Search Legislation

Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliadau 2(1), 5(3) ac 8(1)(ch)

ATODLEN 1BWYDYDD SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN

RHAN I

Categorïau o fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn

1.  Grawn syml sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â llaeth neu hylifau maethlon priodol eraill.

2.  Grawn â bwyd uchel mewn protein sydd wedi'i ychwanegu ac sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â dwr neu hylif arall heb brotein.

3.  Pastau sydd i'w defnyddio ar ôl eu coginio mewn dwr berwedig neu hylifau priodol eraill.

4.  Bisgedi caled a bisgedi eraill sydd i'w defnyddio naill ai'n uniongyrchol neu, ar ôl eu malu'n fân, gan ychwanegu dwr, llaeth neu hylifau addas eraill atynt.

RHAN II

Cyfansoddiad hanfodol bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn

Mae'r gofynion ynglŷn â maetholion yn cyfeirio at y cynnyrch sy'n barod i'w defnyddio, sy'n cael eu marchnata fel y cyfryw neu sydd i'w hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Y cynnwys o ran grawn

1.  Mae bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn yn cael eu paratoi'n bennaf o un neu ragor o ydau grawn wedi'u malu a/neu gynhyrchion gwreiddiau startslyd.

Rhaid i gyfanswm yr ydau grawn a/neu'r cynnyrch gwreiddiau startslyd beidio â bod yn llai na 25 y cant o'r cymysgedd terfynol o gymharu pwysau sych y naill a phwysau sych y llall.

Protein

2.

2.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 2 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran protein beidio â bod yn fwy nag 1.3 g /100 kJ (5.5 g / 100 kcal).

2.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.48 g /100 kJ (2 g / 100 kcal).

2.3.  Yn achos bisgedi a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sydd wedi'u gwneud drwy ychwanegu bwyd uchel mewn protein, ac sy'n cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.36 g /100 kJ (1.5 g / 100 kcal).

2.4.  Rhaid i fynegrif cemegol y protein sydd wedi'i ychwanegu fod yn hafal i 80 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol (casein fel y'i diffinnir yn Atodlen 2), neu mae'n rhaid i gymhareb effeithlonrwydd protein (PER) y protein yn y cymysgedd fod yn hafal i 70 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol hwnnw. Ym mhob achos, dim ond at ddibenion gwella gwerth maethol y cymysgedd sy'n cynnwys y protein , a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw y caniateir ychwanegu asidau amino.

Carbohydradau

3.

3.1.  Os yw swcros, ffrwctos, glwcos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I:

  • rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.8 g / 100 kJ (7.5 g / 100 kcal),

  • rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.9 g / 100 kJ (3.75 g / 100 kcal).

3.2.  Os yw swcros, ffrwctos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:

  • rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.2 g / 100 kJ (5 g / 100 kcal),

  • rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.6 g / 100 kJ (2.5 g / 100 kcal).

Braster

4.

4.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal).

4.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal). Os yw'r cynnwys o ran braster yn fwy na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal):

(a)rhaid i gyfanswm yr asid lawrig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;

(b)rhaid i gyfanswm yr asid myristig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;

(c)rhaid i gyfanswm yr asid linolëig (ar ffurf glyseridau = linoleadau) beidio â bod yn llai na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal) a pheidio â bod yn fwy na 285 mg / 100 kJ (1200 mg / 100 kcal).

Mwynau

5.

Sodiwm

  • 5.1.  dim ond at ddibenion technolegol y caniateir ychwanegu halwynau sodiwm at fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn,

  • rhaid i'r sodiwm sydd wedi'i gynnwys mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn beidio â bod yn fwy na 25 mg /100 kJ (100 mg / 100 kcal).

Calsiwm

5.2.

5.2.1.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai nag 20 mg /100 kJ (80 mg / 100 kcal).

5.2.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sy'n cael eu gweithgynhyrchu drwy ychwanegu llaeth (bisgedi llaeth) atynt ac yn cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai na 12 mg /100 kJ (50 mg / 100 kcal).

Fitaminau

6.

6.1.  Yn achos bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn, rhaid i gyfanswm thiamin beidio â bod yn llai na 25 μg / 100 kJ (100 μg / 100 kcal).

6.2.  Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:

  • Mae'r terfynau canlynol yn gymwys:

  • Fesul 100 kJFesul 100 kcal
    IsafswmMwyafswmLleiafswmMwyafswm
    (1)

    RE = pob cyfwerthydd traws-retinol

    (2)

    Ar ffurf colecalsifferol, y mae 10 μg ohono = 400 i.u. o Fitamin D

    Fitamin A (μg RE)(1)144360180
    Fitamin D (μg)(2)0.250.7513
  • Mae'r terfynau hyn yn gymwys hefyd os yw fitaminau A a D yn cael eu hychwanegu at fwydydd proses eraill sydd wedi'u seilio ar rawn.

Rheoliad 5(3) ac Atodlen1, Rhan II, Paragraff 2.4

ATODLEN 2CYFANSODDIAD CASEIN O RAN ASIDAU AMINO

Asid Amino(g fesul 100 g o brotein)
Arginin3.7
Cystin0.3
Histidin2.9
Isolewcin5.4
Lewcin9.5
Lysin8.1
Methionin2.8
Ffenylalanin5.2
Threonin4.7
Tryptoffan1.6
Tyrosin5.8
Falin6.7

Rheoliadau 5(4) ac 8(1)(ch)

ATODLEN 3CYFANSODDIAD HANFODOL BWYDYDD BABANOD

Mae'r gofynion ynglŷn â maetholion yn cyfeirio at y cynhyrchion sy'n barod i'w defnyddio, sydd wedi'u marchnata fel y cyfryw neu neu wedi'u hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Protein

1.

1.1.  Os cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein yw'r unig gynhwysion sydd wedi'u crybwyll yn enw'r cynnyrch, yna:

  • rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 40 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,

  • rhaid i bob cig, dofednod, pysgodyn, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant, yn ôl pwysau, o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,

  • rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai nag 1.7 g / 100 kJ (7g / 100 kcal).

1.2.  Os crybwyllir cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein, yn unigol neu'n gyfunol, yn gyntaf yn enw'r cynnyrch, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:

  • rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 10 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,

  • rhaid i bob cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant yn ôl pwysau o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,

  • rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai nag 1 g / 100 kJ (4g / 100 kcal).

1.3.  Os crybwyllir cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein, yn unigol neu'n gyfunol, yn enw'r cynnyrch, ond nid yn gyntaf, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:

  • rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai nag 8 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,

  • rhaid i bob cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant, yn ôl pwysau, o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,

  • rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai na 0.5 g / 100 kJ (2.2g / 100 kcal),

  • rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).

1.4.  Os yw caws wedi'i grybwyll ynghyd â chynhwysion eraill yn enw cynnyrch sawrus, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:

  • rhaid i'r protein o'r ffynonellau llaeth beidio â bod yn llai na 0.5 g / 100 kJ (2.2 g / 100kcal),

  • rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).

1.5.  Os yw'r cynnyrch wedi'i ddynodi'n bryd bwyd ar y label, ond nad cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell brotein draddodiadol arall wedi'u crybwyll yn enw'r cynnyrch, rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).

1.6.  Mae sawsiau sy'n cael eu cyflwyno'n gyfwydydd pryd bwyd yn esempt rhag gofynion paragraff 1.1 i 1.5.

1.7.  Rhaid i seigiau melus, y mae cynhyrchion llaeth wedi'u crybwyll yn gynhwysyn cyntaf neu'n unig gynhwysyn yn enwau'r seigiau hynny, beidio â chynnwys llai na 2.2 g o brotein llaeth / 100 kcal. Mae pob saig felus arall yn esempt rhag y gofynion ym mharagraffau 1.1 i 1.5.

1.8.  Dim ond er mwyn gwella gwerth maethol y protein sy'n bresennol, a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw, y caniateir ychwanegu asidau amino.

Carbohydradau

2.  Rhaid i feintiau'r carbohydradau cyfan sy'n bresennol mewn suddau a neithdarau ffrwythau a llysiau, seigiau ffrwythau-yn-unig, a melysfwydydd neu bwdinau beidio â bod yn fwy na'r canlynol:

  • — 10 g / 100 ml ar gyfer suddau llysiau a diodydd sydd wedi'u seilio arnynt,

  • — 15 g / 100 ml ar gyfer suddau a neithdarau ffrwythau a diodydd sydd wedi'u seilio arnynt,

  • — 20 g / 100 g ar gyfer seigiau ffrwythau-yn-unig,

  • — 25 g / 100 g ar gyfer melysfwydydd a phwdinau,

  • — 5 g / 100 g ar gyfer diodydd eraill nad ydynt wedi'u seilio ar laeth.

Braster

3.

3.1.  Yn achos cynhyrchion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1.1, os cig neu gaws yw'r unig gynhwysion neu os hwy sydd wedi'u crybwyll gyntaf yn enw cynnyrch, rhaid i gyfanswm y braster yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn fwy nag 1.4 g / 100 kJ (6g / 100 kcal).

3.2.  Yn achos pob cynnyrch arall rhaid i gyfanswm y braster yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn fwy nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal).

Sodiwm

4.

4.1.  Rhaid i'r cynnwys terfynol o ran sodiwm yn y cynnyrch naill ai beidio â bod yn fwy nag 48 mg /100 kJ (200 mg / 100 kcal) neu beidio â bod yn fwy na 200 mg fesul 100 g. Er hynny, os caws yw'r unig gynhwysyn sydd wedi'i grybwyll yn enw'r cynnyrch, rhaid i'r cynnwys terfynol o ran sodiwm yn y cynnyrch beidio â bod yn fwy na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal).

4.2.  Ni chaniateir ychwanegu halwynau sodiwm at gynhyrchion sydd wedi'u seilio ar ffrwythau, nac at felysfwydydd neu bwdinau ac eithrio at ddibenion technolegol.

Fitaminau

5.  Fitamin C —

  • Mewn sudd ffrwythau, neithdar, neu sudd llysiau rhaid i'r cynnwys terfynol o ran fitamin C yn y cynnyrch naill ai beidio â bod yn llai na 6 mg /100 kJ (25 mg / 100 kcal) neu beidio â bod yn llai na 25 mg fesul 100 g.

  • Mewn suddion llysiau, rhaid i'r cynnwys terfynol o ran fitamin A yn y cynnyrch beidio â bod yn llai na 25 μg RE/100 kJ (100 μg RE/100 kcal) ac, at ddibenion y paragraff hwn, RE = pob cyfwerthydd traws-retinol.

  • Fitamin A —

  • Rhaid peidio ag ychwanegu fitamin A at fwydydd babanod eraill.

  • Fitamin D —

  • Rhaid peidio ag ychwanegu fitamin D at fwydydd babanod.

Rheoliadau 6(1) ac 8(2)

ATODLEN 4SYLWEDDAU MAETHOL

1.  Fitaminau

  • Fitamin A

  • Retinol

  • Retinyl asetad

  • Retinyl palmitad

  • Beta-caroten

  • Fitamin D

  • Fitamin D2 (= ergocalsifferol)

  • Fitamin D3 (= colecalsifferol)

  • Fitamin B1

  • Thiamin hydroclorid

  • Thiamin mononitrad

  • Fitamin B2

  • Ribofflafin

  • Ribofflafin-5'-ffosffad, sodiwm

  • Nïacin

  • Nicotinamid

  • Asid nicotinig

  • Fitamin B6

  • Pyridocsin hydroclorid

  • Pyridocsin-5-ffosffad

  • Pyridocsin deupalmitad

  • Asid pantothenig

  • D-pantothenad, calsiwm

  • D-pantothenad, sodiwm

  • Decspanthenol

  • Ffolad

  • Asid ffolig

  • Fitamin B12

  • Cyanocobalamin

  • Hydrocsocobalamin

  • Biotin

  • D-biotin

  • Fitamin C

  • L-asid asgorbig

  • Sodium L-asgorbad

  • Calsiwm L- asgorbad

  • 6-palmityl-L- asid asgorbig (ascorbyl palmitad)

  • Potasiwm asgorbad

  • Fitamin K

  • Ffylocwinon (ffytomenadion)

  • Fitamin E

  • D-alffa tocofferol

  • DL- alffa tocofferol

  • D- alffa tocofferol asetad

  • DL- alffa tocofferol asetad

Asidau amino

2.  L-arginin }

  • L-cystin }

  • L-histidin } a'u hydrocloridau

  • L-isolewcin }

  • L-lewcin }

  • L-lysin }

  • L-cystein }

  • L-methionin

  • L-ffenylalanin

  • L-threonin

  • L-tryptoffan

  • L-tyrosin

  • L-falin

Eraill

3.  Colin

  • Colin clorid

  • Colin citrad

  • Colin bitartrad

  • Inositol

  • L-carnitin

  • L-carnitin hydroclorid

Halwynau mwynau ac elfennau hybrin

4.  Calsiwm

  • Calsiwm carbonad

  • Calsiwm clorid

  • Halwynau calsiwm asid citrig

  • Calsiwm glwconad

  • Calsiwm glyseroffosffad

  • Calsiwm lactad

  • Calsiwm ocsid

  • Calsiwm hydrocsid

  • Halwynau calsiwm asid orthoffosfforig

  • Magnesiwm

  • Magnesiwm carbonad

  • Magnesiwm clorid

  • Halwynau magnesiwm asid citrig

  • Magnesiwm glwconad

  • Magnesiwm ocsid

  • Magnesiwm hydrocsid

  • Halwynau magnesiwm asid orthoffosfforig

  • Magnesiwm sylffad

  • Magnesiwm lactad

  • Magnesiwm glyseroffosffad

  • Potasiwm

  • Potasiwm clorid

  • Halwynau potasiwm asid citrig

  • Potasiwm glwconad

  • Potasiwm lactad

  • Potasiwm glyseroffosffad

  • Haearn

  • Citrad fferrus

  • Amoniwm citrad fferrig

  • Glwconad fferrus

  • Lactad fferrus

  • Sylffad fferrus

  • Ffwmarad fferrus

  • Deuffosffad fferrig (pyroffosffad fferrig)

  • Haearn elfennol (carbonyl + electrolytig + wedi'i rydwytho â hydrogen)

  • Sacarad fferrig

  • Sodiwm ferrig deuffosffad

  • Carbonad fferrus

  • Copr

  • Cymhligyn Copr-lysin

  • Carbonad cwprig

  • Citrad cwprig

  • Glwconad cwprig

  • Sylffad Cwprig

  • Zinc

  • Zinc asetad

  • Zinc citrad

  • Zinc lactad

  • Zinc sylffad

  • Zinc ocsid

  • Zinc glwconad

  • Manganîs

  • Manganîs carbonad

  • Manganîs clorid

  • Manganîs citrad

  • Manganîs glwconad

  • Manganîs sylffad

  • Manganîs glyseroffosffad

  • Ïodin

  • Sodiwm ïodid

  • Potasiwm ïodid

  • Potasiwm ïodad

  • Sodiwm ïodad

Rheoliad 6(2) a (3)

ATODLEN 5Y TERFYNAU UCHAF AR GYFER FITAMINAU, MWYNAU AC ELFENNAU HYBRIN, OS YDYNT WEDI'U HYCHWANEGU, MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN A BWYDYDD BABANOD

RHAN ICyffredinol

Colofn 1Colofn 2
MaetholynY terfyn uchaf fesul 100 kcal(1)
(1)

Oni ddywedir fel arall yng ngholofn 2 o Ran I neu golofn 3 o Ran II, mae'r terfynau uchaf a bennir yn y colofnau hynny yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w ddefnyddio, p'un a yw'n cael ei farchnata fel y cyfryw neu i'w ailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

Fitamin E3 mg a-TE
Ribofflafin0.4 mg
Nïasin4.5 mg NE
Fitamin B60.35 mg
Asid ffolig50 μg
Fitamin B120.35 μg
Asid pantothenig acid1.5 mg
Biotin10 μg
Potasiwm160 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)
Magnesiwm40 mg
Haearn3 mg
Zinc2 mg
Copr40 μg
Ïodin35 μg
Manganîs0.6 mg

RHAN IIBwydydd Penodedig

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
BwydMaetholynTerfyn uchaf fesul 100 kcal(1)
(1)

Oni ddywedir fel arall yng ngholofn 2 o Ran I neu golofn 3 o Ran II, mae'r terfynau uchaf a bennir yn y colofnau hynny yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w ddefnyddio, p'un a yw'n cael ei farchnata fel y cyfryw neu i'w ailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

(2)

RE = pob cyfwerthydd traws-retinol.

1.  Suddau llysiau sy'n fwydydd babanod

Fitamin A180 μg RE(2)

2.  Bwyd wedi'i atgyfnerthu â haearn

Fitamin C25 mg

3.  Seigiau wedi'u seilio ar ffrwythau, suddau ffrwythau, neithdarau neu suddau llysiau

Fitamin C125 mg

4.  Bwyd ac eithrio bwyd o o dan eitem Rhif 2 neu 3 uchod

Fitamin C12.5 mg

5.  Bwyd proses wedi'i seilio ar rawn

Thiamin0.5 mg

6.  Bwyd babanod

Thiamin0.25 mg

7.  Bwyd o fewn paragraff 1 neu 2 o Ran I o Atodlen 1

Calsiwm180 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)

8.  Bwyd o fewn paragraff 4 o Ran I o Atodlen 1

Calsiwm100 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)

9.  Bwyd ac eithrio bwyd o f ewn eitem Rhif 7 neu 8 uchod

Calsiwm80 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)

Rheoliad 7(1) a (3)

ATODLEN 6PLALEIDDIAID Y MAE RHAID I'W GWEDDILLION BEIDIO Å BOD YN BRESENNOL MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN NEU FWYDYDD BABANOD AR LEFEL SY'N UWCH NA 0.003 MG/KG

Enw cemegol

Aldrin a deueldrin, wedi'u mynegi fel deueldrin

Deusylffoton (swm deusylffoton, deusylffoton sylffocsid a deusylffoton sylffon wedi'u mynegi fel deusylffoton)

Endrin

Ffenswlffothion (swm ffenswlffothion, ei gydwedd ocsigen a'u sylffonau, wedi'u mynegi fel ffenswlffothion)

Ffentin, wedi'i fynegi fel triffenyltin cation

Halocsyffop (swm halocsyffop, ei halwynau a'i esterau gan gynnwys cyfiau, wedi'u mynegi fel halocsyffop)

Heptaclor a thraws-heptaclor epocsid, wedi'u mynegi fel heptaclor

Hecsaclorobensen

Nitroffen

Omethoad

Terbwffos (swm terbwffos, ei sylffocsid a'i sylffon, wedi'u mynegi fel terbwffos)

Rheoliad 7(2) a (3)

ATODLEN 7LEFELAU GWEDDILLION UCHAF PENODOL PLALEIDDIAID PENODOL MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR FWYD NEU FWYDYDD BABANOD

Colofn 1Colofn 2
Enw cemegol y sylweddY lefel weddillion uchaf(mg/kg)
Cadwsaffos0.006
Demeton-S-methyl /demeton-S-methyl sylffon/ocsydemeton-methyl (yn unigol neu'n gyfunol, wedi'i fynegi fel demeton-S-methyl)0.006
Ethoproffos0.008
Ffipronil (swm ffipronil a ffipronil-desylffinyl, wedi'u mynegi fel ffipronil)0.004
Propineb/propylenethiowrea (swm propineb a phropylenethiowrea)0.006

Rheoliad 8(3)

ATODLEN 8GWERTHOEDD CYFEIRIADOL AR GYFER LABELI MAETH AR GYFER BWYDYDD SYDD WEDI'U BWRIADU AR GYFER BABANOD A PHLANT IFANC

Colofn 1Colofn 2
MaetholynGwerth cyfeiriadol ar gyfer labeli
Fitamin A(μg) 400
Fitamin D(μg) 10
Fitamin C(mg) 25
Thiamin(mg) 0.5
Ribofflafin(mg) 0.8
Cyfwerthyddion nïacin equivalents(mg) 9
Fitamin B6(mg) 0.7
Ffolad(μg) 100
Fitamin B12(μg) 0.7
Calsiwm(mg) 400
Haearn(mg) 6
Zinc(mg) 4
Ïodin(μg) 70
Seleniwm(μg) 10
Copr(mg) 0.4

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources