Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amodau mewnforio” (“import conditions”) mewn perthynas â chynnyrch, yw'r amodau a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2, gan gynnwys —

(a)

amodau ynglŷn â gwlad darddiad neu sefydliad tarddiad y cynnyrch,

(b)

gofynion penodol a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw i Aelod-wladwriaeth benodol neu ardal benodol o Aelod-wladwriaeth, ac

(c)

amodau a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw at ddibenion penodol;

ystyr “archwilydd pysgod swyddogol” (“official fish inspector”) yw swyddog iechyd yr amgylchedd a benodwyd yn archwilydd pysgod swyddogol gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 6(2)(b);

ystyr “yr Asiantaeth (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod lleol”(“local authority”)—

(a)

pan fydd awdurod iechyd porthladd, yw'r awdurodd iechyd porthladd hwnnw;

(b)

pan nad oes unrhyw awdurdod iechyd porthladd, yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol;

mae “cludydd sydd â gofal am y tro” (“carrier who has charge for the time being”) dros gynnyrch, llwyth neu ran o lwyth yn cynnwys gyrrwr unrhyw gerbyd, peilot unrhyw awyren a meistr unrhyw long (ond nid gyrrwr unrhyw drên) sy'n cludo'r cynnyrch hwnnw, y llwyth hwnnw neu'r rhan honno o'r llwyth;

ystyr “y Cod Tollau” (“the Customs Code”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol(1);

ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Tollau Tramor a Chartref;

ystyr “Cyfarwyddeb 92/118/EEC (“Directive 92/118/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid a iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu masnach yn y Gymuned a mewnforion iddi o gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hyn a nodwyd mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC)(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 97/78/EC” (“Directive 97/78/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd(3);

ystyr “cyflwyno” (“introduce”) yw dod â chynnyrch i mewn; ac mae person yn cyflwyno cynnyrch i diriogaeth neu ardal, os—

(a)

y mae'r person hwnnw yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu'r ardal honno fel ei berchennog;

(b)

y mae'r person hwnnw yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu'r ardal honno fel cludydd; neu

(c)

y mae cludydd yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu'r ardal honno yn unol â chyfarwyddiadau'r person hwnnw;

ond nid yw cynnyrch ar gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol a hwnnw'n gynnyrch sydd wedi'i fwriadu i griw neu deithwyr y cyfrwng cludo hwnnw ei fwyta neu ei yfed yn cael ei gyflwyno i diriogaeth neu ardal os nad yw'n cael ei ddadlwytho, neu os yw'n cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol o un cyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol i un arall yn yr un porthladd neu faes awyr ac o dan oruchwyliaeth, o fewn ystyr Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau, gan y Comisiynwyr;

mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthyglau 23(2) a 24 o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fishery products”) yw pob anifail dŵ r môr a dŵ r croyw, p'un a yw'n fyw neu beidio, gan gynnwys —

(a)

anifeiliaid dyframaeth a chynhyrchion dyframaeth fel y diffinnir “aquaculture animals” ac “aquaculture products” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC ynglŷn ag amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu gwaith rhoi anifeiliaid a chynhyrchion dyframaeth ar y farchnad(4),

(b)

molysgiaid deufalf fel y diffinnir “bivalve molluscs” yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/492/EEC sy'n gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad folysgiaid deufalf byw(5),

(c)

echinodermau, tiwnigogion a gastropodau morol, ac

(ch)

cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaeth fel y diffinnir “fishery products” ac “aquaculture products” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/493/EEC sy'n gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi cynhyrchion pysgodfeydd ar y farchnad(6);

ond nid yw'n cynnwys mamaliaid dyfrol, ymlusgiaid a llyffantod, a rhannau ohonynt;

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw—

(a)

unrhyw gynnrych sy'n tarddu o anifeiliaid ac a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC (sy'n pennu'r rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth fannau archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC)(7));

(b)

gwair; ac

(c)

gwellt,

ond nid yw'n cynnwys cynhyrchion bwyd cyfansawdd fel y'u pennir yn Erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC;

ystyr “cynnyrch a drawslwythwyd” (“transhipped product”) yw cynnyrch Erthygl 9 sydd wedi'i drawslwytho neu wedi'i ddadlwytho yn y ffordd a ddisgrifir (mewn perthynas â llwythi) yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 97/78/EC yn y man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno;

ystyr “cynnyrch a ddychwelwyd” (“returned product”) yw cynnyrch a allforiwyd yn wreiddiol o diriogaeth dollau'r Gymuned ac sydd wedi'i ddychwelyd yno am ei fod wedi'i wrthod gan drydedd wlad;

ystyr “cynnyrch Erthygl 9” (“Article 9 product”) yw cynnyrch o drydedd wlad sy'n cael ei gyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol wrth un man archwilio ar y ffin ond sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio drwy un arall, fel y'i disgrifir (mewn perthynas â llwythi) yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, p'un a yw'r cynnyrch wedi'i drawslwytho neu wedi'i ddadlwytho wrth y man archwilio cyntaf ar y ffin;

ystyr “cynnyrch nad yw'n cydymffurfio” (“non-conforming product”) yw cynnyrch nad yw'n cydymffurfio â'r amodau mewnforio;

ystyr “cynnyrch tramwy” (“transit product”) yw cynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad ac, yn ôl yr wybodaeth a anfonwyd ymlaen llaw ac y cyfeirir ati yn Erthygl 3(3) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, a fydd yn destun tramwy;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “dogfen berthnasol” (“relevant document”) yw unrhyw ddogfen ofynnol ac unrhyw dystysgrif neu ddogfen filfeddygol neu fasnachol arall neu dystysgrif neu ddogfen arall sy'n ymwneud â chynnyrch, gan gynnwys maniffest unrhyw long fordwyol neu awyren;

ystyr “dogfen ofynnol” (“required document”) yw unrhyw dystysgrif filfeddygol wreiddiol, dogfen filfeddygol wreiddiol neu ddogfen wreiddiol arall sy'n ofynnol mewn perthynas â chynnyrch yn rhinwedd unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2;

ystyr “gwair” (“hay”) yw unrhyw borfa, meillion, lwsérn neu ffawlys a sychwyd naill ai'n naturiol neu'n artiffisial, ac mae'n cynnwys unrhyw gynnyrch a gafwyd drwy sychu unrhyw borfa, meillion, lwsérn neu ffawlys felly;

ystyr “gweithredydd” (“operator”)—

(a)

mewn perthynas â man archwilio ar y ffin, yw'r person sy'n darparu mangre a chyfleusterau eraill ar gyfer cyflawni gwiriadau milfeddygol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin; a

(b)

mewn perthynas â sefydliad tarddiad Cymunedol, warws storio drosiannol neu sefydliad cyrchfan, yw'r person sy'n ei feddiannu at ddibenion ei fusnes;

ystyr “gwellt” (“straw”) yw unrhyw rawnfwyd gwyrdd sydd wedi'i sychu naill ai'n naturiol neu'n artiffisial ac mae'n cynnwys unrhyw gynnyrch (ac eithrio grawn) a geir drwy sychu unrhyw rawnfwyd gwyrdd;

ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw gwiriad drwy archwiliad gweledol i sicrhau bod y tystysgrifau milfeddygol neu'r dogfennau milfeddygol neu ddogfennau eraill sy'n mynd gyda llwyth yn cyfateb i'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth, a hwnnw'n wiriad sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(4)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad A i Benderfyniad 93/13/EEC;

ystyr “gwiriad dogfennol” (“documentary check”) yw'r archwiliad o'r tystysgrifau milfeddygol neu'r dogfennau milfeddygol neu ddogfennau eraill sy'n mynd gyda llwyth, ac sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(3) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad A i Benderfyniad 93/13/EEC;

ystyr “gwiriad ffisegol” (“physical check”) yw gwiriad ar y cynnyrch ei hun (a all gynnwys gwiriadau o'r deunydd pacio a'r tymheredd a hefyd samplu a phrofi mewn labordy) sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad III iddi ac Atodiad C i Benderfyniad 93/13/EEC;

ystyr “gwiriad milfeddygol” (“veterinary check”) yw unrhyw wiriad y darperir ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb 97/78/EC gan gynnwys gwiriad dogfennol, gwiriad adnabod a gwiriad ffisegol;

ystyr “llwyth” (“consignment”) yw swm o gynhyrchion o'r un math a gwmpesir gan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol neu ddogfen arall y darparwyd ar ei chyfer drwy ddeddfwriaeth filfeddygol, a'r rheini'n gynhyrchion sy'n cael eu cludo â'r un cyfrwng cludo ac sy'n dod o'r un drydedd wlad neu ran o drydedd wlad;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw adeiladwaith, gosodiad, cynhwysydd neu gyfrwng cludo;

ystyr “man archwilio ar y ffin” (“border inspection post”) yw —

(a)

man archwilio ar y ffin sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr a gynhwysir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC(8); neu

(b)

man archwilio ar y ffin yng Ngweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Deyrnas Norwy sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr a gynhwysir yn yr Atodiad i Benderfyniad Rhif 86/02/COL Awdurdod Gwyliadwriaeth Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA)(9);

ystyr “man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno” (“border inspection post of introduction”) yw man archwilio ar y ffin lle mae'r cynnyrch Erthygl 9 yn cael ei gyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan” (“border inspection post of destination”) yw man archwilio ar y ffin y mae cynnyrch Erthygl 9 wedi'i fwriadu i'w fewnforio drwyddo;

ystyr “mewnforio”, pan fydd yn cyfateb i'r gair “import” fel enw yn y fersiwn Saesneg o'r Rheoliadau hyn, yw rhyddhau i'w gylchredeg yn rhydd o fewn ystyr Erthygl 79 o'r Cod Tollau;

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinary surgeon”) yw milfeddyg sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi arbennig y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac sy'n cael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 6(1)(a) neu gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 6(2)(a);

ystyr “Penderfyniad 93/13/EEC” (“Decision 93/13/EEC”) yw Penderfyniad 93/13/EEC y Comisiwn (sy'n gosod y gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol wrth fannau archwilio Cymunedol ar y ffin ar gynhyrchion o drydydd gwledydd)(10);

ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â chynnyrch, llwyth neu ran o lwyth, yw'r person y mae'r eiddo yn y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan wedi'i freinio ynddo am y tro;

ystyr “person sy'n gyfrifol dros” (“person responsible for”) gynnyrch, llwyth, neu ran o lwyth —

(a)

tan fydd y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd y man archwilio ar y ffin yng Nghymru am y tro cyntaf neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth cynhyrchion Erthygl 9, tan i'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan gyrraedd man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru yw—

(i)

y person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(1) o'r Cod Tollau sy'n dod â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned;

(ii)

person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(2) o'r Cod Tollau sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gludo'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan ar ôl iddo gael ei ddwyn neu ar ôl iddi gael ei dwyn i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned; a

(iii)

person y cyfeirir ato yn Erthygl 44(2)(b) o'r Cod Tollau, a hwnnw'n berson y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a)(i) a (ii) yn ei enw;

(b)

o'r amser y mae'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd man archwilio ar y ffin yng Nghymru am y tro cyntaf, neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth cynhyrchion Erthygl 9, o'r amser y mae'n cyrraedd man archwilio ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, nes iddo neu iddi adael y man archwilio cyntaf hwnnw ar y ffin, neu'r man archwilio hwnnw ar y ffin ar gyfer cyrchfan yw—

(i)

y person y cyfeirir ato yn Erthygl 44(2)(b) o'r Cod Tollau ac y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a)(i) a (ii) yn ei enw; neu

(ii)

os yw'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cael ei storio dros dro, fel y cyfeirir at “temporary storage” yn Erthygl 50 o'r Cod Tollau, y person y cyfeirir ato yn Erthygl 51(2) o'r Cod Tollau sy'n ei ddal neu ei dal mewn man storio dros dro; neu

(iii)

os yw'r person y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (b)(i) neu (ii) wedi penodi cynyrchiolydd yn ei ymwneud â'r awdurdodau tollau, o fewn ystyr “customs authorities” yn Erthygl 5 o'r Cod Tollau, a bod cyfrifoldeb yn cael ei roi i'r cynyrchiolydd hwnnw neu fod y cynrychiolydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros sicrhau bod y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn destun gwiriadau milfeddygol, y cynrychiolydd hwnnw; ac

(c)

ar ôl i'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan adael y man archwilio cyntaf hwnnw ar y ffin, neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth cynhyrchion Erthygl 9, ar ôl iddo neu iddi adael y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan yw—

(i)

y person a wnaeth ddatganiad tollau, o fewn ystyr “customs declaration” yn Erthygl 64 o'r Cod Tollau, sy'n ymdrin â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan; neu

(ii)

os nad oes unrhyw ddatganiad tollau o'r fath wedi'i wneud eto, y person sy'n alluog i'w wneud;

ystyr “person y mae'n ymddangos ei fod â gofal” (“person appearing to have charge”) dros gynnyrch, llwyth neu ran o lwyth yw unrhyw berson, gan gynnwys cludydd, y mae'n ymddangos bod y cynnyrch hwnnw, y llwyth hwnnw neu'r rhan honno o lwyth yn ei feddiant, o dan ei warchodaeth neu ei reolaeth;

ystyr “pwynt mynediad” (“point of entry”) yw unrhyw fan lle mae nwyddau yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth y dollfa o dan Erthyglau 37 a 38 o'r Cod Tollau, ac eithrio man archwilio ar y ffin;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002” (“Regulation (EC) No. 1774/2002”) yw Rheoliad (EC) No. 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl)(11);

ystyr “sefydliad cyrchfan” (“destination establishment”), mewn perthynas â chynnyrch, yw'r sefydliad a nodwyd yn y cofnod ynglŷn â Chyrchwlad (“Country of destination”) ar yr hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch a roddwyd yn unol â rheoliad 17;

ystyr “sefydliad tarddiad Cymunedol” (“Community establishment of origin”) yw'r fangre sydd wedi'i lleoli mewn Aelod-wladwriaeth lle daeth cynnyrch a ddychwelwyd i'r ffurf y cafodd ei allforio'n wreiddiol arni o'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “storfa longau” (“ships' store”) yw mangre gaeedig y cyfeirir ati yn Erthygl 13(1)(c), neu warws a gymeradwywyd yn arbennig ac y cyfeirir ati yn Erthygl 13(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'r person hwnnw yn swyddog i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod lleol neu i'r Asiantaeth neu beidio;

ystyr “swyddog corfforaethol” (“corporate officer”) yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i gorff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath;

ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yw—

(a)

swyddog awdurdodedig,

(b)

archwilydd pysgod swyddogol, neu

(c)

milfeddyg swyddogol;

ystyr “swyddog tollau” (“customs officer”) yw swyddog fel y diffinnir “officer” yn adran 1(1) o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(12) (person a gomisiynwyd gan y Comisiynwyr);

ystyr “y swyddogaethau rheoliadol” (“the regulatory functions”) yw'r swyddogaethau sy'n cael eu neilltuo gan y Rheoliadau hyn i swyddogion awdurdodedig, milfeddygon swyddogol, archwilwyr pysgod swyddogol a chynorthwywyr sy'n cael eu penodi yn unol â rheoliad 6;

mae i “tiriogaeth dollau'r Gymuned” yr un ystyr â “the customs territory of the Community” yn Erthygl 3 o'r Cod Tollau;

ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw ardal sy'n ffurfio tiriogaethau'r Aelod-wladwriaethau, fel y'u rhestrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 97/78/EC, tiriogaeth Gweriniaeth Gwlad yr Iâ a thiriogaeth Teyrnas Norwy (ac eithrio Svalbard);

ystyr “tramwy” (“transit”) yw tramwy o un drydedd wlad i un arall, gan fynd drwy un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, o dan y weithdrefn dramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad nad yw wedi'i chynnwys yn y tiriogaethau perthnasol;

ystyr “tystysgrif cliriad milfeddygol” (“certificate of veterinary clearance”) yw tystysgrif sy'n cael ei rhoi gan filfeddyg swyddogol neu archwilydd pysgod swyddogol ar y ffurf a welir fel Dalen 2 yn Atodlen 1;

mae i “warws rydd” yr un ystyr â “free warehouse” ac mae i “parth rhydd” yr un ystyr â “free zone” yn Nheitl IV, Pennod 3, Adran 1 o'r Cod Tollau;

ystyr “warws storio drosiannol” (“intermediate storage warehouse”) yw cyfleusterau storio oer a gymeradwywyd ar gyfer storio cynhyrchion yn drosiannol fel y cyfeirir atynt ym Mhennod 10 o Atodiad I i Gyfarwyddeb 92/118/EEC;

ystyr “warws dollfa” (“customs warehouse”) yw warws sy'n bodloni amodau Erthyglau 98 i 113 o'r Cod Tollau, a lle mae nwyddau yn cael eu storio yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn yr Erthyglau hynny ynglŷn â chadw mewn warysau tollfeydd.

(3Mae cynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o Weriniaeth Gwlad yr Iâ, ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd, i'w hystyried at ddibenion y Rheoliadau hyn fel rhai sy'n cael eu cyflwyno o drydedd wlad.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud.

Esemptiadau

3.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i cynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad gydag awdurdodiad blaenorol y Cynulliad Cenedlaethol fel samplau masnachu, i'w harddangos, neu ar gyfer astudiaethau neu ddadansoddiadau penodol.

(2Rhaid i awdurdodiad y Cynulliad Cenedlaethol fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, a'i ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

(3Nid yw Rhan 3, ac eithrio rheoliad 25, a Rhannau 4 i 10 yn gymwys i'r canlynol—

(a)cig, cynhyrchion cig, llaeth a chynhyrchion llaeth o Kalaallit Nunaat (Greenland), Ynysoedd Ffaröe, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Andorra, San Marino, Liechtenstein, Y Swistir, Estonia, Lithiwania, Latfia, Gwlad Pwyl, Y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Hwngari, Slofenia, Rwmania, Bwlgaria, Malta na Gweriniaeth Cyprus sy'n cael eu cyflwyno i Gymru ym magiau personol teithiwr os ydynt wedi'u bwriadu i'r person hwnnw ei hun eu bwyta neu eu hyfed, gan gymryd i ystyriaeth natur y cynnyrch a faint ohono y gallai unigolyn ei fwyta neu ei yfed yn rhesymol;

(b)llaeth powdr babanod, bwyd babanod, a bwydydd arbennig y mae eu hangen am resymau meddygol ac sy'n cynnwys cig, cynhyrchion cig, llaeth, neu gynhyrchion llaeth sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad nad yw wedi'i phennu ym mharagraff (a)—

(i)os ydynt yn cael eu cario ym magiau personol teithiwr a'u bod wedi'u bwriadu at ddefnydd personol y person hwnnw neu er mwyn iddo eu bwyta neu eu hyfed, gan gymryd i ystyriaeth natur y cynnyrch a faint ohono y gallai unigolyn ei fwyta neu ei yfed yn rhesymol;

(ii)os nad oes angen eu cadw mewn oergell cyn eu hagor;

(iii)os ydynt yn gynhyrchion brand patent sydd wedi'u pecynnu i'w gwerthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf; a

(iv)os ydynt wedi'u cynnwys mewn deunydd pacio sydd heb ei dorri; ac

(c)cynhyrchion nad yw paragraff (a) na pharagraff (b) yn ymdrin â hwy ac sy'n cael eu cyflwyno i Gymru ym magiau personol teithiwr os ydynt wedi'u bwriadu i'r person hwnnw ei hun eu bwyta neu eu hyfed neu sy'n cael eu hanfon drwy'r post neu drwy gludydd a'u cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru ac eithrio o ran masnach neu sampl masnachu ac—

(i)os nad ydynt yn gig, yn gynhyrchion cig, yn llaeth nac yn gynhyrchion llaeth;

(ii)os nad yw cyfanswm eu pwysau yn fwy nag un cilogram; a

(iii)os ydynt yn dod naill ai o drydedd wlad neu ran o drydedd wlad sy'n bodloni'r amodau a osodir ym mharagraff (4), neu sydd wedi'u trin â gwres mewn cynhywysydd aerglos yn ôl gwerth Fo o 3.00 neu fwy.

(4Yr amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(c)(iii) yw bod y drydedd wlad neu ran o drydedd wlad—

(a)yn ymddangos ar restr o drydydd gwledydd neu rannau o drydydd gwledydd y mae'n rhaid i Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio'r cynhyrchion o dan sylw, a'r rhestr honno wedi'i sefydlu drwy offeryn Cymunedol a restrir yn Atodlen 2; a

(b)heb fod yn wlad y mae mewnforio'r cynhyrchion o dan sylw wedi'i wahardd drwy unrhyw offeryn Cymunedol a restrir yn Atodlen 2.

(5Yn y rheoliad hwn ystyr “cig”, “cynhyrchion cig”, “llaeth” a “cynhyrchion llaeth” yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC ac mae “cig” yn cynnwys paratoadau cig.

RHAN 2Gorfodi

Awdurdodau gorfodi a chyfnewid gwybodaeth

4.—(1Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—

(a)gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y man archwilio ar y ffin sydd wedi'i ddynodi a'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol yn unig ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002;

(b)gan yr Asiantaeth —

(i)mewn mangre y mae'n ofynnol iddi gael ei thrwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(13), Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995(14), neu Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Archwilio) 1995(15); a

(ii)mangre gyfun fel y diffinir “combined premises” yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994(16), neu Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995(17); ac

(c)yn ddarostyngedig i reoliad 16, gan bob awdurdod lleol o fewn ei ardal, gan gynnwys wrth unrhyw fan archwilio ar y ffin sydd ynddi, ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ac mewn mangre y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).

(2At ddibenion gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth rannu gwybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi'r Reholiadau hyn gyda'r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban at ddibenion gorfodi'r ddeddfwriaeth ym maes cyflwyno cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac sy'n dod o drydydd gwledydd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn ôl eu trefn.

(4Nid yw paragraffau (2) a (3) yn lleihau effaith unrhyw bŵ er arall sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth i ddatgelu gwybodaeth.

Gorfodi gan swyddog awdurdodedig neu'r Asiantaeth yn lle awdurdod lleol

5.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod awdurdod lleol yn methu neu wedi methu â gweithredu neu orfodi y Rheoliadau hyn yn gyffredinol, neu mewn unrhyw ddosbarth ar achosion, neu mewn achos unigol, caiff rhoi pŵ er i swyddog awdurdodedig neu'r Asiantaeth eu gweithredu neu eu gorfodi yn lle'r awdurdod lleol hwnnw.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth adennill o'r awdurdod lleol o dan sylw unrhyw dreuliau a dynnwyd ganddynt yn rhesymol o dan baragraff (1).

Penodi milfeddygon swyddogol ac archwilwyr pysgod swyddogol

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi—

(a)milfeddyg swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth unrhyw fan archwilio ar y ffin sydd wedi'i dynodi a'i chymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol yn unig ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; a

(b)y cynorthwywyr a hyfforddwyd yn briodol ar gyfer pob milfeddyg swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (a) a'r rheini'n gynorthwywyr sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'n briodol ac yn ddiymdroi y swyddogaethau rheoliadol.

(2Rhaid i awdurodd lleol benodi—

(a)milfeddyg swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth bob man archwilio ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio man archwilio ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a);

(b)archwilydd pysgod swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol o ran cynhyrchion pysgodfeydd wrth bob man archwilio ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio man archwilio ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a); ac

(c)y cynorthwywyr sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ar gyfer pob milfeddyg swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (2)(a), ac ar gyfer pob archwilydd pysgod swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (2)(b), a'r rheini'n gynorthwywyr sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'n briodol ac yn ddiymdroi y swyddogaethau rheoliadol.

Arfer pwerau gorfodi

7.—(1Caiff swyddog gorfodi, ar bob adeg resymol ac ar ôl iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, arfer y pwerau a roddir gan reoliadau 8 a 9 er mwyn—

(a)gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn;

(b)gweithredu neu orfodi unrhyw ddatganiad sy'n cael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn unol â rheoliad 59;

(c)canfod a gydymffurfir neu a gydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn; neu

(ch)gwirio beth yw unrhyw gynnyrch a beth yw ei darddiad neu ei gyrchfan.

(2Yn achos swyddog gorfodi sy'n cael ei benodi neu ei awdurdodi gan awdurdod lleol, rhaid i'r pwerau a roddir gan reoliadau 8 a 9 gael eu harfer—

(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw, a

(b)y tu allan i ardal yr awdurdod lleol hwnnw er mwyn canfod a gydymffurfir neu a gydymffurfiwyd â'r rheoliadau hyn o fewn yr ardal honno.

Pwerau mynediad a phwerau archwilio

8.—(1Caiff swyddog gorfodi—

(a)mynd i mewn i unrhyw fan archwilio ar y ffin neu ar unrhyw dir neu fangre arall (ac eithrio tir sy'n cael ei ddefnyddio fel anhedd-dy yn unig) a'u harchwilio ac archwilio unrhyw beth sydd ynddynt neu arnynt;

(b)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor;

(c)archwilio cynnwys unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol a agorwyd yn unol ag is-baragraff (b);

(ch)archwilio unrhyw gynnyrch, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch neu mewn cysylltiad ag ef; a

(d)cymryd samplau o unrhyw gynnyrch.

(2Pan fydd swyddog gorfodi yn cymryd sampl o gynnyrch ac eithrio yn ystod gwiriad ffisegol sy'n cael ei gyflawni yn unol â rheoliad 19(1), caiff y swyddog gorfodi gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol i'r llwyth neu ran ohono gael ei storio tan y bydd y swyddog gorfodi yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig pellach yn caniatáu ei symud, o dan oruchwyliaeth y swyddog gorfodi, yn unrhyw fan ac o dan unrhyw amodau y bydd y swyddog gorfodi yn cyfarwyddo y dylid ei symud yn yr hysbysiad, a rhaid i gostau storio o'r fath gael eu talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.

(3Caiff swyddog gorfodi sy'n mynd ar unrhyw dir neu fangre yn unol ag is-baragraff 1(a) gymryd gydag ef—

(a)personau eraill sy'n gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog gorfodi;

(b)un neu ragor o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd; ac

(c)un neu ragor o gynrychiolwyr awdurdodau trydedd wlad, sydd wedi'u penodi ac sy'n gweithredu yn unol â'r darpariaethau yn un o'r penderfyniadau cyfwerthedd a restrir yn Atodlen 3.

Pwerau ynglŷn â dogfennau

9.  Caiff swyddog gorfodi—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros gynnyrch, unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch ac unrhyw swyddog corfforaethol, cyflogai, gwas neu asiant i unrhyw bersonau o'r fath, ddangos unrhyw ddogfen berthnasol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth ynglŷn â'r cynnyrch, ac i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol y bydd y swyddog gorfodi yn gofyn yn rhesymol amdani;

(b)archwilio unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch ac, os yw'n cael ei chadw trwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac aparatws neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen berthnasol honno, ei archwilio a gwirio ei weithrediad;

(c)gwneud unrhyw gopïau y gwêl y swyddog gorfodi yn dda o unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch a dal ei afael ar y copïau hynny; ac

(ch)atafaelu unrhyw ddogfen berthnasol ynglŷn â chynnyrch y mae gan y swyddog gorfodi le i gredu y gallai fod angen amdani fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn a dal ei afael arni, a phan fo unrhyw ddogfen berthnasol yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf y gellir mynd â hi oddi yno.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

10.—(1Ni fydd unrhyw swyddog gorfodi neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6 yn atebol yn bersonol ynglŷn ag unrhyw weithred a wnaed wrth gyflawni, neu honni ei fod yn cyflawni ei swyddogaethau o fewn cwmpas ei gyflogaeth, os oedd yn gweithredu gan gredu'n onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2Ni fydd paragraff (1) yn rhyddhau'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol na'r Asiantaeth rhag unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd eu swyddogion.

Gwarantau mynediad

11.  Os yw ynad hedd wedi'i fodloni, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, fod sail resymol i swyddog gorfodi fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre yn unol â rheoliad 8 at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn rheoliad 7 a—

(a)bod mynediad wedi'i wrthod, neu y disgwylir yn rhesymol iddo gael ei wrthod, a bod y swyddog gorfodi wedi hysbysu'r meddiannydd o'i fwriad i wneud cais am warant mynediad; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i ddiben y mynediad, neu fod angen mynediad ar frys, neu fod y tir heb ei feddiannu neu'r fangre heb ei meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y byddai'n mynd yn groes i ddiben y mynediad i aros nes iddo ddychwelyd,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodwyd gan yr ynad, a hwnnw'n warant sy'n ddilys am fis, awdurdodi'r swyddog gorfodi i fynd ar y tir neu i mewn i'r fangre, gan defnyddio grym rhesymol os bydd angen.

Atebion awdurdodau lleol

12.—(1Ar gyfer pob man archwilio ar y ffin yn ei ardal rhaid i awdurdod lleol gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ateb sy'n cynnwys—

(a)cyfanswm y llwythi a wiriwyd, a'r rheini wedi'u dosbarthu yn ôl grwpiau cynhyrchion ac yn ôl y wlad y mae'n tarddu ohoni;

(b)rhestr o'r llwythi y cymerwyd samplau ohonynt a chanlyniadau unrhyw brawf ar bob sampl neu ddadansoddiad ohonynt; ac

(c)rhestr o'r llwythi y mae'n ofynnol eu hailanfon neu eu gwaredu yn unol â rheoliad 21 gan y milfeddyg swyddogol neu'r archwilydd pysgod swyddogol, a hynny, ym mhob achos, ynghyd â'r wlad y maent yn tarddu ohoni, sefydliad tarddiad (os yw'n hysbys), disgrifiad o'r cynnyrch o dan sylw a'r rheswm dros ei wrthod.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu pa mor aml y mae'r atebion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) i gael eu cyflwyno ac â pha gyfnod amser y maent i ymdrin ag ef.

Atal mannau archwilio ar y ffin rhag gweithredu

13.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni—

(a)y byddai parhau i weithredu man archwilio ar y ffin yn peri risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; neu

(b)bod toriad difrifol wedi bod wrth fan archwilio ar y ffin o'r gofynion ar gyfer cymeradwyo mannau archwilio ar y ffin sydd wedi'u gosod yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 97/78/EC neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2001/812/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer cymeradwyo mannau archwilio ar y ffin sy'n gyfrifol am wiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i'r Gymuned o drydydd gwledydd(18),

caiff gyflwyno i weithredydd y man archwilio ar y ffin o dan sylw hysbysiad ysgrifenedig yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel man archwilio ar y ffin yn unol ag Erthygl 6(2) neu 6(4) o Gyfarwyddeb 97/78/EC wedi'i hatal.

(2Ar ôl cyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r fangre beidio â bod yn fan archwilio ar y ffin, er gwaethaf y ffaith y gallant ymddangos o hyd ar y rhestr o fannau archwilio ar y ffin sydd wedi'i chynnwys yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC, nes iddi gael ei chymeradwyo unwaith eto fel man archwilio ar y ffin yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.

Swyddogaethau rheoliadol archwilwyr pysgod swyddogol

14.  Yn Rhannau 3 i 9, a Rhan 13, pan fydd cynnyrch pysgodfeydd o dan sylw, rhaid dehongli'r ymadrodd “milfeddyg swyddogol” fel un sy'n golygu archwilydd pysgod swyddogol fel y'i diffiniwyd yn rheoliad 2(1).

RHAN 3Darpariaethau sy'n Gymwys i Gynhyrchion yn Gyffredinol

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio

15.  Heb leihau effaith rheoliad 22 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995(19), ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch nad yw'n cydymffurfio i mewn i Gymru o drydedd wlad, na chynnyrch nad yw'n cydymffurfio sy'n tarddu o drydedd wlad i mewn i Gymru o fan arall yn y tiriogaethau perthnasol—

(a)onid yw'n gynnyrch tramwy, neu

(b)onid yw ei sefydliad cyrchfan yn warws mewn parth rhydd, yn warws rydd neu'n warws dollfa sydd wedi'i chymeradwyo yn unol ag Erthygl 12(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, neu storfa longau sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC, a leolwyd (ym mhob achos) y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gwahardd cyflwyno cynhyrchion ac eithrio wrth fannau archwilio ar y ffin

16.—(1Ni chaniateir cyflwyno unrhyw gynnrych i Gymru o drydedd wlad ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(2Ni chaniateir cyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch Erthygl 9, y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(3Bydd y rheoliad hwn yn cael ei orfodi—

(a)wrth bwyntiau mynediad gan y Comisiynwyr;

(b)mewn mangreoedd y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(b) gan yr Asiantaeth; ac

(c)mewn unrhyw fan arall gan yr awdurdod lleol.

(4Mewn achosion lle mae swyddog i awdurdod lleol, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod wrth bwynt mynediad lwyth neu gynnyrch y mae'r swyddog o'r farn y gallai fod wedi'i gyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, rhaid i'r swyddog hysbysu swyddog tollau a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch nes bod swyddog tollau yn ei gymryd dan ei ofal.

(5At ddibenion cymhwyso Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(20) i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, amser eu mewnforio fydd yr amser cyflwyno yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf honno.

Hysbysu ymlaen llaw ynglŷn â chyflwyno neu roi cynhyrchion

17.—(1Ni chaiff neb—

(a)cyflwyno cynnyrch i Gymru o drydedd wlad, na

(b)cyflwyno i Gymru gynnyrch Erthygl 9 y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru,

oni bai bod hysbysiad o'i gyflwyno wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi ohono wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r man archwilio hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(2Pan fydd y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 a'r man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan cynnyrch Erthygl 9 ill dau yng Nghymru, ni chaiff neb roi'r cynnyrch i fan archwilio ar y ffin oni bai bod hysbysiad o'i roi wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi o'r hysbysiad hwnnw wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r man archwilio hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(3Rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau (1) a (2)—

(a)bod ar y ffurf a nodir fel Dalen 1 yn Atodlen 1 neu mae rhaid iddo gynnwys disgrifiad manwl o'r cynnyrch mewn ysgrifen neu ar ffurf electronig, sy'n cynnwys o leiaf y manylion sy'n ymddangos ar y ffurflen honno;

(b)bod yn Gymraeg neu yn Saesneg a hefyd yn iaith swyddogol y gyrchwlad yn y tiriogaethau perthnasol y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad, os gwlad wahanol i'r Deyrnas Unedig yw'r gyrchwlad;

(c)cyrraedd y man archwilio ar y ffin—

(i)o leiaf chwe awr gwaith, yn achos cynnyrch sy'n cael ei gyflwyno drwy'r awyr, a

(ii)o leiaf un diwrnod gwaith, mewn unrhyw achos arall,

cyn bod y cynnyrch yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin yn unol â rheoliad 18; ac

(ch)yn achos hybsysiad a roddwyd i fan archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan, pennu pa wiriadau sydd wedi'u gwneud wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno.

(4Ym mharagraff (3) ystyr “oriau gwaith” yw oriau pryd y mae'r man archwilio ar y ffin ar agor ar gyfer rhoi cynhyrchion i'r milfeddyg swyddogol yn unol â rheoliad 18 ac ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod pan fydd y man archwilio ar y ffin ar agor ar gyfer rhoi cynhyrchion i'r milfeddyg swyddogol yn unol â rheoliad 18.

Rhoi cynhyrchion wrth fannau archwilio ar y ffin

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch sy'n cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu am gynnyrch Erthygl 9 y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru ac sy'n cael ei gyflwyno i Gymru, roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynol neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r man archwilio ar y ffin y rhoddwyd hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch i'r man hwnnw yn unol â rheoliad 17.

(2Pan fydd man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 yn y Deyrnas Unedig a'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cynnyrch ar ôl ei symud o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r man archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan y rhoddwyd hysbysiad o roi'r cynnyrch iddo yn unol â rheoliad 17.

(3Rhaid i berson sy'n rhoi cynnyrch, ac eithrio cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo, yn unol â pharagraff (1) neu (2) roi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud ag ef a'r rheini'n ddogfennau sydd wedi'u llunio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

(4Rhaid i berson sydd yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn rhoi cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo ynghyd â dogfen ofynnol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, roi cyfieithiad o'r ddogfen ofynnol i'r Gymraeg neu'r Saesneg yr un pryd, a rhaid i'r cyfieithiad hwnnw fod yn un y mae arbenigydd â chymhwyster priodol wedi cadarnhau mai cyfieithiad cywir ydyw.

Gwiriadau milfeddygol

19.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 38, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u trawslwytho, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo yn rhinwedd rheoliad 18 roi cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu i sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, i filfeddyg swyddogol ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni'r gwiriadau canlynol ar y cynnyrch neu'r dogfennau gofynnol—

(a)gwiriad dogfennol,

(b)gwiriad adnabod, ac

(c)yn ddarostyngedig i reoliadau 41, 46 a 50, gwiriad ffisegol,

a rhaid iddo roi i'r milfeddyg swyddogol neu'r cynorthwy-ydd unrhyw gymorth y bydd yn gofyn yn rhesymol amdano i'w galluogi i gyflawni unrhyw un o'r gwiriadau hynny.

(2Pan fydd sampl o gynnyrch yn cael ei gymryd wrth gynnal gwiriad ffisegol, ni chaiff neb symud y cynnyrch neu beri iddo gael ei symud o'r man archwilio ar y ffin lle cafodd ei roi nes bod y milfeddyg swyddogol wedi awdurdodi ei symud drwy ddyroddi tystysgrif cliriad milfeddygol ar gyfer y cynnyrch neu ar gyfer y llwyth neu'r llwyth rhannol sy'n cynnwys y cynnyrch.

(3Tra'n aros nes bod y cynnyrch yn cael ei symud yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol a thalu costau ei storio felly.

Tystysgrif cliriad milfeddygol i fynd gyda llwyth

20.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth neu ran o lwyth y mae tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i dyroddi ar ei gyfer neu ar ei chyfer, ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro, sicrhau bod y dystysgrif cliriad milfeddygol yn mynd gyda'r llwyth neu'r rhan—

(a)yn achos llwyth neu ran y bwriedir ei fewnforio neu ei mewnforio, ac yn ddarostyngedig i reoliad 37(3), nes bod y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd, ar ôl ei fewnforio neu ei mewnforio, y fangre lle mae cynhyrchion yn cael eu storio, eu prosesu, eu trafod, eu prynu neu eu gwerthu, a

(b)ym mhob achos arall tan na fydd y llwyth neu'r rhan yn ddarostyngedig mwyach i oruchwyliaeth gan yr awdurdodau tollau, o fewn ystyr Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau.

(3Rhaid i'r person sy'n meddiannu at ddibenion ei fusnes y fangre y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (1)(a) gymryd meddiant ar y dystysgrif cliriad milfeddygol y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) a dal ei afael arni yn y fangre am gyfnod o flwyddyn gan dechrau ar y diwrnod ar ôl iddi gyrraedd yno.

Cynhyrchion sy'n methu gwiriadau milfeddygol

21.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 22, mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fydd y milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin yn penderfynu, yn dilyn gwiriad milfeddygol yno, fod cynnyrch (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b)) yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, neu fod rhyw afreoleidd-dra arall mewn perthynas â'r cynnyrch; a

(b)pan fydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu, yn dilyn gwiriad milfeddygol ar gynnyrch sydd wedi'i leoli i ffwrdd o fan archwilio ar y ffin (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b)), yn penderfynu bod y cynnyrch yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio.

(2Os yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, ac os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person ymddangos iddo y mae'n ei fod â gofal dros y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw naill ai—

(a)ailanfon y cynnyrch o'r man archwilio ar y ffin, neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, o fan archwilio ar y ffin sydd wedi'i nodi yn yr hysbysiad, drwy'r dull cludo y cafodd ei gyflwyno i Gymru drwyddo, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau agosaf at y man archwilio ar y ffin, a'r rheini'n gyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw, neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, y cyfleusterau agosaf at leoliad y cynnyrch.

(3Rhaid gwaredu'r cynnyrch yn unol ag is-baragraff (2)(b)—

(a)pan fydd ei ailanfon wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad milfeddgol, neu drwy unrhyw ofyniad o ran iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, neu sydd fel arall yn amhosibl; neu

(b)pan fydd y cyfnod o drigain niwrnod y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (2)(a) wedi mynd heibio; neu

(c)pan fydd y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, perchennog y cynnyrch, yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

(4Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol â pharagraff (2) mewn perthynas ag ef, neu os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i berchennog y cynnyrch hwnnw, sicrhau ei fod yn cael ei storio nes iddo gael ei ailanfon neu ei waredu o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn y fan ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn yr hysbysiad.

(5Ym mharagraff (1)(a) ystyr “afreoleidd-dra arall” mewn perthynas â chynnyrch yw—

(a)ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu ei roi i fan archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, heb fod hysbysiad wedi'i roi yn unol â rheoliad 17;

(b)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol sydd wedi'i chynnwys mewn hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17;

(c)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a roddwyd yn unol â rheoliad 45 neu 49;

(ch)unrhyw gamgymeriad, hepgoriad neu wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn dogfen ofynnol, ac unrhyw anghysondeb rhwng dogfen ofynnol ac—

(i)yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17 o gyflwyno neu roi'r cynnyrch, neu

(ii)y cynnyrch ei hun, neu

(iii)y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli ar y cynnyrch, ar y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch neu ar y cynhwysydd sy'n dal y cynnyrch neu'r llwyth;

(d)unrhyw diffyg yn y cynnyrch sy'n ei wneud yn anffit i'w ddefnyddio at y diben y mae, yn ôl y dogfennau gofynnol, wedi'i fwriadu ar ei gyfer;

(dd)unrhyw diffyg yn y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (5)(ch)(iii), gan gynnwys, yn achos cynnyrch sydd wedi'i becynnu, unrhyw doriad o'r gofynion labelu sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2;

(e)yn achos cynnyrch sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio, unrhyw awgrym yn y dogfennau gofynnol nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; ac

(f)yn achos cynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b), unrhyw doriad o'r gofynion sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw nad yw'n cydymffurfio mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2.

(6Caiff unrhyw berson y mae penderfyniad y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a) neu (1)(b) yn ei dramgwyddo apelio o fewn mis o'r penderfyniad i lys ynadon ar ffurf cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(21) yn gymwys i'r achos.

(7Tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu yn unol â pharagraff (6), bydd paragraff (4) yn gymwys i storio'r cynnyrch o dan sylw.

Triniaeth cynhyrchion fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid

22.—(1Os yw'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw cynnyrch y mae rheoliad 21 yn gymwys iddo yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff awdurdodi bod y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio yn unol â rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003(22) er gwaethaf paragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 21.

(2Rhaid i'r awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, a'i ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

(3Caiff yr awdurdodiad bennu p'un o'r defnyddiau yn rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003 a ganiateir.

Cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau anawdurdodedig a gweddillion gormodol

23.—(1Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “sylwedd anawdurdodedig” yr un ystyr ag “unauthorised substance” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a gweddillion y sylweddau hynny mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac yng Nghyfarwyddebau diddymu 85/358/EEC ac 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC(23);

(b)ystyr “terfyn gweddillion uchaf” yw terfyn gweddillion uchaf a restrir yn Atodiad I neu Atodiad III i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n tarddu o anifeiliaid(24).

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gwiriad milfeddygol ar lwyth o sefydliad tarddiad penodol mewn trydedd wlad yn datgelu bod sylwedd anawdurdodedig yn bresennol, neu'n datgelu yr aethpwyd dros y terfyn gweddillion uchaf, ond nad oes unrhyw fesurau Cymunedol wedi'u mabwysiadu eto mewn ymateb i hyn.

(3O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (2), bydd paragraffau (4), (5), (6) a (7) yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf a gyflwynwyd i'r Deyrnas Unedig o'r sefydliad hwnnw ac a gyflwynir i Gymru.

(4Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin lle mae unrhyw lwyth o'r fath yn cael ei gyflwyno, ei gymryd dan ei ofal, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, a gwirio'r gweddillion yn y llwyth drwy gymryd sampl gynyrchioliadol o'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw a'i ddadansoddi.

(5Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (4), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant i sicrhau bod yr holl daliadau sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

(6Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn datgelu bod sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn bresennol neu'n datgelu yr aethpwyd dros ben y terfyn gweddillion uchaf, rhaid i'r milfeddyg swyddogol—

(a)drwy arnodi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r llwyth, roi awgrym clir o'r rhesymau dros ei wrthod; a

(b)ailanfon llwyth, neu unrhyw ran ohono y mae'r milfeddyg swyddogol yn barnu bod presenoldeb sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion neu weddillion gormodol yn effeithio arni, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni.

(7Rhaid i gostau ailanfon a chludo'r llwyth neu'r rhan ohono i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni gael eu talu gan yr anfonydd y mae ei enw yn ymddangos ar yr hysbysiad o gyflwyno'r llwyth a roddwyd yn unol â Rheoliad 17.

Llwythi a chynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno'n anghyfreithlon

24.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)pan fydd llwyth neu gynnyrch yn cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad ond nad yw'n cael ei roi yn unol â rheoliad 18;

(b)pan fydd llwyth neu gynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad wedi'i gyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol, ond nad yw wedi'i roi wrth fan archwilio ar y ffin yno;

(c)pan fydd y man archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan i lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 yng Nghymru ond nad yw'r llwyth yn cael ei roi yno yn unol â rheoliad 18(1); ac

(ch)pan fydd llwyth sy'n cael ei gyflwyno i Gymru yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin nad yw wedi'i ddynodi na'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw.

(2O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraffau (1)(a), (b) ac (c) rhaid i swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (1)(ch), rhaid i'r milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol amdano, gymryd y llwyth neu'r cynnyrch o dan ei ofal a naill ai —

(a)ei ailanfon, drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno am y tro cyntaf i'r tiriogaethau perthnasol, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r perchennog, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraffau 1(a), (b) ac (c), neu gyda'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (1)(ch), a honno'n gyrchfan mewn trydedd wlad o fewn cyfnod o drigain niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)ei waredu fel petai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau agosaf at y man lle mae'r swyddog awdurdodedig neu'r milfeddyg swyddogol yn ei gymryd o dan ei ofal a'r rheini'n gyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw.

Cynhyrchion sy'n beryglus i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

25.  Os yw milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig o'r farn bod llwyth neu gynnyrch o drydedd wlad yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd rhaid iddo, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth neu'r cynnyrch, ei gymryd o dan ei ofal a'i waredu yn unol â rheoliad 24(2)(b).

Tor-cyfraith difrifol neu fynych

26.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn dod i'r casgliad rhesymol, ar sail canlyniadau gwiriadau milfeddygol, fod cynhyrchion o drydedd wlad benodol, rhan benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, bydd y rheoliad hwn yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf a gyflwynwyd i'r Deyrnas Unedig o'r drydedd wlad honno, o ran o drydedd wlad neu o sefydliad, a gyflwynir i Gymru.

(2Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin lle mae unrhyw lwyth o'r fath yn cael ei gyflwyno, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ei gymryd o dan ei ofal a chyflawni gwiriad ffisegol ohono, gan gynnwys cymryd samplau a gwneud profion a dadansoddiadau labordy.

(3Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod pob taliad sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

(4Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol sy'n cael ei gyflawni ar y llwyth yn datgelu bod unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol ynglŷn ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd wedi'i dorri, rhaid i'r milfeddyg swyddogol naill ai ailanfon y llwyth neu ei waredu yn unol â rheoliad 21(2).

Annilysu dogfennau milfeddygol

27.  Pan fydd milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig yn cyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cynnyrch yn cael ei ailanfon yn unol â rheoliad 21(2)(a), neu'n cymryd llwyth o dan ei ofal yn unol â rheoliad 24(2), rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r cynnyrch neu'r llwyth hwnnw neu sy'n eu rheoli eu cyflwyno ar unwaith i'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig i'w hannilysu.

Costau mewn perthynas â chynhyrchion sy'n cael eu hailanfon neu eu gwaredu

28.—(1Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth o dan sylw neu, os oes hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch neu'r llwyth, perchennog y cynnyrch neu'r llwyth, neu'r person y mae hysbysiad atafaelu yn unol â Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wedi'i gyflwyno iddo, dalu costau storio, cludo, ailanfon a gwaredu unrhyw gynnyrch neu lwyth sy'n cael ei ailanfon neu ei waredu yn unol â rheoliad 21, 24, 25 neu 26, neu unrhyw bwerau sy'n cael eu harfer o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wrth orfodi rheoliad 16.

(2Rhaid i unrhyw gost y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ac sy'n cael ei thalu gan filfeddyg swyddogol, swyddog awdurdodedig, y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol, yr Asiantaeth neu'r Comisiynwyr gael ei had-dalu, os gofynnir iddo wneud hynny, gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth neu gan berchennog y cynnyrch neu'r llwyth hwnnw.

RHAN 4Cyflenwadau Arlwyo ar Gyfrwng Cludo

Gwaredu cyflenwadau arlwyo na ddefnyddiwyd mohonynt

29.—(1Ni fydd Rhan 3 yn gymwys i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o gyfryngau cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol a'r rheini'n gynhyrchion a oedd wedi'u bwriadu i'w bwyta gan griw neu deithwyr y cyfrwng cludo hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gynnyrch y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) neu sy'n ei reoli gydymffurfio ag Erthygl 4(2) a (3) o Reoliad (EC) Rhif 1774/2002.

(3Pan fydd eitemau sydd wedi bod mewn cyffyrddiad â chynhyrchion o'r fath, megis deunydd pacio, neu gytleri neu blatiau tafladwy, yn cael eu dadlwytho o'r cyfrwng cludo er mwyn eu gwaredu, rhaid ymdrin â hwy yn yr un ffordd â'r cynhyrchion eu hunain.

RHAN 5Claddu ar Safleoedd Tirlenwi Gyflenwadau Arlwyo ar Gyfrwng Cludo na Ddefnyddiwyd Mohonynt

Cymeradwyo safleoedd tirlenwi

30.—(1Dim ond ar safle tirlenwi a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn y caiff unrhyw berson sy'n gwaredu deunydd yn unol â rheoliad 29 ei gladdu ar safle tirlenwi.

(2Dim ond os yw wedi'i fodloni —

(a)y byddai'r deunydd yn cael ei gladdu heb oedi gormodol er mwyn atal adar gwyllt rhag mynd ato;

(b)bod y gweithredydd wedi cymryd camau digonol i atal carnolion rhag mynd i'r rhan o'r safle tirlenwi sydd heb ei hadfer ac i'r rhan o'r safle tirlenwi sy'n cael ei gweithio ar y pryd; ac

(c)y byddai'r gweithredydd yn cydymffurfio ag unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth

y caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo safle tirlenwi at ddibenion gwaredu deunydd o dan reoliad 29.

(2Rhaid i'r gymeradwyaeth fod yn ysgrifenedig, caniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei diwygio neu ei hatal drwy hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 32.

(3Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, neu'n rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r ceisydd—

(a)rhoi'r rhesymau dros wneud hynny, a

(b)esbonio hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 33 a chael gwrandawiad ganddo.

Gweithredwyr safleoedd tirlenwi

31.—(1Rhaid i weithredydd safle tirlenwi a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 30—

(a)cynnal a gweithredu'r fangre yn unol â'r gofynion ym mharagraff 30(2)(a) a (b) ac unrhyw amodau yn y gymeradwyaeth;

(b)sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi gan y gweithredydd, ac unrhyw berson â chaniatâd i fynd i mewn i'r fangre yn cydymffurfio â'r gofynion a'r amodau hynny;

(c)cydymffurfio â'r gofynion ynghylch cadw cofnodion a gynhwysir yn Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 1774/2002; ac

(ch)cadw cofnodion cyfatebol ar gyfer deunydd y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29(3).

(2Caniateir i'r cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y rheoliad hwn fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid eu cadw am o leiaf ddwy flynedd.

Diwygio, atal a dirymu cymeradwyaethau

32.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad yw unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth yn cael ei fodloni mwyach, neu nad yw'r gweithredydd yn cydymffurfio â'r gofynion yn rheoliad 30(2)(a) a (b), neu fod angen gwneud hynny am resymau iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, caiff atal y gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y dylid diwygio unrhyw un o amodau'r gymeradwyaeth am resymau iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, caiff ddiwygio'r gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r gweithredydd.

(3O ran ataliad o dan baragraff (1) neu ddiwygiad o dan baragraff (2)—

(a)bydd yn cael effaith ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn angenrheidiol iddo wneud hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a

(b)ni fydd yn cael effaith fel arall am o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

(4Rhaid i'r hysbysiad ym mharagraff (1) neu (2)—

(a)rhoi'r rhesymau dros yr ataliad neu'r diwygiad; a

(b)esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i gael gwrandawiad gan berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 33.

(5Pan fydd apêl o dan reoliad 33, ni fydd diwygiad neu ataliad yn cael effaith tan ddyfarniad terfynol y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad hwnnw oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad gael effaith yn gynt.

(6Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi atal cymeradwyaeth, ac—

(a)nad oes unrhyw apêl wedi'i dwyn yn unol â rheoliad 33; neu

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cadarnhau'r ataliad yn dilyn apêl o'r fath,

caiff ddirymu'r gymeradwyaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig ar yr amod ei fod wedi'i fodloni, o ystyried holl amgylchiadau'r achos, na fyddai'r fangre yn cael ei gweithredu yn unol â gofynion rheoliad 30(2)(a) neu (b) neu amodau'r gymeradwyaeth, os oes rhai.

Apelau

33.—(1Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (4) o reoliad 30 neu baragraff (1) neu (2) o reoliad 32 o fewn un ar hugain o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad—

(a)darparu sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)rhoi hysbysiad ysgrifenedig ei fod yn dymuno ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad ganddo.

(2Pan fydd apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd at y diben a chael gwrandawiad ganddo—

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;

(b)ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd, rhaid i'r person a benodir felly beidio â bod yn swyddog neu was i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(c)os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn gyhoeddus;

(ch)rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(d)os yw'r apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu copi o adroddiad y person annibynnol i'r apelydd.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r apelydd o'i ddyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.

RHAN 6Cynhyrchion sydd wedi'u Bwriadu ar gyfer eu Mewnforio

Dal gafael ar ddogfennau wrth fannau archwilio ar y ffin

34.  Pan fydd gwiriad dogfennol wedi'i gyflawni wrth fan archwilio ar y ffin ar gynnyrch sydd wedi'i fwriadu (boed yn uniongyrchol neu yn y pen draw) ar gyfer ei fewnforio, rhaid i'r person a gyflwynodd y dogfennau gofynnol ynglŷn â'r cynnyrch hwnnw yn unol â rheoliad 18(1) ildio'r rheini i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.

Tystiolaeth am ardystio gwiriadau milfeddygol a thalu amdanynt

35.  Pan fydd tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i rhoi a bod honno'n ardystio bod llwyth yn ffit i'w fewnforio, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi tystiolaeth i'r Comisiynwyr sy'n eu boddhau—

(a)bod y dystysgrif wedi'i rhoi; a

(b)bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys samplu, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad a wnaed ar unrhyw samplau a gymerwyd, wedi'u talu, neu fod taliad amdanynt wedi'i sicrhau drwy flaendal neu warant sy'n boddhau'r person y mae'r ffioedd yn daladwy iddo yn unol â rheoliad 52(2).

Cynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer y Deyrnas Unedig

36.  Pan fydd—

(a)hysbysiad o gyflwyno cynnyrch wedi'i roi yn unol â rheoliad 17; a

(b)yr hysbysiad hwnnw yn pennu Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig yn gyrchwlad; ac

(c)tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i dyroddi ar gyfer y cynnyrch hwnnw, yn awdurdodi ei fewnforio—

(i)i mewn i'r Aelod-wladwriaeth honno neu ardal benodol ohoni yn unol â gofynion penodol, neu

(ii)at ddibenion penodol yn unol ag amodau,

a bod y gofynion neu'r amodau hynny wedi'u gosod ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio i mewn i'r Aelod-wladwriaeth neu'r ardal benodol honno, neu ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio at y dibenion penodol hynny, mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2,

ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, atal na gohirio cludo'r cynnyrch hwnnw i'r Aelod-wladwriaeth honno.

Cynhyrchion sy'n cael eu cludo o dan oruchwyliaeth

37.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu mewnforio ac y mae'n ofynnol, o dan unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2, iddynt gael eu cludo o dan oruchwyliaeth milfeddyg o'r man archwilio ar y ffin lle cawsant eu cyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol i'w sefydliad cyrchfan.

(2Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o fan archwilio ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog i'r Comisiynwyr neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.

(3Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw gludydd y mae o dan ei ofal am y tro sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo yn ddi-oed i'w sefydliad cyrchfan, a bod y dystysgrif cliriad milfeddygol a ddyroddwyd mewn perthynas â'r cynnyrch yn mynd gydag ef nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.

(4Pan fydd tystysgrif cliriad milfeddygol wedi awdurdodi mewnforio cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo at ddibenion penodol fel y'u disgrifiwyd yn rheoliad 36(c)(ii), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch ac unrhyw gludydd sydd â gofal am y tro sicrhau ei fod yn aros o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn T5 y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 471 i 495 o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2454/93 sy'n gosod darpariaethau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 yn sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol(25) nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.

(5Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan neu warws storio drosiannol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r milfeddyg, sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth am y sefydliad cyrchfan neu'r warws storio drosiannol, fod unrhyw gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cyrraedd yno.

(6Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan sicrhau bod cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael y driniaeth yn y sefydliad cyrchfan a ragnodir ar ei gyfer gan y gyfarwyddeb berthnasol, y penderfyniad perthnasol neu'r rheoliad perthnasol a restrir yn Atodlen 2.

Trawslwytho cynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu mewnforio

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion a drawslwythwyd pan fo'r man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno yng Nghymru.

(2Cyn gynted ag y bo cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cyrraedd y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch hysbysu'r milfeddyg swyddogol yno yn ysgrifenedig, neu ar ffurf gyfrifiadurol neu ffurf electronig arall, o union leoliad y cynnyrch, o'r amser yr amcangyfrifir y byddai'n cael ei drawslwytho neu ei ddadlwytho, ac o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(3Yn ôl yr hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2), pan fydd cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo i'w drawslwytho—

(a)o un awyren i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl iddo gael ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y man archwilio ar y ffin at gyfer cyflwyno am lai na deuddeg awr, neu

(b)o un long fordwyol i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl ei ddadlwytho mewn man fel yr un a enwyd uchod am lai na saith niwrnod,

rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan reoliad 18 roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi, i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol.

(4Pan fwriedir dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o awyren am ddeuddeng awr neu fwy, rhaid i'r person sy'n gyrfifol am y cynnyrch sicrhau ei fod yn cael ei storio am gyfnod nad yw'n hwy na 48 awr o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa a'i fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar awyren i'w gludo ymlaen i'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(5Pan fwriedir dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o long fordwyol am saith niwrnod neu fwy, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch sicrhau ei fod yn cael ei storio am gyfnod nad yw'n hwy nag ugain niwrnod o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yn o sydd o dan reolaeth y dollfa a'i fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar long fordwyol i'w gludo ymlaen i'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(6Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo roi cynnyrch y mae paragraff (4) neu baragraff (5) yn gymwys iddo a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol ac, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, gwiriad adnabod ar y cynnyrch hwnnw yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.

(7Pan fydd cynnyrch y mae paragraff (4) yn gymwys iddo yn cael ei storio am fwy na 48 awr ar ôl ei ddadlwytho, neu os yw cynnyrch y mae paragraff (5) yn gymwys iddo yn cael ei storio am fwy nag ugain niwrnod ar ôl ei ddadlwytho, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan reoliad 18 roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni ym mhob achos wiriad adnabod o'r cynnyrch yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.

RHAN 7Cynhyrchion Tramwy

Mannau archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn ac ymadael

39.  Yn y Rhan hon—

ystyr “man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn” (“border inspection post of entry”) yw'r man archwilio ar y ffin lle mae cynnyrch tramwy yn dod i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned;

ystyr “man archwilio ar y ffin ar gyfer ymadael” (“border inspection post of exit”) yw'r man archwilio ar y ffin y bwriedir i gynnyrch tramwy ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned drwyddo, fel a bennir yn y dystysgrif cliriad milfeddygol sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw.

Awdurdodi tramwy ymlaen llaw

40.  Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i Gymru o drydedd wlad oni bai bod y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn wedi awdurdodi tramwyad y cynnyrch hwnnw mewn ysgrifen o'r blaen.

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion tramwy

41.  Dim ond os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod cynnyrch tramwy yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu'n amau'n rhesymol fod rhyw afreoleidd-dra arall, fel y'i diffinnir yn rheoliad 21(5), mewn perthynas â'r cynnyrch tramwy, y mae angen i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo roi cynnyrch tramwy, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi, i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn.

Symud cynhyrchion tramwy

42.—(1Ni chaiff neb symud cynnyrch tramwy o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn na pheri iddo gael ei symud oni bai bod y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig i'r milfeddyg swyddogol yno y byddai'n dilyn ac yn cyflawni gofynion rholiad 43.

(2Pan fydd cynnyrch tramwy yn cael ei gludo, ar unrhyw adeg ar ôl ei symud o fan archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn, drwy Gymru ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffordd neu drwy'r awyr—

(a)rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn cael ei gludo mewn cerbyd neu gynhwysydd sydd wedi'i selio gan yr awdurdodau tollau neu'r awdurdodau milfeddygol sy'n gyfrifol am y man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn, bod ei ddogfennau gofynnol, unrhyw gyfieithiadau sy'n ofynnol o dan reoliad 18(4) a'i dystysgrif cliriad milfeddygol, yn mynd gydag ef i'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ymadael o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn tramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;

(b)ni chaiff neb dorri'r seliau ar y cerbyd na'r cynhwysydd y mae'r cynnyrch tramwy yn cael ei gludo ynddo, na dadlwytho'r cynnyrch tramwy, na hollti'r llwyth na'r rhan o'r llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch tramwy, na pheri i'r cynnyrch tramwy gael ei drafod mewn unrhyw ffordd; ac

(c)rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer ymadael heb fod yn hwy na 30 diwrnod ar ôl ei symud o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn (heb gynnwys dyddiad ei symud).

(3Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i barth rhydd, warws rydd na warws dollfa yng Nghymru.

Gwaredu cynhyrchion tramwy a ddychwelwyd

43.—(1Os bydd cynnyrch tramwy yn cael ei ddychwelyd i Gymru ar ôl ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch tramwy naill ai—

(a)ailanfon y cynnyrch tramwy o'r man archwilio ar y ffin y mae'n cael ei ddychwelyd iddo i drydedd wlad drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w ddychwelyd o fewn trigain niwrnod o'i ddychwelyd (heb gynnwys dyddiad ei ddychwelyd), neu

(b)os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn gymwys, gwaredu'r cynnyrch fel petai'n ddeuynydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau agosaf at y man archwilio ar y ffin mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo a'r rheini'n gyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw.

(2Rhaid gwaredu'r cynnyrch tramwy yn unol ag is-baragraff (1)(b) pan fydd—

(a)ailanfon y cynnyrch wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad ffisegol, neu oherwydd unrhyw ofyniad iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, neu pan fydd yn amhosibl fel arall;

(b)y cyfnod o drigain niwrnod y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a) wedi dod i ben, neu

(c)y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch tramwy yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

(3Rhaid i unrhyw berson y mae'r dogfennau gofynnol ynglŷn â chynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, neu y mae'r dystysgrif cliriad milfeddygol sy'n ymwneud ag ef yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, eu cyflwyno i'w hannilysu i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo.

(4Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ei storio nes iddo gael ei ailanfon neu ei ddinistrio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol.

(5Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo dalu costau ei storio, ei gludo, ei ailanfon a'i waredu.

RHAN 8Cynhyrchion sydd wedi'u Bwriadu ar gyfer Warysau neu Storfeydd Llongau

Cymhwyso Rhan 8

44.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i gynhyrchion y mae ei sefydliad cyrchfan —

(a)yn warws mewn parth rhydd, warws rydd neu warws dollfa, sydd wedi'i lleoli yn nhiriogaeth dollau'r Gymuned, neu

(b)yn storfa long sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac sydd wedi'i lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth ychwanegol sydd i'w rhoi ymlaen llaw

45.—(1Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo i Gymru, na rhoi cynnyrch o'r fath i fan archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, oni bai bod y milfeddyg swyddogol y rhoddwyd hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch iddo yn unol â rheoliad 17 wedi'i hysbysu—

(a)a yw'r cynnyrch wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio yn y pen draw;

(b)os na, a yw'n gynnyrch tramwy; ac

(c)sut bynnag, a yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio.

(3Rhaid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) gael ei rhoi yn ysgrifenedig a chaniateir ei chynnwys yn yr hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch a roddwyd yn unol â rheoliad 17.

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio

46.  Pan fo'r dogfennau gofynnol yn dangos bod cynnyrch y mae'r Rhan hon yn gymwys iddo yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, dim ond os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn ei fod yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd y mae angen i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo ei roi, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi, i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch.

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio o warysau

47.  Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch nad yw'n cydymffurfio i warws mewn parth rhydd, warws rydd na warws dollfa yng Nghymru.

RHAN 9Cynhyrchion a Ddychwelwyd o Drydydd Gwledydd

Ystyr “tystysgrif allforio”

48.  Yn y Rhan hon ystyr “tystysgrif allforio” yw tystysgrif sy'n ardystio bod y cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â safonau iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, ac a ddyroddwyd i hwyluso allforiad gwreiddiol y cynnyrch hwnnw o diriogaeth dollau'r Gymuned gan yr awdurdod sy'n gyfrifol am fonitro safonau o'r fath yn sefydliad tarddiad Cymunedol y cynnyrch a ddychwelwyd.

Dogfennau ychwanegol ar gyfer cynhyrchion a ddychwelwyd

49.  Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi yn unol â rheoliad 18 gynnyrch a ddychwelwyd a'i ddogfennau gofynnol i filfeddyg swyddogol roi'r canlynol gyda'r dogfennau gofynnol—

(a)y dystysgrif allforio sy'n ymwneud â'r cynnyrch a ddychwelwyd neu gopi y dilyswyd ei fod yn gopi cywir gan yr awdurdod a'i dyroddodd;

(b)datganiad o'r rhesymau pam y cafodd y cynnyrch a ddychwelwyd ei wrthod gan y drydedd wlad;

(c)datganiad gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch a ddychwelwyd ei fod wedi cydymffurfio â'r amodau mewnforio ynglŷn â storio a chludo mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd ers i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei allforio'n wreiddiol o diriogaeth dollau'r Gymuned; a naill ai

(ch)yn achos cynnyrch a ddychwelwyd nad oedd wedi'i allforio'n weriddiol mewn cynhwysydd a oedd wedi'i selio, datganiad gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch a ddychwelwyd nad yw wedi cael ei drafod mewn unrhyw ffordd, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u pecynnu yn unig, heblaw llwytho a dadlwytho pecynau sydd heb eu hagor; neu

(d)yn achos cynnyrch a ddychwelwyd ac a allforiwyd yn wreiddiol mewn cynhwysydd sydd wedi'i selio, datganiad gan y cludydd sy'n ei gyflwyno i Gymru nad yw wedi'i ddadlwytho o'r cynhwsydd y cafodd ei allforio ynddo, nac wedi cael ei drafod fel arall.

Gwiriad ffisegol o gynhyrchion a ddychwelwyd

50.—(1Dim ond os oes gan y milfeddyg swyddogol seilau rhesymol dros gredu—

(a)na chydymffurfiwyd, neu na chydymffurfir, â'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd;

(b)nad yw'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; neu

(c)nad yw manylion adnabod neu gyrchfan y cynnyrch a ddychwelwyd yn cyfateb i'r wybodaeth sydd wedi'i rhoi ar unrhyw ddogfen berthnasol

y mae angen i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 19 iddo roi cynnyrch a ddychwelwyd, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi, i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), i gyflawni gwiriad ffisegol ar y cynnyrch a ddychwelwyd.

Symud cynhyrchion a ddychwelwyd

51.—(1Ni chaiff neb symud cynnyrch a ddychwelwyd o fan archwilio ar y ffin, na pheri iddo gael ei symud, heb awdurdodiad ysgrifenedig y milfeddyg swyddogol yno.

(2Ni chaiff neb symud cynnyrch a ddychwelwyd o fan archwilio ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n rhydd rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog i'r Comisiynwyr neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.

(3Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch a ddychwelwyd ac a symudwyd yn unol â pharagraffau (1) a (2), ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau —

(a)ei fod yn cael ei gludo'n uniongyrchol i'w sefydliad tarddiad Cymunedol yn y cynhwysydd seliedig sy'n rhydd rhag gollyngiadau neu'r cyfrwng cludo y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2); a

(b)bod y dystysgrif cliriad milfeddygol a ddyroddwyd mewn perthynas â'r cynnyrch a ddychwelwyd yn mynd gydag ef nes i'r cynnyrch a ddychwelwyd gyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.

(4Ni chaiff neb dorri'r seliau ar y cynhwysydd na'r cyfrwng cludo y mae'r cynnyrch a ddychwelwyd yn cael ei gludo ynddo, na dadlwytho'r cynnyrch a ddychwelwyd, na hollti'r llwyth na'r rhan o'r llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch a ddychwelwyd, na pheri i'r cynnyrch a ddychwelwyd gael ei drafod mewn unrhyw ffordd, nes iddo gyrraedd ei sefydliad tarddiad Cymunedol.

(5Rhaid i weithredydd y sefydliad tarddiad Cymunedol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith fod y cynnyrch a ddychwelwyd wedi cyrraedd yno i'r milfeddyg sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ar gyfer y sefydliad hwnnw.

RHAN 10Ffioedd am Wiriadau Milfeddygol

Talu ffioedd

52.—(1Codir ffi resymol a gaiff ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 53 a 54 ac Atodlen 4 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth wrth fan archwilio ar y ffin.

(2Bydd y ffi yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, p'un bynnag sy'n gyfrifol, yn unol â rheoliadau 4 a 5, am weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn wrth y man archwilio ar y ffin lle cyflawnwyd y gwiriadau milfeddygol.

Cyfrifo ffioedd

53.  Rhaid i'r ffi am wiriadau milfeddygol gwmpasu'r costau a restrir yn Rhan I o Atodlen 4 a rhaid ei chyfrifo yn unol â Rhan II, III, IV neu V o Atodlen 4.

Trosi'r ffioedd i sterling

54.  Caiff ffioedd a fynegir mewn ewros yn Atodlen 4 eu trosi i bunnoedd sterling yn ôl y gyfradd drosi sy'n cael chyhoeddi yng nghyfres “C” o Gylchgrawn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ym Medi'r flwyddyn galendr cyn y flwyddyn y cyflawnwyd y gwiriad milfeddygol perthnasol ynddi.

Atebolrwydd am dalu ffioedd

55.  Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth dalu'r ffi a godwyd am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth.

Gwybodaeth am ffioedd

56.—(1Os gofynnir mewn ysgrifen iddynt wneud hynny, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth ddarparu i unrhyw berson sy'n rhoi cynhyrchion yn unol â rheoliad 18, neu i unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, fanylion y cyfrifiadau y mae'n eu defnyddio i benderfynu ffioedd am wiriadau milfeddygol a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau y gyflwynwyd gan berson neu gorff o'r fath wrth benderfynu ffioedd o'r fath.

(2Os gofynnir mewn ysgrifen iddo wneud hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, rhaid i awdurdod lleol ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth unrhyw wybodaeth y mae arno neu arni ei hangen ynglŷn â chyfrifo ffioedd am wiriadau milfeddygol, a chopïau o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan bersonau neu gyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1).

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i awdurdodau lleol

57.—(1Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i awdurdod lleol ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, o fewn un niwrnod ar hugain o godi'r ffi, apelio mewn ysgrifen ar y sail bod swm y ffi yn afresymol —

(a)i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'r ffi yn un am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd heblaw mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth; a

(b)i'r Asiantaeth, os yw'r ffi yn un am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth.

(2Pan fo apêl o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ymgynghori â'r awdurdod lleol ac, os caiff ei fodloni neu ei bodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid iddo neu iddi hysbysu'r awdurdod lleol, a rhaid i'r awdurdod lleol ailgyfrifo swm y ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth

58.—(1Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth, ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, cyn pen un niwrnod ar hugain ar ôl i'r ffi gael ei chodi, roi hysbysiad ysgrifenedig o'i ddymuniad i apelio i berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu pan fo'r ffi wedi'i thalu i'r Asiantaeth, i berson annibynnol a benodwyd gan yr Asiantaeth ar y sail bod swm y ffi yn afresymol.

(2Os cafodd y ffi ei thalu i'r Asiantaeth, cyflawnir swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mharagraffau (3) i (4) gan yr Asiantaeth.

(3Pan fydd apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd i'r perwyl a chael gwrandawiad ganddo—

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi person annibynnol i wrando sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;

(b)rhaid i'r person a benodir felly beidio â bod yn swyddog nac yn was i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd;

(c)os bydd yr apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn gyhoeddus;

(ch)rhaid i'r person annibynnol gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(d)os bydd yr apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi copi i'r apelydd o adroddiad y person annibynnol.

(4Os caiff y person annibynnol ei fodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ailgyfrifo'r ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y person annibynnol ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.

RHAN 11Datganiadau Brys

Brigiadau clefyd mewn trydydd gwledydd

59.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall fod clefyd y cyfeirir ato yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 82/894/EEC ar hysbysu o glefydau anifeiliaid o fewn y Gymuned(26), milhaint neu glefyd arall neu ffenomen neu amgylchiad sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd yn bresennol mewn unrhyw drydedd wlad, neu pan fydd ganddo neu ganddi seiliau rhesymol dros amau ei fod yn bresennol, caiff atal unrhyw gynnyrch o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r drydedd wlad honno rhag cael ei gyflwyno i Gymru, neu caiff osod amodau ar ei gyflwyno, drwy ddatganiad ysgrifenedig.

(2Rhaid i ddatganiad o'r fath fod mewn ysgrifen a rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn y modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn dda a rhaid iddo bennu'r cynhyrchion a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.

(3Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu o'r rhan ohoni sydd wedi'i phennu yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

(6Caniateir i ddatganiad gael ei addasu, ei atal neu ei ddirymu drwy ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, i'r graddau y mae'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.

RHAN 12Tramgwyddau a Chostau

Rhwystro

60.—(1Ni chaiff neb—

(a)rhwystro unrhyw berson yn fwriadol wrth iddo arfer pŵ er a roddwyd gan reoliad 9 neu 10 neu wrth iddo gyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall;

(b)methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd arno yn unol â rheoliad 8 neu 9, neu fethu â rhoi i unrhyw berson, sy'n arfer pŵ er a roddwyd gan y rheoliadau hynny neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall, unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod arno angen rhesymol amdano er mwyn arfer y pŵ er neu gyflawni'r swyddogaeth; neu

(c)rhoi i unrhyw berson sy'n arfer pŵ er a roddwyd gan reoliad 8 neu 9 neu sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth reoliadol arall unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei fod yn ffug neu'n gamarweiniol.

(2Ni fydd paragraff (1)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu taflu bai ar y person hwnnw.

Amddiffyniad diwydrwydd dyladwy

61.—(1Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dorri un o ddarpariaethau'r rheoliadau a restrir yn Atodlen 5, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson o dan ei reolaeth.

(2Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu fethiant person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni chaiff y person a gyhuddir, heb ganiatâd y Llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y person a gyhuddir—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)os yw'r person a gyhuddir wedi ymddangos, neu wedi'i ddwyn, o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis ar ôl iddo ymddangos felly am y tro cyntaf,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig yn rhoi unrhyw wybodaeth sy'n dangos, neu sy'n helpu i ddangos, pwy yw'r person arall hwnnw, a honno'n wybodaeth a oedd yn ei feddiant ar y pryd.

Toriadau

62.  Bydd unrhyw berson—

(a)sy'n torri un o ddarpariaethau'r Rholiadau hyn, ac eithrio —

(i)y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn rheoliadau 8(2) a 19(3) ac sy'n cyfeirio at dalu costau; a

(ii)y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn rheoliadau 23(7), 28, 43(5), 45(2) a 55; neu

(b)sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd iddo o dan y Rheoliadau hyn,

yn euog o dramgwydd.

Cosbau

63.—(1Bydd unrhyw berson sy'n euog o'r tramgwydd o dorri rheoliad 60(1)(a) neu (b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu gyfnod yn y carchar heb fod yn fwy na thri mis, neu'r ddau.

(2Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis neu'r ddau;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod heb fod yn fwy na dwy flynedd neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

64.—(1Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a'i bod wedi'i phrofi bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu oddefiad swyddog corfforaethol i'r corff corfforaethol, neu fod y tramgwydd hwnnw yn dramgwydd y gellid ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran un o swyddogion corfforaethol y corff corfforaethol, bydd y swyddog corfforaethol yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “swyddog corfforaethol” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

RHAN 13Hysbysiadau a Phenderfyniadau

Cyflwyno hysbysiadau

65.—(1Caniateir i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Asiantaeth neu swyddog gorfodi gael ei gyflwyno i berson drwy—

(a)ei ddanfon i'r person hwnnw;

(b)ei adael ym mhriod gyfeiriad y person hwnnw; neu

(c)ei bostio i briod gyfeiriad y person hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol ac eithrio partneriaeth gael ei gyflwyno'n briodol i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw neu i swyddog tebyg arall.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd i'w gyflwyno i bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) gael ei gyflwyno'n briodol i bartner neu berson a chanddo rheolaeth ar y busnes partneriaeth.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad hysbys diwethaf y person fydd priod gyfeiriad unrhyw berson y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo, ac eithrio'r ffaith mai'r canlynol fydd y priod gyfeiriad—

(a)yn achos corff corfforaethol neu ei ysgrifennydd neu ei glerc, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y corff corfforaethol;

(b)yn achos cymdeithas anghorfforaethol (ac eithrio partneriaeth) neu ei hysgrifennydd neu ei chlerc, cyfeiriad prif swyddfa'r gymdeithas; ac

(c)yn achos partneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) neu berson a chanddo reolaeth ar y busnes partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth.

(5Pan fo'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yn gwmni sydd wedi'i gofrestru, neu'n bartneriaeth sy'n cynnal busnes, y tu allan i'r Deyrnas Unedig, a bod gan y cwmni neu'r bartneriaeth swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig, prif swyddfa'r cwmni hwnnw neu'r bartneriaeth honno at ddibenion paragraff 4 fydd ei brif swyddfa o fewn y Deyrnas Unedig.

(6Os yw'r person y mae unrhyw hysbysiad o'r fath i'w gyflwyno iddo wedi rhoi i'r person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno drwyddo gyfeiriad yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, ymdrinnir â'r cyfeiriad hwnnw fel priod gyfeiriad y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo at ddibenion y rheoliad hwn.

(7At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “postio” hysbysiad yw ei anfon drwy ddull rhagdaledig drwy wasanaeth post sy'n ceisio danfon dogfennau drwy'r post o fewn y Deyrnas Unedig heb fod yn ddiweddarach na'r diwrnod gwaith nesaf ym mhob achos neu ran amlaf, a danfon dogfennau drwy'r post y tu allan i'r Deyrnas Unedig o fewn y cyfnod sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Hysbysu o benderfyniadau

66.  Pan fo penderfyniad yn cael ei wneud, o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, mewn perthynas â chynnyrch neu lwyth, rhaid i'r person sy'n gwneud y penderfyniad, os gofynnir iddo wneud hynny, hysbysu'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth mewn ysgrifen o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto, ynghyd â manylion ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gan gynnwys y weithdrefn a'r terfynau amser sy'n gymwys.

RHAN 14Datgymhwyso a Dirymu

Datgymhwyso'r darpariaethau sy'n bodoli eisoes

67.—(1Ni fydd Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980(27) yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, ac eithrio'r cynhyrchion y cyfeiriwyd atynt yn Rheoliad 4(3).

(2Ni fydd y canlynol yn gymwys i gynhyrchion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt—

(a)Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1984(28); a

(b)rheoliadau 2, 3 i 8, 28 i 39 a 40(1) o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(29) ac Atodlen 4 a Rhan I o Atodlen 5 i'r Rheoliadau hynny.

Dirymu

68.  Dirymir y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 6, i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, yn y modd y nodir yn yr Atodlen honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(30).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mai 2004

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill