Search Legislation

The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) Regulations 1991

 Help about what version

What Version

  • Latest available (Revised)
  • Original (As made)

More Resources

Status:

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

FFURFLEN 3CAIS AM GRANT RHANNAU CYFFREDIN(Enw a chyfeiriad y Cyngor)

DYMA'R FFURFLEN GAIS I'W DEFNYDDIO WRTH WNEUD CAIS AM GRANT RHANNAU CYFFREDIN, AR GYFER CYFLAWNI GWAITH GWELLA NEU AT- GYWEIRIO I RANNAU CYFFREDIN ADEILAD SY'N CYNNWYS UN NEU RAGOR O FFLATIAU. DYLID DEFNYDDIO FFURFLENNI ERAILL OS YDYCH YN GWNEUD CAIS AM GRANT ADNEWYDDU (FFURFLEN 1), GRANT CYFLEUSTERAU I'R ANABL (FFURFLEN 2) NEU GRANT Ty MEWN AMLDDALIADAETH (FFURFLEN 4). AR ÔL I CHI LENWI'R FFURFLEN HON, DYCHWELWCH HI I'R CYNGOR:

OS YDYCH YN ANSICR YNGHYLCH SUT MAE ATEB UNRHYW UN O'R CWEST- IYNAU, CYSYLLTWCH Å:

(Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person i gysylltu ag ef/hi yn y Cyngor)

PWYSIGDARLLENWCH Y NODIADAU CANLYNOL CYN DECHRAU LLENWI'R FFURFLEN GAIS HON

A.  Rhaid trin pob cyfeiriad at “chi” ac “eich” yn y ffurflen gais hon— ac eithrio yn Adran A Rhan 3-fel cyfeiriad at yr ymgeisydd am grant neu, fel y bo'r achos, at bob un o'r ymgeiswyr.

B.  Ni fydd eich cais yn ddilys oni lenwch hôll rannau perthnasôl y ffurflen hon ac amgáu'r dogfennau angenrheidiôl a fynnir yn Rhan 4.

C.  Mae “tenant” yn y ffurflen hon yn cynnwys rhywun sydd a thenantiaeth fflat lle mae o leiaf 5 mlynedd o'r denantiaeth honno eto i redeg adeg gwneud y cais.

D.  Mae dau fath o gais ar gyfer grantiau rhannau cyffredin, ac ymdrinir â'r ddau ohonynt yn y ffurflen hon. Os ydych yn berchen rhyddfraint yr adeilad neu denantiaeth ohono ac o leiaf 5 mlynedd ohoni i fynd, gallwch wneud “cais rhannau cyffredin gan landlord” cyhyd a bod gennych hefyd bwer neu ddyletswydd i gyflawni'r gwaith dan sylw. Fel rheôl, os ydych yn denant fflat yn yr adeilad, neu'n meddiannu'r fflat fel eich unig neu eich prif breswylfan a bod dyletswydd arnoch i gyflawni peth neu'r cyfan o'r gwaith neu i gyfrannu at gostau eu cyflawni, gallwch ymuno a “chais rhannau cyffredin gan denantiaid”. Bydd angen i o leiaf dri-chwarter y tenantiaid sydd yn y sefyllfa hon yn yr adeilad ymwneud a chais rhannau cyffredin gan denantiaid: ni allwch wneud cais ar eich pen eich hun. Gall landlordiaid hefyd ymuno a'u tenantiaid (fel “landlordiaid cyfranogi” ) mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid.

E.  Os ydych yn gwneud cais rhannau cyffredin gan denantiaid, gall fod angen caniatâd eich landlord arnoch i gyflawni gwaith-er enghraifft, os oes dyletswydd arnoch i gyfrannu at gostau'r gwaith, ond lle mae'n ddyletswydd ar y landlord i'w gyflawni. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno eich cais.

F.  Gall y rhai sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid ddymuno penodi rhywun i gydgysylltu eu cais, ac os cymeradwyir y cais gallai unrhyw ffioedd a dynnwyd gael eu cynnwys yn y costau sy'n sail i gyfrif y grant. Rhagwelir mai un yn unig o'r rhai sy'n cyfranogi fydd yn cyflwyno'r wybodaeth a fynnir yn Rhannau 1 a 4 y ffurflen; yn achos y wybodaeth a fynnir gan Rannau 2 a 3, rhaid i bob un sy'n cyfranogi gyflwyno'r wybodaeth honno ohono'i hun.

G.  Nid yw grant rhannau cyffredin ar gael ar gyfer unrhyw adeilad sy'n llai na 10 mlwydd oed neu, lle crewyd y rhannau cyffredin wrth addasu adeilad, lle gwnaed yr addasu lai na 10 mlynedd yn ôl.

H.  Os oes gennych forgais, fe allwch gael bod y telerau'n gofyn i chi gael caniatâd eich morgeisiai i wneud cais am grant (neu gyflawni gwaith). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno cais.

I.  Nid yw grant rhannau cyffredin ar gael i ddarpar-brynwyr adeiladau neu fflatiau.

J.  Os yw'r gwaith y dymunwch ei gyflawni yn addasiadau neu'n welliannau i rannau cyffredin er lles person anabl sy'n byw mewn fflat yn yr adeilad, dylech wneud cais am grant cyfleusterau i'r anabl (Ffurflen 2).

K.  Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Gellir gwneud eithriadau lle bo'r gwaith yn ofynnôl er mwyn cydymffurfio a rhai rhybuddion (e.e. y rhai a gyflwynir o dan adrannau 189 neu 190 Deddf Tai 1985). Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.

L.  Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—

Rhan 1

  • sy'n gofyn am wybodaeth am yr eiddo â'r gwaith sydd i'w gyflawni.

Rhan 2

  • sy'n gofyn am wybodaeth am y diddordeb sydd gennych yn yr adeilad neu mewn fflat yn yr adeilad, ac am y ffordd y'i meddiennir. Mae dwy ran i'r adran hon, a rhaid i bob un sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid lenwi'r Adran berthnasôl yn y rhan hon*.

Rhan 3

  • sydd mewn dwy adran, a rhaid i chi lenwi un yn unig o'r rhain. Mae Adran A yn gofyn am wybodaeth am deulu ac adnoddau ariannôl y tenantiaid. Rhaid i bob un sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid lenwi Adran A y rhan hon.* Mae Adran B yn gofyn am wybodaeth ariannôl oddi wrth landlordiaid.

Rhan 4

  • sy'n ei gwneud yn ofynnôl amgau amrywiôl ddogfennau gydâ'r cais. Mae'n ofynnôl hefyd i bob un sy'n cyfranogi lofnodi datganiad ynglyn â'r wybodaeth y mae'n ei rhoi yn y cais.

Gwnewch yn siŵr bod pob un sy'n cyfranogi yn cael copiu dyblyg o Rannau 2 a 3 i'w llenwi.

M.  Mae'r cyfeiriadau at nodiadau yn y ffurflenni yn gyfeiriadau at y nodiadau a rifwyd ar ddiwedd y ffurflen.

CYFEIRIADAU AR GYFER GOHEBIAETH

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.

Original (As Enacted or Made): The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources