Search Legislation

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1158 (Cy.75)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

12 Ebrill 2005

Yn dod i rym

30 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol—

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2005.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yr ystyr sydd iddynt yn y Cyfarwyddebau canlynol—

    (a)

    Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (ynghylch gwiriadau milfeddygol a sootechnegol sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion penodol gyda golwg ar gwblhau'r farchnad sengl)(3); a

    (b)

    Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(4),

    y mae'r ddwy ohonynt wedi'u diwygio gan y ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 1;

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu awdurdod lleol, a phan fo'n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â pherson sydd wedi'i benodi felly gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

  • ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd milfeddygol gan y Cynulliad Cenedlaethol;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

  • ystyr “buches”, “cenfaint”, “geifre” a “gre” (“herd”) neu “diadell” neu “haid” (“flock”) yw grŵp o anifeiliaid sy'n cael eu cadw fel uned epidemiolegol;

  • ystyr “canolfan gynnull” (“assembly centre”) yw daliadau, canolfannau casglu a marchnadoedd lle mae gwartheg, moch, defaid neu eifr sy'n tarddu o wahanol ddaliadau yn cael eu grwpio gyda'i gilydd i ffurfio llwythi anifeiliaid sydd wedi'u bwriadu ar gyfer masnach ryng-Gymunedol neu sy'n cael eu defnyddio wrth gynnal masnach ryng-Gymunedol, ac sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “cyrchfan” (“place of destination”) yw'r cyfeiriad neu'r cyfeiriadau y mae'r llwyth yn cael ei draddodi iddo neu iddynt gan y traddodwr;

  • ystyr “dogfennau traddodi gofynnol” (“required consignment documentation”) yw unrhyw dystysgrifau neu ddogfennau eraill y mae'n ofynnol iddynt fynd gyda'r llwyth o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “masnachwr” (“dealer”)—

    (a)

    yn achos gwartheg neu foch, yw unrhyw berson sy'n prynu a gwerthu anifeiliaid yn fasnachol naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae ganddo drosiant rheolaidd o'r anifeiliaid hynny ac sydd o fewn 30 niwrnod i brynu anifeiliaid yn eu hailwerthu neu'n eu symud i fangre arall nad yw'n berchennog arni; a

    (b)

    yn achos defaid neu eifr, yw unrhyw berson sy'n prynu a gwerthu anifeiliaid yn fasnachol naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae ganddo drosiant o'r anifeiliaid hynny ac sydd o fewn 29 diwrnod i brynu anifeiliaid yn eu hailwerthu neu'n eu symud i fangre arall nad yw'n berchennog arni neu'n uniongyrchol i ladd-dy nad yw'n berchennog arno;

  • ystyr “offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd” (“European international instruments”) yw —

    (a)

    Act Ymaelodi â'r Cymunedau Ewropeaidd gan Deyrnas Denmarc, Iwerddon, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon(5);

    (b)

    y Penderfyniad ar gwblhau'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a wnaed rhwng y Cymunedau Ewropeaidd, eu Haelod-wladwriaethau a Gweriniaeth Awstria, Gweriniaeth y Ffindir, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy, Teyrnas Sweden, a Chydffederasiwn y Swistir(6);

    (c)

    yr Act ynghylch amodau ymaelodi Teyrnas Norwy, Gweriniaeth Awstria, Gweriniaeth y Ffindir a Theyrnas Sweden a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(7);

    (ch)

    yr Act ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(8); ac

  • ystyr “safle arolygu ar y ffin” (“border inspection post”), mewn perthynas â rhywogaeth anifail, yw man a bennir mewn perthynas â'r rhywogaeth honno yn Atodlen 2.

(3Rhaid i hysbysiadau, cymeradwyaethau neu ddatganiadau o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig. Caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a'u diwygio, eu hatal neu eu dirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

Eithrio

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wiriadau milfeddygol ar symudiadau anifeiliaid anwes (ac eithrio equidae) y mae person naturiol yn mynd gyda hwy ac yn gyfrifol drostynt, pan nad yw'r symudiadau hynny yn destun trafodiad masnachol.

(2Pan fo unrhyw berson yn mynd gyda mwy na phum anifail anwes sy'n teithio gyda'i gilydd ac yntau'n gyfrifol drostynt a bod yr anifeiliaid hynny —

(a)yn perthyn bob un i rywogaeth a restrir yn Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 998/2003(9); a

(b)yn dod o drydedd wlad nad yw'n un o'r rhai a restrir yn adran 2 o ran B o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 998/2003,

mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r gwiriadau milfeddygol ar symudiadau'r anifeiliaid hynny, er gwaethaf y ffaith nad yw eu symud yn destun trafodiad masnachol.

Gorfodi

3.—(1Ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, rhaid i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai ef, ac nid yr awdurdod lleol, sy'n gorfod cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).

RHAN 2Masnach Ryng-Gymunedol

Cymhwyso Rhan 2

4.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i'r fasnach rhwng Aelod-wladwriaethau mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3, ac eithrio cynhyrchion dyframaethu ar gyfer eu bwyta gan bobl sy'n cael eu rheoli gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC (ynghylch yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu rhoi ar y farchnad anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu)(10).

Allforion

5.—(1Rhaid i berson beidio ag allforio na thraddodi i'w allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid sy'n cael ei reoli o dan un neu fwy o'r offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai—

(a)ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offerynnau hynny (gan gynnwys unrhyw ddewis sydd wedi'i wneud gan Aelod-wladwriaeth y gyrchfan), ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno;

(b)pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod un o'r canlynol yn mynd gydag ef —

(i)tystsgrif iechyd allforio sydd wedi'i llofnodi gan arolygydd milfeddygol (neu, pan fo hynny wedi'i bennu mewn offeryn, wedi'i llofnodi gan filfeddyg a enwyd gan yr allforiwr); neu

(ii)unrhyw ddogfen arall sy'n ofynnol o dan yr offeryn;

(c)pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod unrhyw hysbysiad o glefyd ar y daliad y mae'r anifail wedi'i draddodi ohono wedi'i roi o fewn yr amser ac yn y modd a bennwyd (os o gwbl) yn yr offeryn; ac

(ch)os cafwyd yr anifail drwy ganolfan gynnull neu os yw'n teithio drwy ganolfan o'r fath, bod y ganolfan honno wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12 at ddibenion masnach ryng-Gymunedol ac yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC(11).

(2Os oes gan arolygydd le rhesymol i gredu bod person yn bwriadu allforio anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn groes i'r rheoliad hwn, caiff yr arolygydd wahardd yr allforio hwnnw drwy hysbysiad a gyflwynir i'r traddodwr, ei gynrychiolydd neu'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid, a chaiff ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gymryd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid i unrhyw fan a bennir yn yr hysbysiad a chymryd unrhyw gamau pellach a bennir yn yr hysbysiad mewn perthynas â hwy.

(3Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2), caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

(4Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail y mae darpariaethau Erthyglau 6, 7, 9 neu 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol gan y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(1) i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC)(12) yn gymwys oni bai yr anifail yn tarddu —

(a)o ddaliad sydd wedi'i gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a bod perchennog y daliad hwnnw neu'r person sydd â gofal dros y daliad hwnnw wedi rhoi ymrwymiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC; neu

(b)o gorff neu sefydliad sydd wedi'i gymeradwyo neu ganolfan sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 9(1) ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC.

(5Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw wyau deor, cywion diwrnod-oed na dofednod y mae Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 90/539/EEC (ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor, a'u mewnforio o drydydd gwledydd)(13) yn gymwys oni bai eu bod yn tarddu o sefydliad —

(a)sy'n aelod o'r cynllun monitro, a elwir y Cynllun Iechyd Dofednod, sy'n cael ei weithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn (mae sefydliad o'r fath i'w ystyried yn sefydliad a gymeradwywyd at ddibenion Erthygl 6(1)(a) o Gyfarwyddeb 90/539/EEC); a

(b)sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad II i Gyfarwyddeb 90/539/EEC.

Mewnforion

6.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod â hwy i mewn i'r DU neu at ddibenion tramwy i Aelod-wladwriaeth arall) unrhyw anifail neu gynnyrch anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai bod yr anifail hwnnw neu'r cynnyrch anifail hwnnw yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw (yn ddarostyngedig i unrhyw ran-ddirymiadau a bennir yn y Rhan honno) ac ag unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno.

(2Pan fo anifail sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall (naill ai er mwyn dod ag ef i mewn i'r DU neu wrth dramwy i Aelod-wladwriaeth arall), rhaid i'r mewnforiwr, a'r person sydd â gofal dros yr anifail, os ydynt yn bersonau gwahanol, gydymffurfio â phob un o ddarpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw nes iddo gyrraedd ei gyrchfan neu ymadael â Chymru, yn ôl y digwydd.

(3Pan fo gwartheg, moch, defaid neu eifr yn cael eu mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w cigydda yng Nghymru a'u bod yn cael eu cymryd i ganolfan gynnull, rhaid i'r mewnforiwr sicrhau eu bod yn cael eu symud o'r ganolfan gynnull yn uniongyrchol i ladd-dy ac yn cael eu cigydda yno, a hynny yn achos defaid a geifr o fewn 5 niwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull, ac yn achos gwartheg a moch o fewn 3 diwrnod iddynt gyrraedd y ganolfan gynnull.

(4Pan na fydd anifail y mae paragraff (3) yn berthnasol iddo yn cael ei gigydda o fewn y cyfnod penodedig, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gigydda yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.

(5Pan fo anifail yn cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall i'w gigydda, a hwnnw'n anifail nad yw wedi'i gymryd i ganolfan gynnull, rhaid ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, ac os nad yw'n cael ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gymryd i unrhyw ladd-dy a bennir yn yr hysbysiad.

(6Os os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir naill ai o dan baragraff (4) neu (5) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

Cludo anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid

7.—(1Rhaid i berson beidio â chludo unrhyw anifail na chynnyrch anifail at ddibenion masnach ryng-Gymunedol oni bai bod y dogfennau sy'n ofynnol o dan Erthygl 3(1)(d) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC yn mynd gyda'r anifail neu'r cynnyrch anifail hwnnw.

(2Rhaid i berson beidio â danfon unrhyw anifail na chynnyrch anifail a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall i gyfeiriad heblaw'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol oni bai bod hysbysiad a gyflwynwyd iddo gan arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny; ac, os bydd anifail neu gynnyrch anifail yn cael ei ddanfon i gyfeiriad heblaw'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol ac yn groes i hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifail neu'r cynnyrch anifail yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ei gludo, ar draul y person hwnnw, i'r cyfeiriad a bennir yn y dogfennau traddodi gofynnol.

(3Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(4Yn achos cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr, mae darpariaethau Rhan II o Atodlen 3 yn effeithiol, a gall unrhyw fethiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny arwain at ddiwygio, atal neu ddirymu awdurdodiad i gludo'r anifeiliaid hynny a roddwyd o dan erthygl 12 o Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) 1997(14) yn unol ag Atodlen 9 i'r Gorchymyn hwnnw.

Masnachwyr

8.—(1Rhaid i fasnachwyr gwartheg, moch, defaid neu eifr, sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol, gydymffurfio â Rhan III o Atodlen 3.

(2Rhaid i fasnachwyr anifeiliaid eraill sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol, os bydd hysbysiad a gyflwynir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny, gofrestru fel y cyfryw gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddynt roi'r ymrwymiadau ynglyn â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn a bennir yn yr hysbysiad.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o fasnachwyr sydd wedi'u cofrestru o dan baragraff (2).

(4Rhaid i unrhyw berson sydd wedi cofrestru o dan baragraff (2) gadw cofnod —

(a)o bob cyflenwad anifeiliaid; a

(b)pan fo llwyth wedi'i rannu neu wedi'i farchnata ar ôl hynny, o gyrchfan ddilynol yr anifeiliaid,

a rhaid iddo gadw'r cofnodion hynny am 12 mis o'r dyddiad y cyrhaeddodd y llwyth.

Cymeradwyo canolfannau a thimau at ddibenion Cyfarwyddeb 92/65/EEC a labordai at ddibenion Cyfarwyddeb 90/539/EEC

9.—(1At ddibenion Erthyglau 5 a 13 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw gorff, sefydliad neu ganolfan sydd wedi gwneud cais am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal, tynnu'n ôl neu adfer y gymeradwyaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn unol â phwynt 6 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(3At ddibenion Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw ganolfan casglu semen neu dîm casglu embryonau sydd wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am gymeradwyaeth yn unol ag Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac sy'n bodloni'r amodau sy'n gymwys iddi neu iddo o ran cymeradwyo a chyflawni ei dyletswyddau neu ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai yn unol ag Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn at ddibenion cyflawni'r profion ar gyfer heintiadau Mycoplasma sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC.

(5Rhaid i'r profion ar gyfer heintiadau Salmonela sy'n ofynnol o dan Bennod III o Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC gael eu cyflawni gan labordai a awdurdodwyd yn unol ag erthygl 2(1) o Orchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod 1993(15).

Arolygu a gwirio yn y gyrchfan

10.—(1Mae pŵer gan arolygydd milfeddygol i arolygu, yn eu cyrchfan, bob anifail a chynnyrch anifeiliaid sydd wedi'u mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall, er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion (gan gynnwys y gofynion ynglyn â dogfennau) yn narpariaethau perthnasol yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn Rhan I o Atodlen 3.

(2Mae gan arolygydd bŵer i arolygu yn unrhyw fan ac ar unrhyw bryd bob anifail a chynnyrch anifeiliaid sydd wedi'u mewnforio o Aelod-wladwriaeth arall, yn ogystal â phob dogfen sy'n mynd gyda hwy, os oes gan yr arolygydd wybodaeth sy'n peri iddo amau bod unrhyw un o ofynion yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 neu unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn Rhan I o Atodlen 3 wedi'u torri.

Dyletswyddau ar draddodeion

11.—(1Rhaid i berson beidio â derbyn llwyth o anifeiliaid nac o gynhyrchion anifeiliaid (ac eithrio ceffylau cofrestredig y mae dogfen adnabod yn mynd gyda hwy a honno'n ddogfen y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar yr amodau sootechnegol ac achyddol sy'n llywodraethu masnach ryng-Gymunedol mewn equidae)(16)) oni bai bod y mewnforiwr neu'r traddodai wedi hysbysu arolygydd awdurdodedig yn ysgrifenedig, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, o natur y llwyth, o'r dyddiad y disgwylir iddo gyrraedd ac o'r gyrchfan.

(2Rhaid i draddodai ddal ei afael ar bob tystysgrif a anfonir yn unol â'r Rheoliadau hyn am 12 mis o'r dyddiad y mae'r llwyth yn cyrraedd.

(3Yr arolygydd awdurdodedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yw'r arolygydd a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael gwybodaeth am y dyddiad y disgwylir i anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid, a fewnforiwyd ar gyfer yr ardal y mae'r gyrchfan wedi'i lleoli ynddi, gyrraedd.

Canolfannau cynnull a lladd-dai

12.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gweithredu canolfan gynnull wneud hynny'n unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r ganolfan gynnull i gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael Rhif ganddo, a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â'i chymeradwyo oni chaiff ei fodloni -—

(a)yn achos canolfan gynnull sy'n cael ei defnyddio ar gyfer gwartheg neu foch, bod y ganolfan yn cydymffurfio â gofynion paragraffau (a) i (d) o Erthygl 11(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC;

(b)yn achos canolfan gynnull sy'n cael ei defnyddio ar gyfer defaid neu eifr, bod y ganolfan yn cydymffurfio â gofynion paragraffau (a) i (d) o Erthygl 8a(1) o Gyfarwyddeb 91/68/EEC; ac

(c)bod gweithredydd y ganolfan gynnull wedi cytuno i gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer gweithredu'r ganolfan y mae arolygydd wedi'u pennu mewn cytundeb gweithredol yn ofynion y mae'r arolygydd yn credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod modd gweithredu'r ganolfan yn unol ag ail baragraff indent Erthygl 3(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.

(3Yr unig anifeiliaid y caiff gweithredydd canolfan gynnull eu derbyn i'r fangre honno yw anifeiliaid sydd â manylion ar gyfer eu hadnabod ac sy'n dod o fuchesau, cenfeintiau, geifreoedd, greoedd, heidiau neu ddiadellau sy'n gymwys ar gyfer masnach o fewn y Gymuned.

(4Pan fo anifeiliaid yn cael eu traddodi i ganolfan gynnull, rhaid i weithredydd y ganolfan gynnull —

(a)sicrhau na chaiff unrhyw anifail ei dderbyn onid yw'n cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC; a

(b)cofnodi ar gofrestr —

(i)enw'r perchennog, tarddiad yr anifeiliaid, dyddiadau cyrraedd ac ymadael yr anifeiliaid, eu nifer a'u cyrchfan arfaethedig;

(ii)Rhif cofrestru'r cludydd a Rhif trwydded y cerbyd sy'n dod â'r anifeiliaid i'r ganolfan neu'n eu casglu ohoni;

(iii)yn achos gwartheg, dull adnabod yr anifeiliaid neu rif cofrestru'r daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii);

(iv)yn achos moch, Rhif cofrestru'r daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol neu'r genfaint y maent yn dod ohoni'n wreiddiol yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii); a

(v)yn achos defaid neu eifr, dull adnabod yr anifeiliaid, neu rif cofrestru'r daliad y mae'r anifeiliaid yn dod ohono'n wreiddiol, ac, os yw'n briodol, Rhif cymeradwyaeth neu rif cofrestru unrhyw canolfan gynnull y mae'r anifeiliaid wedi mynd drwyddi cyn mynd i mewn i'r ganolfan yn ogystal â'r wybodaeth ym mharagraffau (i) a (ii),

a rhaid iddo gadw'r gofrestr yn ddiogel am dair blynedd o leiaf.

(5Pan fo anifeiliaid yn cael eu traddodi i ladd-dy o dan oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol a benodwyd o dan ddarpariaethau rheoliad 8 o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(17) neu reoliad 8 o Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningen (Hylendid ac Arolygu) 1995(18), rhaid i'r milfeddyg swyddogol sicrhau na chaiff unrhyw anifail ei gigydda onid yw'n cydymffurfio ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.

(6Os yw'r milfeddyg swyddogol, wrth gyflawni arolygiadau o dan y paragraff blaenorol, yn cadarnhau bod ardystiad anghywir wedi dod gydag anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall neu nad oes modd rhwydd o'u hadnabod, rhaid iddo hysbysu ar unwaith arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael hysbysiadau o'r fath, a rhaid i'r arolygydd hwnnw archwilio'r anifeiliaid a naill ai —

(a)ardystio eu bod yn ffit i'w cigydda ac i'w defnyddio at eu diben arfaethedig; neu

(b)drwy hysbysiad a gyflwynir i'r milfeddyg swyddogol ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda a'u difa neu gael eu hailallforio, a hynny ar draul y mewnforiwr yn y naill achos a'r llall.

(7Pan nad yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys, rhaid i unrhyw berson sy'n marchnata unrhyw anifail sydd wedi'i draddodi iddo o Aelod-wladwriaeth arall, neu sy'n rhannu llwythi o anifeiliaid o'r fath i'w dosbarthu neu i'w marchnata —

(a)gwirio, cyn bod unrhyw anifail yn cael ei farchnata neu fod unrhyw lwyth yn cael ei rannu, fod pob un o'r anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol offeryn yn Rhan I o Atodlen 3, o ran marciau adnabod a'r dogfennau traddodi gofynnol;

(b)hysbysu ar unwaith arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael hysbysiad o'r fath o unrhyw afreoleidd-dra neu anghysondeb; ac

(c)os yw Erthygl 3(1)(d) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC wedi'i thorri(19), ynysu'r anifeiliaid o dan sylw nes bod arolygydd milfeddygol a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i wneud hynny wedi rhoi awdurdodiad ysgrifenedig i'w rhyddhau.

Llwythi anghyfreithlon

13.—(1Os yw arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau bod asiantau sy'n gyfrifol am glefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6 yn bresennol, neu fod milhaint, unrhyw haint arall neu unrhyw achos sy'n debyg o fod yn berygl difrifol i anifeiliaid neu bobl yn bresennol, mewn anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall, neu fod yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny wedi dod o ranbarth sydd wedi'i halogi â chlefyd episootig, caiff gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny.

(2Rhaid i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw —

(a)cadw'n gaeth ar unwaith y cynnyrch anifail a fewnforiwyd, yr anifail a fewnforiwyd neu unrhyw anifail sydd wedi bod mewn cysylltiad a'r anifail hwnnw a fewnforiwyd (ac, yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw'n gaeth, p'un a ydynt yn anifeiliaid a fewnforiwyd neu'n rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad ag anifeiliaid a fewnforiwyd, eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill), yn unrhyw le a bennir yn yr hysbysiad, a chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â hwy a bennir yn yr hysbysiad er mwyn atal y clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu; neu

(b)yn ddi-oed, eu cigydda, neu eu cigydda a'u difa, neu, yn achos cynhyrchion, eu dinistrio, yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau nad yw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC, caiff roi i'r traddodwr neu i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, os bydd ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu i'r arolygydd wneud hynny, y dewisiadau canlynol ar ffurf hysbysiad —

(a)os y rheswm dros fethu â chydymffurfio yw'r ffaith bod gweddillion, y mae eu lefelau'n uwch na'r hyn a ganiateir o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997 (20), yn bresennol mewn anifeiliaid, cadw'r anifeiliaid o dan oruchwyliaeth tan y bydd lefelau'r gweddillion yn gostwng i'r lefelau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth ac, os na fydd lefelau'r gweddillion yn gostwng i'r lefelau a ganiateir, ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd pa gamau bynnag a bennir yn y ddeddfwriaeth honno; neu

(b)cigydda'r anifeiliaid neu ddinistrio'r cynhyrchion yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad; neu

(c)dychwelyd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion i'r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy ohoni, gydag awdurdodiad awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy ohoni a chan hysbysu ymlaen llaw unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant yn mynd drwyddi.

(4Os afreoleidd-dra ynglyn â'r dogfennau traddodi gofynnol yw'r unig reswm y mae'r llwyth yn methu â chydymffurfio, rhaid i'r arolygydd beidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (3) oni bai —

(a)ei fod wedi rhoi i'r traddodwr, i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddangos y dogfennau traddodi gofynnol o fewn 7 niwrnod a chadw'n gaeth yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)bod y dogfennau traddodi gofynnol heb gael eu dangos o fewn yr amser hwnnw.

(5Os na chydymffurfir ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

RHAN 3Trydydd Gwledydd

Cymhwyso Rhan 3

14.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys i anifeiliaid a fewnforir i Gymru —

(a)o wlad nad yw'n Aelod-wladwriaeth, a

(b)o Aelod-wladwriaeth arall os yw'r anifail yn tarddu o wlad nad yw'n Aelod-wladwriaeth ac nad yw'r holl wiriadau y darperir ar eu cyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC wedi'u gwneud.

Milfeddygon swyddogol

15.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddynodi o bryd i'w gilydd yr arolygwyr milfeddygol hynny sydd i weithredu fel milfeddygon swyddogol fel sy'n angenrheidiol at ddibenion y Rhan hon a chaiff ddirymu'r dynodiad hwnnw ar unrhyw bryd.

Mewnforio

16.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail —

(a)naill ai er mwyn dod ag ef i mewn i'r DU neu er mwyn ei allforio i Aelod-wladwriaeth arall oni chydymffurfir â'r amodau yn Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC; neu

(b)er mwyn ei ailallforio ar unwaith, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd oni bai bod y tramwyo hwnnw wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Cynulliad Cenedlaethol a bod y person hwnnw wedi cydymffurfio â'r amodau yn Erthygl 9 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC.

(2Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail ac eithrio o wlad neu diriogaeth a bennir o dan yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 7.

(3Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail y mae offeryn yn Rhan II o Atodlen 7 yn gymwys iddo oni bai bod yr anifail hwnnw yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offeryn hwnnw ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno.

(4Pan fo anifail yn cael ei fewnforio i'w gigydda, rhaid ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, ac os nad yw'n cael ei gymryd yn uniongyrchol a heb oedi gormodol i ladd-dy, caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gymryd i unrhyw ladd-dy a bennir yn yr hysbysiad.

(5Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (4), caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(6Rhaid i'r person sydd â gofal dros anifail sydd wedi'i fewnforio er mwyn ei ailallforio ar unwaith, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd gydymffurfio ag Erthygl 4, yr ail indent, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004(21).

Mannau mewnforio

17.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail ac eithrio wrth safle archwilio ar y ffin a bennir yn Atodlen 2 ar gyfer y rhywogaeth anifail honno, ac eithrio y caniateir mewnforio hefyd anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cwn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974(22) hefyd mewn mannau a ganiateir o dan y Gorchymyn hwnnw.

(2Os yw anifeiliaid yn cael eu mewnforio yn unman heblaw lle a ganiateir o dan baragraff (1), caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros y llwyth gadw'r anifeiliaid yn gaeth a'u hynysu yn unol â'r hysbysiad a bydd darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn effeithiol.

(3Yn dilyn archwiliad o'r anifeiliaid gan arolygydd milfeddygol, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad pellach i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros y llwyth a hwnnw'n hysbysiad sydd naill ai'n rhyddhau'r anifeiliaid o'r cyfyngiad neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r anifeiliaid gael eu cigydda, neu gael eu cigydda a'u difa, neu eu hailallforio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd.

(4Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (3) caiff arolygydd atafaelu'r anifail a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

Y weithdrefn fewnforio

18.—(1Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail oni bai ei fod wedi hysbysu o'i fwriad i wneud hynny yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004.

(2Yn syth ar ôl ei fewnforio, rhaid i'r mewnforiwr neu ei asiant fynd â'r anifail, o dan oruchwyliaeth yr awdurdod gorfodi, yn uniongyrchol i'r man archwilio ar y safle arolygu ar y ffin neu, pan fo'r offerynnau yn Atodlen 7 neu'r amodau ynghylch iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fewnforion yn gwneud hynny'n ofynnol, i ganolfan gwarantîn fel y darperir ar ei chyfer yn ail baragraff indent yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 10(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC.

(3Rhaid i berson beidio â symud unrhyw anifail o ganolfan gwarantîn na safle arolygu ar y ffin oni bai bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i llenwi yn unol ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 a bod y ddogfen honno'n dangos bod yr holl wiriadau milfeddygol angenrheidiol wedi'u gwneud er boddhad y milfeddyg swyddogol.

(4Rhaid i berson beidio â symud unrhyw anifail o fan lle mae'n cael ei storio dros dro o dan drefniadau'r Tollau —

(a)oni fydd y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi'i dangos yn unol ag Erthygl 3(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 i un o swyddogion Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi a bod y symudiad wedi'i awdurdodi gan y swyddog hwnnw;

(b)i unrhyw fan ac eithrio'r gyrchfan a bennir yn y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin, onid yw wedi'i gwneud yn ofynnol iddo symud yr anifail i fan arall drwy gyfrwng hysbysiad a gyflwynwyd iddo gan arolygydd.

(5Rhaid i'r person sydd â gofal dros anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad sicrhau ei fod yn cael ei gludo i'w gyrchfan yn ddi-oed a bod gwreiddiol y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef i'w gyrchfan yn unol ag Erthygl 3(4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004.

(6Pan fo gwiriad yn golygu cymryd sampl i'w brofi ac nad yw canlyniad y prawf ar gael ar unwaith, caiff y milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r perchennog neu'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifail, ryddhau'r anifail hwnnw o'r safle arolygu ar y ffin, a'i gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gadw'r anifail yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad nes bod canlyniadau'r prawf ar gael; ac os yw'r prawf yn dangos nad yw'r anifail yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, yna bydd darpariaethau rheoliad 21 yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys ar safle arolygu ar y ffin.

(7Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (4) neu (6) caiff arolygydd milfeddygol atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

Talu ffioedd

19.  Rhaid i'r milfeddyg swyddogol beidio ag awdurdodi rhyddhau anifeiliaid o ganolfan gwarantîn na safle arolygu ar y ffin oni chaiff ei fodloni bod y ffioedd am yr holl wiriadau milfeddygol y codir tâl amdanynt wedi'u talu, a phan fo'n berthnasol, bod blaendal sy'n talu unrhyw gostau y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 9(1)(a), 9(2), ail a thrydydd paragraff indent Erthygl 10(1), Erthygl 10(6) ac Erthygl 12(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC wedi'i adneuo.

Llwythi sy'n beryglus i iechyd

20.  Pan fo gwiriadau yn y ganolfan gwarantîn neu'r safle arolygu ar y ffin neu pan fo canlyniadau prawf y cyfeirir atynt yn rheoliad 18(6) yn datgelu bod anifail neu lwyth anifeiliaid yn debyg o fod yn berygl i iechyd anifeiliaid neu iechyd dynol, rhaid i'r milfeddyg swyddogol fynd ati ar unwaith i atafaelu'r anifail neu'r llwyth (yn ôl y digwydd) a'i ddifa a bydd costau'r camau hynny yn daladwy gan y mewnforiwr neu ei gynrychiolydd.

Llwythi anghyfreithlon

21.—(1Pan fo gwiriadau yn y ganolfan gwarantîn neu'r safle arolygu ar y ffin yn dangos nad yw'r anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC neu Erthyglau 3, 4 neu 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC(23), rhaid i arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid hynny, ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

(a)darparu cysgod, porthiant a dŵr i'r anifeiliaid ac, os bydd angen, rhoi triniaeth iddynt;

(b)eu rhoi mewn cwarantîn neu ynysu'r llwyth yn unrhyw le a bennir yn yr hysbysiad, a chymryd unrhyw gamau eraill sy'n angenrheidiol mewn perthynas â'r anifeiliaid er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu; neu

(c)eu hailanfon y tu allan i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd, pan fo ystyriaethau iechyd neu les anifeiliaid yn caniatáu hynny, o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(2Cyn arfer unrhyw un o'r pwerau ym mharagraff (1) rhaid i'r arolygydd milfeddygol ymgynghori â'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd.

(3Os yw'r anifeiliaid yn cael eu hailanfon yn unol ag is-baragraff (c), rhaid i'r milfeddyg swyddogol ganslo'r dystysgrif filfeddygol sy'n mynd gyda'r llwyth a wrthodwyd a llenwi'r blwch sy'n dwyn y geiriau 'details of re-consignment' yn rhan 3 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn unol ag ail baragraff indent Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 cyn gynted ag y daw'r wybodaeth berthnasol yn hysbys.

(4Os nad yw'n bosibl eu hanfon ymlaen ym marn yr arolygydd milfeddygol, a hynny am resymau lles yr anifeiliaid yn benodol, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid yn unol â'r paragraff canlynol.

(5Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol awdurdodi bod yr anifeiliaid i gael eu cigydda ar gyfer eu bwyta gan bobl os yw'r anifeiliaid yn cydymffurfio â'r holl ofynion deddfwriaethol y mae rhaid iddynt gydymffurfio â hwy cyn y caniateir eu cigydda ar gyfer eu bwyta gan bobl ond, os nad yw hynny'n bosibl, rhaid i'r hysbysiad naill ai—

(a)gorchymyn bod yr anifeiliaid yn cael eu cigydda at ddibenion heblaw ar gyfer eu bwyta gan bobl, neu

(b)gorchymyn bod yr anifeiliaid yn cael eu cigydda a'r carcasau yn cael eu dinistrio, gan bennu yn y naill achos a'r llall yr amodau ynghylch rheoli'r defnydd ar y cynhyrchion a geir.

(6Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (4) caiff arolygydd milfeddygol atafaelu unrhyw anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.

(7Mae'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd yn atebol am y costau a dynnir mewn mesurau o dan y rheoliad hwn, ond mae ganddo hawl, ar ôl didynnu costau, i gael enillion unrhyw werthiant.

Cyrraedd y gyrchfan

22.—(1Ar ôl iddynt gyrraedd eu cyrchfan, rhaid i eliffantod ac anifeiliaid sy'n perthyn i urdd yr Artiodactyla (a'u croesfridiau) sydd i'w defnyddio ar gyfer bridio, cynhyrchu neu besgi, neu sydd wedi'u bwriadu ar gyfer swau, parciau adloniant, gwarchodfeydd hela neu warchodfeydd bywyd gwyllt, gael eu cadw'n gaeth yn y fangre gan y person sydd â rheolaeth ar y fangre honno am o leiaf 30 niwrnod, a rhaid i'r person hwnnw beidio â'u rhyddhau oni chaiff awdurdodiad ysgrifenedig gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys yn achos anifeiliaid sy'n cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy.

(3Rhaid i anfeiliaid o rywogaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt ac sydd i'w defnyddio ar gyfer bridio neu gynhyrchu gael eu cadw'n gaeth yn y gyrchfan gan y person y mae'r fangre honno o dan ei reolaeth, a rhaid iddo beidio â'u rhyddhau oni chaiff awdurdodiad ysgrifenedig gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dulliau rheoli ôl-fewnforio

23.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau na chydymffurfiwyd â'r amodau mewnforio neu pan fo amheuon ynglyn â manylion adnabod yr anifail, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflawni unrhyw wiriadau milfeddygol ar yr anifail hwnnw y mae'n barnu eu bod yn briodol.

(2Os bydd y gwiriadau yn cadarnhau na chydymffurfiwyd â'r amodau mewnforio, yna bydd darpariaethau rheoliad 21 yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys i safle arolygu ar y ffin ac, os bydd pwer yn cael ei arfer i roi'r anifeiliaid mewn cwarantîn neu i'w hynysu, caiff arolygydd milfeddygol ei gwneud yn ofynnol at hynny i anifeiliaid eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r anifeiliaid a fewnforiwyd gael eu rhoi mewn cwarantîn neu gael eu hynysu.

RHAN 4Mewnforion pan fo Gwiriadau wedi'u Gwneud mewn Aelod-wladwriaeth Arall

Cymhwyso Rhan 4

24.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i anifeiliaid a fewnforiwyd ac sy'n tarddu o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd ond y mae'r holl wiriadau, sy'n ofynnol mewn perthynas â hwy, wedi'u gwneud o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC mewn Aelod-wladwriaeth arall.

Mewnforion

25.  Rhaid i berson beidio â mewnforio unrhyw anifail y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo oni bai bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin a chopi a ddilyswyd o'r dystysgrif iechyd wreiddiol, a ddyroddwyd yn y man lle mewnforiwyd yr anifail i'r Gymuned Ewropeaidd o dan Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC ac Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 282/2004, yn mynd gyda'r anifail hwnnw.

Y weithdrefn fewnforio

26.  Mae darpariaethau rheoliadau 7 i 13, 16(2) a (3), 22 a 23 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid y mae'r Rhan hon yn gymwys iddynt.

RHAN 5Cyffredinol

Brigiadau clefyd mewn gwladwriaethau eraill

27.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn dod i wybod neu pan fo ganddo le rhesymol i gredu, naill ai o dan y gweithdrefnau a nodir yn Erthygl 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC( ) neu Erthygl 18 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, neu drwy unrhyw ddull arall, fod clefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6, milhaint, neu unrhyw glefyd neu ffenomen arall sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, yn bresennol mewn unrhyw wladwriaeth arall.

(2O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu, atal drwy ddatganiad unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn i Gymru, neu osod amodau ynglyn â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru, o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r wladwriaeth honno.

(3Mae'r datganiad hwnnw i'w gyhoeddi yn y modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw wedi'i anfon, neu'n tarddu, o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar ddod ag unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid i mewn i Gymru, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw'n tarddu o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad, oni bai bod yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

Hysbysu o benderfyniadau

28.  Os bydd y traddodwr neu ei gynrychiolydd, neu'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd, yn gofyn am hynny, rhaid i unrhyw benderfyniad a wneir i wrthod mynediad neu i newid yr amodau ar gyfer mynediad gael ei anfon ymlaen ato mewn ysgrifen gan y person sy'n gwneud y penderfyniad, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad a manylion ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, gan gynnwys y terfynau amser perthnasol.

Pwerau arolygwyr

29.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 10, os gofynnir iddo wneud hynny, mae gan arolygydd, ar ôl iddo ddangos rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl i fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre ar bob adeg resymol i ganfod a yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri neu wedi'u torri mewn unrhyw ffordd; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd ffordd neu gerbyd rheilffordd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.

(2Mae gan arolygydd bwerau i wneud yr holl wiriadau ac arolygiadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, ac yn benodol caiff—

(a)cyflawni arolygiadau o unrhyw brosesau sy'n cael eu defnyddio i farcio a dynodi anifeiliaid, unrhyw fangre ac unrhyw osodiad;

(b)gwirio a yw'r staff yn cydymffurfio â gofynion yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 sy'n ymwneud â chynhyrchion anifeiliaid;

(c)cymryd samplau (ac, os yw'n angenrheidiol, anfon samplau i'w profi mewn labordy) o'r canlynol —

(i)anifeiliaid sy'n cael eu cadw gyda golwg ar eu gwerthu, eu rhoi ar y farchnad neu eu cludo;

(ii)cynhyrchion sy'n cael eu cadw gyda golwg ar eu gwerthu, eu rhoi ar y farchnad neu eu cludo;

(iii)anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid sy'n cael eu cludo yng nghwrs masnachu ryng-Gymunedol;

(iv)anifeiliaid mewn safle arolygu ar y ffin yn achos mewnforion trydydd gwledydd; neu

(v)anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn y gyrchfan yn achos mewnforyn o Aelod-wladwriaeth arall;

(ch)archwilio deunydd dogfennol neu ddeunydd prosesu data sy'n berthnasol i'r gwiriadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn; a

(d)mynd â chynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Cyfarwyddebau'r Cyngor 90/425/EEC neu 91/496/EEC gydag ef.

Adennill treuliau

30.  Mae'r traddodwr, ei gynrychiolydd a'r person sydd â gofal dros unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn atebol yn unigol ac ar y cyd am unrhyw dreuliau rhesymol sy'n codi o arfer unrhyw bŵer a roddwyd i arolygydd gan y Rheoliadau hyn ac sy'n ymwneud â'r anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny neu sy'n codi mewn cysylltiad ag arfer unrhyw bwer o'r fath.

Rhwystro

31.  Rhaid i berson beidio —

(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn,

(b)heb achos rhesymol, â methu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae ar y person hwnnw angen rhesymol ei gael neu ei chael oddi wrtho er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; nac

(c)rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

32.—(1Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran —

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

mae'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Cosbau

33.—(1Mae person sy'n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r darpariaethau a gynhwysir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 4 a pharagraff 2 o Ran I o Atodlen 5, neu unrhyw hysbysiad a gyflwynir oddi tanynt yn euog o dramgwydd.

(2Mae person yn euog o dramgwydd o dan reoliad 31(a) neu (b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddiryw nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i'r ddau.

Datgymhwyso darpariaethau

34.  Nid yw darpariaethau'r ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 8 yn gymwys i fewnforion o Aelod-wladwriaeth arall o anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid y mae offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn gymwys iddynt, nac i fewnforion o anifail y mae offeryn yn Atodlen 7 yn gymwys iddynt o'r wlad sy'n ddarostyngedig i'r offeryn hwnnw, i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r tabl a roddir yn Atodlen 8.

Dirymu

35.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) 2000(24);

(b)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2000(25);

(c)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 1) 2000(26);

(ch)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2000(27);

(d)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 3) 2000(28);

(dd)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2002(29); ac

(e)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2002(30).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(31)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Ebrill 2005

Rheoliad 1(2)

ATODLEN 1Diwygiadau i Gyfarwyddebau'r Cyngor 90/425/EEC a 91/496/EEC

1.  Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29) wedi'i diwygio gan y canlynol, a rhaid ei darllen gyda hwy —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC (OJ Rhif L303, 31.10.90, t. 6);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC (OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 1);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC (OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 19);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/174/EEC (OJ Rhif L85, 5.4.91, t. 37);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/60/EEC (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 75);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 54);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t. 49);

  • Penderfyniad y Comisiwn 93/444/EEC (OJ Rhif L208, 19.8.93, t. 34);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/338/EC (OJ Rhif L151, 17.6.94, t. 36);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/339/EC (OJ Rhif L151, 17.6.94, t. 38);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 9);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/33/EC (OJ Rhif L315, 19.11.2002, t. 14);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56) wedi'i diwygio gan y canlynol, a rhaid ei darllen gyda hwy—

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 89/662/EEC (OJ Rhif L395, 30.12.89, t. 13);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/424/EEC (OJ Rhif L224, 18.08.90, t. 19);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L224, 18.08.90, t. 29);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17);

  • Penderfyniad y Cyngor 92/438/EEC (OJ Rhif L243, 25.8.92, t. 27);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/467/EC (OJ Rhif L190, 26.7.94, t. 28);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC (OJ Rhif L162, 1.7.96, t. 1);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 9);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/794/EC (OJ Rhif L323, 26.11.97, t. 31);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 (OJ Rhif L49, 19.2.2004, t. 11), fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 585/2004 (OJ Rhif L91, 30.3.2004, t. 17);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Rheoliadau 1(2) a 17(1)

ATODLEN 2Safleoedd Arolygu ar y Ffin

Y safle arolygu ar y ffinAnifeiliaid y caniateir eu mewnforio
(i)

Mae carnolion yn cynnwys equidae cofrestredig fel y diffinnir “registered equidae” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 42), fel y'i diwygiwyd.

(ii)

Nid yw Maes Awyr Luton a Maes Awyr Stansted yn safleoedd arolygu ar y ffin ar gyfer unrhyw rywogaeth anifail a bennir yng Ngorchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cwn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974 (O.S. 1974/2211).

Maes Awyr GatwickPob anifail heblaw carnolion (i)
HeathrowPob anifail
Maes Awyr Luton (ii)Carnolion (i)
Maes Awyr ManceinionCathod, cwn, cnofilod, lagomorffiaid, pysgod byw, ymlusgiaid, ac adar heblaw adar di-gêl
Maes Awyr Stansted (ii)Carnolion (i)

Rheoliadau 4, 5(1), 6(1), 6(2), 7(4), 8(1), 10, 12(7)(a), 29(2)(b) a 34

ATODLEN 3Masnach Ryng-Gymunedol: Deddfwriaeth a Gofynion Ychwanegol

RHAN IDEDDFWRIAETH AR FASNACH RYNG-GYMUNEDOL

Gwartheg a moch

1.  Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar fasnach ryng-Gymunedol mewn gwartheg a moch fel y'i disodlwyd gan yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/12/EC (OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1), ac fel y'i diwygiwyd wedi hynny gan y canlynol —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 98/46/EC (OJ Rhif L198, 15.7.98, t. 22);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 98/99/EC (OJ Rhif L358, 31.12.98, t. 107);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/621/EC (OJ Rhif L296, 5.11.98, t. 15);

  • Cyfarwyddeb 2000/15/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L105, 3.5.2000, t. 34);

  • Cyfarwyddeb 2000/20/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L163, 4.7.2000, t. 35);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/298/EC (OJ Rhif L102, 12.4.2001, t. 63);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 535/2002 (OJ Rhif L80, 23.3.2002, t. 22);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1226/2002 (OJ. L179, 9.7.2002, t. 13);

  • Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 (OJ Rhif L5, 9.1.2004, t. 8);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/226/EC (OJ Rhif L68, 6.3.2004, t. 36);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3(2), 4(1), 5(1), 5(2), 5(5), 6(1), 6(2), 6(3), 7 (yn achos mewnforion), a 12(3).

(a)Rhaid i'r dystysgrif iechyd swyddogol sy'n mynd gyda phob gwarthegyn sy'n cael ei fewnforio i Gymru o Sbaen gynnwys y datganiad: “Live cattle in accordance with Commission Decision 90/208/EEC on contagious bovine pleuro-pneumonia”.

(b)Rhaid i'r dystysgrif iechyd swyddogol sy'n mynd gyda phob gwarthegyn sy'n cael ei fewnforio i Gymru o Bortiwgal gynnwys y datganiad “Live cattle in accordance with Commission Decision 91/52/EEC on contagious bovine pleuro-pneumonia”.

(c)Rhaid i'r dystysgrif iechyd swyddogol sy'n mynd gyda phob mochyn sy'n cael ei fewnforio i Gymru o unrhyw Aelod-wladwriaeth arall ac eithrio Awstria, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, y Ffindir, yr Almaen, Lwcsembwrg, Sweden a'r rhanbarthau hynny o Ffrainc a bennir mewn Penderfyniadau'r Comisiwn sy'n diwygio Penderfyniad 2001/618/EC gynnwys y datganiad: “Pigs in accordance with Commission Decision 2001/618/EC concerning Aujeszky’s disease(32)”.

(ch)Os digwydd i'r gwaharddiad ar allforio gwartheg o Gymru a osodwyd drwy Benderfyniad y Comisiwn 98/256/EC ar fesurau brys i amddiffyn yn erbyn Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (OJ Rhif L113, 15.4.98, t. 32) (fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/670/EC (OJ Rhif L228, 24.8.2002, t. 22) gael ei ddirymu er mwyn caniatáu i wartheg o Brydain Fawr gael eu hanfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad, rhaid i'r allforion hynny i'r gwledydd a restrir yn Atodiadau I a II o Benderfyniad y Comisiwn 2004/215/EC (OJ L67, 5.3.2004, t. 24) fodloni'r amodau ychwanegol sydd wedi'u nodi yn y Penderfyniad hwnnw.

(d)Yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/514/EC ynghylch mesurau diogelu iechyd yn erbyn Clwy Affricanaidd y Moch yn Sardinia, yr Eidal (OJ Rhif L178, 17.7.2003, t. 28), gwaherddir mewnforio i Gymru o ranbarth Eidalaidd Sardinia anifeiliaid o deulu'r suidae.

Semen gwartheg

2.  Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynglyn ag iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rywogaeth fuchol a mewnforion semen o'r fath (OJ Rhif L194, 22.7.88, t. 10), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/120/EEC (OJ Rhif L71, 17.3.90, t. 37);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 93/60/EEC (OJ Rhif L186, 28.7.93, t. 28);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 2003/43/EC (OJ Rhif L143, 11.6.2003, t. 23);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/205/EC (OJ Rhif L65, 3.3.2004, t. 23);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/101/EC (OJ Rhif L30, 4.2.2004, t. 15); a'r

offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3 a 6.

Embryonau gwartheg

3.  Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ynghylch masnach ryng-Gymunedol mewn embryonau anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L302, 19.10.89, t. 1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 93/52/EEC (OJ Rhif L175, 19.7.93, t. 21);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/113/EC (OJ Rhif L53, 24.2.94, t. 23);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/205/EC (OJ Rhif L65, 3.3.2004, t. 23);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3 a 6.

Equidae

4.  Cyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EEC ar amodau iechyd sy'n llywodraethu symudiadau equidae a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 42), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/36/EEC (OJ Rhif L157, 10.6.92, t. 28);

  • Penderfyniad y Comisiwn 92/130/EEC (OJ Rhif L47, 22.2.92, t. 26);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/298/EC (OJ Rhif L102, 12.4.2001, t. 63);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/160/EC (OJ Rhif L053, 23.2.2002, t. 37);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 4, 5, 7(1), ac 8.

(a)Nid yw gofynion Erthyglau 4(1), 4(2) ac 8 yn gymwys i allforio unrhyw equidae i Weriniaeth Iwerddon neu i'w mewnforio oddi yno, nac yn gymwys i allforio i Ffrainc na mewnforio oddi yno geffylau cofrestredig gyda dogfen adnabod y darperir ar ei chyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 55).

(b)Nid yw'r rhanddirymiad a ganiateir o dan Erthygl 7(2) yn gymwys i equidae y daethpwyd â hwy i mewn i Gymru.

Semen Moch

5.  Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy'n gosod y gofynion ynglyn ag iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn a mewnforio semen o'r fath (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 62) a Phenderfyniad y Comisiwn 99/608/EC (OJ Rhif L242, 14.9.99, t. 20), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/608/EC (OJ Rhif L242, 14.9.1999, t. 20);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2000/39/EC (OJ Rhif L13, 19.1.2000, t. 21);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/205/EC (OJ Rhif L65, 3.3.2004, t. 23);

  • a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

  • Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4(1), 4(2) a 6(1).

  • Rhaid i'r ardystiad iechyd swyddogol sy'n mynd gyda'r holl semen moch sy'n cael ei fewnforio i Gymru o unrhyw Aelod-wladwriaeth arall ddatgan bod y semen wedi'i gasglu o faeddod sydd “on a collection centre which only contains animals that have not been vaccinated against Aujeszky’s disease and which have reacted negatively to the serum neutralisation test or to the ELISA test for Aujeszky’s disease, in accordance with the provisions of Council Directive 90/429/EEC” a rhaid dileu paragraff 13(b)(ii) o'r dystysgrif iechyd enghreifftiol a ddarperir yn Atodiad D o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC ym mhob achos.

Dofednod ac wyau deor

6.  Cyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 54);

  • Penderfyniad y Comisiwn 92/340/EEC (OJ Rhif L188, 8.7.92, t. 34);

  • Penderfyniad y Comisiwn 92/369/EEC (OJ Rhif L195, 14.7.92, t. 25);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 93/120/EEC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t. 35);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 95/410/EC (OJ Rhif L243, 11.10.95, t. 25);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/278/EC (OJ Rhif L110, 26.4.97, t. 77);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 99/90/EC (OJ Rhif L300, 23.11.1999, t. 19);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2000/505/EC (OJ Rhif L201, 9.8.2000, t. 8);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/867/EC (OJ Rhif L323, 7.12.2001, t. 29);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/644/EC (OJ Rhif L228, 12.9.2003, t. 29);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/235/EC (OJ Rhif L72, 11.3.2004, t. 86);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 6 i 11, 12(1), a 15 i 17.

(a)Rhaid i'r ardystiad iechyd swyddogol sy'n mynd gyda dofednod bridio sy'n cael eu hallforio o Gymru i'r Ffindir neu Sweden gynnwys y datganiad eu bod wedi'u profi ar gyfer salmonela yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 95/160/EC dyddiedig 21 Ebrill 1995 a bod canlyniadau'r profion yn rhai negyddol.

(b)Rhaid i'r ardystiad iechyd swyddogol sy'n mynd gyda chywion diwrnod oed sy'n cael eu hallforio o Gymru i'r Ffindir neu Sweden gynnwys y datganiad eu bod yn dod o heidiau sydd wedi'u profi ar gyfer salmonela yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 95/160/EC dyddiedig 21 Ebrill 1995 a bod canlyniadau'r profion yn rhai negyddol.

(c)Rhaid i'r ardystiad iechyd swyddogol sy'n mynd gyda ieir dodwy sy'n cael eu hallforio o Gymru i'r Ffindir neu Sweden gynnwys y datganiad eu bod wedi'u profi ar gyfer salmonela yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 95/161/EC dyddiedig 21 Ebrill 1995 a bod canlyniadau'r profion yn rhai negyddol.

(ch)Rhaid i'r ardystiad iechyd swyddogol sy'n mynd gyda dofednod i'w cigydda sy'n cael eu hallforio o Gymru i'r Ffindir neu Sweden gynnwys y datganiad eu bod wedi cael profion microbiolegol yn unol â Phenderfyniadau'r Cyngor 95/410/EC dyddiedig 22 Mehefin 1995 a bod canlyniadau'r profion yn rhai negyddol.

Gwastraff anifeiliaid

7.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t. 1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Rheoliad y Comisiwn Rhif 808/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.03, t. 1);

  • Rheoliad y Comisiwn Rhif 811/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.03, t. 14);

  • Rheoliad y Comisiwn Rhif 813/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.03, t. 22);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/320/EC (OJ Rhif L117, 13.5.03, t. 24);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/321/EC (OJ Rhif L117, 13.5.03, t. 30);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC (OJ Rhif L117, 13.5.03, t. 42);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/327/EC (OJ Rhif L117, 13.5.03, t. 44);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/328/EC (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t. 46);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/329/EC (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t. 51);

  • Rheoliad y Comisiwn Rhif 780/2004 (OJ Rhif L123, 27.4.2004, t. 64);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y ddarpariaeth berthnasol: Erthygl 8.

Pysgod

Pysgod a ffermir

8.—(1Cyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC ynghylch yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu rhoi anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu ar y farchnad (OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/864/EC (OJ Rhif L352, 31.12.94, t. 74);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/804/EC (OJ Rhif L329, 29.11.97, t. 70);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 97/79/EC (OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 31);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/24/EC (OJ Rhif L8, 14.1.98, t. 26);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 98/45/EC (OJ Rhif L189, 3.7.98, t. 12);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/567/EC (OJ Rhif L216, 14.8.99, t. 13);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/159/EC (OJ Rhif L57, 27.2.2001, t. 54);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/183/EC (OJ L67, 9.3.2001, t. 65);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/300/EC (OJ Rhif L103, 19.4.2002, t. 24), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/378/EC (OJ Rhif L130, 27.5.2003, t. 27);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/308/EC (OJ Rhif L106, 23.4.2002, t.28), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/536/EC (OJ Rhif L173, 3.7.2002, t. 17), Penderfyniad y Comisiwn 2002/1005/EC (OJ Rhif L349, 24.12.2002, t. 109), Penderfyniad y Comisiwn 2003/114/EC (OJ Rhif L46, 20.2.03, t. 29), Penderfyniad y Comisiwn 2003/458/EC (OJ Rhif L154, 21.6.2003, t. 93), a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/373/EC (OJ L118, 23.4.2004, t. 49);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/390/EC (OJ Rhif L135, 3.6.2003, t.19);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/466/EC (OJ Rhif L156, 25.6.2003, t. 61);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/634/EC (OJ Rhif L220, 3.9.2003, t. 8), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/904/EC (OJ Rhif L340, 24.12.2003, t. 69) a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/328/EC (OJ L104, 8.4.2004, t. 129);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/453/EC (OJ Rhif L156, 30.4.2004, t. 5);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: y darpariaethau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys i bysgod byw, wyau a gametau: Erthyglau 3, 4, 7 i 11, a 14 a 16.

Pysgod heblaw pysgod a ffermir

(2Cyfarwyddeb y Cyngor 91/493/EEC yn gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd a'u rhoi ar y farchnad (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 15), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/48/EEC (OJ Rhif L187, 7.7.92, t. 41), sy'n gosod y rheolau ynglyn â hylendid gofynnol sy'n gymwys i gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu dal ar fwrdd llongau penodol yn unol ag Erthygl 3(1)(a)(I) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/493/EEC;

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 95/71/EC (OJ Rhif L332, 30.12.95, t. 40);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 97/79/EC (OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 310);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y ddarpariaeth berthnasol: Erthygl 4.

Molysgiaid dwygragennog byw

(3Cyfarwyddeb y Cyngor 91/492/EEC yn gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu pysgod cregyn byw a'u rhoi ar y farchnad (OJ Rhif L268, 24.9.91, t.1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 97/61/EC (OJ Rhif L295, 29.10.97, t. 35);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3(1)a-i, 3(2), 4, 7, 8, a 9.

Defaid a geifr

9.  Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn defaid a geifr (OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 19) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC (OJ Rhif L355, 5.12.92, t. 32); fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 (OJ Rhif L5, 9.1.2004, t. 8);

  • Penderfyniad y Comisiwn 93/52/EEC (OJ Rhif L13, 21.1.93, t. 14), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn 2001/292/EC (OJ Rhif L100, 11.4.2001, t. 28), 2002/482/EC (OJ Rhif L166, 25.6.2002, t. 23), 2003/44/EC (OJ Rhif L013, 18.1.2003, t. 23), 2003/237/EC (OJ Rhif L 87, 4.4.2003, t. 13), 2003/732/EC (OJ Rhif L264, 15.10.2003, t.30), 2004/199/EC (OJ Rhif L64, 2.3.2004, t. 41) a 2004/320/EC (OJ Rhif L102, 7.4.2004, t. 75);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/164/EEC (OJ Rhif L74, 17.3.94, t. 42);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/953/EEC (OJ Rhif L371, 31.12.94, t. 14);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/298/EC (OJ Rhif L102, 12.4.2001, t. 63);

  • Cyfarwyddeb 2001/10/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 41);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/261/EC (OJ Rhif L091, 6.4.2002, t. 31);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 2003/50/EC (OJ Rhif L169, 8.7.2003, t. 51);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/708/EC (OJ Rhif L258, 10.10.2003, t. 11);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4, 4a, 4b, 4c, 5, 6, a 9.

(a)Dim ond meheryn ar gyfer bridio sydd heb eu sbaddu ac sydd wedi'u profi ar gyfer llid heintus yr argaill (Brucella ovis) yn unol ag Erthygl 6(c) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC y caniateir eu mewnforio i Gymru.

(b)Rhaid i'r ardystiad iechyd swyddogol sy'n mynd gyda phob dafad a gafr i'w phesgi a'i bridio sy'n cael ei mewnforio i Gymru gadarnhau bod yr anifeiliaid yn gymwys i fynd ar ddaliad ar gyfer defaid neu eifr y datganwyd yn swyddogol ei fod yn rhydd rhag brwselosis yn unol ag Atodiad A, Pennod 1, pwynt D o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC.

Anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau eraill

10.  Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol y Gymuned ac y cyfeirir atynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC) (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 54), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/176/EC (OJ Rhif L117, 24.5.95, t. 23);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/294/EC (OJ Rhif L182, 2.8.95, t. 27);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/307/EC (OJ Rhif L185, 4.8.95, t. 58);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/388/EC (OJ Rhif L234, 3.10.95, t. 30);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/483/EC (OJ Rhif L275, 18.11.95, t. 30);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/298/EC (OJ Rhif L102, 12.4.2001, t. 63);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/2002 (OJ Rhif L187, 16.7.2002, t. 3);

  • Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1802/2002 (OJ Rhif . L274, 11.10.2002, t. 21);

  • Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1398/2003 (OJ Rhif L198, 06.08.2003, t. 3);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/205/EC (OJ Rhif L65, 3.3.2004, t. 23);

  • Rheoliad (EC) Rhif 998/2003 (OJ Rhif L146, 13.6.2003, t.1);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 592/2004 (OJ Rhif L94, 31.3.2004, t. 7);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3 i 9, 10(1) i 10(3) , ac 11 i 13.

(a)Fel rhanddirymiad o ofynion Erthygl 5(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi awdurdod ysgrifenedig i gorff, sefydliad neu ganolfan a gymeradwywyd o dan reoliad 9 o'r Rheoliadau hyn i brynu epaod sy'n perthyn i unigolyn.

(b)Gwaherddir mewnforio i Gymru lagomorffiaid na ellir dangos eu bod wedi'u geni ar y daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol a'u bod wedi'u cadw mewn caethiwed ers eu geni ac eithrio yn unol â darpariaethau Gorchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cŵn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974. Rhaid bod tystysgrif iechyd swyddogol yn mynd gyda lagomorffiaid a anwyd ar y daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol ac sydd wedi'u cadw mewn caethiwed ers eu geni a rhaid i'r dystysgrif honno gadarnhau mai dyna yw eu sefyllfa a bod y daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol wedi bod yn rhydd rhag y gynddaredd am o leiaf un mis.

(c)Adeg eu mewnforio, rhaid bod gan anifeiliaid (ac eithrio anifeiliaid cigysol, primatiaid, ystlumod a lagomorffiaid), a anwyd ar y daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol ac sydd wedi'u cadw'n gaeth ers eu geni, dystysgrif sy'n dod gyda hwy ac sy'n cadarnhau mai dyna yw eu sefyllfa ac nad yw'r anifeiliaid yn amlygu unrhyw arwyddion eglur o glefyd adeg eu hallforio, ac nad yw'r fangre y maent yn dod ohoni'n wreiddiol yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau o ran iechyd anifeiliaid.

Pathogenau

11.  Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid a iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodwyd mewn rheolau penodol y Gymuned ac y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb y Cyngor 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t. 49) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/33/EC (OJ Rhif L315, 19.11.2002, t. 14);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC (OJ Rhif L260, 11.10.2003, t. 21);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2004 (OJ Rhif L72, 11.3.2004, t. 60);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 6 a 7(1).

Anifeiliaid pur o rywogaeth gwartheg

12.  Cyfarwyddeb y Cyngor 77/504/EEC ar anifeiliaid bridio pur o rywogaeth y fuwch (OJ Rhif L206, 12.8.1977, t. 8), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Yr Act ynghylch amodau ymaelodi Gweriniaeth Groeg â'r Cymunedau Ewropeaidd (OJ Rhif L291, 19.11.79, t. 17);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 79/268/EEC (OJ Rhif L62, 13.3.79, t. 5);

  • Rheoliad y Cyngor 3768/85/EEC (OJ Rhif L362, 31.12.85, t. 8);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 85/586/EEC (OJ Rhif L372, 31.12.85, t. 44);

  • Penderfyniad y Comisiwn 86/404/EEC (OJ Rhif L233, 20.8.86, t. 19);

  • Penderfyniad y Comisiwn 88/124/EEC (OJ Rhif L62, 8.3.88, t. 32);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/174/EEC (OJ Rhif L85, 5.4.91, t. 37);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC (OJ Rhif L178, 12.7.94, t. 66);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/80/EC (OJ Rhif L19, 25.1.96, t. 50);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/510/EC (OJ Rhif L210, 20.8.96, t. 53) (fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/186/EC) (OJ Rhif L57, 25.2.2004, t. 27);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/8/EC (OJ Rhif L003, 5.1.2002, t. 53);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 5 a 7.

Anifeiliaid bridio o rywogaeth y mochyn

13.  Cyfarwyddeb y Cyngor 88/661/EEC ar y safonau sootechnegol sy'n gymwys i anifeiliaid bridio o rywogaeth y mochyn (OJ Rhif L382, 31.12.1988, t. 36), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/503/EEC (OJ Rhif L247, 23.8.89, t. 22);

  • Penderfyniad y Comisiwn 89/506/EEC (OJ Rhif L247, 23.8.89, t. 34);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC (OJ Rhif L178, 12.7.94, t. 66);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/510/EC (OJ Rhif L210, 20.08.96, t. 53) (fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/186/EC (OJ Rhif L57, 25.2.2004, t. 27);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 2(2), 5, 7(2) a 9.

Defaid bridio pur a geifr bridio pur

14.  Cyfarwyddeb y Cyngor 89/361/EEC ynghylch defaid bridio pur a geifr bridio pur (OJ Rhif L153, 6.6.1989, t. 30), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 90/258/EEC (OJ Rhif L145, 8.6.90, t. 39);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC (OJ Rhif L178, 12.7.94, t. 66);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/510/EC (OJ Rhif L210, 20.08.96, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/186/EC (OJ Rhif L57, 25.2.2004, t. 27);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3(2) a 6.

Equidae

15.  Cyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC ar yr amodau sootechnegol ac achyddol sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn equidae (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 55), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 92/353/EEC (OJ Rhif L192, 11.7.92, t. 63);

  • Penderfyniad y Comisiwn 92/354/EEC (OJ Rhif L192, 11.7.92, t. 66);

  • Penderfyniad y Comisiwn 93/623/EEC (OJ Rhif L298, 3.12.93, t. 45) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad 2000/68/EC (OJ Rhif L023, 28.1.2000, t. 72);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC (OJ Rhif L178, 12.7.94, t. 66);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/78/EC (OJ Rhif L19, 25.1.96, t. 39);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/510/EC (OJ Rhif L210, 20.08.1996, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/186/EC (OJ Rhif L57, 25.2.2004, t. 27);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 6 ac 8.

RHAN IIGOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER CLUDO GWARTHEG, MOCH, DEFAID A GEIFR

1.  Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr mewn masnach ryng-gymunedol wneud hynny yn unol â'r Rhan hon.

2.  Ar gyfer pob cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i gludo'r anifeiliaid hynny, rhaid iddo gadw cofrestr sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, a rhaid iddo gadw'r gofrestr yn ddiogel am dair blynedd o leiaf—

(a)mannau a dyddiadau codi'r anifeiliaid, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y daliad neu'r ganolfan gynnull lle mae'r anifeiliaid yn cael eu codi;

(b)y mannau y danfonwyd hwy iddynt a dyddiadau eu danfon, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y traddodai;

(c)rhywogaeth a nifer yr anifeiliaid a gludwyd;

(ch)dyddiad a man eu diheintio; a

(d)Rhif au adnabod unigryw y tystysgrifau iechyd sy'n mynd gyda'r anifeiliaid.

3.  Rhaid iddo sicrhau bod y cyfrwng cludo wedi'i adeiladu yn y fath fodd ag i sicrhau na fydd ysgarthion, sarn na bwyd anifeiliaid yn gallu gollwng na chwympo allan o'r cerbyd.

4.  Rhaid iddo roi ymrwymiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol yn dweud —

(a)bod pob mesur wedi'i gymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r canlynol —

(i)yn achos gwartheg neu foch, Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC(33), ac yn benodol y darpariaethau sydd wedi'u gosod yn Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno sy'n ymwneud â'r dogfennau priodol y mae'n rhaid iddynt fynd gyda'r anifeiliaid; a

(ii)yn achos defaid neu eifr, Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC(34), ac yn benodol y darpariaethau sydd wedi'u gosod yn Erthygl 8c o'r Gyfarwyddeb honno a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sy'n ymwneud â'r dogfennau priodol y mae'n rhaid iddynt fynd gyda'r anifeiliaid; a

(b)y bydd gwaith cludo'r anifeiliaid yn cael ei roi yng ngofal staff sy'n meddu ar y gallu, y cymhwysedd proffesiynol a'r wybodaeth angenrheidiol.

RHAN IIIGOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER MASNACHWYR GWARTHEG, MOCH, DEFAID A GEIFR

1.  Rhaid i bob masnachwr gwartheg, moch, defaid neu eifr, sy'n ymgymryd â masnach ryng-Gymunedol gydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon.

2.—(1Rhaid i'r masnachwr —

(a)bod wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y paragraff hwn; a

(b)bod wedi'i gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, a rhaid bod ganddo rif cofrestru a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â dyroddi cymeradwyaeth o dan y paragraff hwn onid yw wedi'i fodloni y bydd y masnachwr yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rhan hon ac, yn achos masnachwr defaid neu eifr, bod y masnachwr wedi cytuno i gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer gweithredu ei fangre y mae arolygydd wedi'u pennu mewn cytundeb gweithredol yn ofynion y mae'r arolygydd yn credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod modd gweithredu'r fangre yn unol ag ail baragraff indent Erthygl 3(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC.

3.  Rhaid i'r masnachwr sicrhau mai'r unig anifeiliaid y mae'n eu mewnforio neu'n eu hallforio yw anifeiliaid sy'n dod gyda'r manylion ar gyfer eu hadnabod ac sy'n bodloni gofynion cyfraith y Gymuned ar gyfer masnach ryng-Gymunedol ac, yn achos gwartheg, sy'n dod o fuchesau sy'n swyddogol rydd rhag twbercwlosis, brwselosis a lewcosis, neu sy'n anifeiliaid i'w cigydda sy'n bodloni gofynion Erthygl 6(3) neu, os ydynt yn anifeiliaid i'w cigydda o dan raglen rheoli clefydau, gofynion Erthygl 13(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC.

4.  Rhaid i'r masnachwr gadw cofnod ar gyfer yr holl wartheg, moch, defaid a geifr y mae'n eu mewnforio neu'n eu hallforio, naill ai ar sail Rhif au neu farciau adnabod ar yr anifeiliaid, a chadw'n ddiogel am dair blynedd o leiaf y cofnod o'r canlynol -—

(a)enw a chyfeiriad y gwerthwr;

(b)tarddiad yr anifeiliaid;

(c)dyddiad eu prynu;

(ch)y categorïau o wartheg, defaid a geifr, eu nifer a'r manylion ar gyfer eu hadnabod (neu rif cofrestru'r daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol);

(d)Rhif cofrestru'r daliad neu'r genfaint y mae'r moch yn dod ohono neu ohoni'n wreiddiol;

(dd)Rhif cymeradwyo neu rif cofrestru'r ganolfan gynnull y mae wedi caffael y defaid neu'r geifr drwyddi (pan fo'n gymwys);

(e)Rhif cofrestru'r cludydd neu rif trwydded y cerbyd sy'n dod ag anifeiliaid ac yn eu casglu;

(f)enw a chyfeiriad y prynwr a chyrchfan yr anifeiliaid; ac

(ff)copïau o'r cynlluniau teithio a Rhif au'r tystysgrifau iechyd.

5.  Yn achos masnachwr sy'n cadw gwartheg, moch, defaid neu eifr ar ei fangre rhaid iddo sicrhau -—

(a)bod hyfforddiant penodol ynglyn â lles yr anifeiliaid a gofalu amdanynt yn cael ei roi i'r staff sydd â gofal dros yr anifeiliaid; a

(b)bod pob cam angenrheidiol yn cael ei gymryd i atal clefydau rhag ymledu.

6.—(1Dim ond mangre a gymeradwywyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y paragraff hwn ac sydd, yn achos masnachwr defaid a geifr, wedi'i phennu mewn cytundeb gweithredol y caiff y masnachwr ei defnyddio.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi Rhif cymeradwyo ar gyfer mangre a gymeradwyir o dan y paragraff hwn.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â dyroddi cymeradwyaeth o dan y paragraff hwn oni chaiff ei fodloni bod y fangre yn cydymffurfio, yn achos masnachwr gwartheg neu foch, ag Erthygl 13(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC neu, yn achos masnachwr defaid a geifr, Erthygl 8b(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC.

Rheoliadau 5(5), 9(4) a 33(1)

ATODLEN 4Y Cynllun Iechyd Dofednod

RHAN IAELODAETH

1.  Mae unrhyw gyfeiriad at 'y Gyfarwyddeb' yn y Rhan hon o'r Atodlen hon yn gyfeiriad at Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC (ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor, a'u mewnforio o drydydd gwledydd)(35).

2.  Rhaid i'r ffi gofrestru, y mae'r manylion amdani wedi'u nodi yn Rhan 2 o'r Atodlen hon, fynd gyda chais am ganiatâd i sefydliad ddod yn aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod.

3.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â chaniatáu i sefydliad ddod yn aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod ac eithrio —

(a)os yw wedi'i fodloni, ar ôl archwiliad gan arolygydd milfeddygol —

(i)bod y sefydliad yn bodloni'r gofynion ynghylch cyfleusterau ym Mhennod II o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb; a

(ii)y bydd gweithredydd y sefydliad yn cydymffurfio, ac yn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio, â gofynion pwynt 1 ym Mhennod I o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb; a

(b)os yw gweithredydd y sefydliad, ac yntau wedi'i hysbysu bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y gofynion yn is-baragraff (a) wedi'u bodloni, wedi talu'r ffi aelodaeth flynyddol, y mae'r manylion amdani wedi'u nodi yn Rhan III o'r Atodlen hon.

4.  Rhaid i'r rhaglen arolygu clefydau y cyfeirir ati ym mharagraff (b) o bwynt 1 Pennod I o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb gynnwys y mesurau arolygu clefydau a bennir ym Mhennod III o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb, ynghyd ag unrhyw ofynion profi ychwanegol y mae arolygydd milfeddygol yn hysbysu sefydliad yn ysgrifenedig eu bod yn ofynion y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i osgoi lledaenu clefydau heintus drwy fasnach ryng-Gymunedol, gan gymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau penodol yn y sefydliad hwnnw.

5.  Pan gaiff y ffi aelodaeth flynyddol gyntaf, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi tystysgrif aelodaeth y sefydliad, y mae'n rhaid iddi gynnwys Rhif aelodaeth y sefydliad.

6.  Rhaid i weithredydd sefydliad sy'n aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod dalu'r ffi aelodaeth flynyddol bob blwyddyn.

7.  Er mwyn sicrhau bod gweithredwyr a'u sefydliadau yn parhau i fodloni'r gofynion ar gyfer aelodaeth o'r Cynllun Iechyd Dofednod, ac yn gyffredinol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb, rhaid i arolygydd milfeddygol gynnal arolygiad blynyddol o'r sefydliad, ac unrhyw arolygiadau ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn angenrheidiol.

8.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)yn gorfod atal, dirymu neu adfer aelodaeth yn unol â Phennod IV o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb (rhaid darllen cyfeiriadau at 'withdrawal' yn y Bennod honno fel cyfeiriadau at 'revocation' at ddibenion y paragraff hwn);

(b)yn cael atal neu ddirymu aelodaeth—

(i)os yw sefydliad yn torri unrhyw un o'r gofynion ynghylch cyfleusterau ym Mhennod II o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb;

(ii)os yw'r gweithredydd neu'r sefydliad yn torri unrhyw un o'r gofynion ym mhwynt 1 o Bennod I o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb;

(iii)os yw perchenogaeth neu reolaeth ar sefydliad yn newid; neu

(iv)os nad yw'r gweithredydd wedi talu'r ffi aelodaeth flynyddol.

RHAN IIY FFI GOFRESTRU

1.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)penderfynu'r ffi gofrestru ar sail y gost y gellir ei phriodoli i bob cais am yr eitemau a restrir ym mharagraff 3; a

(b)cyhoeddi'r ffi gofrestru gyfredol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig(36).

2.  Bydd y ffi gofrestru yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol am bob sefydliad y mae cais yn cael ei wneud ar ei gyfer ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.

3.  Yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) yw —

(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr o ran yswiriant gwladol a blwydd-dal ymddeol —

(i)unrhyw berson sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phrosesu ceisiadau am aelodaeth o'r Cynllun Iechyd Dofednod;

(ii)unrhyw berson sy'n ymgymryd â rheoli gwaith prosesu'r ceisiadau hynny; a

(iii)unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n cyflawni arolygiad milfeddygol mewn sefydliad sy'n geisydd;

(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a);

(c)treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth brosesu ceisiadau am aelodaeth (gan gynnwys sefydliadau arolygu), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol;

(ch)llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a), gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;

(d)dillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd wrth arolygu sefydliadau, a golchi, smwddio, glanhau neu ddiheintio'r dillad amddiffynnol hynny;

(dd)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi'r staff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a); ac

(e)unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â phrosesu ceisiadau am aelodaeth o'r Cynllun Iechyd Dofednod.

RHAN IIIY FFI AELODAETH FLYNYDDOL

4.  Mae dwy gyfradd ar gyfer y ffi aelodaeth flynyddol; cyfradd uwch sy'n cynnwys costau arolygiad milfeddygol blynyddol gan arolygydd milfeddygol a gyflogir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a chyfradd is nad yw'n cynnwys costau arolygiad o'r fath.

5.  Mae'r gyfradd is yn daladwy —

(a)y tro cyntaf y mae'r ffi aelodaeth flynyddol yn cael ei thalu (a chostau'r arolygiad milfeddygol blynyddol cyntaf wedi'u cynnwys yn y ffi gofrestru); a

(b)yn y blynyddoedd wedi hynny pan fo gweithredydd y sefydliad wedi dewis bod yr arolygiad yn cael ei gyflawni gan arolygydd milfeddygol nad yw'n cael ei gyflogi gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (ac os felly mae cost yr arolygiad yn daladwy'n uniongyrchol i'r arolygydd gan y gweithredydd).

6.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)penderfynu'r ddwy gyfradd ar gyfer y ffi aelodaeth flynyddol ar sail y gost y gellir ei phriodoli i bob sefydliad am yr eitemau a restrir ym mharagraff 8; a

(b)cyhoeddi cyfraddau cyfredol y ffi aelodaeth flynyddol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

7.  Bydd y ffi aelodaeth flynyddol yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob sefydliad ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.

8.  Yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(a) yw —

(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr o ran yswiriant gwladol a blwydd-dal ymddeol —

(i)unrhyw berson sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod (gan gynnwys cyfathrebu ag aelodau ac ymateb i ymholiadau oddi wrthynt, llunio canllawiau, a threfnu arolygiadau o sefydliadau);

(ii)unrhyw berson sy'n ymgymryd â rheoli gwaith gweinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod;

(iii)unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n cael ei gyflogi gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac sy'n cyflawni'r arolygiad milfeddygol blynyddol o sefydliad neu arolygiadau ychwanegol yn ystod y flwyddyn;

(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a);

(c)treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth weinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod (gan gynnwys arolygiadau milfeddygol o sefydliadau), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol;

(ch)llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a), gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;

(d)darparu, pan fo'n gymwys, ddillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd i arolygu sefydliadau, a golchi, smwddio, glanhau neu ddiheintio'r dillad amddiffynnol hynny;

(dd)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a); ac

(e)unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â gweinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod.

Rheoliadau 9(4) a 33(1)

ATODLEN 5Cymeradwyo Labordai o dan y Cynllun Iechyd Dofednod

RHAN ICYMERADWYO

1.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo unrhyw labordy y mae'n barnu ei fod yn addas at ddibenion cynnal profion ar gyfer Mycoplasma o dan y Cynllun Iechyd Dofednod.

2.  Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan baragraff (1) dalu'r ffi gymeradwyo flynyddol, y mae'r manylion amdanynt wedi'u nodi yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.

3.  Er mwyn sicrhau bod labordai a gymeradwywyd yn parhau'n addas ar gyfer cymeradwyaeth, rhaid i arolygydd gynnal arolygiadau a phrofion sicrwydd ansawdd fel y bo'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn angenrheidiol.

RHAN IIY FFI GYMERADWYO FLYNYDDOL

4.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)penderfynu'r ffi gymeradwyo flynyddol ar sail y gost y gellir ei phriodoli i bob labordy am yr eitemau a restrir ym mharagraff 6; a

(b)cyhoeddi'r ffi gymeradwyo flynyddol gyfredol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

5.  Bydd y ffi gymeradwyo flynyddol yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob labordy a gymeradwyir ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.

6.  Yr eitemau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 4(a) yw —

(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr o ran yswiriant gwladol a blwydd-dal ymddeol —

(i)unrhyw berson sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai;

(ii)unrhyw berson sy'n ymgymryd â rheoli neu weinyddu'r gwaith hwn; a

(iii)unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n cynnal arolygiadau o labordai;

(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a);

(c)treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth weinyddu'r broses o gymeradwyo labordai (gan gynnwys cynnal arolygiadau), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol.

(ch)llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff sy'n ymwneud â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai, gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;

(d)darparu dillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd i gynnal arolygiadau o sefydliadau, a golchi a smwddio'r dillad amddiffynnol hynny;

(dd)darparu samplau profi sicrwydd ansawdd, asesu'r canlyniadau a rhoi cyngor am y canlyniadau;

(e)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi staff sy'n ymwneud â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai; ac

(f)unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â gweinyddu'r broses o gymeradwyo labordai.

Rheoliadau 13(1) a 27(1)

ATODLEN 6Rhestr o Glefydau

  • Clwy'r traed a'r genau

  • Clwy clasurol y moch

  • Clwy Affricanaidd y moch

  • Clefyd pothellog y moch

  • Clefyd Newcastle

  • Rinderpest

  • Peste des petits ruminants

  • Stomatitis pothellog

  • Y tafod glas

  • Clefyd Affricanaidd y ceffylau

  • Enseffalomyelitis ceffylaidd (o bob math, gan gynnwys enseffalomyelitis ceffylaidd Venezuela)

  • Clefyd Teschen

  • Ffliw adar

  • Brech y defaid a'r geifr

  • Clefyd y croen talpiog

  • Twymyn y Dyffryn Hollt

  • Pliwroniwmonia buchol heintus

  • Enseffalopathi sbyngffurf buchol

  • Necrosis gwaedfagol heintus

  • Septisemia gwaedlifol firysol

  • Dwrin

  • Anemia heintus ceffylaidd

  • Llynmeirch

  • Anemia heintus eogiaid

  • Chwilen fach y cwch (Aethina tumida)

  • Gwiddonyn Tropilaelaps

Rheoliadau 16(2) ac 16(3), 18(2) a 34

ATODLEN 7Deddfwriaeth y Gymuned am Drydydd Gwledydd

RHAN IY TRYDYDD GWLEDYDD Y CAIFF AELOD-WLADWRIAETHAU AWDURDODI MEWNFORION PENODOL OHONYNT

1.  Penderfyniad y Cyngor 79/542/EEC sy'n tynnu rhestr o drydydd gwledydd neu rannau o drydydd gwledydd, ac yn gosod amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a iechyd y cyhoedd ac ynghylch ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio i'r Gymuned anifeiliaid byw penodol a'u cig ffres (OJ Rhif L146, 14.6.79, t. 15), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/536/EC (OJ Rhif L304, 16.12.95, t. 49);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC (OJ Rhif L328, 17.12.2003, t. 26); a

  • Phenderfyniad y Comisiwn 2004/212/EC (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 11).

2.  Penderfyniad y Comisiwn 95/233/EC sy'n tynnu rhestrau o drydydd gwledydd y caiff Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforion ohonynt o ddofednod byw ac wyau deor (OJ Rhif L156, 7.7.95, t. 76), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/628/EC (OJ Rhif L282, 1.11.96, t. 73);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/659/EC (OJ Rhif L302, 26.11.96, t. 27);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/183/EC (OJ Rhif L76, 18.3.97, t. 32);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/732/EC (OJ Rhif L 275, 18.10.2001, t. 14);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/751/EC (OJ Rhif L 281, 25.10.2001, t. 24);

  • Phenderfyniad y Comisiwn 2002/183/EC (OJ Rhif L 61, 2.3.2002, t. 56); a

  • Phenderfyniad y Comisiwn 2004/118/EC (OJ Rhif L36, 7.2.2004, t. 34).

3.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/804/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r gofynion ynglyn ag ardystiadau ar gyfer mewnforio molysgiaid, eu hwyau a'u gametau i ganiatáu iddynt dyfu ymhellach, i'w pesgi, i'w hailddodi neu i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L302, 21.11.2003, t.22), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/609/EC (OJ L274, 24.8.04, t. 17); a

  • Phenderfyniad y Comisiwn 2004/623/EC (OJ Rhif L280, 31.8.2004, t. 26).

4.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/858/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r gofynion ynglyn ag ardystiadau ar gyfer mewnforio pysgod byw, eu hwyau a'u gametau sydd wedi'u bwriadu ar gyfer ffermio, a physgod byw sy'n tarddu o ddyframaethu a chynhyrchion y dyframaethu hwnnw sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L324, 11.12.2003, t.37.) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/454/EC (OJ Rhif 156, 30.4.2004, t.29).

5.  Penderfyniad y Comisiwn 2004/211/EC yn sefydlu'r rhestr o drydydd gwledydd a'r rhannau o diriogaeth y gwledydd hynny y mae Aelod-wladwriaethau yn awdurdodi mewnforio ohonynt equidae byw a semen, ofa ac embryonau rhywogaeth y ceffyl (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 1).

RHAN IIDARPARIAETHAU MANWL

Gwartheg, defaid, geifr a moch o drydydd gwledydd

1.  Cyfarwyddeb y Cyngor 72/462/EEC ar broblemau iechyd a phroblemau arolygu milfeddygol ar ôl mewnforio gwartheg, defaid a geifr a moch, a chig ffres neu gynhyrchion cig o drydydd gwledydd (OJ L302, 31.12.72, t. 28), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/423/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 13);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/69/EEC (OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 37);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/688/EEC (OJ Rhif L377, 31.12.91, t. 18);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 96/91/EC (OJ Rhif L13, 16.1.1997, t.26);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 97/79/EC (OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 31);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 6, 10, 11, 13, 29 a 30.

Anifeiliaid fforchog yr ewin ac eliffantod o drydydd gwledydd

2.  Penderfyniad y Cyngor 79/542/EEC sy'n tynnu rhestr o drydydd gwledydd neu rannau o drydydd gwledydd, ac yn gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd ac ynghylch ardystiadau milfeddygol, ar gyfer mewnforio i'r Gymuned anifeiliaid byw penodol a'u cig ffres (OJ Rhif L146, 14.6.79, t. 15), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/212/EC (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 11).

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4, 5 a 6.

Equidae

Cyffredinol

3.  Cyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EEC ar amodau iechyd sy'n llywodraethu'r broses o symud equidae a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 42), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/36/EEC (OJ Rhif L157, 10.6.92, t. 28);

  • Penderfyniad y Comisiwn 92/130/EEC (OJ Rhif L47, 22.2.92, t. 26);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/329/EC (OJ Rhif L191, 12.8.95, t. 36);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/81/EC (OJ Rhif L19, 25.1.96, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/160/EC (OJ Rhif L053, 23.3.2002, t. 37);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 2004/68/EC (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t. 321);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 11, 12(1), 13 i 16 a 18.

4.  Penderfyniad y Comisiwn 2004/211/EC yn sefydlu'r rhestr o drydydd gwledydd a'r rhannau o diriogaeth y gwledydd hynny y mae Aelod-wladwriaethau yn awdurdodi mewnforio ohonynt equidae byw a semen, ofa ac embryonau rhywogaeth y ceffyl (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 1).

Y darpariaethau perthnasol: Erthygl 6.

Derbyn ceffylau cofrestredig dros dro

5.  Penderfyniad y Comisiwn 92/260/EEC (OJ Rhif L130, 15.5.92, t. 67), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 93/344/EEC (OJ Rhif L138, 9.6.93, t. 11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/453/EC (OJ Rhif L187, 22.7.94, t. 11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/561/EC (OJ Rhif L214, 19.8.94, t. 17);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/322/EC (OJ Rhif L190, 11.8.95, t. 9);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/323/EC (OJ Rhif L190, 11.8.95, t. 11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/81/EC (OJ Rhif L19, 25.1.96, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/279/EC (OJ Rhif L107, 30.4.96, t. 1);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/10/EC (OJ Rhif L3, 7.1.97, t. 9) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad 2001/622/EC (OJ Rhif L216, 10.8.2001, t. 26);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/360/EC (OJ Rhif L163, 6.6.98, t. 44);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/594/EC (OJ Rhif L286, 23.10.98, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/228/EC (OJ Rhif L83, 27.3.99, t. 77);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/613/EC (OJ Rhif L24, 15.9.99, t. 12);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2000/209/EC (OJ Rhif L064, 11.3.2000, t. 22);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/117/EC (OJ Rhif L043, 14.2.2001, t. 38);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/611/EC (OJ Rhif L214, 8.8.2001, t. 49);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/619/EC (OJ Rhif L215, 9.8.2001, t. 55);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/828/EC (OJ Rhif L308, 27.11.2001, t. 41);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/635/EC (OJ Rhif L206, 3.8.2002, t. 20);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/636/EC (OJ Rhif L206, 3.8.2002, t. 27);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/13/EC (OJ Rhif L007, 11.1.2003, t. 86);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/541/EC (OJ Rhif L185, 24.07.2003, t. 41);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/117/EC (OJ Rhif L36, 7.2.2004, t. 20);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/177/EC (OJ Rhif L55, 24.2.2004, t. 64);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/241/EC (OJ Rhif L74,12.03.04, t. 19);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthygl 1.

Ceffylau cofrestredig ar gyfer rasio, etc.

6.  Penderfyniad y Comisiwn 93/195/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer ceffylau cofrestredig sy'n dychwelyd ar gyfer digwyddiadau rasio, digwyddiadau cystadlu a digwyddiadau diwylliannol ar ôl iddynt gael eu hallforio dros dro (OJ Rhif L86, 6.4.93, t. 1), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/453/EC (OJ Rhif L187, 22.7.94, t. 11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/561/EC (OJ Rhif L214, 19.8.94, t. 17);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/99/EC (OJ Rhif L76, 5.4.95, t. 16);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/322/EC (OJ Rhif L190, 11.8.95, t. 9);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/323/EC (OJ Rhif L190, 11.8.95, t. 11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/279/EC (OJ Rhif L107, 30.4.96, t. 1);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/684/EC (OJ Rhif L287, 21.10.97, t. 49);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/360/EC (OJ Rhif L163, 6.6.98, t. 44);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/567/EC (OJ Rhif L276, 13.10.98, t. 11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/594/EC (OJ Rhif L286, 23.10.98, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/228/EC (OJ Rhif L83, 27.3.99, t. 77);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/558/EC (OJ Rhif L211, 11.8.99, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2000/209/EC (OJ Rhif L64, 11.3.00, t. 64);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2000/754/EC (OJ Rhif L303, 12.12.00, t. 34);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/117/EC (OJ Rhif L43, 14.2.01, t. 38);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/144/EC (OJ Rhif L53, 23.2.01, t. 23);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/610/EC (OJ Rhif L43, 8.8.01, t. 45);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/611/EC (OJ Rhif L214, 8.8.01, t. 49);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/211/EC (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 1);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthygl 1.

Equidae i'w cigydda

7.  Penderfyniad y Comisiwn 93/196/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio equidae i'w cigydda (OJ Rhif L86, 6.4.93, t. 7), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/453/EC (OJ Rhif L187, 22.7.94, t.11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/322/EC (OJ Rhif L190, 11.8.95, t. 9);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/81/EC (OJ Rhif L19, 25.1.96, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/82/EC (OJ Rhif L19, 25.1.96, t. 56);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/279/EC (OJ Rhif L107, 30.4.96, t. 1);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/36/EC (OJ Rhif L14, 17.1.97, t. 57);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/360/EC (OJ Rhif L163, 6.6.98, t. 44);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/228/EC (OJ Rhif L83, 27.3.99, t. 77);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/117/EC (OJ Rhif L43, 14.2.01, t. 38);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/611/EC (OJ Rhif L214, 8.8.01, t. 49);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y ddarpariaeth berthnasol: Erthygl 1.

Equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu

8.  Penderfyniad y Comisiwn 93/197/EC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer mewnforio equidae cofrestredig ac equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu (OJ Rhif L86, 6.4.93, t. 16), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

  • Penderfyniad y Comisiwn 93/510/EEC (OJ Rhif L238, 23.9.93, t. 45);

  • Penderfyniad y Comisiwn 93/682/EEC (OJ Rhif L317, 18.12.93, t. 82);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/453/EC (OJ Rhif L187, 22.7.94, t. 11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 94/561/EC (OJ Rhif L214, 19.8.94, t. 17);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/322/EC (OJ Rhif L190, 11.8.95, t. 9);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/323/EC (OJ Rhif L190, 11.8.95, t. 11);

  • Penderfyniad y Comisiwn 95/536/EC (OJ Rhif L304, 16.12.95, t. 49);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/81/EC (OJ Rhif L19, 25.1.96, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/82/EC (OJ Rhif L19, 25.1.96, t. 56);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/279/EC (OJ Rhif L107, 30.4.96, t. 1);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/10/EC (OJ Rhif L3, 7.1.97, t. 9), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/117/EC (OJ Rhif L036, 7.2.04, t. 20);

  • Penderfyniad y Comisiwn 97/36/EC (OJ Rhif L14, 17.1.97, t. 57);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/360/EC (OJ Rhif L163, 6.6.98, t. 44);

  • Penderfyniad y Comisiwn 98/594/EC (OJ Rhif L286, 23.10.98, t. 53);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/228/EC (OJ Rhif L83, 27.3.99, t. 77);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/236/EC (OJ Rhif L87, 31.3.99, t. 13);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/252/EC (OJ Rhif L96, 10.4.99, t. 31);

  • Penderfyniad y Comisiwn 99/613/EC (OJ Rhif L243, 15.9.99, t. 12);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2000/209/EC (OJ Rhif L64, 11.3.00, t. 64);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/117/EC (OJ Rhif L43, 14.2.01, t. 38);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/611/EC (OJ Rhif L214, 8.8.01, t. 49);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/619/EC (OJ Rhif L215, 9.8.01, t. 55);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/754/EC (OJ Rhif L282, 26.10.01, t. 34);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/766/EC (OJ Rhif L288, 1.11.01, t. 50);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2001/828/EC (OJ Rhif L308, 27.11.01, t. 41);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/635/EC (OJ Rhif L206, 3.8.02, t. 20);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/841/EC (OJ Rhif L206, 25.10.02, t. 42);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2003/541/EC (OJ Rhif L185, 24.07.2003, t. 41);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/117/EC (OJ Rhif L36, 7.2.2004, t. 20);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/177/EC (OJ Rhif L55, 24.2.2004, t. 64);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/241/EC (OJ Rhif L74, 12.3.04, t. 19);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y ddarpariaeth berthnasol: Erthygl 1.

(a)Rhaid cynnal pob prawf cynallforio ar geffylau cofrestredig o Gyrgystan ac equidae cofrestredig ac equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu sy'n cael eu mewnforio o Belarws, Bwlgaria, Croatia, Cyn Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia, Rwmania, Ffederasiwn Rwsia ac Ukrain fel a ganlyn: ar gyfer stomatitis pothellog yn y Sefydliad Iechyd Anifeiliaid, Pirbright, y Sefydliad Milfeddygol Cenedlaethol, y Weriniaeth Tsiec neu yn y Labordy Milfeddygol Canolog, Bwdapest, Hwngari; y profion gorfodol ar gyfer anemia heintus, dwrin a llynmeirch ac, os yw'n angenrheidiol, y prawf ar gyfer arteritis firysol ceffylaidd yn yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol, Weybridge, y Sefydliad Milfeddygol Cenedlaethol, y Weriniaeth Tsiec neu yn y Labordy Milfeddygol Canolog, Bwdapest, Hwngari;

(b)Rhaid i ganlyniadau'r profion fod ynghlwm wrth y dystysgrif iechyd sy'n mynd gyda'r equidae sy'n cael eu mewnforio.

Dofednod

9.  Cyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor a'u mewnforio o drydydd gwledydd (OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/494/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 35);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 54);

  • Penderfyniad y Comisiwn 92/369/EEC (OJ Rhif L195, 14.7.92, t. 25);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 93/120/EEC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t. 35);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/482/EC (OJ Rhif L196, 7.8.96, t. 13);

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/628/EC (OJ Rhif L282, 1.11.96, t. 73);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 99/89/EC (OJ L300, 23.11.99 t. 17);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 99/90/EC (OJ Rhif L300. 23.11.1999, t. 19);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2000/505/EC (OJ Rhif L201, 9.8.2000, t. 8);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/183/EC (OJ Rhif L61, 2.3.2002, t. 56);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2002/542/EC (OJ Rhif L176, 5.7.2002, t. 43);

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/118/EC (OJ Rhif L36, 7.2.2004, t. 34);

  • Cyfarwyddeb y Cyngor 2004/68/EC (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t. 321);

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd.

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 20, 21(1), 22(1), 23, 24, 27(2) a 28.

Anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau penodedig eraill

10.  Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (OJ Rhif L268, 14.9.92, t. 54), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy —

a'r offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd a Phenderfyniad y Cydbwyllgor 69/96 dyddiedig 17 Gorffennaf 1998 yn diwygio Atodiad 1 (Materion Milfeddygol a Ffytoiechydol ) i'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (OJ Rhif L158, 24.6.99, t. 1).

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 17(1), 17(2) a 18.

Anifeiliaid byw o Seland Newydd

11.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC ar dystysgrifau iechyd sy'n ymwneud ag anifeiliaid byw, eu semen, eu hofa a'u hembryonau sy'n cael eu mewnforio o Seland Newydd (OJ Rhif L22, 25.1.03, t. 38) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/385/EC (OJ Rhif L133, 29.5.03, t. 87) a Phenderfyniad y Comisiwn 2003/669/EC (OJ Rhif L237, 24.9.03, t. 7).

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 1, 2 a 3.

Amodau sootechnegol

12.  Cyfarwyddeb y Cyngor 94/28/EC sy'n gosod yr egwyddorion ynglyn â'r amodau sootechnegol ac achyddol sy'n gymwys i fewnforion o drydydd gwledydd o anifeiliaid, eu semen, eu hofa a'u hembryonau, ac yn diwygio Cyfarwyddeb 77/504/EEC ar anifeiliaid bridio pur o'r rhywogaeth fuchol (OJ Rhif L178, 12.7.94, t. 66), fel y'u darllenir gyda'r canlynol —

  • Penderfyniad y Comisiwn 96/509/EC (OJ Rhif L210, 20.8.96, t. 47); a

  • Phenderfyniad y Comisiwn 96/510/EC (OJ Rhif L210, 20.8.96, t. 53), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/186/EC (OJ Rhif L57, 25.2.2004, t. 27).

Y darpariaethau perthnasol: Erthygl 4.

Pysgod asgellog a physgod cregyn o drydydd gwledydd

13.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/804/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r gofynion ynglyn ag ardystiadau ar gyfer mewnforio molysgiaid, eu hwyau a'u gametau i ganiatáu iddynt dyfu ymhellach, i'w pesgi, i'w hailddodi neu i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L302, 21.11.2003, t.22), fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/609/EC (OJ L274, 24.8.04, t. 17); a

  • Phenderfyniad y Comisiwn 2004/623/EC (OJ Rhif L280, 31.8.2004, t. 26).

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4, 5, 6, 7 a 8.

14.  Penderfyniad y Comisiwn 2003/858/EC sy'n gosod yr amodau ynghylch iechyd anifeiliaid a'r gofynion ynglyn ag ardystiadau ar gyfer mewnforio pysgod byw, eu hwyau a'u gametau a physgod byw sy'n tarddu o ddyframaethu a chynhyrchion o'r pysgod hynny sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L324, 11.12.2003, t.37.) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol, ac fel y'i darllenir gyda hwy—

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/454/EC (OJ Rhif 156, 30.4.2004, t.29.).

Y darpariaethau perthnasol: Erthyglau 3, 4, 5, 6, 7, 8 a 9.

Rheoliad 34

ATODLEN 8Deddfwriaeth nad yw'n gymwys

TeitlCyfeirnodRhychwant
Deddf Clefydau Pysgod 19371937 p. 33Adran 1
Gorchymyn Ysgyfarnogod (Rheoli eu Mewnforio) 1965O.S. 1965/2040Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cŵn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974 fel y'i diwygiwydO.S. 1974/2211 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1977/361, 1984/1182, 1986/2062, 1990/2371, 1993/1813, 1994/1405, 1994/1716, 1999/3443, 2000/1298, 2000/1641, 2001/6, 2002/1011, 2002/2850, a 2004/2364.Mae'r Gorchymyn yn parhau i fod yn gymwys i bob anifail cigysol, pob primat a phob ystlum. Bydd yn parhau i fod yn gymwys i fewnforio pob anifail arall oni bai bod anifeiliaid o'r fath yn cael eu mewnforio fel rhan o'r broses fasnachu ac y gellir dangos eu bod wedi'u geni ar y daliad y maent yn dod ohono'n wreiddiol a'u bod wedi'u cadw'n gaeth ers eu geni.
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977O.S. 1977/944Erthyglau 3, 4(7), 4(8), 5(1) i (3), 7(1), 8 i 14, 16, 17, 18(1)(b), 18(3), 19 i 21, 23, 24 a 25(2) ac eithrio bod erthygl 3 yn parhau i fod yn gymwys i anifeiliaid sy'n cnoi cil a moch nad ydynt yn anifeiliaid sy'n destun Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC.
Gorchymyn Mewnforio Adar, Dofednod ac Wyau Deor 1979O.S. 1979/1702Erthyglau 4 i 7, 9(3) i (6), 10 i 12 ac eithrio bod erthygl 4 yn parhau i fod yn gymwys i bob aderyn (gan gynnwys ffowls domestig) a'u hwyau deor nad ydynt yn rhai sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC (heb gynnwys ffowls domestig).
Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 1980 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen (Diwygio) 1984O.S. 1980/12 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1984/1326

Y Gorchymyn cyfan ac eithrio bod erthygl 4 yn parhau i fod yn gymwys i embryonau, ofa a semen (fel y diffinnir “embryos”, “ova” a “semen” yn y Gorchymyn hwnnw) ac eithrio—

(a)

semen gwartheg sy'n destun Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC,

(b)

embryonau gwartheg sy'n destun Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC,

(c)

semen moch sy'n destun Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC,

(ch)

ofa ac embryonau ceffylau sy'n destun Penderfyniad y Comisiwn 95/294/EC,

(d)

semen ceffylau sy'n destun Penderfyniad y Comisiwn 95/307/EC,

(dd)

semen, ofa ac embryonau defaid a geifr sy'n destun Penderfyniad y Comisiwn 95/388/EC, ac

(e)

ofa ac embryonau moch sy'n destun Penderfyniad y Comisiwn 95/483/EC.

Rheoliadau Clefydau Pysgod 1984O.S. 1984/455Rheoliadau 2 a 5
Rheoliadau Mewnforio Semen Gwartheg 1984O.S. 1984/1325Yr offeryn cyfan
Gorchymyn Pysgod Cregyn a Physgod Penodedig (Mewnforion Trydydd Gwledydd) 1992O.S. 1992/3301Y Gorchymyn cyfan

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (ynghylch gwiriadau milfeddygol a sootechnegol sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion penodol gyda golwg ar gwblhau'r farchnad fewnol) (OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29) a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56).

Maent yn cynnwys y darpariaethau canlynol —

  • O ran masnach ryng-Gymunedol, mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn dramgwydd i allforio, mewnforio neu gludo at ddibenion masnach ryng-Gymunedol unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae Cyfarwyddeb 90/425/EEC yn gymwys iddo ac eithrio yn unol â'r Gyfarwyddeb honno (rheoliadau 5, 6 a 7). Mae'r Rheoliadau yn nodi hefyd y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cofrestru masnachwyr anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid (rheoliad 8), cymeradwyo canolfannau a thimau sy'n cynnal masnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid (rheoliad 9), a chymeradwyo canolfannau cynnull (rheoliad 12). Maent yn gosod dyletswyddau ar draddodeion anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid (rheoliad 11), ac yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn yn achos llwythi anghyfreithlon (rheoliad 13). Maent yn rhoi i arolygwyr y pwerau arolygu ac archwilio a bennir yng Nghyfarwyddeb 90/425/EEC, ynghyd â'r pwerau mynediad angenrheidiol (rheoliadau 10 a 29).

  • O ran mewnforio anifeiliaid o drydydd gwledydd, mae'r Rheoliadau yn gwahardd mewnforio unrhyw anifail oni chydymffurfir ag amodau Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (rheoliad 16). Maent yn pennu'r mannau lle caniateir mewnforio anifeiliaid (rheoliad 17), a'r weithdrefn ar gyfer eu mewnforio (rheoliad 18), yn darparu ar gyfer talu ffioedd (rheoliad 19) a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn pan fo llwyth yn berygl i iechyd neu pan fo'n anghyfreithlon fel arall (rheoliadau 20 a 21) ac yn pennu na chaniateir, yn y gyrchfan, ryddhau anifeiliaid penodol tan y bydd eu rhyddhau wedi'i awdurdodi gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 22).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd camau os bydd brigiad clefyd mewn gwladwriaeth arall (rheoliad 27) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysu penderfyniadau, pwerau mynediad a chosbau.

Y prif newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn

Mae Rheoliad 2(2) yn rhoi ar waith y gofyniad yn Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 998/2003 (OJ L146, 13.6.2003, t. 1) sef os bydd unrhyw berson yn teithio gyda mwy na 5 o anifeiliaid anwes o ba bynnag rywogaeth o drydydd gwledydd penodol, bydd yr anifeiliaid hynny yn ddarostyngedig i'r gwiriadau milfeddygol y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau hyn, er gwaethaf yr esemptiad cyffredinol ar gyfer anifeiliaid anwes rhag gwiriadau milfeddygol yn rheoliad 2(1).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu sail statudol ar gyfer y Cynllun Iechyd Dofednod, sy'n cael ei weithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r rheolau sydd wedi'u nodi yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC (ar yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor a'u mewnforio o drydydd gwledydd) (OJ Rhif L303, 31.10.90, t. 6) (rheoliad 5(5) ac Atodlen 4). Dim ond os ydynt yn dod o sefydliad sy'n aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod y caniateir allforio wyau deor, cywion diwrnod-oed a dofednod y mae Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys iddynt i Aelod-wladwriaeth arall. Rhaid bod ffi gofrestru yn mynd gyda cheisiadau i sefydliadau ymuno â'r Cynllun a rhaid i aelodau o'r Cynllun dalu ffi aelodaeth flynyddol. Mae'r trefniadau ar gyfer cymeradwyo labordai i ymgymryd â phrofion Mycoplasma o dan y Cynllun Iechyd Dofednod, gan gynnwys manylion y ffi gymeradwyo flynyddol, wedi'u nodi yn rheoliad 9(4) ac Atodlen 5.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2003/50/EC (sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/68/EEC ynghylch cyfnerthu dulliau rheoli symudiadau defaid a geifr) (OJ Rhif L169, 8.7.2003, t. 51). Mae darpariaethau diwygiedig Cyfarwyddeb 91/68/EEC ynglyn â rheolaethau iechyd ar gyfer canolfannau cynnull, masnachwyr a chludwyr, yn achos defaid a geifr, yn cael eu hadlewyrchu yn rheoliadau 7 a 12, a Rhannau II a III o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliadau 16(6), 18(1) a (3), 21(3) a 25 yn adlewyrchu darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 (sy'n cyflwyno dogfen ar gyfer datgan am anifeiliaid o drydydd gwledydd sy'n dod i mewn i'r Gymuned, ac ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar yr anifeiliaid hynny) (OJ Rhif L49, 19.2.2004, t. 11), gan gynnwys y gofynion ynghylch y “ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin” newydd, y mae rhaid i fewnforiwr ei defnyddio i hysbysu o fwriad y mewnforiwr i fewnforio anifail i mewn i'r Gymuned o drydedd wlad, ac y mae rhaid i'r milfeddyg swyddogol ei defnyddio i gofnodi ei benderfyniad ar y llwyth.

Mae Rheoliad 22 yn adlewyrchu gofynion Erthygl 7(ii) o Benderfyniad y Comisiwn 2004/212/EC (OJ Rhif L73, 11.3.2004, t. 11). Rhaid cadw eliffantod ac anifeiliaid o urdd yr Artiodactyla a fewnforiwyd o drydydd gwledydd at ddibenion penodol yn eu cyrchfan am 30 niwrnod ac ni chaiff neb eu rhyddhau oni bai bod hynny wedi'i awdurdodi gan swyddog awdurdodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae urdd yr Artiodactyla yn cynnwys anifeiliaid a elwir yn gyffredin yn foch, defaid, geifr, gwartheg, camelidau a hipopotamysau (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr).

Mae Atodlenni 1, 3, 6 (Atodlen 4 gynt) a 7 (Atodlen 5 gynt) yn rhoi ar waith hefyd amryw o offerynnau Cymunedol.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(4)

OJ Rhif L268, 24.9.91, t. 56, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(5)

OJ Rhif L73, Argraffiad Arbennig, 27.3.72.

(6)

OJ Rhif L1, 3.1.94, t. 1.

(7)

OJ Rhif C241, 29.8.94, t. 21, fel y'i diwygiwyd gan OJ Rhif L12, 1.1.95, t. 1.

(8)

OJ Rhif L236, 23.9.03, t. 33.

(9)

OJ Rhif L146, 13.6.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 592/2004 (OJ Rhif L94, 31.3.2004, t. 7).

(10)

OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 8(1) o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(11)

OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(12)

OJ Rhif L268, 14.9.92, t.54, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 10 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(13)

OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(14)

O.S. 1997/1480, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(16)

OJ Rhif L224, 1.8.90, t. 55, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 15 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(17)

O.S. 1995/539, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(18)

O.S. 1995/540, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(19)

OJ Rhif L224, 18.8.90, t. 29, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(20)

O.S. 1997/1729, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3590

(21)

OJ L49, 19.2.2004, t. 11.

(22)

O.S. 1974/2211; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1977/361, 1984/1182, 1986/2062, 1999/3443 a 2004/2364.

(23)

OJ Rhif L340, 11.2.91, t.17, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 95/29/EC (OJ L148, 30.6.95, t. 52).

(31)

1998 p.38.

(32)

OJ Rhif L16, 25.1.93, t. 18).

(33)

OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(34)

OJ Rhif L46, 19.2.91, t. 19, fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 9 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

(35)

OJ Rhif L303, 30.10.90, t. 6), fel y'i diwygiwyd gan y darpariaethau a restrir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 3 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources