- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, caiff yr ymgymerwr ar ei draul ei hun gyflawni’r cyfryw weithfeydd diogelu ar unrhyw adeilad sydd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir ag y barna’r ymgymerwr yn angenrheidiol neu’n hwylus.
(2) Caiff gweithfeydd diogelu eu cyflawni—
(a)ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod y gwaith adeiladu yng nghyffiniau adeiladu unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig; neu
(b)ar ôl cwblhau’r rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig yng nghyffiniau’r adeilad ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod yr agorwyd y rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig yn gyntaf i’w defnyddio.
(3) At ddiben penderfynu sut mae’r swyddogaethau o dan yr erthygl hon yn cael eu harfer, caiff yr ymgymerwr fynd i mewn i unrhyw adeilad sy’n dod o dan baragraff (1) ac unrhyw dir o fewn ei gwrtil a chynnal arolwg.
(4) At ddiben cyflawni gweithfeydd diogelu o dan yr erthygl hon ar adeilad, caiff yr ymgymerwr (yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6))—
(a)mynd i mewn i’r adeilad ac unrhyw dir o fewn ei gwrtil; a
(b)pan na fo modd cyflawni’r gweithfeydd yn rhesymol gyfleus heb fynd ar dir sy’n gyfagos i’r adeilad ond y tu allan i’w gwrtil, fynd ar y tir cyfagos (ond nid unrhyw adeilad sydd wedi’i godi arno).
(5) Cyn arfer—
(a)hawl o dan baragraff (1) i gyflawni gweithfeydd diogelu ar adeilad;
(b)hawl o dan baragraff (3) i fynd i mewn i adeilad a thir o fewn ei gwrtil;
(c)hawl o dan baragraff (4)(a) i fynd i mewn i adeilad a thir o fewn ei gwrtil; neu
(d)hawl o dan baragraff (4)(b) i fynd ar dir,
rhaid i’r ymgymerwr, ac eithrio mewn argyfwng, gyflwyno hysbysiad sy’n rhoi 56 diwrnod o leiaf o rybudd i berchenogion a meddianwyr yr adeilad neu’r tir am ei fwriad i arfer yr hawl honno ac, mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (c), bennu’r gweithfeydd diogelu y bwriedir eu cyflawni.
(6) Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (5)(a), (c) neu (d), caiff perchennog neu feddiannydd yr adeilad neu’r tir dan sylw, drwy gyflwyno gwrth-hysbysiad o fewn y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i’r cwestiwn ynghylch a yw’n angenrheidiol neu’n hwylus cyflawni’r gweithfeydd diogelu neu fynd i mewn i’r adeilad neu ar y tir gael ei gyfeirio at gymrodeddwr o dan erthygl 49 (cymrodeddu).
(7) Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr unrhyw adeilad neu dir y mae’r pwerau a roddir gan yr erthygl hon wedi cael eu harfer mewn perthynas â hwy am unrhyw golled neu ddifrod a achosir iddynt drwy arfer y pwerau hynny.
(8) Pan—
(a)fo gweithfeydd diogelu yn cael eu cyflawni o dan yr erthygl hon ar adeilad; ac
(b)o fewn cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod yr agorwyd y rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a adeiladwyd yng nghyffiniau’r adeilad yn gyntaf i’w defnyddio ymddengys bod y gweithfeydd awdurdodedig yn annigonol i ddiogelu’r adeilad rhag difrod a achosir gan y gweithrediad adeiladu neu gynnal a chadw’r rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig,
rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr yr adeilad am golled neu ddifrod a ddioddefwyd ganddynt.
(9) Heb ragfarnu erthygl 48 (dim adennill dwbl) nid oes dim yn yr erthygl hon yn rhyddhau’r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2)(1) o Ddeddf 1965.
(10) Rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan baragraff (7) neu (8) gael ei benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(11) Yn yr erthygl hon, ystyr “gweithfeydd diogelu” mewn perthynas ag adeilad yw—
(a)tanategu, atgyfnerthu ac unrhyw weithfeydd eraill a wneir er mwyn atal difrod a all gael ei achosi i’r adeilad oherwydd adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu’r gweithfeydd awdurdodedig; ac
(b)unrhyw weithfeydd a wneir er mwyn unioni unrhyw ddifrod a achoswyd i’r adeilad oherwydd adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu’r gweithfeydd awdurdodedig.
Diwygiwyd adran 10 drwy adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 13(2) o Atodlen 2 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: