- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Os yw arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau bod asiantau sy'n gyfrifol am glefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6 yn bresennol, neu fod milhaint, unrhyw haint arall neu unrhyw achos sy'n debyg o fod yn berygl difrifol i anifeiliaid neu bobl yn bresennol, mewn anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid a fewnforiwyd o Aelod-wladwriaeth arall, neu fod yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny wedi dod o ranbarth sydd wedi'i halogi â chlefyd episootig, caiff gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny.
(2) Rhaid i'r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw —
(a)cadw'n gaeth ar unwaith y cynnyrch anifail a fewnforiwyd, yr anifail a fewnforiwyd neu unrhyw anifail sydd wedi bod mewn cysylltiad a'r anifail hwnnw a fewnforiwyd (ac, yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw'n gaeth, p'un a ydynt yn anifeiliaid a fewnforiwyd neu'n rhai sydd wedi bod mewn cysylltiad ag anifeiliaid a fewnforiwyd, eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill), yn unrhyw le a bennir yn yr hysbysiad, a chymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â hwy a bennir yn yr hysbysiad er mwyn atal y clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu; neu
(b)yn ddi-oed, eu cigydda, neu eu cigydda a'u difa, neu, yn achos cynhyrchion, eu dinistrio, yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (4) os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau nad yw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC, caiff roi i'r traddodwr neu i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, os bydd ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu i'r arolygydd wneud hynny, y dewisiadau canlynol ar ffurf hysbysiad —
(a)os y rheswm dros fethu â chydymffurfio yw'r ffaith bod gweddillion, y mae eu lefelau'n uwch na'r hyn a ganiateir o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997 (1), yn bresennol mewn anifeiliaid, cadw'r anifeiliaid o dan oruchwyliaeth tan y bydd lefelau'r gweddillion yn gostwng i'r lefelau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth ac, os na fydd lefelau'r gweddillion yn gostwng i'r lefelau a ganiateir, ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd pa gamau bynnag a bennir yn y ddeddfwriaeth honno; neu
(b)cigydda'r anifeiliaid neu ddinistrio'r cynhyrchion yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad; neu
(c)dychwelyd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion i'r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy ohoni, gydag awdurdodiad awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy ohoni a chan hysbysu ymlaen llaw unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant yn mynd drwyddi.
(4) Os afreoleidd-dra ynglyn â'r dogfennau traddodi gofynnol yw'r unig reswm y mae'r llwyth yn methu â chydymffurfio, rhaid i'r arolygydd beidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (3) oni bai —
(a)ei fod wedi rhoi i'r traddodwr, i'w gynrychiolydd, neu i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd mai hwnnw yw'r person sydd â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion hynny, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddangos y dogfennau traddodi gofynnol o fewn 7 niwrnod a chadw'n gaeth yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr hysbysiad; a
(b)bod y dogfennau traddodi gofynnol heb gael eu dangos o fewn yr amser hwnnw.
(5) Os na chydymffurfir ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a threfnu y cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad.
O.S. 1997/1729, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3590
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: