Search Legislation

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 13

YR ATODLENFFACTORAU NEU FEINI PRAWF YCHWANEGOL Y CANIATEIR EU CYMRYD I YSTYRIAETH MEWN FFORMWLA AWDURDOD ADDYSG LLEOL O DAN REOLIAD 13

Oni nodir yn wahanol caniateir i'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir isod yn yr Atodlen hon gael eu cymryd i ystyriaeth gan awdurdod addysg lleol yn ei fformwla ar sail y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig.

Pan fo awdurdod addysg lleol yn cymryd i ystyriaeth mewn blwyddyn ariannol ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i, ffactorau neu feini prawf a gymerwyd i ystyriaeth yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caniateir iddo wneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol y mae'n credu ei bod yn rhesymol.

1.  Anghenion addysgol arbennig disgyblion a benderfynwyd mewn ffordd y mae'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol fel modd i asesu anghenion o'r fath.

2.  Disgyblion nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

3.  Trosiant disgyblion ac eithrio fel rhan o'r broses derbyniadau cyffredinol mewn ysgol.

4.  I ba raddau y mae'r awdurdod yn talu costau trefniadau derbyn mewn ysgol ac eithrio o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol.

5.  Maint a chyflwr adeiladau a thiroedd ysgol o'u cymharu â rhai ysgolion eraill a gynhelir gan yr awdurdod: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfeydd a gyhoeddir gan yr awdurdod sy'n adlewyrchu (i'r graddau y mae hynny'n briodol) ddyletswyddau statudol cyrff llywodraethu o ran mangreoedd ysgol a'u cymhwyster i gael grant gan y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw adran o'r llywodraeth.

6.  Ysgol a chanddi safle wedi'i rannu: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â meini prawf a gyhoeddir gan yr awdurdod.

7.  Cyfleusterau, ar gyfer addysgu disgyblion, a geir mewn rhai ysgolion yn unig.

8.  Ardrethi sy'n daladwy am fangre pob ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

9.  Y ffioedd am ddŵr a charthffosiaeth (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

10.  Defnydd ysgolion ar ynni.

11.  Y rhent sy'n daladwy am fangre ysgol neu daliadau am ddefnydd ysgol ar gyfleusterau nad ydynt wedi'u meddiannu gan yr ysgol honno'n unig (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

12.  Glanhau mangre ysgol.

13.  Cludiant yn ôl ac ymlaen i weithgareddau y tu allan i fangre ysgol sy'n ffurfio rhan o gwricwlwm yr ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

14.  Llogi cyfreusterau y tu allan i fangre ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

15.  Mewn achosion lle mae swm ar gyfer yswiriant i'w gynnwys yng nghyfran cyllideb yr ysgol —

(a)pan fo'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o wariant cynlluniedig yr awdurdod ar yswiriant; neu,

(b)pan nad yw'r awdurdod yn yswirio, y rhan briodol o'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i wario pe bai wedi yswirio,

i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod y mae'n rhaid iddo roi sylw i nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol.

16.  Taliadau mewn perthynas â thrafodiad cyllid preifat fel y diffinnir “private finance transaction” yn rheoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997(1) (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

17.  Symiau sy'n daladwy i ysgol sydd, yn sgil cau un neu ragor o ysgolion a gynhelir, naill ai'n ysgol sy'n cael ei sefydlu neu, yn unol â Phennod II o Ran II o Ddeddf 1998, yn destun addasiadau rhagnodedig, i adlewyrchu i ba raddau y mae ysgol sydd wedi'i chau wedi gwario mwy na'i chyfran o'r gyllideb (o fewn ystyr “budget share” yn Neddf 1996 neu 1998) neu nad yw wedi gwario'r cyfan ohoni mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Rhaid i unrhyw ffactor neu feini prawf o'r fath ddarparu bod rhaid i unrhyw swm a ddidynnir beidio â bod yn fwy na'r swm y mae'r ysgol yn ei gael yn ystod y flwyddyn ariannol fel rhan o'i chyfran o'r gyllideb am ei bod yn ysgol newydd.

18.  A yw'r ysgol i gael ei chau yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw.

19.  Llaeth ysgol, prydau bwyd a lluniaeth arall: ni chaiff yr awdurdod drin unrhyw elfen o'r gwariant hwn yn wariant â gwerth negyddol.

20.  Cyflogau mewn ysgol (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig): rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

21.  Diogelu cyflogau yn unol â gorchmynion sy'n cael eu gwneud o bryd i'w gilydd o dan adran 122 o Ddeddf 2002(2) neu ddiogelu cyflogau eraill.

22.  Lwfansau blaenoriaeth gymdeithasol yn unol â Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol sy'n cael effaith yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 122 o Ddeddf 2002(3) (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

23.  Yr angen i daliadau sengl gael eu dyrannu i ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd neu ysgolion arbennig, neu unrhyw gyfuniad o ysgolion o'r fath, ni waeth beth fo'u maint.

24.  Yr angen i daliadau gael eu dyrannu i ysgolion y mae eu maint wedi'i bennu gan yr awdurdod ac sy'n bodloni amodau eraill a bennwyd ganddo.

25.  Ysgolion y câi eu cyfrannau cyllideb eu gostwng fel arall flwyddyn ar ôl blwyddyn â mwy na phump y cant: rhaid i'r cyllid gydymffurfio â graddfa a gyhoeddir gan yr awdurdod.

26.  Contractau y mae corff llywodraethu ysgol yn rhwym iddynt yn rhinwedd darpariaeth yng nghynllun yr awdurdod (gan gynnwys y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig).

27.  Costau gweinyddu cyflogres: rhaid i'r cyllid fod wedi'i seilio ar nifer y staff yn yr ysgol, oni ddefnyddir ffactorau a ganiateir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.

28.  Unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill nad ydynt fel arall yn dod o dan yr Atodlen hon, ar yr amod nad yw'r cyfanswm a ddyrannwyd yn unol â fformwla'r awdurdod, o ystyried ffactorau neu feini prawf o'r fath, yn fwy nag un y cant o gyllideb ysgolion yr awdurdod.

29.  Effaith trethi ar ysgolion.

30.  Mynychder disgyblion o leiafrifoedd ethnig y mae eu lefelau cyrhaeddiad academaidd mewn perthynas â disgyblion eraill yn ardal yr awdurdod yn is na'r cyfartaledd, a hynny i'w benderfynu ar sail a benderfynir gan yr awdurdod.

31.  Mynychder dosbarthiadau a lleoedd meithrin sy'n cael eu cydnabod gan yr awdurdod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

32.  Mynychder Athrawon Newydd Gymhwyso.

33.  Datblygiad tai neu symudiadau lluoedd arfog sy'n arwain at gynnydd neu ostyngiad o 20% o leiaf yn y niferoedd ar y gofrestr mewn ysgol yn y flwyddyn ariannol o dan sylw.

34.  Cyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy'n dechrau mewn ysgol.

35.  Meintiau dosbarthiadau babanod y cyfyngwyd arnynt drwy Reoliadau a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf 1998(4): caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwaraint a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i'r Rheoliadau hynny.

36.  Meintiau dosbarthiadau iau y cyfyngwyd ar y nifer ynddynt i uchafswm o 30 o ddisgyblion: caiff yr awdurdod gynnwys swm sy'n adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn gwariant a dynnwyd o ganlyniad uniongyrchol i amodau sydd wedi'u cynnwys mewn unrhyw grant arbennig a wnaed yn unol ag adran 88A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(5) neu mewn unrhyw drefniadau ar gyfer cymorth ariannol a roddwyd yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2002 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod safonau ysgol yn cael eu gwella drwy leihau meintiau dosbarthiadau.

(2)

Ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud O.S. 2003/2169 yw'r gorchymyn perthnasol.

(3)

Ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud, Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol 2003 (ISBN 0 11 271146-4) yw'r ddogfen berthnasol. Rhoddwyd effaith i'r ddogfen honno yng Ngorchymyn Addysg (Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol) 2003 (O.S. 2003/2169) a rhoddwyd effaith i ddiwygiadau iddi yn O.S. 2003/2640 a 2004/658.

(4)

Rheoliadau Addysg (Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1943) yw'r Rheoliadau perthnasol ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources