Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Gorfodi

Awdurdodau gorfodi a chyfnewid gwybodaeth

4.—(1Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—

(a)gan y Cynulliad Cenedlaethol yn y man archwilio ar y ffin sydd wedi'i ddynodi a'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol yn unig ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002;

(b)gan yr Asiantaeth —

(i)mewn mangre y mae'n ofynnol iddi gael ei thrwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(1), Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995(2), neu Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Archwilio) 1995(3); a

(ii)mangre gyfun fel y diffinir “combined premises” yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994(4), neu Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995(5); ac

(c)yn ddarostyngedig i reoliad 16, gan bob awdurdod lleol o fewn ei ardal, gan gynnwys wrth unrhyw fan archwilio ar y ffin sydd ynddi, ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ac mewn mangre y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).

(2At ddibenion gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth rannu gwybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi'r Reholiadau hyn gyda'r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban at ddibenion gorfodi'r ddeddfwriaeth ym maes cyflwyno cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac sy'n dod o drydydd gwledydd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn ôl eu trefn.

(4Nid yw paragraffau (2) a (3) yn lleihau effaith unrhyw bŵ er arall sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiynwyr, unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth i ddatgelu gwybodaeth.

Gorfodi gan swyddog awdurdodedig neu'r Asiantaeth yn lle awdurdod lleol

5.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod awdurdod lleol yn methu neu wedi methu â gweithredu neu orfodi y Rheoliadau hyn yn gyffredinol, neu mewn unrhyw ddosbarth ar achosion, neu mewn achos unigol, caiff rhoi pŵ er i swyddog awdurdodedig neu'r Asiantaeth eu gweithredu neu eu gorfodi yn lle'r awdurdod lleol hwnnw.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth adennill o'r awdurdod lleol o dan sylw unrhyw dreuliau a dynnwyd ganddynt yn rhesymol o dan baragraff (1).

Penodi milfeddygon swyddogol ac archwilwyr pysgod swyddogol

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi—

(a)milfeddyg swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth unrhyw fan archwilio ar y ffin sydd wedi'i dynodi a'i chymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol yn unig ar gynhyrchion y cyfeirir atynt yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; a

(b)y cynorthwywyr a hyfforddwyd yn briodol ar gyfer pob milfeddyg swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (a) a'r rheini'n gynorthwywyr sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'n briodol ac yn ddiymdroi y swyddogaethau rheoliadol.

(2Rhaid i awdurodd lleol benodi—

(a)milfeddyg swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol wrth bob man archwilio ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio man archwilio ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a);

(b)archwilydd pysgod swyddogol i gyflawni'r swyddogaethau rheoliadol o ran cynhyrchion pysgodfeydd wrth bob man archwilio ar y ffin yn ei ardal, ac eithrio man archwilio ar y ffin y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a); ac

(c)y cynorthwywyr sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ar gyfer pob milfeddyg swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (2)(a), ac ar gyfer pob archwilydd pysgod swyddogol sydd wedi'i benodi yn unol ag is-baragraff (2)(b), a'r rheini'n gynorthwywyr sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni'n briodol ac yn ddiymdroi y swyddogaethau rheoliadol.

Arfer pwerau gorfodi

7.—(1Caiff swyddog gorfodi, ar bob adeg resymol ac ar ôl iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, arfer y pwerau a roddir gan reoliadau 8 a 9 er mwyn—

(a)gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn;

(b)gweithredu neu orfodi unrhyw ddatganiad sy'n cael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn unol â rheoliad 59;

(c)canfod a gydymffurfir neu a gydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn; neu

(ch)gwirio beth yw unrhyw gynnyrch a beth yw ei darddiad neu ei gyrchfan.

(2Yn achos swyddog gorfodi sy'n cael ei benodi neu ei awdurdodi gan awdurdod lleol, rhaid i'r pwerau a roddir gan reoliadau 8 a 9 gael eu harfer—

(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw, a

(b)y tu allan i ardal yr awdurdod lleol hwnnw er mwyn canfod a gydymffurfir neu a gydymffurfiwyd â'r rheoliadau hyn o fewn yr ardal honno.

Pwerau mynediad a phwerau archwilio

8.—(1Caiff swyddog gorfodi—

(a)mynd i mewn i unrhyw fan archwilio ar y ffin neu ar unrhyw dir neu fangre arall (ac eithrio tir sy'n cael ei ddefnyddio fel anhedd-dy yn unig) a'u harchwilio ac archwilio unrhyw beth sydd ynddynt neu arnynt;

(b)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor;

(c)archwilio cynnwys unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol a agorwyd yn unol ag is-baragraff (b);

(ch)archwilio unrhyw gynnyrch, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch neu mewn cysylltiad ag ef; a

(d)cymryd samplau o unrhyw gynnyrch.

(2Pan fydd swyddog gorfodi yn cymryd sampl o gynnyrch ac eithrio yn ystod gwiriad ffisegol sy'n cael ei gyflawni yn unol â rheoliad 19(1), caiff y swyddog gorfodi gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol i'r llwyth neu ran ohono gael ei storio tan y bydd y swyddog gorfodi yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig pellach yn caniatáu ei symud, o dan oruchwyliaeth y swyddog gorfodi, yn unrhyw fan ac o dan unrhyw amodau y bydd y swyddog gorfodi yn cyfarwyddo y dylid ei symud yn yr hysbysiad, a rhaid i gostau storio o'r fath gael eu talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.

(3Caiff swyddog gorfodi sy'n mynd ar unrhyw dir neu fangre yn unol ag is-baragraff 1(a) gymryd gydag ef—

(a)personau eraill sy'n gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog gorfodi;

(b)un neu ragor o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd; ac

(c)un neu ragor o gynrychiolwyr awdurdodau trydedd wlad, sydd wedi'u penodi ac sy'n gweithredu yn unol â'r darpariaethau yn un o'r penderfyniadau cyfwerthedd a restrir yn Atodlen 3.

Pwerau ynglŷn â dogfennau

9.  Caiff swyddog gorfodi—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros gynnyrch, unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch ac unrhyw swyddog corfforaethol, cyflogai, gwas neu asiant i unrhyw bersonau o'r fath, ddangos unrhyw ddogfen berthnasol sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth ynglŷn â'r cynnyrch, ac i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol y bydd y swyddog gorfodi yn gofyn yn rhesymol amdani;

(b)archwilio unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch ac, os yw'n cael ei chadw trwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac aparatws neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen berthnasol honno, ei archwilio a gwirio ei weithrediad;

(c)gwneud unrhyw gopïau y gwêl y swyddog gorfodi yn dda o unrhyw ddogfen berthnasol sy'n ymwneud â chynnyrch a dal ei afael ar y copïau hynny; ac

(ch)atafaelu unrhyw ddogfen berthnasol ynglŷn â chynnyrch y mae gan y swyddog gorfodi le i gredu y gallai fod angen amdani fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn a dal ei afael arni, a phan fo unrhyw ddogfen berthnasol yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf y gellir mynd â hi oddi yno.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

10.—(1Ni fydd unrhyw swyddog gorfodi neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6 yn atebol yn bersonol ynglŷn ag unrhyw weithred a wnaed wrth gyflawni, neu honni ei fod yn cyflawni ei swyddogaethau o fewn cwmpas ei gyflogaeth, os oedd yn gweithredu gan gredu'n onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2Ni fydd paragraff (1) yn rhyddhau'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol na'r Asiantaeth rhag unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd eu swyddogion.

Gwarantau mynediad

11.  Os yw ynad hedd wedi'i fodloni, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, fod sail resymol i swyddog gorfodi fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre yn unol â rheoliad 8 at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn rheoliad 7 a—

(a)bod mynediad wedi'i wrthod, neu y disgwylir yn rhesymol iddo gael ei wrthod, a bod y swyddog gorfodi wedi hysbysu'r meddiannydd o'i fwriad i wneud cais am warant mynediad; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i ddiben y mynediad, neu fod angen mynediad ar frys, neu fod y tir heb ei feddiannu neu'r fangre heb ei meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y byddai'n mynd yn groes i ddiben y mynediad i aros nes iddo ddychwelyd,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodwyd gan yr ynad, a hwnnw'n warant sy'n ddilys am fis, awdurdodi'r swyddog gorfodi i fynd ar y tir neu i mewn i'r fangre, gan defnyddio grym rhesymol os bydd angen.

Atebion awdurdodau lleol

12.—(1Ar gyfer pob man archwilio ar y ffin yn ei ardal rhaid i awdurdod lleol gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ateb sy'n cynnwys—

(a)cyfanswm y llwythi a wiriwyd, a'r rheini wedi'u dosbarthu yn ôl grwpiau cynhyrchion ac yn ôl y wlad y mae'n tarddu ohoni;

(b)rhestr o'r llwythi y cymerwyd samplau ohonynt a chanlyniadau unrhyw brawf ar bob sampl neu ddadansoddiad ohonynt; ac

(c)rhestr o'r llwythi y mae'n ofynnol eu hailanfon neu eu gwaredu yn unol â rheoliad 21 gan y milfeddyg swyddogol neu'r archwilydd pysgod swyddogol, a hynny, ym mhob achos, ynghyd â'r wlad y maent yn tarddu ohoni, sefydliad tarddiad (os yw'n hysbys), disgrifiad o'r cynnyrch o dan sylw a'r rheswm dros ei wrthod.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu pa mor aml y mae'r atebion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) i gael eu cyflwyno ac â pha gyfnod amser y maent i ymdrin ag ef.

Atal mannau archwilio ar y ffin rhag gweithredu

13.—(1Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni—

(a)y byddai parhau i weithredu man archwilio ar y ffin yn peri risg difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; neu

(b)bod toriad difrifol wedi bod wrth fan archwilio ar y ffin o'r gofynion ar gyfer cymeradwyo mannau archwilio ar y ffin sydd wedi'u gosod yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 97/78/EC neu ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2001/812/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer cymeradwyo mannau archwilio ar y ffin sy'n gyfrifol am wiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i'r Gymuned o drydydd gwledydd(6),

caiff gyflwyno i weithredydd y man archwilio ar y ffin o dan sylw hysbysiad ysgrifenedig yn datgan bod y gymeradwyaeth o'r fangre fel man archwilio ar y ffin yn unol ag Erthygl 6(2) neu 6(4) o Gyfarwyddeb 97/78/EC wedi'i hatal.

(2Ar ôl cyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r fangre beidio â bod yn fan archwilio ar y ffin, er gwaethaf y ffaith y gallant ymddangos o hyd ar y rhestr o fannau archwilio ar y ffin sydd wedi'i chynnwys yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC, nes iddi gael ei chymeradwyo unwaith eto fel man archwilio ar y ffin yn unol ag Erthygl 6(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC.

Swyddogaethau rheoliadol archwilwyr pysgod swyddogol

14.  Yn Rhannau 3 i 9, a Rhan 13, pan fydd cynnyrch pysgodfeydd o dan sylw, rhaid dehongli'r ymadrodd “milfeddyg swyddogol” fel un sy'n golygu archwilydd pysgod swyddogol fel y'i diffiniwyd yn rheoliad 2(1).

(3)

O.S. 1995/2148, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3205 a 2000/656.

(6)

OJ Rhif L306, 23.11.2001, t.28.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill