- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
4.—(1) Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—
(a)gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y man archwilio ar y ffin sydd wedi'i ddynodi a'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol yn unig ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002;
(b)gan yr Asiantaeth —
(i)mewn mangre y mae'n ofynnol iddi gael ei thrwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(1), Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995(2), neu Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Archwilio) 1995(3); a
(ii)mangre gyfun fel y diffinir “combined premises” yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994(4), neu Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995(5); ac
(c)yn ddarostyngedig i reoliad 16, gan bob awdurdod lleol o fewn ei ardal, gan gynnwys wrth unrhyw fan archwilio ar y ffin sydd ynddi, ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ac mewn mangre y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).
(2) At ddibenion gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth rannu gwybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi'r Reholiadau hyn gyda'r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban at ddibenion gorfodi'r ddeddfwriaeth ym maes cyflwyno cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac sy'n dod o drydydd gwledydd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn ôl eu trefn.
(4) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn lleihau effaith unrhyw bŵ er arall sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth i ddatgelu gwybodaeth.
O.S. 1995/539, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/731, 1763, 2148, 2200, 3124, 3189, 1996/1148, 2235, 1792 a 2074, 2000/656 a 2257, 2001/1508, 2198 a 2627 a 2002/129 a 1476.
O.S. 1995/540, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, 2200, 3205, 1997/1729, 2000/656, 2257, 2001/2198, 2002/47 a 1476.
O.S. 1995/2148, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3205 a 2000/656.
O.S. 1994/3082, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/539, 1763, 2200, 3205, 1996/1499, 1999/683, 2000/656, 1885, 2257, 2001/2198 a 2002/129.
O.S. 1995/3205, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/3124, 2000/656, 2257, 2001/1508, 1740, 1802, 2198, 3459 a 2002/129.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: