Search Legislation

Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 6 Mawrth 2005.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3) o'r Ddeddf i'r graddau y gall is-adran 3 fod yn gymwys i Gymru;

ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan ddeuddeng mis oed;

ystyr “bwyd babanod” (“baby foods”) yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin, ond nad ydynt yn cynnwys bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn;

ystyr “bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn” (“processed cereal-based foods”) yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol o fewn y categorïau a bennir yn Rhan I o Atodlen 1, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin;

ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(1) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(2) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “gweddill plaleiddiad” (“pesticide residue”) yw'r gweddill mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn neu mewn bwydydd babanod a hwnnw'n weddill cynnyrch amddiffyn planhigion fel y diffinnir “plant protection product” ym mhwynt 1 o Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC(3) ynglŷn â gosod cynhyrchion amddiffyn planhigion ar y farchnad, gan gynnwys ei fetabolion a chynhyrchion sy'n deillio o'r cynnyrch hwnnw wrth iddo ddiraddio neu adweithio;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu i werthu a chynnig, dangos neu hysbysebu i'w werthu;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i'r Cytundeb AEE;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC(4)) ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1998/36/EC(5), Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC(6)) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC(7); ac

ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng un a thair blwydd oed.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a'r ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb.

(3Os yw unrhyw Atodlen yn cynnwys unrhyw nodyn, rhaid i ddarpariaethau'r Atodlen honno gael eu dehongli a'u cymhwyso yn unol â'r nodyn hwnnw.

Esemptiad

3.  Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc.

Cyfyngiadau ar werthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod

4.  Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod oni bai bod y bwyd hwnnw —

(a)yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau 5 i 7 o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiad; a

(b)wedi'i labelu yn unol â rheoliad 8.

Gofynion cyffredinol o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiad

5.—(1Rhaid peidio â gweithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod o unrhyw gyfansoddyn ac eithrio'r rhai y mae eu haddasrwydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol gan fabanod a phlant ifanc wedi'i gadarnhau drwy ddata gwyddonol sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.

(2Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw sylwedd ag i beryglu iechyd babanod neu blant ifanc.

(3Rhaid i gyfansoddiad bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd ag Atodlen 2.

(4Rhaid i gyfansoddiad bwyd babanod gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Atodlen 3.

Sylweddau maethol a maetholion sydd wedi'u hychwanegu

6.—(1Wrth weithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod, rhaid peidio ag ychwanegu unrhyw sylwedd maethol ac eithrio sylwedd maethol a bennir yn Atodlen 4.

(2Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir yng ngholofn 1 o Ran I o Atodlen 5 ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir gyferbyn â'r maetholyn hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.

(3Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod a bennir yng ngholofn 1 o Ran II o Atodlen 5 beidio â chynnwys unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir gyferbyn â'r bwyd hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir yng ngholofn 3 o'r rhan honno.

Gweddillion plaleiddiaid

7.—(1Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys —

(a)unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yn Atodlen 6; na

(b)unrhyw omethoad, pan yw'n fetabolyn plaleiddiad nas pennir yn Atodlen 6, nac unrhyw gynnyrch sy'n deillio o ddiraddiant neu ymadwaith y metabolyn hwnnw,

ar lefel sy'n uwch na 0.003 mg/kg.

(2Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 7 ar lefel uwch na'r lefel a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r plaleiddiad hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o unrhyw blaleiddiad unigol nas pennir yn Atodlen 6 neu golofn 1 Atodlen 7 ar lefel sy'n uwch na 0.01 mg/kg.

(4Mae'r lefelau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) to (3) yn gymwys i'r bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu'r bwyd babanod —

(a)sydd wedi'i weithgynhyrchu fel bwyd sy'n barod i gael ei fwyta, neu

(b)os nad yw wedi'i weithgynhyrchu felly, fel y'i hailansoddiwyd yn unol â chyfarwyddiadau'i weithgynhyrchydd.

(5Rhaid i'r dulliau dadansoddi ar gyfer penderfynu lefelau gweddillion plaleiddiaid at ddibenion y rheoliad hwn fod yn ddulliau safonedig sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.

Labelu

8.—(1Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(8), rhaid i fwydydd proses sydd wedi'i seilio ar rawn a bwydydd babanod gael eu labelu â'r manylion canlynol —

(a)datganiad ynghylch o ba oedran priodol (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na phedwar mis) y caniateir defnyddio'r bwyd, o ystyried ei gyfansoddiad, ei ansawdd ffisegol neu ei nodweddion penodol eraill;

(b)gwybodaeth am bresenoldeb neu absenoldeb glwten os yw'r oedran sydd wedi'i ddatgan yn unol ag is-baragraff (a) yn llai na chwe mis;

(c)gwerth yr ynni sydd ar gael a hwnnw wedi'i fynegi mewn kJ a kcal, a'r cynnwys o ran protein, carbohydradau a braster, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed;

(ch)y maint cyfartalog, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed, o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin y mae gofyniad o ran uchafswm neu isafswm ei gyfansoddiad wedi'i bennu yn —

(i)Rhan II o Atodlen 1 yn achos bwydydd proses wedi'u seilio ar rawn; a

(ii)Atodlen 3 yn achos bwydydd babanod; a

(d)os yw'n angenrheidiol paratoi'r bwyd, cyfarwyddiadau priodol ar gyfer ei baratoi a datganiad ynglŷn â phwysigrwydd dilyn y cyfarwyddiadau hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1)(ch), rhaid peidio â labelu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod â maint cyfartalog unrhyw faetholyn a bennir yn Atodlen 4 oni bai —

(a)bod y maint cyfartalog yn cael ei fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed; a

(b)yn achos sylwedd mwynol neu fitamin, fod hwnnw'n sylwedd mwynol neu'n fitamin ac eithrio'r un y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(ch).

(3Os, yn unol â pharagraff (1)(ch) neu baragraff (2), y mae unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod wedi'i labelu â'r maint cyfartalog, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed, o unrhyw fitamin neu fwyn a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 8, rhaid i label y bwyd beidio â mynegi'r maint cyfartalog hwnnw fel canran o'r gwerth cyfeiriadol a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 8 mewn perthynas â fitamin neu'r mwyn hwnnw oni bai bod y maint sy'n bresennol yn hafal i 15 y cant neu fwy o'r gwerth cyfeiriadol.

Gorfodi

9.—(1Ac eithrio os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

(2 Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal o ran bwyd sydd wedi'i fewnforio.

Tramgwydd a chosb

10.  Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i reoliad 4, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Amddiffyniad ynglŷn ag allforion

11.  Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi —

(a)bod y bwyd, yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef, wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad sydd â deddfwriaeth debyg i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

(b)yn achos allforio i un o Wladwriaethau'r AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau'r Gyfarwyddeb(9).

Cymhwyso darpariaethau amrywiol y Ddeddf

12.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyn cyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad bod rhaid barnu bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(ff)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cymhwysir hi gan baragraff (e) uchod;

(g)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y cymhwysir hi gan baragraff (f) uchod;

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Dirymu

13.—(1Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997(10) a Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) 1999(11) mewn perthynas â Chymru.

(2Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001(12).

Diwygiad

14.—(1Diwygir Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990(13))(i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â pharagraff (2).

(2 Yn rheoliad 2(7) (gwahardd gwerthu etc fwyd sy'n cynnwys tryptoffan), yn y diffiniadau o “processed cereal-based food” a “baby food” yn lle'r geiriau “the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children Regulations 1997” rhowch y geiriau “the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Chwefror 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources