Search Legislation

Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Mawrth 2022.

Diwygio Rheolau 2021: dilysrwydd papurau enwebu

2.—(1Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021(1) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn Atodlen 1, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;.

(3Yn Atodlen 2, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;.

(4Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021(2) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (5) a (6).

(5Yn Atodlen 1, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;.

(6Yn Atodlen 2, yn rheol 10(3) (penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;.

Diwygio Rheolau 2021: y weithdrefn wrth gau’r bleidlais

3.—(1Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn Atodlen 1—

(a)yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

(b)yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

(i)ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(3Yn Atodlen 2—

(a)yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

(b)yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

(i)ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw un neu ragor o’r asiantau pleidleisio hynny sydd yno.

(4Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (5) a (6).

(5Yn Atodlen 1—

(a)yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

(b)yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

(i)ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(6Yn Atodlen 2—

(a)yn rheol 30 (penodi swyddogion llywyddu a chlercod), ym mharagraff (5), hepgorer “mewn gorsaf bleidleisio”;

(b)yn rheol 51 (y weithdrefn wrth gau’r bleidlais)—

(i)ym mharagraff (3), hepgorer y geiriau o “Ym mhresenoldeb” hyd at “yn yr orsaf bleidleisio,”;

(ii)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad cymuned neu etholiad perthnasol ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw un neu ragor o’r asiantau pleidleisio hynny sydd yno.

Diwygio Rheolau 2021: etholiadau cymuned: dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

4.—(1Yn Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, yn Atodlen 2, mae rheol 31 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar y dechrau mewnosoder—

(A1) Caiff y cyngor cymuned, heb fod yn hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad, ofyn i’r swyddog canlyniadau ddyroddi cardiau pleidleisio ar gyfer yr etholiad.

(3Ym mharagraff (1), yn lle “ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad” rhodder “ar ôl cael y cais”.

(4Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi’r cerdyn pleidleisio priodol pa un a yw’r cyngor wedi gofyn i gardiau pleidleisio gael eu dyroddi o dan baragraff (A1) ai peidio.

Diwygiadau sy’n ymwneud â’r amserlen ar gyfer etholiadau

5.—(1Yn adran 40(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (amseriad etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr)(3), ar ôl “section 37” mewnosoder “, section 37ZA”.

(2Yn rheol 3(1) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 (dehongli), yn y diffiniad o “diwrnod eithriedig”, ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;.

(3Yn rheol 3(1) o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 (dehongli), yn y diffiniad o “diwrnod eithriedig”, ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;.

Diwygio adrannau 67, 69 a 70 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

6.—(1Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 67 (penodi asiant etholiadol)(4), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A) Where a candidate at an election of councillors to a county or county borough council in Wales has named themself as election agent and the home address form accompanying the candidate’s nomination paper contains a statement under rule 9(6) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 that the candidate’s home address must not be made public—

(a)the candidate’s home address must not be included in the public notice under subsection (6), and

(b)the information given in the candidate’s home address form under rule 9(7) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 must be included in the public notice instead.

(3Yn adran 69 (swyddfa asiant ac is-asiant etholiadol)(5), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Subsection (1B) applies where—

(a)a candidate at an election of councillors to a county or county borough council in Wales has named themself as election agent,

(b)the home address form accompanying the candidate’s nomination paper contains a statement under rule 9(6) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 that the candidate’s home address must not be made public, and

(c)the office address that is required to be declared under subsection (1) is also the candidate’s home address.

(1B) If the candidate (in their capacity as election agent) does not want the office address to be included in the public notice under section 67(6), the candidate must, in addition to declaring the office address, provide the appropriate officer with another address in England or Wales to be used for correspondence (“a correspondence address”).

(1C) Where the candidate (in their capacity as election agent) provides a correspondence address under subsection (1B)—

(a)the office address must not be included in the public notice under section 67(6), and

(b)the correspondence address must be included instead.

(4Yn yr adran honno, yn is-adran (3)—

(a)ar ôl “or sub-agent”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, or delivered to a correspondence address provided under subsection (1C),”;

(b)yn lle “addressed to him” rhodder “addressed to the agent”.

(5Yn adran 70 (effaith methu â phenodi asiant etholiadol)(6), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) In relation to a candidate who is deemed by virtue of this section to be their own election agent at an election of councillors to a county or county borough in Wales, subsection (4) does not apply and the candidate’s office is instead deemed to be—

(a)in a case where the candidate’s home address given under rule 9(2)(b) of Schedule 1 or 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Wales) Rules 2021 is in England or Wales, at that address, and

(b)otherwise, at the candidate’s qualifying address as stated under rule 9(2)(c) of Schedule 1 or 2 to those Rules or, where more than one qualifying address is stated, at the first of those addresses.

(6Yn yr adran honno, ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8) In relation to a candidate who is deemed by virtue of this section to be their own election agent at an election of councillors to a county or county borough in Wales, subsection (6) does not apply and instead sections 67 and 69 apply with the following modifications.

(9) Section 67 applies as if the name and address of the candidate had been declared in writing to the appropriate officer under subsection (1) of that section.

(10) Section 69 applies as if—

(a)the address at which the candidate’s office is deemed to be had been declared to the appropriate officer under subsection (1)(a) of that section, and

(b)subsections (1A) to (1C) and (2) of that section were omitted.

Diwygio Rheolau 2006 etc.

7.—(1Mae Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006(7).

(2Mae Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006(8).

Dirymu Gorchmynion Ffurflenni Cymraeg

8.—(1Mae Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) 2007(9) wedi ei ddirymu.

(2Mae Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) 2007(10) wedi ei ddirymu.

(3O ganlyniad i’r dirymiadau a wneir gan baragraffau (1) a (2), mae’r Gorchmynion a ganlyn hefyd wedi eu dirymu—

(a)Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 2014(11);

(b)Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 2014(12);

(c)Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 2017(13);

(d)Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) 2017(14).

Diwygio Atodlen 4 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

9.  Mae Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 4 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”)(15).

Diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001

10.—(1Mae rheoliad 56 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(16) (dyddiad cau ar gyfer ceisiadau) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff (3B), yn lle “relevant Welsh by-election” rhodder “relevant Welsh local government election”.

(3Yn lle paragraff (3C) rhodder—

(3C) In paragraph (3B), “relevant Welsh local government election” means a local government election in Wales the poll for which takes place before 31 May 2023.

(4O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir gan baragraffau (2) a (3)—

(a)yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020(17), hepgorer rheoliad 8(4);

(b)yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021(18), hepgorer rheoliad 2(4);

(c)mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021(19) wedi eu dirymu.

Diwygiadau canlyniadol eraill

11.  Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau pellach o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021.

Darpariaeth drosiannol

12.  Nid yw’r dirymiadau a’r diwygiadau eraill a wneir gan y darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn yn effeithio ar gynnal etholiad ar gyfer cynghorwyr i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru pe bai’r bleidlais yn digwydd, pe ymleddid yr etholiad, cyn 5 Mai 2022—

(a)rheoliadau 2 i 4;

(b)rheoliad 5(2) a (3);

(c)rheoliad 6;

(d)Atodlenni 1 a 2;

(e)rheoliad 8;

(f)yn Atodlen 3, Rhannau 2 a 3;

(g)yn Atodlen 4, paragraffau 1 a 3.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2022

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources