- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
3.—(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i cynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad gydag awdurdodiad blaenorol y Cynulliad Cenedlaethol fel samplau masnachu, i'w harddangos, neu ar gyfer astudiaethau neu ddadansoddiadau penodol.
(2) Rhaid i awdurdodiad y Cynulliad Cenedlaethol fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, a'i ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.
(3) Nid yw Rhan 3, ac eithrio rheoliad 25, a Rhannau 4 i 10 yn gymwys i'r canlynol—
(a)cig, cynhyrchion cig, llaeth a chynhyrchion llaeth o Kalaallit Nunaat (Greenland), Ynysoedd Ffaröe, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Andorra, San Marino, Liechtenstein, Y Swistir, Estonia, Lithiwania, Latfia, Gwlad Pwyl, Y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Hwngari, Slofenia, Rwmania, Bwlgaria, Malta na Gweriniaeth Cyprus sy'n cael eu cyflwyno i Gymru ym magiau personol teithiwr os ydynt wedi'u bwriadu i'r person hwnnw ei hun eu bwyta neu eu hyfed, gan gymryd i ystyriaeth natur y cynnyrch a faint ohono y gallai unigolyn ei fwyta neu ei yfed yn rhesymol;
(b)llaeth powdr babanod, bwyd babanod, a bwydydd arbennig y mae eu hangen am resymau meddygol ac sy'n cynnwys cig, cynhyrchion cig, llaeth, neu gynhyrchion llaeth sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad nad yw wedi'i phennu ym mharagraff (a)—
(i)os ydynt yn cael eu cario ym magiau personol teithiwr a'u bod wedi'u bwriadu at ddefnydd personol y person hwnnw neu er mwyn iddo eu bwyta neu eu hyfed, gan gymryd i ystyriaeth natur y cynnyrch a faint ohono y gallai unigolyn ei fwyta neu ei yfed yn rhesymol;
(ii)os nad oes angen eu cadw mewn oergell cyn eu hagor;
(iii)os ydynt yn gynhyrchion brand patent sydd wedi'u pecynnu i'w gwerthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf; a
(iv)os ydynt wedi'u cynnwys mewn deunydd pacio sydd heb ei dorri; ac
(c)cynhyrchion nad yw paragraff (a) na pharagraff (b) yn ymdrin â hwy ac sy'n cael eu cyflwyno i Gymru ym magiau personol teithiwr os ydynt wedi'u bwriadu i'r person hwnnw ei hun eu bwyta neu eu hyfed neu sy'n cael eu hanfon drwy'r post neu drwy gludydd a'u cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru ac eithrio o ran masnach neu sampl masnachu ac—
(i)os nad ydynt yn gig, yn gynhyrchion cig, yn llaeth nac yn gynhyrchion llaeth;
(ii)os nad yw cyfanswm eu pwysau yn fwy nag un cilogram; a
(iii)os ydynt yn dod naill ai o drydedd wlad neu ran o drydedd wlad sy'n bodloni'r amodau a osodir ym mharagraff (4), neu sydd wedi'u trin â gwres mewn cynhywysydd aerglos yn ôl gwerth Fo o 3.00 neu fwy.
(4) Yr amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(c)(iii) yw bod y drydedd wlad neu ran o drydedd wlad—
(a)yn ymddangos ar restr o drydydd gwledydd neu rannau o drydydd gwledydd y mae'n rhaid i Aelod-wladwriaethau awdurdodi mewnforio'r cynhyrchion o dan sylw, a'r rhestr honno wedi'i sefydlu drwy offeryn Cymunedol a restrir yn Atodlen 2; a
(b)heb fod yn wlad y mae mewnforio'r cynhyrchion o dan sylw wedi'i wahardd drwy unrhyw offeryn Cymunedol a restrir yn Atodlen 2.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “cig”, “cynhyrchion cig”, “llaeth” a “cynhyrchion llaeth” yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC ac mae “cig” yn cynnwys paratoadau cig.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: