yn gofyn am hynny, rhaid i unrhyw benderfyniad a wneir i wrthod mynediad neu i newid yr amodau ar gyfer mynediad gael ei anfon ymlaen ato mewn ysgrifen gan y person sy'n gwneud y penderfyniad, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad a manylion ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, gan gynnwys y terfynau amser perthnasol.

Pwerau arolygwyr

29.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 10, os gofynnir iddo wneud hynny, mae gan arolygydd, ar ôl iddo ddangos rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl i fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre ar bob adeg resymol i ganfod a yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri neu wedi'u torri mewn unrhyw ffordd; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd ffordd neu gerbyd rheilffordd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.

(2Mae gan arolygydd bwerau i wneud yr holl wiriadau ac arolygiadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, ac yn benodol caiff—

(a)cyflawni arolygiadau o unrhyw brosesau sy'n cael eu defnyddio i farcio a dynodi anifeiliaid, unrhyw fangre ac unrhyw osodiad;

(b)gwirio a yw'r staff yn cydymffurfio â gofynion yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 sy'n ymwneud â chynhyrchion anifeiliaid;

(c)cymryd samplau (ac, os yw'n angenrheidiol, anfon samplau i'w profi mewn labordy) o'r canlynol —

(i)anifeiliaid sy'n cael eu cadw gyda golwg ar eu gwerthu, eu rhoi ar y farchnad neu eu cludo;

(ii)cynhyrchion sy'n cael eu cadw gyda golwg ar eu gwerthu, eu rhoi ar y farchnad neu eu cludo;

(iii)anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid sy'n cael eu cludo yng nghwrs masnachu ryng-Gymunedol;

(iv)anifeiliaid mewn safle arolygu ar y ffin yn achos mewnforion trydydd gwledydd; neu

(v)anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn y gyrchfan yn achos mewnforyn o Aelod-wladwriaeth arall;

(ch)archwilio deunydd dogfennol neu ddeunydd prosesu data sy'n berthnasol i'r gwiriadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn; a

(d)mynd â chynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Cyfarwyddebau'r Cyngor 90/425/EEC neu 91/496/EEC gydag ef.

Adennill treuliau

30.  Mae'r traddodwr, ei gynrychiolydd a'r person sydd â gofal dros unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn atebol yn unigol ac ar y cyd am unrhyw dreuliau rhesymol sy'n codi o arfer unrhyw bŵer a roddwyd i arolygydd gan y Rheoliadau hyn ac sy'n ymwneud â'r anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny neu sy'n codi mewn cysylltiad ag arfer unrhyw bwer o'r fath.

Rhwystro

31.  Rhaid i berson beidio —

(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn,

(b)heb achos rhesymol, â methu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae ar y person hwnnw angen rhesymol ei gael neu ei chael oddi wrtho er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; nac

(c)rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

32.—(1Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran —

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

mae'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Cosbau

33.—(1Mae person sy'n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r darpariaethau a gynhwysir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 4 a pharagraff 2 o Ran I o Atodlen 5, neu unrhyw hysbysiad a gyflwynir oddi tanynt yn euog o dramgwydd.

(2Mae person yn euog o dramgwydd o dan reoliad 31(a) neu (b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddiryw nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i'r ddau.

Datgymhwyso darpariaethau

34.  Nid yw darpariaethau'r ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 8 yn gymwys i fewnforion o Aelod-wladwriaeth arall o anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid y mae offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn gymwys iddynt, nac i fewnforion o anifail y mae offeryn yn Atodlen 7 yn gymwys iddynt o'r wlad sy'n ddarostyngedig i'r offeryn hwnnw, i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r tabl a roddir yn Atodlen 8.

Dirymu

35.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) 2000(22);

(b)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2000(23);

(c)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 1) 2000(24);

(ch)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2000(25);

(d)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 3) 2000(26);

(dd)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2002(27); ac

(e)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2002(28).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(29)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Ebrill 2005

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources