Search Legislation

Gorchymyn Parth Arddangos Morlais 2021

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1478 (Cy. 380)

Trafnidiaeth A Gweithfeydd, Cymru

Gorchymyn Parth Arddangos Morlais 2021

Gwnaed

17 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

22 Rhagfyr 2021

Mae cais wedi cael ei wneud i Weinidogion Cymru yn unol â Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006(1) am Orchymyn o dan adrannau 3 a 5 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992(2) (“Deddf 1992”).

Parodd Gweinidogion Cymru i ymchwiliad gael ei gynnal at ddibenion y cais o dan adran 11 o Ddeddf 1992.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau a wnaed ac nas tynnwyd yn eu hôl ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad, wedi penderfynu gwneud Gorchymyn sy’n gweithredu’r cynigion sy’n cael eu cynnwys yn y cais gydag addasiadau sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn gwneud newid sylweddol yn y cynigion.

Mae Gweinidogion Cymru ar ôl ystyried sylwadau a wnaed yn briodol o dan adran 13 o Ddeddf 1992, wedi penderfynu gwneud y Gorchymyn y gwnaed cais amdano gydag addasiadau. Cyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru yn y London Gazette ar 17 Rhagfyr 2021.

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 2, 3, 4, 5, 7, 8, 11, 1516 a 17 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, sydd bellach yn arferadwy ganddynt(3) yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a Chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Parth Arddangos Morlais 2021 a daw i rym ar 22 Rhagfyr 2021.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1961” yw Deddf Digollediad Tir 1961(4);

ystyr “Deddf 1965” yw Deddf Prynu Gorfodol 1965(5);

ystyr “Deddf 1980” yw Deddf Priffyrdd 1980(6);

ystyr “Deddf 1981” yw Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(7);

ystyr “Deddf 1990” yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(8);

ystyr “Deddf 1991” yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991(9);

ystyr “Deddf 2004” yw Deddf Ynni 2004(10);

ystyr “Deddf 2009” yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(11);

ystyr “Rheoliadau 2007” yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007(12);

mae “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw nifer o gyfeiriadau a ddefnyddir at ddibenion darlledu electronig;

ystyr “ardal araeau” yw’r rhan honno o derfynau Gorchymyn ar y môr a sefydlwyd fel ardal yr araeau yn Rhan 3 o Atodlen 1 y caniateir adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu Gwaith Rhif 1 oddi mewn iddi;

ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” yw’r gweithfeydd rhestredig a nodwyd yn Rhan 1 o Atodlen 1 ac unrhyw weithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn, gan gynnwys y gweithfeydd pellach a nodwyd yn Rhan 2 o Atodlen 1;

mae “adeilad” yn cynnwys unrhyw strwythur neu unrhyw ran o adeilad neu strwythur;

ystyr “cyfeirlyfr” yw’r cyfeirlyfr a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel y cyfeirlyfr at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “diogelu ceblau” yw diogelu unrhyw geblau sy’n ffurfio rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a chaiff gynnwys bagiau o greigiau, matrisau concrid, cyfnewid cerrig dros ffosydd agored wedi’u torri a chwndid neu bibell a all gynnwys tiwb J neu fesur diogelu pibellau hollt cyffelyb;

mae i “cerbytffordd” yr un ystyr â “carriageway” yn Neddf 1980;

ystyr “cychwyn” yw dechrau cyflawni unrhyw weithrediad perthnasol (fel y’i diffiniwyd yn adran 56(4) o Ddeddf 1990) sy’n ffurfio rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig naill ai ar y tir neu ar y môr heblaw am weithrediadau sy’n cynnwys gwaith dymchwel, ymchwiliadau at ddiben asesu amodau’r ddaear neu wely’r môr, ymchwiliadau archaeolegol, codi unrhyw ddull dros dro o amgáu ac arddangos hysbysiadau neu hysbysebion dros dro; a rhaid dehongli “cychwyn” yn unol â hynny;

ystyr “ceblau cyfathrebu” yw ceblau ffôn a/neu geblau ffeibr optig ar gyfer cyfathrebu’n electronig;

ystyr “datgomisiynu” yw datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig (neu unrhyw ran ohonynt) ar ddiwedd eu hoes weithredol ond ni fydd yn cynnwys ailbweru;

ystyr “strategaeth gwella bioamrywiaeth forol fanwl” yw strategaeth gwella bioamrywiaeth forol sy’n unol â’r strategaeth gwella bioamrywiaeth forol ac sy’n disgrifio unrhyw fesurau gwella amrywiaeth arfaethedig i’w cyflwyno fel rhan o adeiladu neu ailbweru dyfeisiau llanwol, hybiau gweithredol neu osod ceblau y mae’n ymwneud â hwy;

ystyr “protocol ar ddefnyddio dyfeisiau” yw datganiad sy’n nodi—

(a)

mewn cysylltiad â dyfeisiau llanwol a hybiau gweithredol sy’n codi o’r wyneb yn yr ardaloedd cyfyngedig a gweddill ardal yr araeau fanylion sy’n cynnwys dimensiynau’r dyfeisiau llanwol neu’r hybiau gweithredol y mae’r ymgymerwr yn bwriadu eu hadeiladu neu eu hailbweru ac asesiad morwedd, tirwedd a gweledol a gynhelir yn unol â’r fethodoleg asesu ar gyfer y datganiad amgylcheddol neu unrhyw ganllawiau arferion gorau a gyhoeddir wedi hynny ar y dyfeisiau llanwol neu’r hybiau gweithredol arfaethedig a fydd yn cynnwys asesiad o effaith gronnol y dyfeisiau llanwol a’r hybiau gweithredol arfaethedig a/neu y rhoddwyd cydsyniad iddynt (yn unol â phrotocol ar ddefnyddio dyfeisiau cymeradwy) ar adeg ei baratoi, a/neu

(b)

mewn perthynas â dyfeisiau llanwol neu hybiau gweithredol o dan yr wyneb yn yr ardal gyfyngedig – UKC 8m gyda lle clirio arfaethedig o dan y cêl o lai nag 8m fanylion am y ddyfais lanwol neu’r hwb gweithredol i’w (d)defnyddio, a/neu

(c)

mewn perthynas â dyfeisiau llanwol neu hybiau gweithredol o dan y wyneb yn yr ardal gyfyngedig UKC 20m gyda lle clirio arfaethedig o dan y cêl o lai nag 20m fanylion am y ddyfais lanwol neu’r hwb gweithredol i’w (d)defnyddio ac ym mhob achos bydd yn gyson â’r asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru ar gyfer y gwaith llanwol perthnasol;

ystyr “Cyfarwyddeb AEA” yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2014/52/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(13);

ystyr “darlledu electronig” yw cyfathrebiad a ddarlledir—

(d)

drwy rwydwaith cyfathrebu electronig, neu

(e)

drwy fodd arall ond ar ffurf electronig;

ystyr “datganiad amgylcheddol” yw’r datganiad amgylcheddol a gyflwynir ar y cyd â’r cais am y Gorchymyn hwn fel yr ychwanegir ato neu fel y’i diwygir gan y wybodaeth amgylcheddol bellach a gyflwynir i gefnogi’r cais ac fel y’i hardystir ynghyd â’r datganiad amgylcheddol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “dogfen gyfatebol” yw dogfen a restrir yng ngholofn 1 o Ran 4 o Atodlen 1 y mae ei chynnwys hefyd yn ddarostyngedig i amod ar unrhyw drwydded forol a roddir ar gyfer gweithfeydd llanwol;

ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd fel y’i diffiniwyd yn Rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(14);

ystyr “coridor ceblau allforio” yw’r rhan o derfynau’r Gorchymyn ar y môr a sefydlwyd fel y coridor ceblau allforio yn Rhan 3 o Atodlen 1;

mae i “troetffordd” yr un ystyr â “footway” yn Neddf 1980;

mae i “priffordd” ac “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr â “highway” a “highway authority” yn Neddf 1980;

ystyr “terfynau’r gwyro” yw terfynau’r gwyro ar gyfer y gweithfeydd ar y tir a ddangosir ar blaniau’r tir;

ystyr “terfynau tir sydd i’w gaffael neu i’w ddefnyddio” yw’r tir a ddangosir ar blaniau’r tir;

mae “cynnal a chadw” yn cynnwys archwilio, atgyweirio, adnewyddu, cyfnewid, addasu, newid ac mae hefyd yn cynnwys, mewn perthynas â rhan gyfansoddol o waith ond nid y gwaith cyfan, waredu, clirio, adnewyddu, ailadeiladu, dymchwel, cyfnewid a gwella unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig, ond nid yw’n cynnwys unrhyw weithgarwch (heblaw gweithgarwch a awdurdodir gan neu o dan y Gorchymyn hwn) sydd o fewn dosbarth a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb AEA neu mewn dosbarth a restrir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb AEA ac, oherwydd ei faint neu ei leoliad, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac nad yw wedi cael ei ystyried na’i asesu yn y datganiad amgylcheddol a rhaid dehongli “cynnal a chadw” yn unol â hynny;

ystyr “MW” yw megawatiau;

ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

ystyr “terfynau’r Gorchymyn ar y môr” yw’r terfynau y caiff y gweithfeydd llanwol eu hadeiladu, eu gweithredu, eu cynnal a’u cadw, eu hailbweru a’u datgomisiynu oddi mewn iddynt a ddangosir ar blaniau’r gweithfeydd alltraeth;

ystyr “planiau’r gweithfeydd alltraeth” mewn perthynas â’r gweithfeydd llanwol yw’r planiau a baratoir yn unol â rheol 12(1)(a) o Reolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 ac a ardystir gan Weinidogion Cymru fel planiau’r gweithfeydd alltraeth at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “terfynau’r Gorchymyn ar y tir” yw terfynau’r gwyro a therfynau tir sydd i’w gaffael neu i’w ddefnyddio at gyfer y gweithfeydd ar y môr fel y’u dangosir ar blaniau’r tir;

ystyr “planiau’r tir” yw’r planiau a baratoir yn unol â rheol 12(1)(a) a rheol 12(5) o Reolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 ac a ardystir gan Weinidogion Cymru fel planiau’r tir at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “gweithfeydd ar y tir” yw cymaint o’r gweithfeydd awdurdodedig ag sy’n gorwedd tua’r tir o ddistyll cymedrig y gorllanw;

ystyr “hwb gweithredol” yw hwb ar gyfer casglu a chyfuno trydan a gynhyrchir gan nifer o ddyfeisiau llanwol sy’n cynnwys rhan o Waith Rhif 1;

ystyr “strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol” yw’r ddogfen a ardystiwyd fel y strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn neu unrhyw strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol sydd wedi’i diweddaru neu wedi’i diwygio ag a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â thelerau unrhyw drwydded forol y gellir ei rhoi ar gyfer y gweithfeydd llanwol;

mae i “perchennog”, mewn perthynas â thir, yr un ystyr ag “owner” yn Neddf Caffael Tir 1981(15);

ystyr “paramedrau’r prosiect” yw’r paramedrau ar gyfer y gweithfeydd awdurdodedig fel y’u nodwyd yn nhablau 4-21 i 4-30 o’r bennod 4 ddiwygiedig o’r wybodaeth amgylcheddol wedi’i diweddaru sy’n rhan o’r datganiad amgylcheddol ac sy’n dwyn cyfeirnod dogfen MOR-RHDHV-DOC-0004 fersiwn F4.0 dyddiedig Hydref 2019;

ystyr “ailbweru” yw cyfnewid dyfais lanwol bresennol â dyfais lanwol wahanol yn yr un lleoliad neu mewn lleoliad gwahanol a all gynnwys—

(a)

tynnu ymaith ddyfeisiau llanwol, hybiau cysylltiedig, ceblau rhwng araeau a chyfarpar monitro sy’n cynnwys y rhan honno o Waith Rhif 1 ag sy’n cael ei hailbweru; ac

(b)

adeiladu dyfeisiau llanwol, hybiau cysylltiedig, ceblau rhwng araeau a chyfarpar monitro newydd a gweithfeydd awdurdodedig eraill gyda Gwaith Rhif 1 ynghyd ag unrhyw weithfeydd cysylltiedig a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1;

ond nid yw’n cynnwys unrhyw weithgarwch (heblaw gweithgarwch a awdurdodir gan neu o dan y Gorchymyn hwn) sydd o fewn dosbarth a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb AEA neu mewn dosbarth a restrir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb AEA ac, oherwydd ei faint neu ei leoliad, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac nad yw wedi cael ei ystyried na’i asesu yn y datganiad amgylcheddol a rhaid dehongli “ailbweru” yn unol â hynny;

ystyr “plan ardal gyfyngedig” yw’r plan a nodir â ‘Plan yr Ardal Gyfyngedig’ ac sy’n dwyn y cyfeirnod PB5034-ES-004-005 Rev 05 ac a ardystir gan Weinidogion Cymru fel plan yr ardal gyfyngedig at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “ardal gyfyngedig – gogleddol” yw’r rhan honno o ardal yr araeau a sefydlwyd fel yr ardal gyfyngedig – gogleddol, yn Rhan 3 o Atodlen 1 ac a ddangosir mewn lliw aur ar Blan yr Ardal Gyfyngedig;

ystyr “ardal gyfyngedig - UKC 8m” yw’r rhan o ardal yr araeau a sefydlwyd fel yr ardal gyfyngedig UKC 8m yn Rhan 3 o Atodlen 1 ac a ddangosir mewn lliw glas ar Blan yr Ardal Gyfyngedig;

ystyr “ardal gyfyngedig – UKC 20m” yw’r rhan o’r ardal a sefydlwyd fel yr ardal gyfyngedig – UKC 20m yn Rhan 3 o Atodlen 1 ac a ddangosir mewn lliw porffor ar Blan yr Ardal Gyfyngedig;

ystyr “ardaloedd cyfyngedig” yw’r ardal gyfyngedig – gogleddol yr ardal gyfyngedig – UKC 8m a’r ardal gyfyngedig – UKC 20m;

ystyr “yr Ysgrifennydd Gwladol” yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol neu ei olynydd o ran swyddogaeth sydd â phwerau i sicrhau datgomisiynu gosodiadau ynni adnewyddadwy alltraeth yn unol â Deddf 2004;

ystyr “y trawsluniau” yw’r trawsluniau a baratoir yn unol â rheol 12(3) o Reolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 ac a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel y trawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;

mae “stryd” yn cynnwys rhan o stryd;

mae i “awdurdod strydoedd”, mewn perthynas â stryd, yr yn ystyr â “street authority” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991;

ystyr “dyfais lanwol” yw generadur ynni’r llanw ar wahân sy’n cynnwys trawsnewidiwr/trawsnewidwyr ynni’r llanw, sylfeini a strwythurau ategol;

ystyr “trawsnewidiwr ynni’r llanw” yw’r rhan honno o ddyfais lanwol sy’n trawsnewid ynni cinetig a phosibl a geir o fewn dŵr llanwol symudol yn drydan;

ystyr “gweithfeydd llanwol” yw cymaint o’r gweithfeydd awdurdodedig ag sy’n gorwedd tua’r môr o benllanw cymedrig y gorllanw neu unrhyw ran neu rannau ohonynt a byddant yn cynnwys unrhyw gyfryw weithfeydd ag sydd wedi cael eu hailbweru ac mewn perthynas ag erthygl 21 (diogelwch mordwyo) ac maent yn cynnwys unrhyw weithfeydd carthu, boed hynny yn unol ag erthygl 16 (pŵer i garthu) neu fel arall;

ystyr “y tribiwnlys” yw Siambr Diroedd yr Uwch Dribiwnlys;

ystyr “Trinity House” yw Corporation of Trinity House o Deptford Strond;

ystyr “ymgymerwr” mewn perthynas ag adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig yw Menter Môn Morlais Cyfyngedig neu’r cyfryw gwmni arall y trosglwyddir buddiant y Gorchymyn iddo yn unol ag erthygl 6(1) ac mewn perthynas â’r gweithfeydd llanwol mae’n cynnwys unrhyw berson y mae rhan o’r gweithfeydd llanwol neu derfynau’r Gorchymyn ar y môr wedi cael ei phrydlesu iddo yn unol ag erthygl 6(2);

ystyr “asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru” yw asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru ar gyfer pob cam perthnasol o bob gwaith llanwol a wneir yn unol â methodoleg ac argymhellion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a nodir yn MGN654 ‘Offshore Renewable Energy Installations (OREIs) – Guidance on UK Navigational Practice, Safety and Emergency Response’ a’i atodiadau neu ddiweddariadau dilynol ac ystyried lleoliad a nodweddion y gweithfeydd llanwol y cynigir y dylid eu defnyddio, y dull o adeiladu, angori goleuadau a gynigir, gweithredu ac unrhyw ofynion cynnal a chadw cysylltiedig neu ddulliau ailbweru neu ddatgomisiynu (fel y bo’n gymwys) ac asesiad o effeithiau cronnol y cynigion gyda gweithfeydd llanwol a ddefnyddiwyd yn flaenorol a bydd yn cynnwys graddau unrhyw barth diogelwch arfaethedig i wneud cais amdano yn unol ag erthygl 43;

mae “cwrs dŵr” yn cynnwys pob afon, ffrwd, ffos, draen camlas, toriad, cwlfer, clawdd, llifddor, carthffos a thramwy y mae dŵr yn llifo drwyddi neu drwyddo ac eithrio carthffos neu ddraen gyhoeddus.

(2Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn i hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir, arno neu oddi tano neu yn yr awyr uwchlaw ei wyneb.

(3Dehonglir unrhyw bellteroedd, cyfeiriadau a hydoedd a nodir yn y disgrifiad o’r gweithfeydd awdurdodedig neu mewn unrhyw ddisgrifiad o bwerau neu diroedd fel pe bai’r geiriau “neu fwy neu lai” wedi’u mewnosod ar ôl pob cyfryw bellter, cyfeiriad a hyd, a thybir bod pellteroedd rhwng pwyntiau ar waith awdurdodedig wedi’u mesur ar hyd y gwaith awdurdodedig.

RHAN 2Darpariaethau ynghylch Gweithfeydd

Prif bwerau

Pŵer i adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu gweithfeydd

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol neu unrhyw rannau ohonynt o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr ailbweru Gwaith Rhif 1 neu unrhyw rannau ohono o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr.

(4Wrth adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol, rhaid i’r dogfennau yng ngholofn 1 o Ran 4 o Atodlen 1 gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru a’u cymeradwyo’n ysgrifenedig ganddynt cyn bod y gweithgarwch yng ngholofn 2 yn digwydd a bydd yn rhaid i’r cyfryw ddogfennau fod yn unol ag unrhyw amodau sy’n ymwneud â’u cynnwys a osodir ar unrhyw drwydded forol ar gyfer y gweithfeydd llanwol perthnasol ac ni fyddant yn awdurdodi unrhyw weithfeydd y tu allan i baramedrau’r prosiect.

(5Ni fydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo unrhyw brotocol ar ddefnyddio dyfeisiau yn unol â pharagraff (4) mewn perthynas ag adeiladu neu ailbweru dyfeisiau llanwol sy’n codi o’r arwyneb a hybiau gweithredol yn ardal yr araeau heb ymgynghori â Chyngor Sir Ynys Môn yn gyntaf ac ni fydd yn cymeradwyo unrhyw brotocol ar ddefnyddio dyfeisiau, cynllun rheoli ceblau, rhaglen ddatgomisiynu nac asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru yn unol â pharagraff (4) heb ymgynghori â Trinity House ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn gyntaf, ac ym mhob achos bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i ymatebion yr ymgyngoreion hynny.

(6Rhaid i’r gweithfeydd llanwol ac unrhyw rannau ohonynt gael eu hadeiladu, eu cynnal a’u cadw, eu hailbweru a’u datgomisiynu (fel y bo’n briodol) yn unol â’r dogfennau a gymeradwyir yn unol â pharagraff (4) uchod ac eithrio y gellir diwygio’r cyfryw ddogfennau o bryd i’w gilydd gyda chytundeb Gweinidogion Cymru.

(7At ddibenion paragraffau (4) a (6) uchod, bernir y bydd unrhyw gymeradwyaeth o ddogfen gyfatebol yn unol ag un o amodau trwydded forol a roddir ar gyfer y gweithfeydd llanwol neu ddiwygiad y cytunwyd arno i’r cyfryw ddogfen yn gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

(8Ni chaiff unrhyw weithfeydd llanwol gychwyn nes bod rhaglen ddatgomisiynu ysgrifenedig yn unol ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir i’r ymgymerwr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 105(2) o Ddeddf 2004 wedi’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol i’w gymeradwyo.

Pŵer i wyro

4.  Wrth adeiladu neu gynnal a chadw’r gweithfeydd alltraeth—

(a)caiff yr ymgymerwr mewn perthynas â Gweithfeydd Rhif 3 i 9 wyro’n ochrol i unrhyw raddau oddi wrth y llinellau neu’r sefyllfaoedd a ddangosir ar blaniau’r tir o fewn terfynau’r gwyro;

(b)ni chaniateir i’r ymgymerwr mewn perthynas â Gweithfeydd Rhif 7 ac 8 adeiladu unrhyw weithfeydd o fewn 1.6 metr i wyneb y ddaear; a

(c)chaiff yr ymgymerwr mewn perthynas â phob un o’r gweithfeydd awdurdodedig a bennir yng ngholofn (3) o’r tabl a nodir ym Mhennod 2 o Ran 2 i Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn, adeiladu’r gweithfeydd hynny yn y tir a nodir mewn perthynas â’r gwaith penodol hwnnw yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl hwnnw.

Pŵer i weithredu

5.—(1Caiff yr ymgymerwr weithredu a defnyddio’r gweithfeydd awdurdodedig fel system ar gyfer cynhyrchu a thrawsyrru trydan.

(2Wrth weithredu’r gweithfeydd alltraeth rhaid i’r ymgymerwr gydymffurfio â’r dogfennau a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 1 fel y’u cymeradwywyd i’r graddau sy’n berthnasol i weithredu a defnyddio’r gweithfeydd llanwol.

Budd y Gorchymyn

6.—(1Caiff yr ymgymerwr, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, drosglwyddo i berson arall (“y trosglwyddai”) unrhyw ran neu bob rhan o fudd darpariaeth y Gorchymyn hwn gan gynnwys ei hawl i adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig (neu unrhyw ran ohonynt) a’r cyfryw hawliau statudol ag y caiff yr ymgymerwr a’r trosglwyddai gytuno arnynt.

(2Caiff yr ymgymerwr roi i berson arall (“y prydlesai”) am gyfnod y cytunir arno rhwng yr ymgymerwr a’r prydlesai yr hawl i adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol (neu unrhyw ran ohonynt) a’r cyfryw hawliau statudol cysylltiedig ag y cytunir arnynt felly.

(3Mae arfer y pwerau a roddir drwy ddeddfiad gan unrhyw berson yn unol â throsglwyddo neu roi’r pwerau hynny o dan baragraff (1) neu (2) yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau, atebolrwyddau a rhwymedigaethau ag a fyddai’n gymwys o dan y Gorchymyn hwn pe bai’r pwerau hynny yn cael eu harfer gan yr ymgymerwr.

StrydoeddCymhwyso Deddf 1991

Pŵer i wneud gweithfeydd stryd

7.—(1Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig, fynd ar gymaint o unrhyw un o’r strydoedd a bennir yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn ag sydd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a chaiff—

(a)torri neu agor y stryd, neu unrhyw garthffos, draen neu dwnnel oddi tani,

(b)twnelu neu durio o dan y stryd;

(c)gosod cyfarpar yn y stryd;

(d)cynnal a chadw cyfarpar yn y stryd neu newid ei leoliad; a

(e)gwneud unrhyw weithfeydd sy’n ofynnol ar gyfer unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a)-(d) neu sy’n gysylltiedig â hwy.

(2Mae’r awdurdod a roddir gan baragraff (1) yn hawl statudol at ddibenion adrannau 48(3) (strydoedd, gweithfeydd stryd ac ymgymerwyr) a 51(1) (gwahardd gweithfeydd stryd anawdurdodedig) o Ddeddf 1991.

(3Mae adrannau 54 i 106 o Ddeddf 1991 yn gymwys i unrhyw weithfeydd stryd a gyflawnir o dan baragraff (1).

(4Mae’r erthygl hon yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol etc) i’r Gorchymyn hwn.

(5Yn yr erthygl hon mae i “cyfarpar” yr yn ystyr â “apparatus” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991.

Cau strydoedd dros dro

8.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, caiff yr ymgymerwr, mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, gau, newid neu ddargyfeirio unrhyw stryd dros dro a chaiff, am unrhyw gyfnod rhesymol—

(a)dargyfeirio’r traffig o’r stryd; ac

(b)atal personau rhag mynd ar hyd y stryd.

(2Heb gyfyngu ar gwmpas ar baragraff (1), caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw stryd sy’n cael ei chau o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir fel safle gwaith dros dro.

(3Pan fo’r ymgymerwr yn atal personau rhag mynd ar hyd y stryd, rhaid i’r ymgymerwr roi mynediad rhesymol i neu o safleoedd sy’n ffinio â stryd neu a wasanaethir gan stryd yr effeithir arni o ganlyniad i gau, newid neu ddargyfeirio stryd dros dro o dan yr erthygl hon pe na bai’r cyfryw fynediad fel arall.

(4Heb gyfyngu ar baragraff (1), caiff yr ymgymerwr gau, newid neu ddargyfeirio dros dro y strydoedd a nodir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 4 (strydoedd sydd i’w cau dros dro) i’r graddau a bennir, drwy gyfeirio at y llythrennau a’r rhifau a ddangosir ar blaniau’r tir, yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno.

(5Rhaid i’r ymgymerwr beidio â chau, newid na dargyfeirio dros dro—

(a)y strydoedd a nodir fe y’u crybwyllir ym mharagraff (4) heb ymgynghori â’r awdurdod strydoedd yn gyntaf; ac

(b)unrhyw stryd arall heb gydsyniad yr awdurdod strydoedd, a gaiff atodi amodau rhesymol i unrhyw gydsyniad, gan gynnwys ynglŷn â’r rhybudd i’w roi.

(6Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled drwy atal unrhyw ffordd fynediad breifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(7Os, o fewn 56 diwrnod i gael cais am gydsyniad o dan baragraff (5)(b), bydd awdurdod strydoedd yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am ei benderfyniad neu’n gwrthod rhoi cydsyniad heb roi unrhyw seiliau dros wrthod, bernir bod yr awdurdod strydoedd hwnnw wedi rhoi ei gydsyniad.

(8Mae’r erthygl hon yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol etc) i’r Gorchymyn hwn.

Mynediad i weithfeydd

9.  Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig—

(a)ffurfio a gosod ffordd fynediad, neu wella ffordd fynediad bresennol, yn y lleoliad a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 5 (mynediad i weithfeydd) yn y pwynt a nodir ag A ar blaniau’r tir ar gyfer y Gorchymyn hwn neu tua’r pwynt hwnnw; a

(b)chyda chymeradwyaeth yr awdurdod priffyrdd perthnasol ar ôl ymgynghori, nad atelir y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol, ffurfio a gosod y cyfryw ffordd fynediad arall neu wella ffordd fynediad bresennol, yn y cyfryw leoliadau o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir ag sydd ei hangen yn rhesymol ar yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig.

Cytundebau ag awdurdodau strydoedd

10.—(1Caiff awdurdod strydoedd a’r ymgymerwr ymrwymo i gytundebau mewn perthynas ag—

(a)cau, newid neu ddargyfeirio unrhyw stryd a awdurdodir drwy’r Gorchymyn hwn; neu

(b)cyflawni yn y stryd unrhyw un o’r gweithfeydd y cyfeirir atynt yn erthygl 7 (pŵer i wneud gweithfeydd stryd).

(2Caiff y cyfryw gytundeb, heb gyfyngu ar baragraff (1),—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer yr awdurdod strydoedd i gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan y Gorchymyn hwn sy’n ymwneud â’r stryd dan sylw;

(b)cynnwys cytundeb rhwng yr ymgymerwr a’r awdurdod strydoedd sy’n pennu cyfnod rhesymol ar gyfer cwblhau’r gweithfeydd; ac

(c)cynnwys y cyfryw delerau ynglŷn â thâl ac fel arall fel y tybia’r partïon yn briodol.

Defnyddio ffyrdd preifat ar gyfer adeiladu

11.—(1Caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw ffordd breifat o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir neu unrhyw ffordd breifat sy’n ffinio â therfynau’r Gorchymyn ar y tir sydd â chyffordd â’r cyfryw ffordd ar gyfer tramwy personau neu gerbydau (gyda neu heb ddeunyddiau, offer a pheiriannau) at ddibenion adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â hynny.

(2Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am atgyweirio ffordd y mae paragraff (1) yn gymwys iddi am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y person hwnnw drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1).

(3Mae unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (2), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, i’w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Pwerau atodol

Gollwng dŵr

12.—(1Caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw gwrs dŵr neu unrhyw garthffos neu ddraen gyhoeddus i ddraenio dŵr mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig ac at y diben hwnnw caiff osod, tynnu a newid pibellau a chaiff, ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir, wneud agoriadau i’r cwrs dŵr, carthffos neu’r ddraen gyhoeddus a chysylltiadau ag ef/hi.

(2Rhaid i unrhyw anghydfod sy’n deillio o arfer y pwerau ym mharagraff (1) i gysylltu â charthffos neu ddraen gyhoeddus neu ei defnyddio gael ei benderfynu fel pe bai’n anghydfod o dan adran 106 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(16).

(3Rhaid i’r ymgymerwr beidio â gollwng unrhyw ddŵr i mewn i unrhyw gwrs dŵr, carthffos neu ddraen gyhoeddus oni cheir cydsyniad y person sy’n berchen arno neu arni; a chaiff y cyfryw gydsyniad ei roi yn ddarostyngedig i’r cyfryw delerau ac amodau ag y caiff yn rhesymol eu gosod, ond ni ellir ei atal yn afresymol.

(4Rhaid i’r ymgymerwr beidio â gwneud unrhyw agoriad i mewn i unrhyw garthffos na draen gyhoeddus ac eithrio—

(a)yn unol â chynlluniau a gymeradwyir gan y person sy’n berchen ar y garthffos neu’r ddraen, ond ni ellir atal y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol; a

(b)pan fo’r person hwnnw wedi cael cyfle i oruchwylio gwneud yr agoriad.

(5Rhaid i’r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, beidio â difrodi gwely na glannau unrhyw gwrs dŵr nac ymyrryd â hwy.

(6Rhaid i’r ymgymerwr gymryd y cyfryw gamau ag sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod unrhyw ddŵr sy’n cael ei ollwng i mewn i gwrs dŵr neu garthffos neu ddraen gyhoeddus o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mor rhydd ag y bo’n ymarferol rhag gro, pridd neu sylwedd solet arall, olew neu sylwedd mewn toddiant.

(7Nid yw’r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw weithgarwch ynglŷn â dŵr daear na gweithgarwch gollwng dŵr o fewn ystyr Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(17) nac yn trechu’r gofyniad i gael trwydded o dan reoliad 12(1)(b) o’r un rheoliadau.

(8Os bydd person sy’n cael cais am gydsyniad neu gymeradwyaeth yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am benderfyniad o fewn 56 diwrnod i gael cais am gydsyniad o dan baragraff (3) neu gymeradwyaeth o dan baragraff (4)(a) tybir bod y person hwnnw wedi rhoi ei gydsyniad neu wedi rhoi ei gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd.

(9Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “carthffos neu ddraen gyhoeddus” yw carthffos neu ddraen sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru, bwrdd draenio mewnol, awdurdod lleol, neu ymgymerwr carthffosiaeth; a

(b)mae i ymadroddion eraill, heb gynnwys cyrsiau dŵr a ddefnyddir yn yr erthygl hon ac yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991(18) yr un ystyr ag sydd yn y Ddeddf honno.

Gweithfeydd diogelu ar adeiladau

13.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, caiff yr ymgymerwr ar ei draul ei hun gyflawni’r cyfryw weithfeydd diogelu ar unrhyw adeilad sydd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir ag y barna’r ymgymerwr yn angenrheidiol neu’n hwylus.

(2Caiff gweithfeydd diogelu eu cyflawni—

(a)ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod y gwaith adeiladu yng nghyffiniau adeiladu unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig; neu

(b)ar ôl cwblhau’r rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig yng nghyffiniau’r adeilad ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod yr agorwyd y rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig yn gyntaf i’w defnyddio.

(3At ddiben penderfynu sut mae’r swyddogaethau o dan yr erthygl hon yn cael eu harfer, caiff yr ymgymerwr fynd i mewn i unrhyw adeilad sy’n dod o dan baragraff (1) ac unrhyw dir o fewn ei gwrtil a chynnal arolwg.

(4At ddiben cyflawni gweithfeydd diogelu o dan yr erthygl hon ar adeilad, caiff yr ymgymerwr (yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6))—

(a)mynd i mewn i’r adeilad ac unrhyw dir o fewn ei gwrtil; a

(b)pan na fo modd cyflawni’r gweithfeydd yn rhesymol gyfleus heb fynd ar dir sy’n gyfagos i’r adeilad ond y tu allan i’w gwrtil, fynd ar y tir cyfagos (ond nid unrhyw adeilad sydd wedi’i godi arno).

(5Cyn arfer—

(a)hawl o dan baragraff (1) i gyflawni gweithfeydd diogelu ar adeilad;

(b)hawl o dan baragraff (3) i fynd i mewn i adeilad a thir o fewn ei gwrtil;

(c)hawl o dan baragraff (4)(a) i fynd i mewn i adeilad a thir o fewn ei gwrtil; neu

(d)hawl o dan baragraff (4)(b) i fynd ar dir,

rhaid i’r ymgymerwr, ac eithrio mewn argyfwng, gyflwyno hysbysiad sy’n rhoi 56 diwrnod o leiaf o rybudd i berchenogion a meddianwyr yr adeilad neu’r tir am ei fwriad i arfer yr hawl honno ac, mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (c), bennu’r gweithfeydd diogelu y bwriedir eu cyflawni.

(6Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (5)(a), (c) neu (d), caiff perchennog neu feddiannydd yr adeilad neu’r tir dan sylw, drwy gyflwyno gwrth-hysbysiad o fewn y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i’r cwestiwn ynghylch a yw’n angenrheidiol neu’n hwylus cyflawni’r gweithfeydd diogelu neu fynd i mewn i’r adeilad neu ar y tir gael ei gyfeirio at gymrodeddwr o dan erthygl 49 (cymrodeddu).

(7Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr unrhyw adeilad neu dir y mae’r pwerau a roddir gan yr erthygl hon wedi cael eu harfer mewn perthynas â hwy am unrhyw golled neu ddifrod a achosir iddynt drwy arfer y pwerau hynny.

(8Pan—

(a)fo gweithfeydd diogelu yn cael eu cyflawni o dan yr erthygl hon ar adeilad; ac

(b)o fewn cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod yr agorwyd y rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a adeiladwyd yng nghyffiniau’r adeilad yn gyntaf i’w defnyddio ymddengys bod y gweithfeydd awdurdodedig yn annigonol i ddiogelu’r adeilad rhag difrod a achosir gan y gweithrediad adeiladu neu gynnal a chadw’r rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig,

rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr yr adeilad am golled neu ddifrod a ddioddefwyd ganddynt.

(9Heb ragfarnu erthygl 48 (dim adennill dwbl) nid oes dim yn yr erthygl hon yn rhyddhau’r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2)(19) o Ddeddf 1965.

(10Rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan baragraff (7) neu (8) gael ei benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(11Yn yr erthygl hon, ystyr “gweithfeydd diogelu” mewn perthynas ag adeilad yw—

(a)tanategu, atgyfnerthu ac unrhyw weithfeydd eraill a wneir er mwyn atal difrod a all gael ei achosi i’r adeilad oherwydd adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu’r gweithfeydd awdurdodedig; ac

(b)unrhyw weithfeydd a wneir er mwyn unioni unrhyw ddifrod a achoswyd i’r adeilad oherwydd adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu’r gweithfeydd awdurdodedig.

Pŵer i arolygu ac ymchwilio i dir

14.—(1Caiff yr ymgymerwr at ddibenion y Gorchymyn hwn—

(a)arolygu unrhyw dir a ddangosir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir neu y gall y gweithfeydd awdurdodedig effeithio arno neu ymchwilio iddo;

(b)heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-baragraff (a), gwneud tyllau treialu yn y cyfryw leoliadau ag y gwêl yr ymgymerwr yn dda ar y tir er mwyn ymchwilio i natur haen yr arwyneb a’r is-bridd a thynnu samplau o bridd;

(c)heb ragfarnu cyffredinolrwydd paragraff (a), cynnal ymchwiliadau ecolegol neu archaeolegol ar y cyfryw dir;

(d)gosod cyfarpar i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arolygu ac ymchwilio i’r tir a gwneud tyllau treialu ar y tir, ei adael ar y tir neu ei dynnu ymaith; ac

(e)mynd ar y tir at ddiben arfer y pwerau a roddir gan is-baragraffau (a) i (d).

(2Ni chaniateir mynd ar dir na gosod cyfarpar arno, ei adael arno na’i dynnu ymaith o dan baragraff (1), oni hysbysir pob perchennog ar y tir a phob meddiannydd o leiaf 7 diwrnod ymlaen llaw a bod y cyfryw hysbysiad yn cynnwys hysbysu’r derbynnydd am ei hawl i gael ei ddigolledu o dan baragraff (13).

(3Os yw’r ymgymerwr yn bwriadu gwneud unrhyw un o’r canlynol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys manylion am yr hyn a fwriedir—

(a)chwilio, turio neu gloddio;

(b)gadael cyfarpar ar dir;

(c)cymryd samplau;

(d)arolwg o’r awyr; ac

(e)cyflawni unrhyw weithgareddau eraill a all fod yn ofynnol er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth â’r offerynnau a grybwyllir ym mharagraff (4).

(4Yr offerynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(e) yw—

(a)Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(20); neu

(b)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(21).

(5Mewn perthyn ag unrhyw berson sy’n mynd ar dir o dan yr erthygl hon ar ran yr ymgymerwr—

(a)mae’n rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, cyn neu ar ôl mynd ar y tir ddangos tystiolaeth ysgrifenedig o’i awdurdod i wneud hynny gan gynnwys unrhyw warant a roddir o dan baragraff (6); a

(b)ni chaniateir iddo ddefnyddio grym oni bai bod ynad heddwch wedi rhoi gwariant o dan baragraff (6).

(6Caiff ynad heddwch roi gwarant sy’n awdurdodi person i ddefnyddio grym wrth arfer y pŵer a roddwyd gan yr erthygl hon os yw wedi’i fodloni—

(a)bod person arall wedi atal neu’n debygol o atal arfer y pŵer hwnnw; a

(b)ei bod yn rhesymol defnyddio grym wrth arfer y pŵer hwnnw.

(7Mae’r grym y gellir ei awdurdodi drwy warant wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n rhesymol angenrheidiol.

(8Rhaid i warant sy’n awdurdodi’r person i ddefnyddio grym bennu nifer yr achlysuron y gall yr ymgymerwr ddibynnu ar y warant wrth fynd ar dir, ei arolygu neu ei brisio.

(9Rhaid mai’r nifer a bennwyd yw’r nifer y mae’r ynad heddwch yn barnu ei fod yn briodol er mwyn cyflawni’r diben y mae’n ofynnol mynd ar dir a’i arolygu neu ei brisio ar ei gyfer.

(10Rhaid i unrhyw dystiolaeth mewn achos cyfreithiol i gael gwarant o dan yr erthygl hon gael ei rhoi ar lw.

(11Ni chaniateir gwneud unrhyw dyllau treialu o dan yr erthygl hon—

(a)mewn cerbytffordd neu droedffordd heb gydsyniad yr awdurdod priffyrdd; neu

(b)mewn stryd breifat heb gydsyniad yr awdurdod strydoedd,

ond ni chaniateir atal y cyfryw gydsyniad yn afresymol.

(12Os bydd awdurdod priffyrdd neu awdurdod strydoedd y cyflwynir cais am gydsyniad iddo yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am ei benderfyniad o fewn 56 diwrnod i gael y cais am gydsyniad–

(a)o dan baragraff (11)(a) yn achos awdurdod priffyrdd; neu

(b)o dan baragraff (11)(b) yn achos awdurdod strydoedd;

tybir bod yr awdurdod hwnnw wedi rhoi cydsyniad.

(13Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr y tir am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi drwy arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, y penderfynir ar y cyfryw ddigollediad, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(14Mae paragraffau (1) i (13) yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron, fodd bynnag dim ond os oes person wedi cael caniatâd yr awdurdod priodol y caiff arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1) mewn perthynas â thir y Goron.

Arbediad Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009

15.  Nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn yn dileu’r angen i gael trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf 2009 nac i gydymffurfio ag amodau unrhyw drwydded forol.

Pŵer i garthu

16.—(1Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol o bryd i’w gilydd ddyfnhau, carthu, sgwrio, glanhau, newid a gwella cymaint o wely, glannau a sianeli’r tir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr ag sy’n cyffinio â’r gweithfeydd awdurdodedig neu sy’n agos i’r gweithfeydd awdurdodedig a chaiff ddefnyddio, meddiannu neu waredu’r deunyddiau (heblaw am longddrylliad o fewn ystyr Rhan 9 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(22)) sydd o bryd i’w gilydd yn cael eu carthu ganddo.

(2Ni chaniateir gosod na dyddodi’r cyfryw ddeunyddiau yn groes i ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad mewn perthynas â gwaredu gwastraff neu sgil gynhyrchion a garthwyd.

Darpariaeth rhag perygl i fordwyo

17.—(1Os bydd gwaith llanwol neu unrhyw ran ohono heb gynnwys amlygu ceblau yn cael ei ddifrodi neu ei ddinistrio neu os bydd yn dirywio, rhaid i’r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r ymgymerwr ddod yn ymwybodol o unrhyw gyfryw ddifrodi, dinistrio neu ddirywio, hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru, Trinity House, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Swyddfa Hydrograffig y Deyrnas Unedig a Gwasanaeth Gwybodaeth Kingfisher am Bysgod y Môr a gosod y cyfryw fwiau, arddangos y cyfryw oleuadau a chymryd y cyfryw gamau sy’n atal perygl i fordwyo ag a gyfarwyddir gan Trinity House o bryd i’w gilydd.

(2Os bydd ceblau yn cael eu hamlygu ar wely’r môr neu uwchlaw gwely’r môr, rhaid i’r ymgymerwr o fewn tridiau ar ôl nodi bod ceblau wedi cael eu hamlygu o bosibl, hysbysu morwyr drwy gyhoeddi hysbysiad i forwyr a thrwy hysbysu Gwasanaeth Gwybodaeth Kingfisher am Bysgod y Môr am leoliad a graddau’r amlygiad a rhaid rhoi copi o bob hysbysiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Trinity House a Swyddfa Hydrograffig y Deyrnas Unedig o fewn pum diwrnod.

Atal gweithfeydd llanwol a adawyd neu a ddinistriwyd

18.—(1Pan fo gwaith llanwol yn cael ei adael, neu pan fo’n dirywio, caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i’r ymgymerwr ar ei draul ei hun naill ai atgyweirio ac adfer y gwaith hwnnw neu unrhyw ran ohono, neu waredu’r gwaith hwnnw ac adfer y safle i’w gyflwr priodol, i’r cyfryw raddau ac o fewn y cyfryw derfynau ag yr ystyria Gweinidogion Cymru yn briodol.

(2Pan fo gwaith sy’n cynnwys gwaith llanwol yn rhannol a gweithfeydd ar neu dros y tir uwchlaw penllanw cymedrig y gorllanw yn rhannol yn cael ei adael neu’n dirywio a bod y rhan honno o’r gwaith ar neu dros dir uwchlaw penllanw cymedrig y gorllanw yn y cyfryw gyflwr ag sy’n ymyrryd â’r hawl i fordwyo neu hawliau cyhoeddus eraill dros y blaendraeth neu sy’n achosi pryder rhesymol y caiff ymyrryd â’r cyfryw hawliau, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y rhan honno o’r gwaith, neu unrhyw ddarn ohono, mewn unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl hon.

(3Os bydd yr ymgymerwr yn methu â chydymffurfio mewn unrhyw ffordd â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon o fewn y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gymryd pa gamau bynnag ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol i sicrhau’r canlyniad sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad; ac mae unrhyw wariant y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddo yn adenilladwy oddi wrth yr ymgymerwr.

Arolwg o weithfeydd llanwol

19.—(1Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn hwylus gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru orchymyn arolwg ac archwiliad o waith llanwol neu’r safle y bwriedir adeiladu neu ailbweru’r gwaith arno, a bydd unrhyw wariant y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddo’n rhesymol mewn unrhyw gyfryw arolwg ac archwiliad yn adenilladwy oddi wrth yr ymgymerwr.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir gorchymyn y cyfryw arolygon fwy nag unwaith y flwyddyn; a chyn gorchymyn y cyfryw arolwg—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ymgymerwr er mwyn cadarnhau pa wybodaeth berthnasol o arolygon sydd eisoes ar gael; a

(b)rhoi cyfle i ymgymerwr gynnal yr arolwg ei hun.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn argyfwng.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu gorchymyn arolwg ac archwiliad y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru wneud hynny yn unol â’r cyfryw amodau rhesymol sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch neu gyfrinachedd ag a osodir gan yr ymgymerwr.

Goleuadau ar weithfeydd llanwol

20.—(1Rhaid i’r ymgymerwr ar neu ger—

(a)gwaith llanwol, gan gynnwys unrhyw waith dros dro; a

(b)unrhyw offer, cyfarpar neu rwystr arall a osodwyd mewn cysylltiad â’r gweithfeydd llanwol,

yn ystod yr holl gyfnod adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu ddangos bob nos o fachlud yr haul i godiad yr haul ac mewn cyfnodau o welededd cyfyngedig y cyfryw oleuadau, os o gwbl, a chymryd y cyfryw gamau eraill er mwyn atal perygl i fordwyo ag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru neu Trinity House o bryd i’w gilydd.

(2Ar ôl cwblhau adeiladu neu ailbweru gwaith llanwol, rhaid i’r ymgymerwr ar y ffiniau allanol dangos bob nos o fachlud yr haul i godiad yr haul ac mewn cyfnodau o welededd cyfyngedig y cyfryw oleuadau, os o gwbl, a chymryd y cyfryw gamau, os o gwbl, er mwyn atal perygl i fordwyo ag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru neu Trinity House o bryd i’w gilydd.

Diogelwch mordwyo

21.—(1Ni chaniateir cychwyn, adeiladu, gweithredu, ailbweru na datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol nes bod cynllun i sicrhau diogelwch mordwyo ar gyfer pob cam perthnasol o’r gwaith llanwol wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ac wedi cael ei gymeradwyo’n ysgrifenedig ganddynt mewn ymgynghoriad â Trinity House, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Chyngor Sir Ynys Môn.

(2Rhaid i’r cynllun a gyflwynir i’w gymeradwyo fod yn gyson â’r asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru ar gyfer y gwaith llanwol perthnasol a gymeradwywyd yn unol ag erthygl 3(4) neu erthygl 3(7) a chydag argymhellion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a geir yn MGN654 ‘Offshore Renewable Energy Installations (OREIs) – Guidance on UK Navigational Practice, Safety and Emergency Response’ a’i atodiadau neu ddiweddariadau dilynol.

(3Bydd y gweithfeydd awdurdodedig yn cael eu cyflawni yn unol â’r cynllun cymeradwy ac eithrio i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno ar amrywiad i’r cynllun cymeradwy ar ôl ymgynghori â’r personau a grybwyllir ym mharagraff (1).

(4At ddiben erthygl 21(1) bydd term cychwyn yn cynnwys gwaith dymchwel, ymchwiliadau at ddiben asesu amodau gwely’r môr ac ymchwiliadau archaeolegol a chodi unrhyw ddull amgáu dros dro.

RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir

Pwerau caffael

Pŵer i gaffael tir

22.  Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol—

(a)cymaint o’r tir a ddangosir ar blan y tir o fewn terfynau’r gwyro fel tir i’w gaffael yn orfodol ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig; a

(b)cymaint o’r tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn (sef tir a ddangosir ar blan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr) ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno.

a chaiff ddefnyddio unrhyw dir a gaffaelir felly at y dibenion hynny neu at unrhyw ddibenion eraill sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig a’u gweithrediad.

Pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol

23.—(1Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol y cyfryw hawddfreintiau neu hawliau eraill dros dir y cyfeirir ato yn erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno, drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bodoli.

(2Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6 (tir na ellir ond caffael hawliau newydd ynddo) mae pwerau caffael gorfodol yr ymgymerwr wedi’i gyfyngu i gaffael y cyfryw hawliau newydd ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r tabl hwnnw.

(3Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 2 (tir y gellir gosod cyfamodau cyfyngol drosto) o Atodlen 6 mae pŵer yr ymgymerwr o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) hefyd yn cynnwys pŵer i osod cyfamodau cyfyngol dros y tir at y dibenion a bennir mewn perthynas â’r tir yng ngholofn (3) o’r tabl.

(4Yn ddarostyngedig i—

(a)Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i hamnewidiwyd gan baragraff 5(7) o Atodlen 7 (addasu deddfiadau digolledu a phrynu gorfodol er mwyn creu hawliau newydd)); a

(b)Atodlen A1 i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan baragraff 7(7) o Atodlen 7),

pan fo’r ymgymerwr yn caffael hawl dros dir neu’n gosod cyfamod cyfyngol o dan baragraff (1), (2) neu (3), nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr gaffael mwy o fuddiant yn y tir hwnnw.

(5Mae Atodlen 7 yn cael effaith at ddiben addasu’r deddfiadau sy’n ymwneud â digolledu, a darpariaethau Deddf 1965 a Deddf 1981 wrth eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael yn orfodol o dan yr erthygl hon hawl dros dir drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol.

Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965

24.—(1Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i’r graddau nad yw wedi’i haddasu drwy ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn ac nad yw’n anghyson â darpariaethau’r Gorchymyn hwn, yn gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn—

(a)gan ei bod yn gymwys i bryniant gorfodol y mae Deddf Caffael Tir 1981(23) yn gymwys iddo; a

(b)fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.

(2Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i’r graddau y mae’n cael ei chymhwyso, yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3Hepgorer adran 4 (sy’n darparu terfyn amser ar gyfer prynu tir yn orfodol).

(4Yn adran 4A(1)(24) (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land Act 1981 (application to High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 4”, rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(5Yn adran 11(1B)(25) (pwerau mynediad), mewn achos pan fo’r hysbysiad i drafod telerau yn ymwneud â chaffael hawddfraint neu hawl arall dros dir neu osod cyfamod cyfyngol yn unig, yn lle “3 months” rhodder “1 month”.

(6Yn adran 11A(26) (pwerau mynediad: hysbysiadau mynediad pellach)—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “land” mewnosoder “under that provision”; a

(b)yn is-adran (2), ar ôl “land” mewnosoder “under that provision”.

(7Yn adran 22(2) (darfodiad y terfyn amser ar gyfer arfer pŵer prynu gorfodol i beidio ag effeithio ar gaffael buddiannau a hepgorwyd o’r pryniant), yn lle “section 4 of this Act” rhodder “article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(8Yn Atodlen 2A(27) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i brynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau)—

(a)rhodder paragraffau 1(2) a 14(2) yn lle—

(2) But see article 26(3) (Power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021, which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule; and

(b)ar ôl paragraff 29, mewnosoder—

PART 4INTERPRETATION

30.  In this Schedule, references to entering on and taking possession of land do not include doing so under article 28 (temporary use of land for construction of works) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021.

Cymhwyso Deddf 1981

25.—(1Mae Deddf 1981 yn gymwys fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol.

(2Mae Deddf 1981, fel y’i cymhwyswyd gan baragraff (1), yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3Yn adran 5 (y dyddiad cynharaf ar gyfer weithredu datganiad), yn is-adran (2), hepgorer y geiriau o “, and this subsection” hyd at y diwedd.

(4Hepgorer adran 5A(28) (terfyn amser ar gyfer datganiad breinio cyffredinol).

(5Yn adran 5B(1)(29) (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land 1981 (application to the High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 5A” rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(6Yn adran 6(30) (hysbysiadau ar ôl gweithredu datganiad), yn is-adran (1)(b), yn lle “section 15 of, or paragraph 6 of Schedule 1 to, the Acquisition of Land Act 1981” rhodder “section 14A(31) of the Transport and Works Act 1992”.

(7Yn adran 7(32) (hysbysiad deongliadol i drafod telerau), yn is-adran (1)(a), hepgorer “(as modified by section 4 of the Acquisition of Land Act 1981)”.

(8Yn Atodlen A1(33) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol), paragraff 1(2) —

(2) But see article 26(3) (power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021 which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule.

(9Dehonglir cyfeiriadau at Ddeddf 1965 yn Neddf 1981 fel cyfeiriadau at Ddeddf 1965 fel y’u cymhwyswyd at gaffael tir o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir).

Pŵer i Gaffael Is-bridd yn Unig

26.—(1Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol gymaint o is-bridd y tir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) o erthygl 22 (pŵer i gaffael tir), neu’r cyfryw hawliau ynddo, ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno yn lle caffael y tir cyfan.

(2Pan fo’r ymgymerwr yn caffael unrhyw ran o is-bridd tir o dan baragraff (1) neu hawliau ynddi, ni fydd yn ofynnol caffael buddiant mewn unrhyw ran arall o’r tir.

(3Nid yw’r canlynol yn gymwys mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan baragraff (1) mewn perthynas ag is-bridd neu ofod awyr yn unig—

(a)Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965));

(b)Atodlen A1 (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol) i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981)); ac

(c)adran 153(4A) (tir o dan falltod: bwriad i gaffael buddiant rhannol; prawf niwed sylweddol) Deddf 1990.

(4Diystyrir paragraffau (2) a (3) pan fo’r ymgymerwr yn caffael daeargell seler, arch neu adeiledd arall sy’n rhan o dŷ, adeilad neu ffatri.

(5Mae Atodlen 8 yn cynnwys darpariaeth sydd mewn achosion penodol yn cyfyngu’r pŵer o dan erthygl 22 i is-bridd neu danwyneb y tir sydd dros 9 metr o dan yr wyneb.

Hawliau o dan neu dros strydoedd

27.—(1Caiff yr ymgymerwr fynd i mewn i unrhyw stryd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a meddiannu cymaint o’i his-bridd neu’r gofod awyr drosti ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig a chaiff ddefnyddio’r is-bridd neu’r gofod awyr at y dibenion hynny neu unrhyw ddiben arall sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff y pŵer o dan baragraff (1) ei arfer mewn perthynas â stryd heb fod yn ofynnol i’r ymgymerwr gaffael unrhyw ran o’r stryd neu unrhyw hawddfraint neu hawl yn y stryd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gan unrhyw berson sy’n berchennog neu’n feddiannydd tir y mae’r pŵer i feddiannu a roddir gan baragraff (1) yn cael ei arfer yn ei gylch heb i’r ymgymerwr gaffael unrhyw ran o fuddiant y person hwnnw yn y tir, ac sy’n dioddef colled drwy arfer y pŵer hwnnw, yr hawl i gael digollediad sydd i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)unrhyw danffordd neu adeilad tanddaearol; neu

(b)unrhyw seler, daeargell, arch neu adeiledd arall mewn, ar neu o dan stryd sy’n rhan o ffryntiad adeilad ar y stryd.

(5Nid yw digollediad yn daladwy o dan baragraff (3) i unrhyw berson sy’n ymgymerwr y mae adran 85 o Ddeddf 1991 yn gymwys iddo mewn perthynas â mesurau y bydd y costau a ganiateir ar eu cyfer yn cael eu dwyn yn unol â’r adran honno.

Meddiannu Tir Dros Dro

Defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd

28.—(1Caiff yr ymgymerwr, mewn cysylltiad â chyflawni’r gweithfeydd awdurdodedig—

(a)fynd ar—

(i)y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 9 (tir y gellir ei feddiannu dros dro) a’i feddiannu dros dro at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno; a

(ii)unrhyw dir arall o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir nad yw hysbysiad mynediad wedi cael ei gyflwyno yn ei gylch o dan adran 11(34) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965 (ac eithrio mewn cysylltiad â chaffael hawliau yn unig) ac nad yw datganiad wedi cael ei weithredu yn ei gylch o dan adran 4(35) (gweithredu datganiad) o Ddeddf 1981 a’i feddiannu dros dro;

(b)gwaredu unrhyw adeiladau a llystyfiant ar y tir hwnnw;

(c)adeiladu gweithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir hwnnw;

(d)adeiladu unrhyw weithfeydd sy’n ofynnol fel y’i crybwyllir yn erthygl 3 (pŵer i adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu gweithfeydd); ac

(e)adeiladu unrhyw weithfeydd lliniaru ar y tir hwnnw.

(2Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.

(3Ni chaiff yr ymgymerwr, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddiannu unrhyw dir o dan yr erthygl hon—

(a)yn achos unrhyw dir a bennir ym mharagraff (1)(a)(i), ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y cwblheir y rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (4) o Atodlen 9; neu

(b)yn achos unrhyw dir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(ii), ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y cwblheir y gweithfeydd neu ddiben arall y meddiannwyd y tir dros dro ar ei gyfer oni bai bod yr ymgymerwr, erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, wedi cyflwyno hysbysiad mynediad o dan adran 11 o Ddeddf 1965 neu wedi gwneud datganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 mewn perthynas â’r tir hwnnw.

(4Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr dynnu ymaith yr holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir; ond nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr—

(a)codi adeilad yn lle adeilad a dynnwyd ymaith o dan yr erthygl hon;

(b)adfer y tir y mae unrhyw weithfeydd parhaol wedi cael eu hadeiladu arno o dan baragraffau (1)(d) neu (1)(e);

(c)gwaredu unrhyw weithfeydd i gryfhau’r ddaear sydd wedi cael eu gosod ar y tir er mwyn hwyluso adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig; neu

(d)waredu unrhyw fesurau a osodwyd dros neu o amgylch cyfarpar yr ymgymerwr statudol i ddiogelu’r cyfarpar hwnnw rhag y gweithfeydd awdurdodedig.

(5Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.

(6Mae unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (5), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, i’w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(7Heb effeithio ar erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2)(36) (darpariaethau pellach ynglŷn â digolledu am effeithiad andwyol) o Ddeddf 1965 nac o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn perthynas â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (5).

(8Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, nid yw’n ofynnol caffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(9Mae adran 13(37) (gwrthod rhoi meddiant i awdurdod caffael) o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro o dan yr erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965).

Defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynnal a chadw sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr—

(a)mynd ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a’i feddiannu dros dro os yw’r cyfryw feddiannu yn rhesymol ofynnol at ddiben cynnal a chadw’r gwaith neu unrhyw weithfeydd ategol sy’n gysylltiedig ag ef; a

(b)adeiladu’r cyfryw weithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir ag sy’n rhesymol angenrheidiol at y diben hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn awdurdodi’r ymgymerwr i feddiannu dros dro—

(a)unrhyw dŷ neu ardd sy’n eiddo i dŷ; neu

(b)unrhyw adeilad (heblaw am dŷ) os yw wedi’i feddiannu am y tro.

(3Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.

(4Caiff yr ymgymerwr ond parhau i feddiannu tir o dan yr erthygl hon am gyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i gynnal a chadw’r rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig y meddiannwyd y tir ar eu cyfer.

(5Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr waredu’r holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir.

(6Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.

(7Bydd unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (6), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, yn cael ei benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(8Heb ragfarnu erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (6).

(9Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, ni fydd yn ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(10Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro yn unol â’r erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965).

(11Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod cynnal a chadw”, mewn perthynas â gwaith awdurdodedig, yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gwaith yn cael ei agor i’w ddefnyddio.

Ymgorffori’r cod mwynau

30.  Mae Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael Tir 1981 (mwynau) wedi’u hymgorffori yn y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i’r addasiadau—

(a)yn lle “the acquiring authority” rhodder “the undertaker”;

(b)yn lle “undertaking” rhodder “authorised works”; ac

(c)yn lle “compulsory purchase order” rhodder “this Order”.

Diogelu hawliau i bysgota

31.—(1Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu’r perchenogion, y meddianwyr neu bersonau sydd fel arall â hawl berchenogol i bysgota y mae adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, neu arfer y pwerau a roddir i’r ymgymerwr gan y Gorchymyn hwn, yn cael effaith andwyol arnynt, am unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y cyfryw bersonau drwy adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu neu arfer y pwerau.

(2Rhaid i ddigollediad o dan baragraff (1) gael ei benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Digolledu

Diystyru buddiannau a gwelliannau penodol

32.—(1Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson ar adeg caffael unrhyw dir oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r tribiwnlys beidio ag ystyried—

(a)unrhyw fuddiant mewn tir; neu

(b)unrhyw ychwanegiad at werth unrhyw fuddiant mewn tir drwy godi unrhyw adeilad, cwblhau unrhyw weithfeydd neu wneud unrhyw welliant neu newid ar dir perthnasol,

os yw’r tribiwnlys wedi’i fodloni nad oedd creu’r buddiant, codi’r adeilad, cwblhau’r gweithfeydd na gwneud y gwelliant neu’r newid yn rhesymol angenrheidiol a’i fod wedi cael ei wneud gyda’r bwriad o gael digollediad neu fwy o ddigollediad.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “tir perthnasol” yw’r tir sy’n cael ei gaffael oddi wrth y person dan sylw neu unrhyw dir arall y mae a wnelo’r person hwnnw, neu yr oedd a wnelo’r person hwnnw ar adeg codi’r adeilad, cwblhau’r gweithfeydd neu wneud y gwelliant neu’r newid, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag ef.

Gwrthgyfrif ar gyfer ychwanegiad yng ngwerth tir a gadwyd

33.—(1Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn cysylltiad â chaffael unrhyw dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth y tir a gaffaelwyd felly unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd a fydd yn cronni i’r person hwnnw drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael unrhyw hawliau newydd dros dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol), rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth yr hawliau a gaffaelwyd felly—

(a)unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir y mae’r hawliau newydd drosto’n ofynnol; a

(b)unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd,

a fydd yn cronni iddo drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(3Mae Deddf 1961 yn cael effaith, yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn ddeddfiad lleol at ddibenion y Ddeddf honno.

Atodol

Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill

34.—(1Mae unrhyw weithgarwch awdurdodedig sy’n digwydd ar dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir (p’un a gynhelir y gweithgarwch gan yr ymgymerwr, neu gan unrhyw berson sy’n deillio teitl gan yr ymgymerwr neu gan gontractwyr, gweision neu asiantau’r ymgymerwr) wedi’i awdurdodi gan y Gorchymyn hwn os y’i gwneir yn unol â thelerau’r Gorchymyn hwn, er ei fod yn cynnwys—

(a)ymyrraeth â diddordeb neu hawl y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo neu iddi; neu

(b)torri cyfyngiad ynglŷn â’r defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract.

(2Yn yr erthygl hon, ystyr “gweithgarwch awdurdodedig” yw—

(a)adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig;

(b)arfer unrhyw bŵer a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn; neu

(c)ddefnyddio unrhyw dir (gan gynnwys defnyddio tir dros dro).

(3Mae’r buddiannau a’r hawliau y mae’r erthygl hon yn gymwys iddynt yn cynnwys unrhyw hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynglŷn â’r defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract.

(4Pan fo unrhyw fuddiant, hawl neu gyfyngiad yn cael ei drechu neu ei threchu gan baragraff (1), mae digollediad—

(a)yn daladwy o dan adran 7 (mesur digollediad yn achos gwahanu tir) neu adran 10 (darpariaeth bellach ynglŷn â digolledu am effeithiad andwyol) o Ddeddf 1965; a

(b)i’w asesu yn yr un modd ac yn ddarostyngedig i’r un rheolau ag yn achos digolledu arall o dan yr adrannau hynny—

(i)pan fo’r digollediad i’w amcangyfrif mewn cysylltiad â phryniant o dan y Ddeddf honno; neu

(ii)pan fo’r niwed yn codi o gwblhau gweithfeydd ar y tir a gaffaelwyd o dan y Ddeddf honno neu o ddefnyddio’r cyfryw dir.

(5Pan fo person sy’n deillio teitl o dan yr ymgymerwr a gaffaelodd y tir dan sylw—

(a)yn atebol i dalu digollediad yn rhinwedd paragraff (4); a

(b)yn methu â chyflawni’r atebolrwydd hwnnw;

mae’r atebolrwydd yn orfodadwy yn erbyn yr ymgymerwr.

(6Nid oes dim yn yr erthygl hon i’w ddehongli fel pe bai’n awdurdodi unrhyw weithred neu anwaith ar ran unrhyw berson sy’n agored i gyfraith drwy achos cyfreithiol unrhyw berson ar unrhyw seiliau heblaw am y cyfryw ymyrraeth neu’r tor cyfyngiad a grybwyllir ym mharagraff (1).

Hawliau preifat dros dir

35.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl tramwy breifat dros dir sy’n cael ei gaffael yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn—

(a)o’r dyddiad y mae’r ymgymerwr yn caffael y tir, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb; neu

(b)ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(38) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965,

pa un bynnag sydd gynharaf.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl breifat dros dir sy’n ddarostyngedig i gaffael hawliau’n orfodol neu osod cyfamodau cyfyngol o dan y Gorchymyn hwn i’r graddau y byddai parhad y cyfryw hawliau preifat yn anghyson ag arfer hawl neu fyrdwn y cyfamod cyfyngol—

(a)o’r dyddiad y caffaelir hawl neu fuddiant y cyfamod cyfyngol sy’n cael ei osod o blaid yr ymgymerwr, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb;

(b)ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965; neu

(c)ar adeg cychwyn unrhyw weithgarwch a awdurdodir gan y Gorchymyn sy’n ymyrryd â’r hawliau hynny sy’n eu torri,

pa un bynnag sydd gynharaf.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros dir y mae’r ymgymerwr yn ei feddiannu dros dro o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei hatal a byddant yn anorfodadwy cyhyd ag y bo’r ymgymerwr yn parhau i feddiannu’r tir yn gyfreithlon.

(4Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal unrhyw hawl breifat neu oherwydd gosod unrhyw gyfamod cyfyngol o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad, i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 (penderfynu ar gwestiynau sy’n ymwneud â digolledu y mae anghydfod yn ei gylch) o Ddeddf 1961.

(5Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl y mae adran 271 neu 272 (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol etc.) o Ddeddf 1990(39) yn gymwys iddi.

(6Mae paragraffau (1) i (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)unrhyw hysbysiad a roddir gan yr ymgymerwr cyn—

(i)cwblhau caffael y tir neu gaffael yr hawliau neu osod cyfamodau cyfyngol dros y tir neu sy’n effeithio ar y tir;

(ii)i’r ymgymerwr ei feddiannu;

(iii)i’r ymgymerwr fynd arno; neu

(iv)i’r ymgymerwr ei feddiannu dros dro,

nad oes unrhyw un na phob un o’r paragraffau hynny yn gymwys i unrhyw hawl tramwy a bennir yn yr hysbysiad; nac

(b)unrhyw gytundeb a wneir ar unrhyw adeg rhwng yr ymgymerwr a’r person y mae’r hawl tramwy dan sylw wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo.

(7Os yw’r cyfryw gytundeb ag y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b)—

(a)yn cael ei wneud â pherson y mae’r hawl tramwy wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo; ac

(b)yn cael ei fynegi i gael effaith hefyd er budd y rhai sy’n deillio teitl gan neu o dan y person hwnnw.

mae’n effeithiol mewn cysylltiad â’r personau sy’n deillio teitl felly, p’un a oedd y teitl yn deillio cyn neu ar ôl gwneud y cytundeb.

(8Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawliau preifat dros dir yn cynnwys unrhyw hawl tramwy, ymddiriedolaeth, nodwedd, hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynghylch y defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract, cytundeb neu ymgymeriad sy’n cael yr effaith honno.

Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael

36.—(1Ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym—

(a)ni ellir cyflwyno unrhyw hysbysiad i drafod telerau o dan Ran 1 o Ddeddf 1965 fel y’i cymhwysir at gaffael tir gan erthygl 24 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965); a

(b)ni ellir gweithredu unrhyw ddatganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 fel y’i cymhwysir gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981).

(2Mae’r pwerau a roddir gan erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd) yn peidio ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ac eithrio nad oes dim yn y paragraff hwn yn atal yr ymgymerwr rhag parhau i feddiannu tir ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, os aethpwyd ar y tir a’i feddiannu cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

RHAN 4Amrywiol a Chyffredinol

Datgymhwyso darpariaethau deddfwriaethol

37.—(1Nid yw darpariaethau adran 36 o Ddeddf Trydan 1989(40) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Nid yw darpariaethau adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991(41) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithfeydd awdurdodedig.

Amddiffyniad i achosion cyfreithiol mewn cysylltiad â niwsans statudol

38.—(1Pan fo achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn o dan adran 82(1) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(42) (achos cyfreithiol diannod gan berson sydd wedi cael ei dramgwyddo gan niwsans statudol) mewn perthynas â niwsans sy’n dod o fewn adran 79(1) (d), (e), (fb), (g), (ga) neu (h) o’r Ddeddf honno(43), nid oes unrhyw orchymyn i’w wneud, ac nid oes unrhyw ddirwy i’w gosod, o dan adran 82(2) o’r Ddeddf honno os yw’r amddiffynnydd yn dangos bod y niwsans—

(a)yn ymwneud â safle a ddefnyddir gan yr ymgymerwr at ddibenion adeiladu a chynnal y gweithfeydd awdurdodedig ac mewn cysylltiad â hynny ac y gellir ei briodoli i gyflawni’r gweithfeydd awdurdodedig yn unol â hysbysiad a gyflwynir o dan adran 60 (rheoli sŵn ar safle adeiladu), neu gydsyniad a roddir o dan adran 61(44) (cydsyniad ymlaen llaw ar gyfer gwaith ar safle adeiladu), o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(45);

(b)o ganlyniad i adeiladu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig ac na ellir yn rhesymol ei osgoi;

(c)yn ymwneud â safle a ddefnyddir gan yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â’u defnyddio a gellir ei briodoli i’r defnydd o’r gweithfeydd awdurdodedig yn unol â chynllun monitro sŵn y cytunir arno â’r awdurdod cynllunio yn unol ag un o amodau’r caniatâd cynllunio tybiedig; neu

(d)o ganlyniad i’r defnydd o’r gweithfeydd awdurdodedig ac na ellir yn rhesymol ei osgoi;

(2Nid yw adran 61(9) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 (cydsyniad ar gyfer gwaith ar safle i gynnwys datganiad nad yw ynddo’i hun yn gyfystyr ag amddiffyniad i achos cyfreithiol o dan adran 82 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990) yn gymwys pan fo’r cydsyniad yn ymwneud â’r defnydd o’r safle gan yr ymgymerwr at ddibenion adeiladu neu gynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â hynny.

Caniatâd cynllunio a materion atodol

39.—(1Mewn perthynas â chymhwyso paragraff 3(c) o’r Ail Atodlen i Ffurf Gorchymyn Diogelu Coed a nodwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Diogelu Coed) 1969(46) (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y’i cymhwyswyd gan reoliad 3(ii) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Diogelu Coed) (Diwygio) a (Coed Mewn Ardaloedd Cadwraeth) (Achosion Eithriedig) 1975(47), neu fel y’i hymgorfforwyd mewn unrhyw orchymyn diogelu coed), trinnir unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy’n tybio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn fel un sy’n tybio bod caniatâd wedi cael ei roi ar gais a wneir o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno at ddibenion y Rhan honno.

(2Mewn perthynas â chymhwyso erthygl 5(1)(d) o Ffurf Gorchymyn Diogelu Coed a nodwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(48) fel y’i hymgorfforwyd mewn unrhyw orchymyn diogelu coed neu sy’n cael effaith yn rhinwedd rheoliad 10(1)(a) o’r Rheoliadau hynny, ni fydd unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy’n tybio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn yn cael ei drin fel caniatâd cynllunio amlinellol.

(3Mae caniatâd cynllunio y bernir ei fod wedi cael ei roi gan gyfarwyddyd o dan adran 90(2A)(49) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn i’w drin fel caniatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o’r Ddeddf honno (achosion lle mae tir i’w drin fel pe bai’n dir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).

Pŵer i docio coed sy’n gorhongian dros y gweithfeydd awdurdodedig a gwaredu gwrychoedd

40.—(1Caiff yr ymgymerwr gwympo neu docio unrhyw goeden neu lwyn ger unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig, neu dorri ei gwreiddiau yn ôl, os cred yn rhesymol ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn atal y goeden neu’r llwyn rhag rhwystro neu ymyrryd ag adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir ar y gweithfeydd awdurdodedig.

(2Drwy arfer pwerau paragraff (1), rhaid i’r ymgymerwr beidio â gwneud unrhyw ddifrod diangen i unrhyw goeden na llwyn a rhaid iddo ddigolledu unrhyw berson am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer y pwerau hynny.

(3Rhaid i unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (2), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, gael ei benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(4Caiff yr ymgymerwr waredu unrhyw wrychoedd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir y mae’n ofynnol eu gwaredu at ddibenion cyflawni’r gweithfeydd awdurdodedig.

Cymhwyso cyfraith landlord a thenant

41.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i—

(a)unrhyw gytundeb ar gyfer prydlesu’r gweithfeydd awdurdodedig cyfan neu unrhyw ran ohonynt neu’r hawl i’w gweithredu i unrhyw berson; a

(b)unrhyw gytundeb y mae’r ymgymerwr yn ymrwymo iddo ag unrhyw berson ar gyfer adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, neu unrhyw ran ohonynt;

i’r graddau y mae unrhyw gyfryw gytundeb yn ymwneud â’r telerau y mae unrhyw dir sy’n destun prydles a roddir gan neu o dan y cytundeb hwnnw i’w ddarparu at ddefnydd y person hwnnw.

(2Nid oes unrhyw ddeddfiad na rheol gyfreithiol sy’n rheoleiddio hawliau a rhwymedigaethau landlordiaid a thenantiaid yn lleihau effaith gweithrediad unrhyw gytundeb y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo.

(3Yn unol â hynny, nid oes unrhyw gyfryw ddeddfiad na rheol gyfreithiol yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau’r partïon mewn unrhyw brydles a roddir gan neu o dan unrhyw gyfryw gytundeb er mwyn—

(a)eithrio unrhyw un o hawliau a rhwymedigaethau’r partïon hynny o dan delerau’r brydles na’u haddasu mewn unrhyw ffordd, boed hynny mewn cysylltiad â therfynu’r denantiaeth neu unrhyw fater arall;

(b)rhoi neu osod unrhyw gyfryw hawl neu rwymedigaeth i unrhyw gyfryw barti sy’n codi o unrhyw beth sy’n cael ei wneud neu ei hepgor ar neu mewn perthynas â thir sy’n ddarostyngedig i’r brydles neu mewn cysylltiad â hynny, yn ychwanegol at unrhyw gyfryw hawl neu rwymedigaeth y darperir ar ei chyfer gan delerau’r brydles; neu

(c)cyfyngu ar orfodi (boed hynny drwy achos cyfreithiol am iawndal neu fel arall) gan unrhyw barti yn y brydles unrhyw rwymedigaeth gan unrhyw barti arall o dan y brydles.

Rhwystro adeiladu gweithfeydd awdurdodedig

42.  Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr wrth adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru neu ddatgomisiynu unrhyw waith awdurdodedig; neu

(b)yn ymyrryd ag unrhyw gyfarpar sy’n eiddo i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr, yn ei dynnu ymaith neu’n ei waredu,

yn euog o drosedd ac, ar ôl euogfarn ddiannod, yn agored i dalu dirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Parthau diogelwch ar gyfer mordwyo, treillrwydo ac angori

43.—(1Caiff Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol gyflwyno hysbysiad neu hysbysiadau sy’n datgan bod yr ardaloedd a ddisgrifir yn yr hysbysiad yn barthau diogelwch.

(2Bydd unrhyw geisiadau a wneir gan yr ymgymerwr am barth diogelwch yn cynnwys asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru.

(3Bydd adrannau 95 i 98 o Ddeddf 2004 a Rheoliadau 2007 yn gymwys i gais o dan baragraffau (2) a’r datganiad a gweithrediad parthau diogelwch o dan baragraff (1).

(4Yn yr erthygl hon, mae i “parthau diogelwch” yr un ystyr â “safety zones” ym Mhennod 2 o Ddeddf 2004.

Ymgymerwyr statudol a darpariaethau diogelu etc

44.  Mae Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol a darpariaethau diogelu etc) yn cael effaith.

Diogelu buddiannau

45.  Mae Atodlen 11 (darpariaethau diogelu) yn cael effaith.

Ardystio planiau etc

46.  Rhaid i’r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, gyflwyno copïau o’r datganiad amgylcheddol, y cyfeirlyfr, planiau’r gweithfeydd alltraeth, planiau’r tir, y strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol, y trawsluniau a phlan yr ardal gyfyngedig i Weinidogion Cymru i ardystio eu bod, yn y drefn honno, yn gopïau cywir o’r datganiad amgylcheddol, y cyfeirlyfr, planiau’r gweithfeydd alltraeth, planiau’r tir, y strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol, y trawsluniau a phlan yr ardal gyfyngedig y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; ac mae dogfen a ardystir felly yn dderbyniadwy mewn unrhyw achos cyfreithiol fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae’n gopi ohoni.

Cyflwyno hysbysiadau

47.—(1Caiff hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gyflwyno neu ei chyflwyno neu yr awdurdodwyd ei gyflwyno neu ei chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn ei gyflwyno neu ei chyflwyno—

(a)drwy’r post; neu

(b)gyda chydsyniad y derbynnydd ac yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8) drwy ddarlledu electronig.

(2Pan fo’r person y mae hysbysiad neu ddogfen arall i’w gyflwyno neu i’w chyflwyno iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn yn gorff corfforaethol, cyflwynir yr hysbysiad neu’r ddogfen yn briodol os y’i cyflwynir i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(3At ddibenion adran 13 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(50) fel y mae’n gymwys at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen iddo o dan baragraff (1), os yw wedi rhoi cyfeiriad cyflwyno, yw’r cyfeiriad hwnnw, ac fel arall—

(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw; a

(b)mewn unrhyw achos arall, ei gyfeiriad hysbys diwethaf ar adeg cyflwyno.

(4Pan fo’n ofynnol at ddibenion y Gorchymyn hwn gyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berson am fod ganddo fuddiant mewn tir, neu fel meddiannydd y tir, neu pan awdurdodir hynny, ac ni ellir cadarnhau ei enw na’i gyfeiriad ar ôl ymholiadau rhesymol, caiff yr hysbysiad ei gyflwyno drwy—

(a)ei gyfeirio ato yn ôl enw neu yn ôl y disgrifiad o “perchennog”, neu yn ôl y digwydd “meddiannydd”, y tir (sy’n ei ddisgrifio); a

(b)naill ai ei adael yn nwylo’r person sydd neu sy’n ymddangos ei fod yn preswylio neu’n cael ei gyflogi ar y tir neu ei adael wedi’i osod mewn man amlwg ar ryw adeilad neu wrthrych ar neu ger y tir.

(5Pan fo hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gyflwyno neu ei chyflwyno neu ei (h)anfon drwy ddarlledu electronig, tybir bod y gofyniad wedi’i fodloni pan fo derbynnydd yr hysbysiad neu ddogfen arall i’w (d)darlledu wedi cydsynio i’r defnydd o ddarlledu electronig naill ai’n ysgrifenedig neu drwy ddarlledu electronig.

(6Pan fo derbynnydd hysbysiad neu ddogfen arall a gyflwynwyd neu a anfonwyd drwy ddarlledu electronig yn hysbysu’r anfonwr o fewn 7 diwrnod i’w (d)dderbyn bod arno angen copi papur o’r holl hysbysiad hwnnw neu’r ddogfen arall honno neu unrhyw ran ohono neu ohoni, rhaid i’r anfonwr ddarparu’r cyfryw gopi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(7Caiff person ddirymu ei gydsyniad i’r defnydd o ddarlledu electronig yn unol â pharagraff (8).

(8Pan na fydd person yn barod i dderbyn y defnydd o ddarlledu trosglwyddo at unrhyw un o ddibenion y Gorchymyn hwn mwyach—

(a)rhaid iddo roi hysbysiad yn ysgrifenedig neu drwy ddarlledu electronig yn dirymu unrhyw gydsyniad a roddir ganddo at y diben hwnnw; a

(b)bydd y cyfryw ddirymiad yn derfynol a bydd yn weithredol ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni chaiff y dyddiad hwnnw fod yn llai na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

(9Ni thybir bod yr erthygl hon yn eithrio defnyddio unrhyw ddull o gyflwyno nad yw’n darparu ar ei gyfer yn benodol.

Dim adennill dwbl

48.  Ni fydd digollediad yn daladwy mewn perthynas â’r un mater o dan y Gorchymyn hwn nac o dan unrhyw ddeddfiad arall, unrhyw gontract nac unrhyw reol gyfreithiol.

Cymrodeddu

49.—(1Mae unrhyw wahaniaeth o dan unrhyw un o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, oni ddarperir fel arall ar ei gyfer, i’w gyfeirio at un cymrodeddwr y cytunir arno gan y partïon, neu os ydynt yn methu â chytuno, i’w benodi ar gais y naill barti neu’r llall (ar ôl cyflwyno hysbysiad yn ysgrifenedig i’r llall) gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil a’i ddatrys ganddo.

(2Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd unrhyw fater y mae’n ofynnol cael cydsyniad neu gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, neu sy’n ddarostyngedig i bwerau gwneud cyfarwyddyd Trinity House, o dan unrhyw un o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i gymrodeddu.

Arbediad ar gyfer Trinity House

50.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn lleihau effaith unrhyw un o hawliau, dyletswyddau neu freintiau Trinity House nac yn eu rhanddirymu.

Deddf Cynllunio Cymdogaeth 2017

51.  Nid yw darpariaethau Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cynllunio Cymdogaeth 2017(51) yn gymwys o ran y Gorchymyn hwn.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2021

Erthyglau 2, 3, 4 a 5

ATODLEN 1

RHAN 1Gweithfeydd Awdurdodedig

Gwaith Rhif 1

Gorsaf gynhyrchu llanwol alltraeth sydd â chapasiti trydanol gros i gynhyrchu hyd at 240 megawat o fewn ardal yr araeau sy’n cynnwys:

(1hyd at 620 o ddyfeisiau llanwol ar unrhyw un adeg benodol sy’n cynnwys

(a)dyfeisiau llanwol o dan yr wyneb ar wely’r môr sy’n cael eu hatodi i wely’r môr drwy:

(i)sylfaen disgyrchiant; neu

(ii)sylfeini o fath piler unigol; neu

(iii)sylfeini o fath aml-biler;

(b)dyfeisiau llanwol colofn dŵr canol ac sy’n cael eu clymu wrth wely’r môr drwy naill ai:

(i)sylfaen disgyrchiant;

(ii)sylfaen o fath piler unigol;

(iii)sylfaen o fath aml-biler; neu

(iv)eu hangori wrth sylfaen disgyrchiant; sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler;

(c)dyfeisiau llanwol arnofiol neu sy’n codi o’r wyneb ac sy’n cael eu clymu wrth wely’r môr drwy naill ai:

(i)sylfaen disgyrchiant;

(ii)sylfaen o fath piler unigol;

(iii)sylfaen o fath aml-biler; neu

(iv)eu hangori wrth sylfaen disgyrchiant; sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler;

(2rhwydwaith o geblau ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu electronig a osodir ar neu o dan wely’r môr gan gynnwys croesfannau ceblau rhwng—

(a)unrhyw un o’r dyfeisiau llanwol sy’n cynnwys Gwaith Rhif 1(1);

(b)unrhyw un o’r dyfeisiau llanwol sy’n cynnwys Gwaith Rhif 1(1) a hybiau gweithredol sy’n cynnwys Gwaith Rhif 1(3) ac unrhyw un o’r gweithfeydd sy’n cynnwys Gwaith Rhif 2; neu

(c)unrhyw hwb sy’n cynnwys Gwaith Rhif 1(3) a chebl sy’n cynnwys Gwaith Rhif 2;

(3hyd at 120 o hybiau gweithredol alltraeth sy’n cynnwys:

(a)hyd at 120 o hybiau ar wely’r môr, yn gyfan gwbl o dan y dŵr, hybiau sy’n cael eu clymu wrth wely’r môr drwy sylfaen disgyrchiant, sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler; neu

(b)hyd at 93 o hybiau arnofiol sy’n codi o’r wyneb sy’n cael eu hangori wrth wely’r môr drwy sylfaen disgyrchiant, sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler; neu

(c)hyd at 8 hwb gweithredol alltraeth ar wely’r môr sy’n codi o’r wyneb sy’n cael eu clymu wrth wely’r môr drwy sylfaen disgyrchiant, sylfaen o fath piler unigol neu sylfaen o fath aml-biler;

(4hyd at 60 o fwiau mordwyol a marcio;

(5hyd at 40 o broffilwyr ceryntau doppler acwstig;

(6hyd at 8 o unedau monitro amgylcheddol ar wely’r môr;

(7hyd at 5 o fwiau monitro amgylcheddol ar lefel y môr; a

(8croesfannau ceblau a chysylltwyr i gysylltu Gwaith Rhif 1(2) a Gwaith Rhif 2.

Gwaith Rhif 2

Hyd at 9 cebl allforio, pob un yn cynnwys ceblau ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu sy’n cael eu gosod o fewn y coridor ceblau allforio ar neu o dan wely’r môr rhwng Gwaith Rhif 1 a Gwaith Rhif 3 gan gynnwys diogelwch ceblau, croesfannau ceblau a chysylltwyr.

Gwaith Rhif 3

Hyd at 9 cebl allforio, pob un yn cynnwys ceblau ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu o fewn yr ardal rynglanw naill ai wedi’u gosod o dan y ddaear, ar wyneb y blaendraeth neu o fewn hyd at 9 ffos agored wedi’u torri ynghyd â diogelwch ceblau a chysylltu Gwaith Rhif 2 a Gwaith Rhif 4.

Gwaith Rhif 4

Hyd at 9 cebl allforio, pob un yn cynnwys cebl ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu sy’n cael ei osod naill ai o dan y ddaear, dros arwyneb clogwyn y blaendraeth a phen y clogwyn neu o fewn hyd at 9 ffos agored wedi’u torri ynghyd â diogelwch ceblau rhwng Gwaith Rhif 3 a’r cyd-gilfachau trosglwyddo sy’n ffurfio Gwaith Rhif 5.

Gwaith Rhif 5

Gwaith sy’n cynnwys hyd at 9 cyd-gilfach drosglwyddo sy’n cysylltu Gwaith Rhif 4 â Gwaith Rhif 6.

Gwaith Rhif 6

Hyd at 9 cebl allforio, pob un yn cynnwys un neu fwy o gyfryngau dargludo ar gyfer trawsyrru trydan a chyfathrebu sy’n cael eu gosod o dan y ddaear ac yn cysylltu Gwaith Rhif 5 â’r is-orsaf drydanol y cyfeirir ati ym Mhennod 2 o Ran 2 o’r Atodlen 1 hon.

Gwaith Rhif 7

Hyd at 6 chebl allforio ar gyfer trawsyrru trydan a hyd at 2 gebl cyfathrebu sy’n cael eu gosod o dan y ddaear a chyd-gilfachau trosglwyddo a chysylltu’r is-orsaf drydanol â’r seilwaith offer switsio, y cyfeirir at bob un ym Mhennod 2 o Ran 2 o’r Atodlen 1 hon.

Gwaith Rhif 8

Hyd at 6 chebl allforio ar gyfer trawsyrru trydan, pob un yn cynnwys un neu ragor o gyfryngau dargludo a hyd at 2 gebl cyfathrebu sy’n cael eu gosod o dan y ddaear, gan gynnwys cyd-gilfachau trosglwyddo o’r seilwaith offer switsio y cyfeirir ato ym Mhennod 2 o Ran 2 o’r Atodlen 1 hon i Waith Rhif 9.

Gwaith Rhif 9

Hyd at 6 chebl allforio ar gyfer trawsyrru trydan, pob un yn cynnwys un neu ragor o gyfryngau dargludo a hyd at 2 gebl cyfathrebu sy’n cael eu gosod drwy ddriliau cyfeiriadol gorweddol o dan yr A55 a llinell reilffordd Llinell Arfordir Gogledd Cymru sy’n cysylltu Gwaith Rhif 8 â’r gweithfeydd cysylltu â’r grid y cyfeirir atynt ym Mhennod 2 o Ran 2 o’r Atodlen 1 hon.

RHAN 2Gweithfeydd Pellach

PENNOD 1

(1Caiff yr ymgymerwr o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr adeiladu, cynnal a chadw a gweithredu’r cyfryw weithfeydd canlynol ag sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol, neu at ddibenion ategol, sef—

(a)angorfeydd dros dro neu barhaol neu fodd arall i ddarparu ar gyfer cychod a llongau wrth adeiladu neu gynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig;

(b)bwiau, goleuadau, ffenders a gweithfeydd eraill sy’n rhoi rhybuddion mordwyol neu’n diogelu rhag trawiadau â llongau;

(c)gwaith i newid lleoliad cyfarpar, gan gynnwys ceblau;

(d)y cyfryw weithfeydd a chyfarpar, offer a pheiriannau eraill o ba natur bynnag y bo ag sy’n angenrheidiol neu’n hwylus.

(2Caiff yr ymgymerwr o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir adeiladu, cynnal a chadw a gweithredu’r cyfryw weithfeydd canlynol ag sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd ar y tir, neu at ddibenion ategol, sef—

(a)gwaith tirlunio a sgrinio;

(b)caeadleoedd a mannau storio;

(c)creu pyllau tynnu ar gyfer llwybr y ceblau ar y tir;

(d)mannau arwyneb caled ar gyfer cyd-gilfachau trosglwyddo;

(e)cysylltiadau â’r rhwydwaith ffonau a’r rhwydwaith dŵr;

(f)gweithfeydd er budd y tir y mae’r gweithfeydd awdurdodedig yn effeithio arno neu er mwyn diogelu’r tir y mae’r gweithfeydd awdurdodedig yn effeithio arno;

(g)gwaith i newid lleoliad cyfarpar, gan gynnwys ceblau; neu

(h)y cyfryw weithfeydd a chyfarpar, offer a pheiriannau eraill o ba natur bynnag y bo ag sy’n angenrheidiol neu’n hwylus.

PENNOD 2

Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Pennod 1 uchod caiff yr ymgymerwr o fewn y tir a bennir yng ngholofn (2) o’r tabl isod adeiladu’r gweithfeydd a grybwyllir yng ngholofn (3)

(1)(2)(3)
ArdalRhif y parsel o dir a ddangosir ar blaniau’r tirDisgrifiad o’r Gweithfeydd
Sir Ynys Môn10

Is-orsaf drydanol sy’n cynnwys—

  • is-orsaf drydan ag offer awyru ac oeri cysylltiedig;

  • cebl sy’n cysylltu’r is-orsaf â’r ceblau allforio sy’n rhan o Waith Rhif 6 a Gwaith Rhif 7;

  • adeilad ar wahân ar gyfer cyfarpar a ddefnyddir i storio ynni trydanol;

  • swyddfeydd a chyfleusterau lles cysylltiedig;

  • caeadle adeiladu;

  • pyllau ar y cyd cysylltiedig â mannau arwyneb caled;

  • maes parcio, â mannau gwefru cerbydau trydan; ac

  • adeiladu gweithfeydd mynediad o Ffordd Ynys Lawd.

Sir Ynys Môn38a

Seilwaith gan gynnwys gweithfeydd cysylltu’r grid â’r rhwydwaith dosbarth ac sy’n cynnwys—

  • hyd at 6 chebl allforio ar gyfer trawsyrru trydan a hyd at 2 gebl cyfathrebu;

  • adeilad offer switsio ac anecs mesur cysylltiedig.

Sir Ynys Môn48, 49 a 50

Gweithfeydd cysylltu’r grid â’r rhwydwaith trydan presennol sy’n cynnwys—

  • hyd at 6 chebl allforio ar gyfer trawsyrru trydan a hyd at 2 gebl cyfathrebu;

  • hyd at 4 adeilad;

  • systemau storio ynni gyda seilwaith cysylltiedig;

  • ceblau ar gyfer trawsyrru trydan;

  • ceblau cyfathrebu;

  • cilfach gysylltu sy’n cynnwys–

  • ynysyddion;

  • torwyr cylchedau;

  • cyfarpar cyflyru pŵer.

RHAN 3Ardal ar gyfer Gweithfeydd Llanwol

Ardal Araeau, coridor ceblau allforio ac ardaloedd cyfyngedig

(1)(2)(3)
Cyfesurynnau grid ar gyferHydreddLledredd
Ardal Araeau (fel y’i dangosir yn Ffigur 1-1 o’r datganiad amgylcheddol)
104° 44′ 8044″Gn53° 20′ 0232″G
204° 45′ 8658″Gn53° 17′ 4900″G
304° 45′ 8658″Gn53° 15′ 5400″G
404° 41′ 4552″Gn53° 15′ 5400″G
504° 41′ 0129″Gn53° 15′ 9503″G
604° 42′ 5328″Gn53° 18′ 3882″G
704° 41′ 2896″Gn53° 20′ 0232″G
Coridor Ceblau Allforio (fel y’i dangosir ar Ffigur 1-1 o’r datganiad amgylcheddol)
504° 41′ 0129″Gn53° 15′ 9503″G
604° 42′ 5328″Gn53° 18′ 3882″G
704° 41′ 2896″Gn53° 20′ 0232″G
804° 40′ 8918″Gn53° 19′ 4553″G
904° 42′ 1572″Gn53° 18′ 3923″G
1004° 41′ 4538″Gn53° 18′ 0234″G
1104° 41′ 3192″Gn53° 17′ 9827″G
a rhwng y cyfesurynnau sy’n cynnwys pwynt 11 uchod yn dilyn lefel penllanw cymedrig y gorllanw a’r cyfesurynnau sy’n cynnwys pwynt 12 isod
1204° 41′ 0437″Gn53° 17′ 4793″G
1304° 41′ 4248″Gn53° 17′ 2703″G
1404° 41′ 1701″Gn53° 16′ 8109″G
Ardal Gyfyngedig – Gogleddol (fel y’i dangosir ar blan yr ardal gyfyngedig)
34° 42′ 1615″Gn53° 19′ 4682″G
44° 44′ 0251″Gn53° 19′ 4682″G
54° 44′ 9249″Gn53° 18′ 9282″G
64° 44′ 9249″Gn53° 18′ 2196″G
174° 42′ 5741″Gn53° 17′ 7330″G
164° 42′ 9827″Gn53° 18′ 3882″G
194° 43′ 7090″Gn53° 18′ 2230″G
Ardal Gyfyngedig – UKC 20m (fel y’i dangosir ar blan yr ardal gyfyngedig)
14° 41′ 2896″Gn53° 20′ 0232″G
154° 44′ 8044″Gn53° 20′ 0232″G
144° 45′ 8658″Gn53° 17′ 4900″G
134° 45′ 8658″Gn53° 15′ 5400″G
124° 41′ 4552″Gn53° 15′ 5400″G
114° 41′ 0129″Gn53° 15′ 9503″G
104° 41′ 1864″Gn53° 16′ 2282″G
84° 44′ 0251″Gn53° 16′ 2282″G
74° 44′ 9249″Gn53° 17′ 3082″G
54° 44′ 9249″Gn53° 18′ 9282″G
44° 44′ 0251″Gn53° 19′ 4682″G
24° 41′ 7116″Gn53° 19′ 4682″G
Ardal Gyfyngedig – UKC 8m (fel y’i dangosir ar blan yr ardal gyfyngedig)
24° 41′ 7116″Gn53° 19′ 4682″G
34° 42′ 1615″Gn53° 19′ 4682″G
164° 42′ 9827″Gn53° 18′ 3882″G
94° 41′ 6363″Gn53° 16′ 2282″G
104° 41′ 1864″Gn53° 16′ 2282″G
184° 42′ 5328″Gn53° 18′ 3882″G

Erthygl 3

RHAN 4Dogfennau i’w cyflwyno ac i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru

(1)(2)
DogfenI’w chymeradwyo cyn y camau gweithredu hyn
Cynllun Rheoli CeblauCyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig
Cynllun Rheoli Amgylcheddol AdeiladuCyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig
Rhaglen DdatgomisiynuCyn datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig
Strategaeth gwella bioamrywiaeth forol fanwl

Cyn pob un o’r gweithgareddau a ganlyn:

  • cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig

  • ailbweru unrhyw waith llanwol cysylltiedig

Protocol ar Ddefnyddio Dyfeisiau

Cyn defnyddio unrhyw ddyfais lanwol neu hwb gweithredu a fydd—

  • yn codi o’r wyneb yn yr ardal gyfyngedig neu yng ngweddill ardal yr araeau.

  • â lle clirio o dan y cêl o lai nag 8 metr islaw’r llanw astronomaidd isaf yn yr ardal gyfyngedig – UKC 8m

  • â lle clirio o dan y cêl o lai nag 20 metr islaw’r llanw astronomaidd isaf yn yr ardal gyfyngedig – UKC 20m

Cynllun Lliniaru a Monitro Amgylcheddol

Cyn pob un o’r gweithgareddau a ganlyn—

  • cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig

  • ailbweru unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig

Nodi Parthau Archaeolegol NeilltuedigCyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig
Methodoleg GosodCyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig pan fo angen torri ffosydd ar gyfer gosod ceblau
Protocol Lliniaru Mamaliaid Morol

Cyn pob un o’r gweithgareddau a ganlyn—

  • cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig

  • ailbweru unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig

  • datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig

Cynllun Llygredd Morol Wrth GefnCyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig
Asesiad Risg Mordwyol Wedi’i Ddiweddaru

Cyn pob un o’r gweithgareddau canlynol—

  • cychwyn ar unrhyw waith llanwol

  • ailbweru unrhyw waith llanwol

  • datgomisiynu unrhyw waith llanwol

Cynllun Atal a Rheoli LlygreddCyn cychwyn ar unrhyw weithfeydd llanwol cysylltiedig

Erthygl 22

ATODLEN 2Tir ychwanegol y gellir ei gaffael neu ei ddefnyddio

(1)(2)(3)
ArdalRhif y tir a ddangosir ar blan y tirAt ba ddiben y gellir caffael neu ddefnyddio tir
Ynys Môn9Mynediad at ddibenion adeiladu a chynnal a chadw
51Mynediad at ddibenion adeiladu a chynnal a chadw

Erthygl 7

ATODLEN 3Strydoedd sy’n destun Gweithfeydd Stryd

(1)(2)
ArdalStryd sy’n destun gweithfeydd stryd
Sir Ynys MônFfordd Ynys Lawd
Llwybr Arfordir Cymru
Ffordd ddienw o Ffordd Ynys Lawd i Fferm Tŷ Mawr
Lôn Isallt
Ffordd y Plas
Ffordd Porthdafarch
Ffordd y Felin
Llwybr troed 19/021/2
A5153 (o’r gyffordd â B4545)
Ffordd Fynediad i Ganolfan Hamdden Caergybi, oddi ar yr A5153
Parc Cybi
Ffordd ddienw oddi ar Barc Cybi (Ffordd Gangen Parc Cybi)
Ffordd ddienw o fewn Orthios Eco Parks (Anglesey) Ltd

Erthygl 8

ATODLEN 4Strydoedd i’w Cau Dros Dro

(1)(2)(3)
ArdalStryd i’w chau dros droGraddau’r cau dros dro
Sir Ynys MônFfordd Ynys LawdO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Ffordd Arfordir CymruO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Ffordd ddienw o Ffordd Ynys Lawd i Fferm Tŷ MawrO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Lôn IsalltO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Ffordd y PlasO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Ffordd PorthdafarchO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Ffordd y FelinO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Llwybr troed 19/021/2O fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
A5153 (o’r gyffordd â B4545)O fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Ffordd Fynediad i Ganolfan Hamdden Caergybi, oddi ar yr A5153O fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Parc CybiO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Ffordd ddienw oddi ar Barc Cybi (Ffordd Gangen Parc Cybi)O fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir
Ffordd ddienw o fewn Orthios Eco Parks (Anglesey) LtdO fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir

Erthygl 9

ATODLEN 5Mynediad i Weithfeydd

(1)

Ardal

(2)

Disgrifiad o’r mynediad

Sir Ynys MônFfordd Ynys Lawd
Lôn Isallt
Ffordd Porthdafarch
Ffordd y Felin
Ffordd Fynediad i Ganolfan Hamdden Caergybi, oddi ar yr A5153
Ffordd ddienw oddi ar Barc Cybi (Ffordd Gangen Parc Cybi)
Ffordd Llundain (A5)

Erthygl 23

ATODLEN 6

RHAN 1Tir na ellir ond caffael hawliau newydd ynddo

(1)(2)(3)
ArdalRhif y tir a ddangosir ar blan y tirAt ba ddiben y gellir caffael hawliau
Ynys Môn1 a 3aGosod a chynnal a chadw ceblau tanddaearol a/neu gyda diogelwch ceblau mewn cysylltiad â’r gweithfeydd awdurdodedig
9 a 51Mynediad at ddibenion adeiladu a chynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig

RHAN 2Tir y gellir gosod cyfamodau cyfyngol drosto

(1)(2)(3)
ArdalRhif y tir a ddangosir ar blan y tirAt ba ddiben y gellir gosod cyfamodau cyfyngol
Ynys Môn3, 8, 10, 12, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 38, 38a, 39, 40, 42, 43, 48, 49 a 50Diogelu ceblau tanddaearol a seilwaith

Erthygl 23

ATODLEN 7Addasu Deddfiadau Digolledu a Phrynu Gorfodol ar gyfer Creu Hawliau Newydd a Gosod Cyfamodau Cyfyngol

Deddfiadau Digolledu

1.  Mae’r deddfiadau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â digolledu am brynu tir yn orfodol yn gymwys gyda’r addasiadau angenrheidiol mewn perthynas â digolledu yn achos caffael hawl yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol fel y maent yn gymwys mewn perthynas â digolledu ar adeg prynu tir a buddiannau mewn tir yn orfodol.

2.—(1Heb gyfyngu ar gwmpas paragraff 1, mae Deddf 1961 yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir yn is-baragraff (2).

(2Yn lle adran 5A(5A) (dyddiad prisio perthnasol) o Ddeddf 1961, rhodder—

(5A) If—

(a)the acquiring authority enters on land for the purpose of exercising a right in pursuance of a notice of entry under section 11(1) (powers of entry) of the 1965 Act (as modified by paragraph 5(5) of Schedule 7 to the Morlais Demonstration Zone Order 2021);

(b)the acquiring authority is subsequently required by a determination under paragraph 12 of Schedule 2A (counter-notice requiring purchase of land not in notice to treat) to the 1965 Act (as substituted by paragraph 5(8) of Schedule 7 to the Morlais Demonstration Zone Order 2021) to acquire an interest in the land; and

(c)the acquiring authority enters on and takes possession of that land,

the authority is deemed for the purposes of subsection (3)(a) to have entered on that land when it entered on that land for the purpose of exercising that right.

3.—(1Heb ragfarnu cyffredinolrwydd paragraff 1, mae Deddf Digollediad Tir 1973(52) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn is-baragraffau (2) a (3).

(2Yn adran 44(1) (digolledu am effeithiad andwyol), fel y mae’n gymwys i ddigolledu am effeithiad andwyol o dan adran 7 o Ddeddf 1965 fel y’i hamnewidiwyd gan baragraff 5(2)—

(a)yn lle’r geiriau “land is acquired or taken” rhodder y geiriau “a right or restrictive covenant over land is purchased from or imposed on”; a

(b)yn lle’r geiriau “acquired or taken from him” rhodder y geiriau “over which the right is exercisable or the restrictive covenant is enforceable”.

(3Yn adran 58(1) (penderfynu ar niwed sylweddol pan fwriedir caffael rhan o dŷ etc yn orfodol), fel y mae’n gymwys i benderfyniadau o dan adran 8 o Ddeddf 1965—

(a)yn lle’r gair “part” ym mharagraffau (a) a (b) rhodder y geiriau “a right or restrictive covenant over land consisting”;

(b)yn lle’r gair “severance” rhodder y geiriau “right or restrictive covenant over the whole of the house, building or manufactory or of the house and the park or garden”;

(c)yn lle’r geiriau “part proposed” rhodder y geiriau “right or restrictive covenant proposed”; a

(d)yn lle’r geiriau “part is” rhodder y geiriau “right or restrictive covenant is”.

Cymhwyso Deddf 1965

4.—(1Mae Deddf 1965 yn cael effaith gyda’r addasiadau sy’n angenrheidiol i wneud iddi fod yn gymwys i gaffael hawl yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol fel y bo’n gymwys i gaffael tir yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn, mewn cyd-destunau priodol, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf honno at dir i’w darllen (yn unol â gofynion y cyd-destun penodol) fel pe baent yn gyfeiriadau at, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at—

(a)yr hawl a gaffaelwyd neu sydd i’w chaffael, neu’r cyfamod cyfyngol a osodwyd neu sydd i’w osod; neu

(b)y tir y mae’r hawl yn arferadwy drosto neu sydd i’w harfer drosto, neu’r cyfyngiad sy’n orfodadwy drosto neu sydd i’w orfodi drosto.

(2Heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-baragraff (1), mae Rhan 1 o Ddeddf 1965 yn gymwys mewn perthynas â chaffael hawl yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol gyda’r addasiadau a bennir yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

5.—(1Yn lle adran 7 o Ddeddf 1965 (mesur o ddigolledu) rhodder yr adran a ganlyn—

7.  In assessing the compensation to be paid by the acquiring authority under this Act regard must be had not only to the extent (if any) to which the value of the land over which the right is to be acquired or the restrictive covenant is to be imposed is depreciated by the acquisition of the right or the imposition of the covenant but also to the damage (if any) to be sustained by the owner of the land by reason of its severance from other land of his, or injuriously affecting that other land by the exercise of the powers conferred by this or the special Act..

(2Mae darpariaethau canlynol Deddf 1965 (sy’n nodi effaith gweithred unrhan a weithredir o dan amrywiol amgylchiadau pan na fo trawsgludo gan bersonau a chanddynt fuddiannau yn y tir), hynny yw—

(a)adran 9(4) (methiant perchenogion i drawsgludo);

(b)paragraff 10(3) o Atodlen 1 (perchenogion nad oes ganddynt alluogedd);

(c)paragraff 2(3) o Atodlen 2 (perchenogion absennol a heb eu holrhain); a

(d)paragraffau 2(3) a 7(2) o Atodlen 4 (tir comin),

i’w haddasu felly fel y byddant yn sicrhau, fel yn erbyn personau a chanddynt fuddiannau yn y tir a fynegir i’w trechu gan y weithred, bod yr hawl sydd i’w chaffael yn orfodol neu’r cyfamod cyfyngol sydd i’w osod yn cael ei breinio neu ei freinio’n llwyr yn yr awdurdod caffael.

(3Mae adran 11(53) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965 yn cael ei haddasu er mwyn sicrhau, pan fo’r awdurdod caffael wedi cyflwyno hysbysiad i drafod telerau mewn cysylltiad ag unrhyw hawl neu gyfyngiad yn ogystal â’r hysbysiad mynediad sy’n ofynnol gan is-adran (1) o’r adran honno (fel sy’n gymwys i gaffaeliad gorfodol o dan erthygl 24(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965)), mae ganddo y pŵer sy’n arferadwy yn yr un amgylchiadau ac sy’n ddarostyngedig i’r un amodau, i gael mynediad at ddiben arfer yr hawl honno neu orfodi’r cyfamod hwnnw; ac mae adrannau 11A(54) (pwerau mynediad: hysbysiadau mynediad pellach), 11B(55) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i feddiannu tir ar ddyddiad penodedig), 12(56) (cosb am fynediad anawdurdodedig) a 13(57) (gwrthod rhoi meddiant i awdurdod caffael) o’r Ddeddf yn cael eu haddasu yn unol â hynny.

(4Mae adran 20 o Ddeddf 1965 (diogelu buddiannau tenantiaid wrth ewyllys etc) yn gymwys gyda’r addasiadau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod personau sydd â’r cyfryw fuddiannau mewn tir ag a grybwyllir yn yr adran honno yn cael eu digolledu mewn modd sy’n cyfateb i’r modd y byddent yn cael eu digolledu ar adeg caffael y tir hwnnw yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn, ond gan ystyried graddau (os o gwbl) y cyfryw ymyrraeth â’r cyfryw fuddiant ag a achosir mewn gwirionedd yn unig, drwy arfer yr hawl neu orfodi’r cyfamod cyfyngol dan sylw.

(5Mae adran 22 o Ddeddf 1965 (diogelu meddiant awdurdod caffael pan na fo mynediad i ystad, hawl neu fuddiant drwy ddiofalwch) i’w haddasu fel y bydd yn galluogi’r awdurdod caffael, o dan amgylchiadau sy’n cyfateb i’r rhai y cyfeirir atynt yn yr adran honno, yn parhau â’r hawl i arfer yr hawl a gaffaelwyd neu orfodi’r cyfamod cyfyngol a osodwyd, yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth â’r adran honno mewn perthynas â digolledu.

(6Yn lle Atodlen 2A(58) i Ddeddf 1965 Act rhodder—

SCHEDULE 2ACOUNTER-NOTICE REQUIRING PURCHASE OF LAND

Introduction

1.(1) This Schedule applies where an acquiring authority serve a notice to treat in respect of a right over, or a restrictive covenant affecting, the whole or part of a house, building or factory, and have not executed a general vesting declaration under section 4 of the 1981 Act in respect of the land to which the notice to treat relates.

(2) But see article 26(3) (power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021 which excludes the acquisition of subsoil only from this schedule.

2.  In this Schedule, “house” includes any park or garden belonging to a house.

Counter-notice requiring purchase of land

3.  A person who is able to sell the house, building or factory (“the owner”) may serve a counter-notice requiring the authority to purchase the owner’s interest in the house, building or factory.

4.  A counter-notice under paragraph 3 must be served within the period of 28 days beginning with the day on which the notice to treat was served.

Response to counter-notice

5.  On receiving a counter-notice, the acquiring authority must decide whether to—

(a)withdraw the notice to treat,

(b)accept the counter-notice, or

(c)refer the counter-notice to the Upper Tribunal.

6.  The authority must serve notice of their decision on the owner within the period of 3 months beginning with the day on which the counter-notice is served (“the decision period”).

7.  If the authority decide to refer the counter-notice to the Upper Tribunal they must do so within the decision period.

8.  If the authority do not serve notice of a decision within the decision period they are to be treated as if they had served notice of a decision to withdraw the notice to treat at the end of that period.

9.  If the authority serve notice of a decision to accept the counter-notice, the compulsory purchase order and the notice to treat are to have effect as if they included the owner’s interest in the house, building or factory.

Determination by Upper Tribunal

10.  On a referral under paragraph 7, the Upper Tribunal must determine whether the acquisition of the right or the imposition of the restrictive covenant would—

(a)in the case of a house, building or factory, cause material detriment to the house, building or factory, or

(b)in the case of a park or garden, seriously affect the amenity or convenience of the house to which the park or garden belongs.

11.  In making its determination, the Upper Tribunal must take into account—

(a)the effect of the acquisition of the right or the imposition of the restrictive covenant,

(b)the proposed use of the right or the restrictive covenant, and

(c)if the right is proposed to be acquired or the restrictive covenant is proposed to be imposed for works or other purposes extending to other land, the effect of the whole of the works and the use of the other land.

12.  If the Upper Tribunal determines that the acquisition of the right or the imposition of the restrictive covenant would have either of the consequences described in paragraph 10, it must determine how much of the house, building or factory the authority ought to be required to take.

13.  If the Upper Tribunal determines that the authority ought to be required to take some or all of the house, building or factory, the compulsory purchase order and the notice to treat are to have effect as if they included the owner’s interest in that land.

14.(1) If the Upper Tribunal determines that the authority ought to be required to take some or all of the house, building or factory, the authority may at any time within the period of 6 weeks beginning with the day on which the Upper Tribunal makes its determination withdraw the notice to treat in relation to that land.

(2) If the authority withdraws the notice to treat under this paragraph they must pay the person on whom the notice was served compensation for any loss or expense caused by the giving and withdrawal of the notice.

(3) Any dispute as to the compensation is to be determined by the Upper Tribunal.

Deddf 1981

6.—(1Mae Deddf 1981, fel y’i cymhwysir gan erthygl 25 (cymhwyso Deddf 1981) at gaffael tir o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir), yn gymwys i gaffael hawl yn orfodol neu osod cyfamod cyfyngol o dan erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol)—

(a)gyda’r addasiadau a bennir ym mharagraff 7; a

(b)y cyfryw addasiadau eraill ag sy’n angenrheidiol.

(2Mae’r deddfiadau sy’n ymwneud â digolledu am brynu tir yn orfodol hefyd yn gymwys i gaffael hawl yn orfodol neu osod cyfamod cyfyngol o dan erthygl 23.

7.—(1Mae’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(1)(a) fel a ganlyn.

(2Mae cyfeiriadau yn Neddf 1981 at dir, mewn cyd-destunau priodol, i’w darllen (yn unol â gofynion y cyd-destun penodol) fel pe baent yn gyfeiriadau at, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at—

(a)yr hawl a gaffaelwyd neu sydd i’w chaffael, neu’r cyfamod cyfyngol a osodwyd neu sydd i’w osod; neu

(b)y tir y mae’r hawl yn arferadwy drosto neu sydd i’w harfer drosto, neu’r cyfyngiad sy’n orfodadwy drosto neu sydd i’w orfodi drosto.

(3Mae cyfeiriadau yn Neddf 1981 at Ddeddf 1965 i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y mae’n gymwys i gaffael hawl yn orfodol neu osod cyfamod cyfyngol o dan erthygl 23.

(4Mae adran 8(1) o Ddeddf 1981 (breinio, a’r hawl i fynd ar dir a’i feddiannu) yn cael ei haddasu er mwyn sicrhau—

(a)bod datganiad breinio cyffredinol mewn cysylltiad ag unrhyw hawl yn breinio’r hawl neu’r cyfamod cyfyngol yn yr awdurdod caffael ar y dyddiad breinio; a

(b)bod gan yr awdurdod caffael, o’r dyddiad breinio, bŵer sy’n arferadwy o dan yr un amgylchiadau ac sy’n ddarostyngedig i’r un amodau, i fynd ar dir at ddiben arfer yr hawl honno neu orfodi’r cyfamod cyfyngol hwnnw fel pe bai’r amgylchiadau a grybwyllir yn adran 8(1)(a) a (b) o Ddeddf 1981 wedi codi.

(5Mae adran 9(2) o Ddeddf 1981 (hawl mynediad o dan adran 8(1) nad yw’n arferadwy mewn perthynas â thir sy’n ddarostyngedig i denantiaethau penodol, oni chyflwynir hysbysiad i feddianwyr y tir) yn cael ei haddasu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod priodol o dan y ddarpariaeth honno gyfeirio at fwriad yr awdurdod i fynd ar dir a bennir yn yr hysbysiad er mwyn arfer yr hawl neu orfodi’r cyfamod cyfyngol hwnnw.

(6Yn adran 10(1) o Ddeddf 1981 (atebolrwydd awdurdod caffael ar adeg breinio tir), mae’r cyfeiriad at feddiannu’r tir gan yr awdurdod caffael o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965 i’w ddarllen yn lle hynny fel pe bai’n gyfeiriad at arfer y pŵer i fynd ar dir gan yr awdurdod o dan y ddarpariaeth honno fel y’i haddaswyd gan baragraff 4(5) o’r Atodlen hon.

(7Mae Atodlen A1 i Ddeddf 1981 (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol) yn cael effaith fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1(1), yn lle “part only of” rhoddwyd “only the acquisition of a right or the imposition of a restrictive covenant over”;

(b)cyfeiriadau at y tir y bwriedir ei gaffael yn gyfeiriadau (yn ddarostyngedig i baragraff (d) isod) at yr hawl y bwriedir ei chaffael neu’r cyfamod cyfyngol y bwriedir ei osod;

(c)cyfeiriadau at y tir ychwanegol yn gyfeiriadau at y tŷ, yr adeilad neu’r ffatri y bwriedir arfer yr hawl drosto neu drosti neu y bwriedir gorfodi’r cyfamod cyfyngol drosto neu drosti;

(d)ym mharagraffau 14 a 15, gyfeiriadau at wahanu’r tir y bwriedir ei gaffael yn gyfeiriadau at gaffael yr hawl neu osod y cyfamod cyfyngol; ac

(e)ym mharagraff 15, “or in substitution for” yn cael ei fewnosod ar ôl “in addition to”.

Erthygl 26

ATODLEN 8Tir na ellir ond caffael is-bridd sydd dros 9 metr o dan ei wyneb

(1)(2)
ArdalRhif y tir a ddangosir ar blan y tir
Ynys Môn45, 46 a 47

Erthygl 28

ATODLEN 9Tir y gellir ei Feddiannu Dros Dro

(1)(2)(3)(4)
ArdalRhif y tir a ddangosir ar blan y tirAt ba ddiben y gellir meddiannu tir dros droGwaith awdurdodedig
Ynys Môn2

Safle gwaith dros dro, gwaith gosod a mynediad at ddibenion adeiladu

Gwaith Rhif 3 a 4
4 a 6

Safle gwaith dros dro, gwaith gosod a mynediad at ddibenion adeiladu

Gwaith Rhif 4
7

Safle gwaith dros dro, gwaith gosod a mynediad at ddibenion adeiladu

Gwaith Rhif 5, 6 a 7
17 a 26Safle gwaith dros dro, gwaith gosod a mynediad at ddibenion adeiladuGwaith Rhif 7

Erthygl 44

ATODLEN 10Darpariaethau sy’n ymwneud ag Ymgymerwyr Statudol etc

Cyfarpar ymgymerwyr statudol etc ar dir a gaffaelwyd

1.—(1Mae adrannau 271 i 274(59) o Ddeddf 1990 (pŵer i ddiddymu hawliau ymgymerwyr statudol etc a phŵer ymgymerwyr statudol etc i dynnu ymaith gyfarpar neu ei ail-leoli) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir sy’n cael ei gaffael neu ei feddiannu gan yr ymgymerwr o dan y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn: ac mae holl gyfryw ddarpariaethau eraill y Ddeddf honno ag sy’n gymwys at ddibenion y darpariaethau hynny (gan gynnwys adrannau 275 i 278), sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ganlyniadol i ddiddymu unrhyw hawliau o dan adrannau 271 a 272, ac adrannau 279(2) i (4), 280 a 282,(60) sy’n darparu ar gyfer talu digollediad) yn cael effaith yn unol â hynny.

(2Yn narpariaethau Deddf 1990, fel y’u cymhwyswyd gan baragraff (1), mae cyfeiriadau at y Gweinidog priodol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

(3Pan fo cyfarpar unrhyw ymgymerwyr cyfleustod cyhoeddus neu unrhyw ddarparwr cyfathrebu cyhoeddus yn cael ei dynnu yn unol â hysbysiad neu orchymyn a roddir neu a wneir o dan adran 271, 272 neu 273 o Ddeddf 1990, fel y’i cymhwyswyd gan is-baragraff (1), bydd gan unrhyw berson sy’n berchen ar safle neu sy’n feddiannydd safle y rhoddwyd cyflenwad o’r cyfarpar hwnnw iddo yr hawl i adennill digollediad gan yr ymgymerwr mewn perthynas â gwariant y mae’n mynd iddo’n rhesymol, o ganlyniad i dynnu’r cyfarpar, at ddiben creu cysylltiad rhwng y safle ac unrhyw gyfarpar arall y mae cyflenwad yn cael ei roi ohono.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys yn achos gwaredu carthffos gyhoeddus ond pan fo’r cyfryw garthffos yn cael ei gwaredu yn unol â’r cyfryw hysbysiad neu orchymyn fel y’i crybwyllwyd yn y paragraff hwnnw, bydd gan unrhyw berson—

(a)sy’n berchennog safle neu’n feddiannydd safle y mae ei ddraeniau yn cysylltu â’r garthffos honno; neu

(b)sy’n berchennog carthffos breifat a oedd yn cysylltu â’r garthffos honno,

yr hawl i adennill digollediad gan yr ymgymerwr mewn perthynas â gwariant y mae’n mynd iddo’n rhesymol, o ganlyniad i waredu cyfarpar, at ddiben gwneud i’w ddraen neu i’w garthffos gysylltu ag unrhyw garthffos gyhoeddus arall neu â safle gwaredu carthffosiaeth preifat.

(5Ni fydd darpariaethau Deddf 1990 a grybwyllir yn is-baragraff (1), fel y’u cymhwysir gan yr is-baragraff hwnnw, yn cael effaith mewn perthynas â chyfarpar y mae paragraff 2 neu Ran 3 o Ddeddf 1991 yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(6Yn y paragraff hwn—

mae i “ddarparwr cyfathrebu cyhoeddus” yr un ystyr â “public communications provider” yn adran 151(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003(61); ac

mae i “ymgymerwyr cyfleustod cyhoeddus” yr un ystyr â “public utility undertakers” yn Neddf Priffyrdd 1980(62).

Cyfarpar ymgymerwyr statudol etc mewn strydoedd wedi’u cau

2.—(1Pan fo stryd wedi’i chau o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) bydd gan unrhyw gyfleustod statudol y mae ei gyfarpar o dan y stryd, yn y stryd, ar y stryd, ar hyd y stryd neu ar draws y stryd yr un pwerau a hawliau mewn perthynas â’r cyfarpar hwnnw, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwn, fel pe na bai’r Gorchymyn hwn wedi cael ei wneud.

(2Pan fo stryd wedi’i chau o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) caiff unrhyw gyfleustod statudol y mae ei gyfarpar o dan y stryd, yn y stryd, ar y stryd, dros y stryd, ar hyd y stryd neu ar draws y stryd, ac os gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan ymgymerwr rhaid iddo—

(a)dynnu ymaith y cyfarpar a’i osod neu osod cyfarpar arall a ddarparwyd yn ei le yn y cyfryw leoliad arall ag a bennir yn rhesymol gan y cyfleustod ac y mae ganddo’r pŵer i’w osod; neu

(b)ddarparu cyfarpar arall yn lle’r cyfarpar presennol a’i osod yn y cyfryw leoliad arall ag a nodwyd uchod.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwn, rhaid i’r ymgymerwr dalu i unrhyw gyfleustod statudol swm sy’n hafal i’r gost y mae’r cyfleustod yn rhesymol yn mynd iddi wrth—

(a)gwblhau’r gweithfeydd adleoli sy’n ofynnol i gau’r stryd neu mewn cysylltiad â hynny; a

(b)gwneud unrhyw waith neu beth arall sy’n angenrheidiol o ganlyniad i gwblhau’r gweithfeydd adleoli neu mewn cysylltiad â hynny.

(4Os, wrth gwblhau gweithfeydd adleoli o dan baragraff (2)—

(a)gosodir cyfarpar o fath gwell, o gapasiti ychwanegol neu o ddimensiynau mwy yn lle’r cyfarpar presennol; neu

(b)gosodir cyfarpar (y cyfarpar presennol neu gyfarpar a osodwyd yn lle’r cyfarpar presennol) ar ddyfnder sy’n ddyfnach na’r cyfarpar presennol,

ac nad yw’r ymgymerwr yn cytuno i osod cyfarpar o’r math hwnnw neu’r capasiti hwnnw neu o’r dimensiynau hynny nac i osod cyfarpar ar y dyfnder hwnnw, yn ôl y digwydd, neu yn niffyg cytundeb, penderfynir drwy gymrodeddu nad yw’n angenrheidiol, yna os oes cost ynghlwm wrth gwblhau’r gweithfeydd adleoli sy’n fwy na’r hyn a fyddai wedi bod ynghlwm pe bai’r cyfarpar a osodwyd yn gyfarpar o’r math, y capasiti neu’r dimensiynau presennol neu ar y dyfnder presennol, yn ôl y digwydd, bydd y swm a fyddai ar wahân i’r paragraff hwn yn daladwy i’r cyfleustod statudol yn rhinwedd is-baragraff (3) yn cael ei leihau o’r gorswm hwnnw.

(5At ddibenion paragraff (4)—

(a)ni thrinnir estyn cyfarpar i hyd sy’n fwy na hyd y cyfarpar presennol fel pe bai’n gosod cyfarpar o ddimensiynau mwy na rhai’r cyfarpar presennol; a

(b)phan gytunir ar ddarparu uniad mewn cebl, neu pan benderfynir bod uniad yn angenrheidiol, bydd darparu siambr uno neu dwll archwilio o ganlyniad i hynny yn cael ei drin fel pe bai cytundeb hefyd yn ei gylch fel pe bai wedi cael ei benderfynu felly.

(6Bydd swm a fyddai ar wahân i’r is-baragraff hwn yn daladwy i gyfleustod statudol mewn cysylltiad â gweithfeydd yn rhinwedd paragraff (3) (ar ôl rhoi sylw i baragraff (4) lle y bo’n berthnasol), os yw’r gweithfeydd yn cynnwys gosod cyfarpar a ddarparwyd yn lle’r cyfarpar a osodwyd fwy na 7 mlynedd a 6 mis yn gynharach er mwyn rhoi unrhyw fuddiant ariannol i’r cyfleustod sy’n codi drwy ohirio amser adnewyddu’r cyfarpar fel arfer, yn cael ei leihau o swm y buddiant hwnnw.

(7Nid yw paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fo’r gweithfeydd awdurdodedig yn gyfystyr â gweithfeydd trafnidiaeth mawr at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1991, ond yn lle hynny—

(a)penderfynir ar y costau a ganiateir am y gweithfeydd adleoli yn unol ag adran 85 o’r Ddeddf honno (rhannu cost mesurau angenrheidiol) ac unrhyw reoliadau sydd yn cael effaith am y tro o dan yr adran honno; a

(b)bydd y costau a ganiateir yn cael eu dwyn gan yr ymgymerwr a’r cyfleustod statudol yn y cyfryw gyfrannau ag a ragnodir gan unrhyw gyfryw reoliadau.

(8Yn y paragraff hwn—

mae i “cyfarpar” yr un ystyr ag “apparatus” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991;

ystyr “gweithfeydd adleoli” yw gwaith a weithredir, neu gyfarpar a ddarperir o dan is-baragraff (2); ac

ystyr “cyfleustod statudol” yw ymgymerwr statudol at ddibenion Deddf Priffyrdd 1980 neu ddarparwr cyfathrebu cyhoeddus fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 1(6)(63).

Ymgymeriadau rheilffyrdd a mordwyo

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, nid yw’r pwerau o dan erthygl 7 (pŵer i wneud gweithfeydd stryd) o’r Gorchymyn hwn i dorri neu agor stryd yn arferadwy pan fo’r stryd, nad yw’n briffordd y gellir ei chynnal a’i chadw ar draul y cyhoedd (o fewn ystyr Deddf 1980)—

(a)o dan reolaeth ymgymerwyr rheilffordd neu dramffordd neu awdurdod mordwyo neu sy’n cael ei rheoli neu ei chynnal a’i chadw gan ymgymerwyr rheilffordd neu dramffordd neu awdurdod mordwyo; neu

(b)yn rhan o groesfan reilffordd sy’n eiddo i unrhyw gyfryw ymgymerwyr neu i’r cyfryw awdurdod neu unrhyw berson arall,

ac eithrio gyda chydsyniad yr ymgymerwyr neu’r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, y person y mae’r groesfan reilffordd yn eiddo iddynt neu iddo.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i gyflawni gweithfeydd brys o dan y Gorchymyn hwn, o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf 1991.

(3Gellir gwneud cydsyniad a roddir at ddiben baragraff (1) yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau rhesymol ag a bennir gan y person sy’n ei roi ond rhaid iddo beidio â chael ei atal yn afresymol.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “awdurdod mordwyo” yw unrhyw berson sydd â dyletswydd neu bŵer o dan unrhyw ddeddfiad i weithio, cynnal a chadw, gwarchod, gwella neu reoli unrhyw gamlas neu fath arall o fordwyo mewndirol, afon fordwyadwy, aber, harbwr neu ddoc.

Erthygl 45

ATODLEN 11Darpariaethau Diogelu

RHAN 1Diogelu ymgymerwyr trydan, nwy, dŵr a charthffosiaeth

1.  Mae darpariaethau’r Rhan hon yn cael effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw.

2.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfarpar amgen” yw cyfarpar amgen sy’n ddigonol i alluogi’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw i gyflawni ei swyddogaethau statudol mewn modd nad yw’n llai effeithlon na chynt;

ystyr “cyfarpar”—

(a)

yn achos ymgymerwr cyfleustod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad o’r term hwnnw, yw llinellau trydan neu safle trydanol (fel y’u diffiniwyd yn Neddf Trydan 1989(64) sy’n eiddo i’r ymgymerwr cyfleustod neu sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan yr ymgymerwr cyfleustod;

(b)

yn achos ymgymerwr cyfleustod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad o’r term hwnnw, yw unrhyw brif bibellau, pibellau neu gyfarpar arall sy’n eiddo i’r ymgymerwr cyfleustod neu sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan yr ymgymerwr cyfleustod at ddibenion cyflenwi nwy;

(c)

yn achos ymgymerwr cyfleustod o fewn paragraff (c) o’r diffiniad o’r term hwnnw, yw prif bibellau, pibellau neu gyfarpar arall sy’n eiddo i’r ymgymerwr cyfleustod neu sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan yr ymgymerwr cyfleustod at ddibenion cyflenwi dŵr; a

(d)

yn achos ymgymerwr cyfleustod o fewn paragraff (d) o’r diffiniad o’r term hwnnw—

(i)

yw—

(aa)

unrhyw ddraen neu weithfeydd a freiniwyd yn yr ymgymerwr cyfleustod o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991; a

(bb)

unrhyw garthffos y’i breiniwyd felly neu’n sy’n destun hysbysiad o fwriad i’w mabwysiadu a roddwyd o dan adran 102(4) o’r Ddeddf honno(65) neu gytundeb i fabwysiadu a wnaed o dan adran 104 o’r Ddeddf honno, a

(ii)

yn cynnwys prif bibell slwtsh, prif bibell waredu (o fewn ystyr adran 219 o’r Ddeddf honno) neu ollyngfa garthffosiaeth ac unrhyw dyllau archwilio, siafftiau awyru, pympiau neu ategolion eraill sy’n ffurfio rhan o unrhyw gyfryw garthffos, draen neu weithfeydd,

ac ym mhob achos yn cynnwys unrhyw strwythur y mae cyfarpar wedi’i osod neu i’w osod ynddo neu sy’n rhoi neu a fydd yn rhoi mynediad i gyfarpar;

mae “swyddogaethau” yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;

mae “mewn”, yng nghyd-destun cyfeirio at gyfarpar neu gyfarpar amgen mewn tir, yn cynnwys cyfeiriad at gyfarpar neu gyfarpar amgen o dan, dros neu ar dir;

ystyr “ymgymerwr cyfleustod” yw—

(a)

unrhyw ddeiliad trwydded o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Trydan 1989;

(b)

cludwr nwy o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986(66);

(c)

ymgymerwr dŵr(67); a

(d)

ystyr ymgymerwr carthffosiaeth, ar gyfer ardal y gweithfeydd ar y tir, ac mewn perthynas ag unrhyw gyfarpar, yw’r ymgymerwr cyfleustod y mae’n eiddo iddo neu sy’n ei gynnal a’i gadw.

3.  Nid yw’r Rhan hon yn gymwys i—

(a)cyfarpar y mae cysylltiadau rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod mewn perthynas ag ef yn cael eu rheoleiddio gan Ran 3 o Ddeddf 1991; a

(b)y gweithfeydd llanwol.

4.  Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn neu unrhyw beth a ddangosir ar blan y tir, rhaid i’r ymgymerwr beidio â chaffael unrhyw gyfarpar ac eithrio drwy gytundeb.

5.—(1Os yw’r ymgymerwr, drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn, yn caffael unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir y mae unrhyw gyfarpar yn cael ei osod arno, ni chaniateir tynnu ymaith y cyfarpar hwnnw o dan y Rhan hon, ac ni chaniateir diddymu unrhyw hawl gan ymgymerwr cyfleustod i gynnal a chadw’r cyfarpar hwnnw yn y tir hwnnw, oni bai bod cyfarpar amgen wedi cael ei adeiladu a’i fod yn weithredol er boddhad rhesymol yr ymgymerwr cyfleustod dan sylw.

(2Os yw’r ymgymerwr, at ddiben gweithredu unrhyw weithfeydd mewn, ar neu o dan unrhyw dir sy’n caei brynu, ei ddal, ei feddiannu neu ei ddefnyddio o dan y Gorchymyn hwn, yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfarpar a osodwyd yn y tir hwnnw gael ei dynnu ymaith, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o’r gofyniad hwnnw i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw, ynghyd â phlan a thrawslun o’r gwaith a gynigir a lleoliad arfaethedig y cyfarpar amgen sydd i’w ddarparu neu i’w adeiladu; ac yn yr achos hwnnw (neu os oes angen i ymgymerwr cyfleustod yn rhesymol dynnu ymaith unrhyw ran o’i gyfarpar o ganlyniad i arfer unrhyw un o’r pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn), rhaid i’r ymgymerwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) roi i’r ymgymerwr cyfleustod y cyfleusterau a’r hawliau angenrheidiol i adeiladu cyfarpar amgen mewn tir arall o eiddo’r ymgymerwr ac wedyn i gynnal a chadw’r cyfarpar hwnnw.

(3Os oes cyfarpar amgen neu unrhyw ran o’r cyfryw gyfarpar i’w adeiladu mewn man arall ac eithrio ar dir arall yr ymgymerwr, neu os na all yr ymgymerwr roi’r cyfryw gyfleusterau a’r hawliau ag a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn y tir y mae’r cyfarpar amgen neu ran o’r cyfryw gyfarpar i’w adeiladu ynddo, rhaid i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw, ar ôl cael hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw gan yr ymgymerwr, cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl, ddefnyddio ei ymdrechion gorau i gael y cyfleusterau a’r hawliau angenrheidiol yn y tir y mae’r cyfarpar i’w adeiladu ynddo.

(4Rhaid i unrhyw gyfarpar amgen sydd i’w adeiladu yn nhir yr ymgymerwr o dan y Rhan hon gael ei adeiladu yn y cyfryw fodd ac yn y cyfryw linell neu leoliad ag y cytunir arnynt rhwng yr ymgymerwr cyfleustod dan sylw a’r ymgymerwr neu, yn niffyg cytundeb, ag y’u setlir drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu).

(5Rhaid i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw, ar ôl cytuno ar y cyfarpar amgen sydd i’w ddarparu neu i’w adeiladu neu ei setlo drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu), ac ar ôl rhoi i’r ymgymerwr cyfleustod unrhyw gyfryw gyfleusterau a hawliau ag y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) neu (3), heb oedi diangen ddechrau adeiladu a gweithredu’r cyfarpar amgen ac wedyn dynnu ymaith unrhyw gyfarpar y mae’n ofynnol gan yr ymgymerwr ei dynnu ymaith o dan ddarpariaethau’r Rhan hon.

(6Er gwaethaf is-baragraff (5), os yw’r ymgymerwr yn rhoi hysbysiad yn ysgrifenedig i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw ei fod yn dymuno cwblhau ei hun unrhyw waith, neu ran o unrhyw waith mewn cysylltiad ag adeiladu neu dynnu ymaith gyfarpar mewn unrhyw dir sy’n eiddo i’r ymgymerwr, rhaid i’r gwaith hwnnw, yn lle cael ei gwblhau gan yr ymgymerwr cyfleustod, gael ei gwblhau gan yr ymgymerwr heb oedi diangen o dan oruchwyliaeth yr ymgymerwr cyfleustod, os y’i rhoddir, ac er boddhad rhesymol yr ymgymerwr cyfleustod.

(7Nid oes dim yn is-baragraff (6) yn awdurdodi’r ymgymerwr i gwblhau lleoli, gosod, sadio, gwasgu, tynnu, cysylltu neu ddatgysylltu unrhyw gyfarpar, neu gwblhau unrhyw lenwi o amgylch y cyfarpar (pan fo’r cyfarpar yn cael ei osod mewn ffos) o fewn 300 milimetr i’r cyfarpar.

6.—(1Pan fo’r ymgymerwr yn rhoi i ymgymerwr cyfleustod, yn unol â’r Rhan hon, gyfleusterau a hawliau i adeiladu a chynnal a chadw cyfarpar amgen yn nhir yr ymgymerwr yn lle’r cyfarpar sydd i’w dynnu ymaith, rhaid i’r cyfleusterau a’r hawliau hynny gael eu rhoi ar y cyfryw delerau ac amodau ag y cytunir arnynt rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw neu, yn niffyg cytundeb, ag y’u setlir drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu).

(2Wrth setlo’r telerau ac amodau hynny mewn cysylltiad â’r cyfarpar amgen sydd i’w adeiladu yn neu ar hyd y prosiect awdurdodedig, rhaid i’r cymrodeddwr—

(a)gweithredu pob un o ofynion rhesymol yr ymgymerwr o ran sicrhau diogelwch a gweithrediad effeithlon y prosiect awdurdodedig a sicrhau unrhyw newidiadau neu addasiadau canlyniadol i’r cyfarpar amgen ag sy’n ofynnol er mwyn atal ymyriadau â gweithfeydd awdurdodedig yr ymgymerwr; a

(b)i’r graddau y mae’n rhesymol ac yn ymarferol gwneud hynny o dan amgylchiadau’r achos penodol, weithredu telerau ac amodau, os o gwbl, sy’n gymwys i’r cyfarpar a adeiladwyd yn neu ar hyd y prosiect awdurdodedig y mae’r cyfarpar amgen i’w roi yn ei le.

(3Os yw’r cyfleusterau a’r hawliau sydd i’w rhoi gan yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarpar amgen, a’r telerau ac amodau y mae’r cyfleusterau a’r hawliau hynny i’w rhoi yn ddarostyngedig iddynt, ym marn y cymrodeddwr, yn llai ffafriol ar y cyfan i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw na’r cyfleusterau a’r hawliau y mae’n eu mwynhau mewn cysylltiad â’r cyfarpar sydd i’w dynnu ymaith a’r telerau ac amodau y mae’r cyfleusterau a’r hawliau hynny yn ddarostyngedig iddynt, rhaid i’r cymrodeddwr wneud y cyfryw ddarpariaeth i’r ymgymerwr ddigolledu’r ymgymerwr cyfleustod ag yr ymddengys yn rhesymol i’r cymrodeddwr wedi iddo roi sylw i holl amgylchiadau’r achos penodol.

7.—(1Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn dechrau ar unrhyw weithfeydd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 5(2) sydd wrth ymyl unrhyw gyfarpar nad yw’r ymgymerwr wedi’i gwneud yn ofynnol ei dynnu ymaith o dan yr is-baragraff hwnnw, neu a fydd yn effeithio neu a all effeithio ar y cyfryw gyfarpar, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw blan, trawslun a disgrifiad o’r gweithfeydd i’w cwblhau.

(2Rhaid i’r gweithfeydd hynny gael eu cwblhau yn unol â’r cynllun, y trawslun a’r disgrifiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (1) yn unig ac yn unol â’r cyfryw ofynion rhesymol ag a wneir yn unol ag is-baragraff (3) gan yr ymgymerwr cyfleustod i newid neu fel arall ddiogelu’r cyfarpar, neu i sicrhau mynediad iddo; ac mae gan yr ymgymerwr cyfleustod yr hawl i wylio ac archwilio’r gweithfeydd sy’n cael eu cwblhau.

(3Rhaid i unrhyw ofynion a wneir gan ymgymerwr cyfleustod o dan is-baragraff (2) gael eu gwneud o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cyflwynwyd plan, trawslun a disgrifiad o dan is-baragraff (1) iddo.

(4Os yw ymgymerwr cyfleustod, yn unol ag is-baragraff (3) ac o ganlyniad i’r gweithfeydd a gynigir gan yr ymgymerwr, yn ei gwneud yn ofynnol yn rhesymol dynnu ymaith unrhyw gyfarpar ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r ymgymerwr o’r gofyniad hwnnw, mae paragraffau 1 i 6 yn gymwys fel pe bai’r ymgymerwr wedi’i gwneud yn ofynnol tynnu ymaith y cyfarpar o dan baragraff 5(2).

(5Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal yr ymgymerwr rhag cyflwyno ar unrhyw adeg neu o bryd i’w gilydd, ond nid mewn unrhyw achos lai na 28 diwrnod cyn dechrau ar unrhyw weithfeydd, blan, trawslun a disgrifiad newydd yn lle’r plan, y trawslun a’r disgrifiad a gyflwynwyd yn flaenorol, ac wedi gwneud hynny mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys i’r plan, y trawslun a’r disgrifiad newydd ac mewn cysylltiad â hwy.

(6Nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr gydymffurfio ag is-baragraff (1) mewn achos brys, ond yn yr achos hwnnw, rhaid iddo hysbysu’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhoi plan, trawslun a disgrifiad o’r gweithfeydd hynny iddo cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhaid iddo gydymffurfio ag is-baragraff (2) i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

8.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwn, rhaid i’r ymgymerwr ad-dalu i ymgymerwr cyfleustod y treuliau rhesymol y mae’r ymgymerwr cyfleustod wedi mynd iddynt wrth neu mewn cysylltiad ag—

(a)archwilio, tynnu ymaith ac ailosod neu adnewyddu, newid neu ddiogelu unrhyw gyfarpar neu adeiladu unrhyw gyfarpar newydd o dan y Rhan hon (gan gynnwys unrhyw gostau yr eir iddynt yn rhesymol neu ddigollediad a delir yn briodol mewn cysylltiad â chaffael hawliau neu arfer pwerau statudol ar gyfer y cyfryw gyfarpar);

(b)torri unrhyw gyfarpar oddi wrth unrhyw gyfarpar arall, neu wneud unrhyw gyfarpar diangen yn ddiogel, o ganlyniad i arfer unrhyw bŵer gan yr ymgymerwr o dan y Gorchymyn hwn;

(c)arolygu unrhyw dir, cyfarpar neu weithfeydd, archwilio, goruchwylio a monitro gweithfeydd neu osod neu dynnu ymaith unrhyw weithfeydd dros dro sy’n rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i arfer unrhyw bŵer gan yr ymgymerwr o dan y Gorchymyn hwn; a

(d)unrhyw waith neu beth arall sy’n rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i arfer unrhyw gyfryw bŵer gan yr ymgymerwr,

o fewn cyfnod rhesymol i gael ei hysbysu gan yr ymgymerwr cyfleustod ei fod wedi mynd i’r cyfryw dreuliau.

(2Rhaid didynnu o unrhyw swm sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) werth unrhyw gyfarpar a dynnwyd ymaith o dan y Rhan hon, y cyfrifir y gwerth hwnnw ar ôl ei dynnu ymaith.

(3Os yn unol â’r Rhan hon—

(a)gosodir cyfarpar o fath gwell, o gapasiti ychwanegol neu o ddimensiynau mwy yn lle’r cyfarpar presennol o fath gwaeth, o gapasiti llai neu o ddimensiynau llai; neu

(b)gosodir cyfarpar (y cyfarpar presennol neu gyfarpar a roddwyd yn lle’r cyfarpar presennol) ar ddyfnder sy’n ddyfnach na’r dyfnder y bu’r cyfarpar presennol, ac na chytunwyd i osod cyfarpar o’r math hwnnw neu’r capasiti hwnnw neu o’r dimensiynau hynny nac i osod cyfarpar ar y dyfnder hwnnw, yn ôl y digwydd, gan yr ymgymerwr neu, yn niffyg cytundeb, na phenderfynir drwy gymrodeddu yn unol ag erthygl 49 (cymrodeddu) ei bod yn angenrheidiol, yna os oes cost ynghlwm wrth y cyfryw osod wrth adeiladu gweithfeydd o dan y Rhan hon sy’n fwy na’r hyn a fyddai wedi bod ynghlwm pe bai’r cyfarpar a osodwyd wedi bod yn gyfarpar o’r math, y capasiti neu’r dimensiynau presennol, neu ar y dyfnder presennol, yn ôl y digwydd, rhaid i’r swm a fyddai ar wahân i’r is-baragraff hwn yn daladwy i’r ymgymerwr cyfleustod dan sylw yn rhinwedd is-baragraff (1) gael ei leihau o’r gorswm hwnnw.

(4At ddibenion is-baragraff (3)—

(a)nid yw estyn cyfarpar i hyd sy’n fwy na hyd y cyfarpar presennol i’w drin fel pe bai’n gosod cyfarpar o ddimensiynau mwy na rhai’r cyfarpar presennol; a

(b)phan gytunir ar ddarparu uniad mewn cebl, neu pan benderfynir bod darparu uniad mewn cebl yn angenrheidiol, mae darpariaeth gysylltiedig siambr uno neu dwll archwilio i’w thrin fel pe cytunid arni hefyd neu fel pe penderfynid arni felly.

(5Rhaid i swm a fyddai ar wahân i’r is-baragraff hwn yn daladwy i ymgymerwr cyfleustod mewn cysylltiad â gweithfeydd yn rhinwedd is-baragraff (1), os yw’r gweithfeydd yn cynnwys gosod cyfarpar a ddarparwyd yn lle’r cyfarpar a osodwyd fwy na 7 mlynedd a 6 mis yn gynharach roi unrhyw fuddiant ariannol i’r ymgymerwr cyfleustod sy’n codi drwy ohirio amser adnewyddu’r cyfarpar fel arfer gael ei leihau o swm y buddiant hwnnw.

9.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), os achosir unrhyw ddifrod i unrhyw gyfarpar oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt ym mharagraff 5(2) (heblaw cyfarpar nad yw’n rhesymol angenrheidiol ei atgyweirio o ystyried y bwriad i’w waredu at ddibenion y gweithfeydd hynny) neu eiddo ymgymerwr cyfleustod, neu oes unrhyw darfu ar unrhyw wasanaeth a ddarperir gan yr ymgymerwr cyfleustod, rhaid i’r ymgymerwr—

(a)dwyn a thalu’r gost y mae’r ymgymerwr cyfleustod yn rhesymol yn mynd iddi wrth unioni’r cyfryw ddifrod neu wrth adfer y cyflenwad; a

(b)rhoi digollediad rhesymol i’r ymgymerwr cyfleustod am unrhyw dreuliau, colled, iawndal, cosb neu gostau eraill y mae’r ymgymerwr cyfleustod yn mynd iddynt, oherwydd neu o ganlyniad i unrhyw gyfryw ddifrod neu darfu.

(2Nid oes dim yn is-baragraff (1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw ddifrod neu darfu i’r graddau y gellir ei briodoli i weithred, esgeulustod neu ddiffyg ymgymerwr cyfleustod, ei swyddogion, ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau.

(3Rhaid i ymgymerwr cyfleustod roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw hawliad neu archeb am dâl ac ni chaniateir gwneud unrhyw setliad na chyfaddawd heb gydsyniad yr ymgymerwr y mae’n rhaid iddo, os yw’n atal y cyfryw gydsyniad, gynnal ar ei ben ei hun unrhyw setliad neu gyfaddawd neu unrhyw achos llys sy’n angenrheidiol i wrthsefyll yr hawliad neu’r archeb am dâl.

10.  Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad neu gytundeb sy’n rheoleiddio’r cydberthnasau rhwng yr ymgymerwr a’r ymgymerwr cyfleustod mewn cysylltiad ag unrhyw gyfarpar sydd wedi ei osod neu wedi ei godi mewn tir sy’n eiddo i’r ymgymerwr ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

RHAN 2Diogelu Network Rail Infrastructure Limited

11.  Mae darpariaethau’r Rhan hon yn cael effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a Network Rail a, phan fo paragraff 15 yn gymwys, unrhyw berson arall y rhoddir hawliau neu rwymedigaethau iddo gan y paragraff hwnnw.

12.  Yn y Rhan hon—

mae “adeiladu” yn cynnwys cwblhau, gosod, newid ac ailadeiladu ac mae i “adeiladu” ac “wedi ei adeiladu” ystyron cyfatebol;

ystyr “peiriannydd” yw peiriannydd a benodir gan Network Rail at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “trwydded rhwydwaith” yw’r drwydded rhwydwaith, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a roddwyd i Network Rail gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pwerau o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(68);

ystyr “Network Rail” yw Network Rail Infrastructure Limited ac unrhyw gwmni cysylltiedig i Network Rail Infrastructure Limited sy’n dal eiddo at ddibenion rheilffordd, ac at ddiben y diffiniad hwn ystyr “cwmni cysylltiedig” yw unrhyw gwmni sydd (o fewn ystyr adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(69)) sy’n gwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited, sy’n is-gwmni i Network Rail Infrastructure Limited neu sy’n is-gwmni arall i gwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited;

mae “planiau” yn cynnwys trawsluniau, dyluniadau, data dylunio, meddalwedd, lluniadau, rhagofynion, adroddiadau ar bridd, cyfrifiadau, disgrifiadau (gan gynnwys disgrifiadau o ddulliau adeiladu), cynigion fesul cam, rhaglenni a manylion y graddau y bwriedir meddiannu eiddo rheilffordd ac amseriad a hyd hynny;

ystyr “gweithdrefnau gweithredol rheilffyrdd” yw gweithdrefnau a bennir o dan unrhyw gytundeb ynglŷn â mynediad (fel y’i diffiniwyd yn Neddf Rheilffyrdd 1993(70)) neu brydles gorsaf;

ystyr “eiddo rheilffordd” yw unrhyw reilffordd sy’n eiddo i Network Rail ac—

(a)

unrhyw orsaf, tir, gweithfeydd, cyfarpar ac offer sy’n eiddo i Network Rail neu sy’n gysylltiedig ag unrhyw gyfryw reilffordd; a

(b)

unrhyw hawddfraint neu fuddiant arall mewn eiddo a ddelir neu a ddefnyddir gan Network Rail at ddibenion y cyfryw reilffordd neu weithfeydd, cyfarpar neu offer;

ystyr “gwaith penodedig” yw cymaint o unrhyw un o’r gweithfeydd ar y tir ag sydd wedi’i leoli ar, ar draws, o dan, dros neu o fewn 15 metr i eiddo rheilffordd, neu a all effeithio ar eiddo rheilffordd mewn unrhyw ffordd.

13.—(1Pan fo’n ofynnol o dan y Rhan hon i Network Rail roi ei gydsyniad neu ei gymeradwyaeth mewn cysylltiad ag unrhyw fater, mae’r cydsyniad hwnnw neu’r gymeradwyaeth honno yn ddarostyngedig i’r amod bod Network Rail yn cydymffurfio ag unrhyw weithdrefnau gweithredol perthnasol rheilffordd, ac unrhyw rwymedigaethau o dan ei drwydded rhwydwaith neu o dan statud.

(2I’r graddau y mae unrhyw waith penodedig neu gaffael neu ddefnyddio eiddo rheilffordd yn ddarostyngedig neu y gall fod yn ddarostyngedig i weithdrefnau gweithredol rheilffordd, rhaid i Network Rail—

(a)cydweithredu â’r ymgymerwr gyda’r nod o osgoi oedi amhriodol a sicrhau cydymffurfiaeth rhwng unrhyw blaniau a gymeradwyir gan y peiriannydd a gofynion sy’n deillio o’r gweithdrefnau hynny; a

(b)defnyddio ei ymdrechion rhesymol i osgoi unrhyw wrthdaro sy’n codi rhwng cymhwyso’r gweithdrefnau hynny a gweithredu’r prosiect awdurdodedig yn briodol yn unol â’r Gorchymyn hwn.

14.—(1Ni chaniateir i’r ymgymerwr arfer y pwerau a roddir gan

(a)erthygl 12 (gollwng dŵr );

(b)erthygl 14 (pŵer i arolygu ac ymchwilio i dir);

(c)erthygl 22 (pŵer i gaffael tir);

(d)erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau a gosod cyfamodau cyfyngol);

(e)erthygl 26 (pŵer i gaffael is-bridd yn unig);

(f)erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd);

(g)erthygl 29 (defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd);

(h)erthygl 34 (pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill );

(i)erthygl 35 (hawliau preifat dros dir);

(j)erthygl 40 (pŵer i docio coed sy’n gorhongian dros y gweithfeydd awdurdodedig a gwaredu gwrychoedd );

(k)erthygl 44 ac Atodlen 10 i’r Gorchymyn (ymgymerwyr statudol); neu

(l)y pwerau a roddwyd gan adran 11(3) o Ddeddf 1965,

mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo rheilffordd oni bai bod y cyfryw bwerau yn cael eu harfer gyda chydsyniad Network Rail.

(2Ni chaniateir i’r ymgymerwr drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn atal mynediad i unrhyw eiddo rheilffordd i gerddwyr na cherbydau, onid atelir y cyfryw fynediad gyda chydsyniad Network Rail.

(3Ni chaniateir i’r ymgymerwr arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 271 neu 272 o Ddeddf 1990, nac Atodlen 10 i’r Gorchymyn hwn, mewn perthynas ag unrhyw hawl mynediad sydd gan Network Rail i eiddo rheilffordd ond caniateir dargyfeirio’r cyfryw hawliau mynediad gyda chydsyniad Network Rail.

(4Ni chaniateir i’r ymgymerwr o dan bwerau’r Gorchymyn hwn gaffael neu ddefnyddio neu gaffael hawliau newydd, na cheisio gosod unrhyw gyfamodau cyfyngol, dros unrhyw eiddo rheilffordd, na diddymu unrhyw hawliau presennol sydd gan Network Rail mewn cysylltiad ag eiddo unrhyw drydydd parti, ac eithrio gyda chydsyniad Network Rail.

(5Pan ofynnir i Network Rail roi ei gydsyniad yn unol â’r paragraff hwn, ni chaniateir iddo atal y cyfryw ganiatâd yn afresymol ond caiff ei roi yn ddarostyngedig i amodau rhesymol.

15.—(1Rhaid i’r ymgymerwr cyn cychwyn ar adeiladu unrhyw waith penodedig ddarparu planiau priodol a digonol o’r gwaith hwnnw i Network Rail ar gyfer cymeradwyaeth resymol y peiriannydd ac ni chaniateir cychwyn ar y gwaith penodedig ac eithrio yn unol â’r cyfryw blaniau ag a gymeradwywyd yn ysgrifenedig gan y peiriannydd neu ag a setlwyd drwy gymrodeddu.

(2Ni chaniateir i’r peiriannydd o dan is-baragraff (1) atal cymeradwyaeth nac oedi cyn rhoi cymeradwyaeth yn afresymol, ac os nad yw’r peiriannydd, erbyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y darparwyd y cyfryw blaniau i Network Rail, wedi mynegi ei fod yn anghymeradwyo’r planiau hynny nac wedi nodi’r seiliau dros eu hanghymeradwyo, caiff yr ymgymerwr gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r peiriannydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo fynegi cymeradwyaeth neu anghymeradwyaeth o fewn cyfnod pellach o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r peiriannydd yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan yr ymgymerwr. Os nad yw’r peiriannydd wedi mynegi cymeradwyaeth nac anghymeradwyaeth erbyn diwedd y cyfnod pellach o 28 diwrnod, bernir bod y peiriannydd wedi cymeradwyo’r planiau fel y’u cyflwynwyd.

(3Os yw Network Rail, erbyn diwedd 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd hysbysiad ysgrifenedig i’r peiriannydd o dan is-baragraff (2), yn hysbysu’r ymgymerwr bod Network Rail ei hun yn dymuno adeiladu unrhyw ran o waith penodedig a fydd neu a all, ym marn y peiriannydd, effeithio ar sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu weithrediad diogel traffig ar reilffyrdd Network Rail yna, os yw’r ymgymerwr yn dymuno bod y cyfryw ran o’r gwaith penododig yn cael ei hadeiladu, rhaid i Network Rail ei hadeiladu mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl ar ran yr ymgymerwr ac er boddhad rhesymol yr ymgymerwr yn unol â’r planiau a gymeradwywyd neu y bernir eu bod wedi cael eu cymeradwyo neu eu setlo o dan y paragraff hwn ac o dan oruchwyliaeth (pan fo’n briodol ac os y’i rhoddir) yr ymgymerwr.

(4Wrth fynegi ei gymeradwyaeth o’r planiau, caiff y peiriannydd bennu unrhyw weithfeydd diogelu (boed yn rhai dros dro neu barhaol) a ddylai, ym marn y peiriannydd, gael eu cyflawni cyn cychwyn ar adeiladu gwaith penodedig er mwyn sicrhau diogelwch neu sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu barhad gweithrediad diogel ac effeithlon rheilffyrdd Network Rail neu wasanaethau gweithredwyr sy’n eu defnyddio (gan gynnwys adleoli, datgomisiynu a gwaredu unrhyw weithfeydd, cyfarpar ac offer sy’n angenrheidiol oherwydd gwaith penodedig ac er cysur a diogelwch teithwyr y gall y gweithfeydd penodedig effeithio arnynt), a rhaid i’r cyfryw weithfeydd diogelu ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion hynny gael eu hadeiladu gan Network Rail neu gan yr ymgymerwr, os dymuna Network Rail felly, a rhaid i’r cyfryw weithfeydd diogelu gael eu cyflawni ar draul yr ymgymerwr, yn y naill achos neu’r llall mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl, a rhaid i’r ymgymerwr beidio â chychwyn ar adeiladu’r gweithfeydd penodedig nes bod y peiriannydd wedi hysbysu’r ymgymerwr bod y gweithfeydd diogelu wedi cael eu cwblhau er boddhad rhesymol y peiriannydd.

16.—(1Rhaid i unrhyw weithfeydd penodedig ac unrhyw weithfeydd diogelu sydd i’w hadeiladu yn rhinwedd paragraff 15(4), pan gychwynnir arnynt, gael eu hadeiladu—

(a)mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl yn unol â’r planiau a gymeradwywyd neu y barnwyd eu bod wedi cael eu cymeradwyo neu eu setlo o dan baragraff 5;

(b)o dan oruchwyliaeth (pan fo’n briodol ac os y’i rhoddir) y peiriannydd ac er boddhad rhesymol y peiriannydd;

(c)yn y cyfryw fodd ag sy’n achosi cyn lleied o ddifrod ag y bo’n bosibl i eiddo rheilffordd;

(d)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fel nad ydynt yn ymyrryd â defnydd rhydd, di-dor a diogel o unrhyw un o reilffyrdd Network Rail na’r traffig arnynt a’r defnydd o eiddo rheilffordd gan deithwyr nac yn eu rhwystro.

(2Os achosir unrhyw ddifrod i eiddo rheilffordd neu os achosir unrhyw ymyriad neu rwystr oherwydd adeiladu gwaith penodedig neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig, rhaid i’r ymgymerwr, er gwaethaf unrhyw gyfryw gymeradwyaeth, unioni’r cyfryw ddifrod a rhaid iddo dalu pob traul resymol i Network Rail y gall Network Rail fynd iddi a digollediad am unrhyw golled a achosir i Network Rail drwy unrhyw gyfryw ddifrod, ymyriad neu rwystr

(3Nid oes dim yn y Rhan hon yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr o ran—

(a)unrhyw ddifrod, costau, treuliau neu golled y gellir ei briodoli neu ei phriodoli i esgeuluster Network Rail neu ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau; neu

(b)unrhyw atebolrwydd ar Network Rail o ran unrhyw ddifrod, costau, treuliau neu golled y gellir ei briodoli neu ei phriodoli i esgeuluster yr ymgymerwr neu ei weision, ei gontractwr neu ei asiantau.

17.  Rhaid i’r ymgymerwr—

(a)ar bob adeg ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r peiriannydd gael mynediad i waith penodedig wrth iddo gael ei adeiladu; a

(b)darparu’r holl gyfryw wybodaeth i’r peiriannydd ag y caiff y peiriannydd yn rhesymol ofyn amdani o ran gwaith penodedig neu’r dull o’i adeiladu.

18.  Rhaid i Network Rail ar bob adeg ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr a’i asiantau gael mynediad i unrhyw weithfeydd a gyflawnir gan Network Rail o dan y Rhan hon wrth iddynt gael eu hadeiladu a rhaid iddo roi’r cyfryw wybodaeth i’r ymgymerwr ag y caiff yn rhesymol ofyn amdani o ran y cyfryw weithfeydd neu’r dull o’u hadeiladu.

19.—(1Os oes unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau parhaol neu dros dro i eiddo rheilffordd yn rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu yn ystod y cyfnod o 24 mis ar ôl cwblhau’r gwaith hwnnw er mwyn sicrhau diogelwch eiddo rheilffordd neu barhad gweithrediad diogel ac effeithlon rheilffordd Network Rail, caiff y cyfryw newidiadau ac ychwanegiadau gael eu cyflawni gan Network Rail, ac os yw Network Rail yn rhoi hysbysiad rhesymol i’r ymgymerwr o’i fwriad i gyflawni’r cyfryw newidiadau neu ychwanegiadau (y mae’n rhaid iddynt gael eu pennu yn yr hysbysiad), rhaid i’r ymgymerwr dalu cost resymol y newidiadau a’r ychwanegiadau hynny i Network Rail gan gynnwys, mewn perthynas ag unrhyw gyfryw newidiadau ac ychwanegiadau ag y bo’n barhaol, swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli’r cynnydd mewn costau y gellir disgwyl y bydd Network Rail yn mynd iddynt yn rhesymol wrth gynnal a chadw, gweithio a, phan fo’n angenrheidiol, adnewyddu unrhyw gyfryw newidiadau neu ychwanegiadau.

(2Os yw Network Rail, pan fo’r ymgymerwr yn adeiladu gwaith penodedig, yn hysbysu’r ymgymerwr bod Network Rail ei hun yn dymuno adeiladu’r rhan honno o’r gwaith penodedig sydd, ym marn y peiriannydd, yn peryglu sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu weithrediad diogel traffig ar reilffyrdd Network Rail yna, os yw’r ymgymerwr yn penderfynu bod y rhan honno o’r gwaith penodedig i’w hadeiladu, rhaid i Network Rail ymgymryd ag adeiladu’r rhan honno o’r gwaith penodedig a rhaid i’r ymgymerwr, er gwaethaf unrhyw gymeradwyaeth o’r gwaith penodedig o dan baragraff 15(1), dalu pob traul resymol i Network Rail y gall Network Rail fynd iddi a digollediad am unrhyw golled a achosir i Network Rail drwy gwblhau’r gwaith penodedig gan Network Rail.

(3Rhaid i’r peiriannydd, mewn cysylltiad â’r symiau wedi eu cyfalafu y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn a pharagraff 20(a) ddarparu’r cyfryw fanylion am y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r symiau hynny ag y caiff yr ymgymerwr yn rhesymol ofyn amdanynt.

(4Os bydd cost cynnal a chadw, gweithio neu adnewyddu eiddo rheilffordd yn lleihau o ganlyniad i unrhyw gyfryw newidiadau neu ychwanegiadau, rhaid i swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli’r cyfryw arbedion gael ei wrthgyfrif yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan yr ymgymerwr i Network Rail o dan y paragraff hwn.

20.  Rhaid i’r ymgymerwr ad-dalu’r holl ffioedd, costau, taliadau a threuliau yr eir iddynt gan Network Rail i Network Rail—

(a)wrth adeiladu unrhyw ran o waith penodedig ar ran yr ymgymerwr fel y’i darperir gan baragraff 15(3) neu wrth adeiladu unrhyw weithfeydd diogelu o dan baragraff 15(4) gan gynnwys, mewn cysylltiad ag unrhyw weithfeydd diogelu parhaol, swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli cost cynnal a chadw ac adnewyddu’r gweithfeydd hynny;

(b)mewn cysylltiad â chymeradwyaeth y peiriannydd o blaniau a gyflwynir gan yr ymgymerwr a goruchwyliaeth y peiriannydd dros adeiladu gwaith penodedig;

(c)mewn cysylltiad â defnyddio neu gaffael gwasanaethau unrhyw arolygwyr, signalwyr, gwylwyr a phersonau eraill y mae’n rhesymol angenrheidiol eu penodi i archwilio, signalu, gwylio a goleuo eiddo rheilffordd ac i atal, i’r graddau y bo’n rhesymol angenrheidiol, ymyriad, rhwystr, perygl neu ddamwain sy’n codi o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig;

(d)mewn cysylltiad ag unrhyw waith traffig arbennig o ganlyniad i unrhyw gyfyngiadau cyflymder y gall, ym marn y peiriannydd, fod yn ofynnol eu gosod oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig neu drwy amnewid neu ddargyfeirio gwasanaethau a all fod yn rhesymol angenrheidiol am yr un rheswm; ac

(e)mewn cysylltiad ag unrhyw oleuadau dros dro ychwanegol ar eiddo rheilffordd yng nghyffiniau’r gweithfeydd penodedig, sef goleuadau sy’n rhesymol angenrheidiol oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig.

21.—(1Yn y paragraff hwn—

ystyr “EMI”, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yw ymyrraeth electromagnetig â chyfarpar Network Rail a achosir gan weithredu’r gweithfeydd alltraeth pan fo’r cyfryw ymyrraeth ar lefel sy’n cael effaith andwyol ar weithrediad diogel cyfarpar Network Rail;

ystyr “cyfarpar Network Rail” yw unrhyw linellau, cylchedau, gwifrau, cyfarpar neu offer (pa un a ydynt wedi eu haddasu neu wedi eu gosod fel rhan o’r gweithfeydd ar y tir ai peidio) sy’n eiddo i Network Rail neu a ddefnyddir gan Network Rail at ddiben darlledu neu dderbyn ynni trydanol signalu radio, telegraffig, teleffonig, trydanol, electronig neu ddull cyffelyb arall o signalu neu ddulliau cyfathrebu eraill.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i EMI dim ond i’r graddau na ellir priodoli’r cyfryw EMI i unrhyw newid yng nghyfarpar Network Rail a wneir ar ôl cymeradwyo’r planiau o dan baragraff 15(1) ar gyfer y rhan berthnasol o’r gweithfeydd ar y tir sy’n achosi EMI (oni bai bod yr ymgymerwr wedi cael ei hysbysu’n ysgrifenedig cyn i’r cynlluniau hynny gael eu cymeradwyo am y bwriad i wneud y cyfryw newid).

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i’r ymgymerwr, wrth ddylunio ac adeiladu’r prosiect awdurdodedig, weithredu pob mesur angenrheidiol i atal EMI a rhaid iddo gadarnhau ar y cyd â Network Rail (y mae’r ddau barti yn gweithredu’n rhesymol) drefniadau priodol i ddilysu eu heffeithiolrwydd.

(4Er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth yr ymgymerwr ag is-baragraff (3)—

(a)rhaid i’r ymgymerwr ymgynghori â Network Rail mor gynnar ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn nodi holl gyfarpar Network Rail a all fod mewn perygl o EMI, ac wedi hynny rhaid iddo barhau i ymgynghori â Network Rail (cyn ac ar ôl i blaniau o dan 15(1) gael eu cyflwyno’n ffurfiol) er mwyn nodi holl achosion posibl EMI a’r mesurau sy’n ofynnol i gael gwared arnynt;

(b)rhaid i Network Rail ddarparu’r holl wybodaeth sydd ym meddiant Network Rail i’r ymgymerwr y mae’r ymgymerwr wedi gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad â chyfarpar Network Rail a nodir yn unol â pharagraff (a); ac

(c)rhaid i Network Rail ganiatáu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr archwilio cyfarpar Network Rail a nodir yn unol â pharagraff (a).

(5Mewn unrhyw achos pan gadarnheir na ellir yn rhesymol atal EMI ond drwy addasiadau i gyfarpar Network Rail, rhaid i Network Rail beidio ag atal yn afresymol ei gydsyniad i addasiadau i gyfarpar Network Rail, ond rhaid i’r modd atal a’r dull o’u cwblhau gael eu dewis yn ôl disgresiwn rhesymol Network Rail, ac mewn perthynas â’r cyfryw addasiadau mae paragraff 15(1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r is-baragraff hwn.

(6Os, ar unrhyw adeg cyn cychwyn gweithrediad rheolaidd y gweithfeydd ar y tir ac er gwaethaf unrhyw fesurau a fabwysiadwyd yn unol ag is-baragraff (3), bydd profi neu gomisiynu’r prosiect awdurdodedig yn achosi EMI, rhaid i’r ymgymerwr ar unwaith ar ôl cael ei hysbysu gan Network Rail am y cyfryw EMI naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar (y cyfryw hysbysiad ar lafar i’w gadarnhau’n ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei roi) beidio â defnyddio (neu beri peidio â defnyddio) cyfarpar yr ymgymerwr sy’n achosi’r cyfryw EMI ar unwaith nes bod pob mesur angenrheidiol wedi cael ei weithredu i unioni’r cyfryw EMI drwy addasu ffynhonnell y cyfryw EMI neu (o dan yr amgylchiadau, ac yn ddarostyngedig i’r cydsyniad a bennir yn is-baragraff (5) i gyfarpar Network Rail).

(7Os bydd EMI wedi digwydd—

(a)rhaid i’r ymgymerwr ddarparu cyfleusterau rhesymol i Network Rail gael mynediad at gyfarpar yr ymgymerwr wrth ymchwilio i’r cyfryw EMI;

(b)rhaid i Network Rail ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr gael mynediad at gyfarpar Network Rail wrth ymchwilio i’r cyfryw EMI; a

(c)rhaid i Network Rail ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol ychwanegol sydd yn ei feddiant y mae’r ymgymerwr wedi gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad â chyfapar Network Rail neu’r cyfryw EMI.

(8Pan fo Network Rail yn cymeradwyo addasiadau i gyfarpar Network Rail yn unol ag is-baragraffau (5) neu (6)—

(a)rhaid i Network Rail ganiatáu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr archwilio’r rhan berthnasol o gyfarpar Network Rail; a

(b)rhaid i unrhyw addasiadau i gyfarpar Network Rail a gymeradwyir yn unol â’r is-baragraffau hynny gael eu cyflawni a’u cwblhau gan yr ymgymerwr yn unol â pharagraff 16.

(9I’r graddau na fyddai’n ei wneud fel arall, mae’r indemniad ym mharagraff 25(1) yn gymwys i gostau a threuliau yr aethpwyd iddynt yn rhesymol neu golledion a achoswyd i Network Rail drwy weithredu darpariaethau’r paragraff hwn (gan gynnwys costau yr aethpwyd iddynt mewn cysylltiad ag ystyried cynigion, cymeradwyo planiau, goruchwylio ac archwilio gweithfeydd a hwyluso mynediad at gyfarpar Network Rail) neu o ganlyniad i unrhyw EMI y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddi.

(10At ddiben paragraff 20(a), bernir bod unrhyw addasiadau i gyfarpar Network Rail o dan y paragraff hwn yn weithfeydd diogelu y cyfeirir atynt yn yr is-baragraff hwnnw.

(11Mewn perthynas ag unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y paragraff hwn, bydd y cyfeiriad yn erthygl 49 (cymrodeddu) at Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn cael ei ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

22.  Os ar unrhyw adeg ar ôl i waith penodedig gael ei gwblhau, nad yw’n waith sydd wedi ei freinio yn Network Rail, bydd Network Rail yn hysbysu’r ymgymerwr bod cyflwr cynnal a chadw unrhyw ran o’r gwaith penodedig yn ymddangos fel pe bai’n cael effaith andwyol ar weithrediad eiddo rheilffordd, rhaid i’r ymgymerwr, ar ôl cael y cyfryw hysbysiad, gymryd y cyfryw gamau ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i roi’r gwaith penodedig hwnnw yn y cyfryw gyflwr cynnal a chadw fel nad yw’n effeithio’n andwyol ar eiddo rheilffordd

23.  Ni chaniateir i’r ymgymerwr ddarparu unrhyw olau nac arwydd na signal goleuedig ar waith penodedig neu mewn cysylltiad â gwaith penodedig yng nghyffiniau unrhyw reilffordd sy’n eiddo i Network Rail oni bai ei fod wedi ymgynghori â Network Rail yn gyntaf a rhaid iddo gydymffurfio â gofynion rhesymol Network Rail o ran atal amryfusedd rhwng y cyfryw olau neu arwydd neu signal goleuedig neu olau arall a ddefnyddir i reoli, cyfarwyddo neu sicrhau diogelwch traffig ar y rheilffordd.

24.  Rhaid i unrhyw dreuliau ychwanegol y gall Network Rail fynd iddynt yn rhesymol wrth newid, ailadeiladu neu gynnal a chadw eiddo rheilffordd o dan unrhyw bwerau sy’n bodoli ar adeg gwneud y Gorchymyn hwn oherwydd bodolaeth gwaith penodedig, cyhyd â bod rhybudd blaenorol o 56 diwrnod am gychwyn y cyfryw newid, ailadeiladu neu gynnal a chadw wedi cael ei roi i’r ymgymerwr, gael eu had-dalu gan yr ymgymerwr i Network Rail.

25.—(1Rhaid i’r ymgymerwr dalu pob cost, tâl, iawndal a thraul resymol i Network Rail na ddarperir ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn y Rhan hon y gellir ei (h)achosi i Network Rail neu y gall Network Rail yn rhesymol fynd iddo neu iddi—

(a)oherwydd adeiladu neu gynnal a chadw gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig; neu

(b)oherwydd unrhyw weithred neu anwaith gan yr ymgymerwr neu gan unrhyw berson a gyflogir ganddo neu gan ei gontractwr neu eraill tra byddant wedi eu penodi i ymgymryd â gwaith penodedig; a rhaid i’r ymgymerwr indemnio Network Rail a pharhau i indemnio Network Rail rhag ac yn erbyn pob hawliad ac archeb am dâl sy’n codi o ganlyniad i waith penodedig neu mewn cysylltiad â gwaith penodedig neu unrhyw gyfryw fethiant, weithred neu anwaith; ac nid yw’r ffaith y gall unrhyw weithred fod wedi ei chyflawni gan Network Rail ar ran yr ymgymerwr neu yn unol â phlaniau a gymeradwywyd gan y peiriannydd neu yn unol ag unrhyw ofyniad gan y peiriannydd neu o dan oruchwyliaeth y peiriannydd (os y’i cyflawnwyd heb esgeuluster ar ran Network Rail neu unrhyw berson a gyflogir ganddo neu gan ei gontractwyr neu ei asiantau) yn esgusodi’r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd o dan y Rhan hon.

(2Rhaid i Network Rail roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw gyfryw hawliad neu archeb am dâl, ac ni chaniateir setlo’r cyfryw hawliad neu archeb am dâl na chyfaddawdu yn ei gylch neu yn ei chylch heb gydsyniad yr ymgymerwr ymlaen llaw.

(3Rhaid i’r symiau sy’n daladwy gan yr ymgymerwr o dan is-baragraff (1) gynnwys swm sy’n hafal i’r costau perthnasol.

(4Yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gytundeb rhwng Network Rail a gweithredwr trenau o ran amseriad neu ddull talu’r costau perthnasol mewn cysylltiad â’r gweithredwr trenau hwnnw, rhaid i Network Rail dalu’n brydlon swm unrhyw symiau y mae Network Rail yn eu derbyn o dan is-baragraff (1) sy’n ymwneud â chostau perthnasol y gweithredwr trenau hwnnw i bob gweithredwr trenau.

(5Mae’r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (3) i dalu’r costau perthnasol i Network Rail, os bydd diffyg, yn uniongyrchol orfodadwy gan unrhyw weithredwr trenau dan sylw i’r graddau y byddai’r cyfryw symiau yn daladwy i’r gweithredwr hwnnw yn unol ag is-baragraff (4).

(6Yn y paragraff hwn—

ystyr “costau perthnasol” yw’r costau, y colledion uniongyrchol a’r treuliau (gan gynnwys colli refeniw) y mae pob gweithredwr trenau yn mynd iddynt o ganlyniad i unrhyw gyfyngiad ar y defnydd o rwydwaith rheilffyrdd Network Rail o ganlyniad i adeiladu, cynnal a chadw neu fethiant gwaith penodedig, neu unrhyw gyfryw weithred neu anwaith ag a grybwyllir yn is-baragraff (1);

ystyr “gweithredwr trenau” yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu fel gweithredwr trên drwy drwydded o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.

26.  Rhaid i Network Rail, ar ôl cael cais gan yr ymgymerwr, o bryd i’w gilydd roi amcangyfrifon ysgrifenedig am ddim o’r costau, y taliadau, y treuliau ac atebolrwyddau eraill i’r ymgymerwr y mae’r ymgymerwr neu y bydd yr ymgymerwr yn atebol amdanynt o dan y Rhan hon (gan gynnwys swm y costau perthnasol a grybwyllir ym mharagraff 25) ynghyd â’r cyfryw wybodaeth ag sy’n galluogi’r ymgymerwr yn rhesymol i asesu rhesymoldeb unrhyw gyfryw amcangyfrif neu hawliad a wneir neu sydd i’w wneud yn unol â’r Rhan hon (gan gynnwys unrhyw hawliad sy’n ymwneud â’r costau rhesymol).

27.  Wrth asesu unrhyw symiau sy’n daladwy i Network Rail o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gynnydd yn y symiau a hawlir y gellir ei briodoli i unrhyw gam a gymerir gan Network Rail neu unrhyw gytundeb y mae Network Rail yn ymrwymo iddo os nad oedd y cam hwnnw na’r cytundeb hwnnw yn rhesymol angenrheidiol a bod Network Rail wedi cymryd y cam hwnnw neu wedi ymrwymo i’r cytundeb hwnnw gyda’r bwriad o gael yr ymgymerwr i dalu’r symiau hynny o dan y Rhan hon neu o gynyddu’r symiau sydd felly’n daladwy.

28.  Caiff yr ymgymerwr a Network Rail, yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth Network Rail â thelerau ei drwydded rhwydwaith, ymrwymo i gytundebau, a’u gweithredu, ar gyfer trosglwyddo i’r ymgymerwr—

(a)unrhyw eiddo rheilffordd a ddangosir ar blaniau gweithfeydd a phlan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr;

(b)unrhyw diroedd, gweithfeydd neu eiddo arall a ddelir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfryw eiddo rheilffordd; ac

(c)unrhyw hawliau a rhwymedigaethau (boed yn rhai statudol ai peidio) sydd gan Network Rail sy’n ymwneud ag unrhyw eiddo rheilffordd.

29.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, nac mewn unrhyw ddeddfiad a gorfforir gyda’r Gorchymyn hwn neu a gymhwysir gan y Gorchymyn hwn, yn rhagfarnu nac yn effeithio ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.

30.  Rhaid i’r ymgymerwr, heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr ardystir y planiau gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 46 (ardystio planiau etc), roi set o blaniau i Network Rail sy’n ymwneud â’r gweithfeydd penodedig ar ffurf disg gyfrifiadurol sydd â chof darllen yn unig.

RHAN 3Diogelu gweithredwyr rhwydweithiau’r cod cyfathrebu electronig

31.—(1Mae darpariaethau’r Rhan hon yn cael effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a’r gweithredwr.

(2Yn y Rhan hon—

ystyr “Deddf 2003” yw Deddf Cyfathrebu 2003;

mae i “system ddargludo” yr un ystyr â “conduit system” yn y cod cyfathrebu electronig ac mae cyfeiriadau at ddarparu system ddargludo i’w dehongli yn unol â pharagraff 1(3A) o’r cod hwnnw(71);

mae i “cyfarpar cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communications apparatus” yn y cod cyfathrebu electronig;

mae i “cod cyfathrebu electronig” yr un ystyr ag “electronic communications code” ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2003(72);

ystyr “rhwydwaith y cod cyfathrebu electronig” yw—

(a)

cymaint o rwydwaith cyfathrebu electronig neu system ddargludo a ddarperir gan weithredwr o dan y cod cyfathrebu electronig ag sydd ddim yn cael ei hepgor wrth gymhwyso’r cod cyfathrebu electronig drwy gyfarwyddyd o dan adran 106 o Ddeddf 2003; a

(b)

rhwydwaith cyfathrebu electronig y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu neu’n cynnig ei ddarparu;

ystyr “gweithredwr y cod cyfathrebu electronig” yw person y mae’r cod cyfathrebu electronig yn cael ei gymhwyso yn ei gylch drwy gyfarwyddyd o dan adran 106 o Ddeddf 2003; ac

ystyr “gweithredwr” yw gweithredwr rhwydwaith o dan y cod cyfathrebu electronig.

32.  Nid yw cau na dargyfeirio unrhyw stryd dros dro o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) yn effeithio ar hawl y gweithredwr o dan baragraff 9 o’r cod cyfathrebu electronig i gynnal a chadw unrhyw gyfarpar sydd, ar adeg cau neu ddargyfeirio, yn y stryd honno.

33.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), os o ganlyniad i’r prosiect awdurdodedig neu ei adeiladu, neu unrhyw ymsuddo o ganlyniad i unrhyw ran o’r prosiect—

(a)achosir unrhyw ddifrod i unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig sy’n eiddo i weithredwr (heblaw am gyfarpar nad yw’n rhesymol angenrheidiol ei atgyweirio o ystyried y bwriad i’w waredu at ddibenion y prosiect) neu eiddo arall gweithredwr; neu

(b)mae tarfu ar gyflenwad y gwasanaeth a ddarperir gan weithredwr, rhaid i’r ymgymerwr ddwyn a thalu’r gost y mae’r gweithredwr yn rhesymol yn mynd iddi wrth unioni’r cyfryw ddifrod neu wrth adfer y cyflenwad;

(c)rhoi digollediad rhesymol i weithredwr am golled a achosir iddo; a

(d)indemnio gweithredwr rhag hawliadau, archebion am dâl, achosion cyfreithiol, costau, iawndal a threuliau y gellir eu gwneud neu eu dwyn yn erbyn gweithredwr neu y gellir eu hadennill oddi wrth weithredwr neu y gall gweithredwr fynd iddynt oherwydd neu o ganlyniad i unrhyw gyfryw ddifrod neu darfu.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—

(a)unrhyw gyfarpar y mae cysylltiadau rhwng yr ymgymerwr a gweithredwr mewn perthynas ag ef yn cael eu rheoleiddio gan Ran 3 o Ddeddf 1991; neu

(b)unrhyw ddifrod, neu unrhyw darfu, a achosir gan ymyrraeth electro-magnetig sy’n codi o adeiladu neu ddefnyddio’r prosiect awdurdodedig.

(3Nid oes dim yn is-baragraff (1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw ddifrod neu darfu i’r graddau y gellir ei briodoli i weithred, esgeulustod neu ddiffyg gweithredwr, ei swyddogion, ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau.

(4Rhaid i’r gweithredwr roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw gyfryw hawliad neu archeb am dâl, ac ni chaniateir gwneud unrhyw setliad na chyfaddawd heb gydsyniad yr ymgymerwr sydd, os yw’n atal y cyfryw gydsyniad, yn cynnal ar ei ben ei hun unrhyw setliad neu gyfaddawd neu unrhyw achos llys sy’n angenrheidiol i wrthsefyll yr hawliad neu’r archeb am dâl.

(5Mae unrhyw wahaniaeth sy’n codi rhwng yr ymgymerwr a’r gweithredwr o dan y Rhan hon i’w gyfeirio at gymrodeddwr ac i’w setlo drwy gymrodeddu o dan erthygl 49 (cymrodeddu).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu gorsaf cynhyrchu trydan llanwol a gweithfeydd ategol oddi ar arfordir Ynys Môn yn ardal Abraham’s Bosom ac ar gyfer cysylltu’r gweithfeydd hynny drwy is-orsafoedd ar y tir â’r grid trydan.

Gellir edrych ar gopi o’r datganiad amgylcheddol, y cyfeirlyfr, planiau’r gweithfeydd alltraeth, planiau’r tir, planiau’r tir a’r trawsluniau a ragnodir gan reol 12 o Reolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 (OS 2006/1466) ac a ardystir yn unol ag erthygl 46 o’r Gorchymyn hwn yn swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.

(2)

1992 p. 42; diwygiwyd adran 3 gan baragraffau 51 a 53 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), diwygiwyd adran 5 gan O.S. 2012/1659.

(3)

Mae pwerau o dan adrannau 3 a 5 o Ddeddf 1992, a pharagraffau 3, 4, 5, 7, 8, 11, 15, 16 a 17 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno bellach wedi’u breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Cawsant eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.

(12)

O.S. 2007/1948, a ddiwygiwyd (mewn perthynas â Chymru) gan OS 2019/293.

(13)

Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd Rhif L 026, 28.1.2012, t.1.

(15)

1981 p. 67. Y diffiniad o “perchennog” fel y’i diwygiwyd gan baragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Mae diwygiadau eraill i adran 7 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(16)

1991 p. 56. Diwygiwyd adran 106 gan adrannau 35(1), 35(8) a 43(2) o Ddeddf Cystadleuaeth a Gwasanaeth (Cyfleustodau) 1992 (p. 43) ac Atodlen 2 i’r ddeddf honno, adrannau 36(2) a 99 o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) a pharagraff 16(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

(19)

Diwygiwyd adran 10 drwy adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 13(2) o Atodlen 2 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(24)

Mewnosodwyd gan adran 202(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

(25)

Mewnosodwyd is-adran (1B) o adran 11 gan adran 186(1) a (2)(b) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(26)

Mewnosodwyd gan adran 186(3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(27)

Fel y’i mewnosodwyd gan adran 199(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 17 i’r ddeddf honno.

(28)

Mewnosodwyd gan adran 182(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(29)

Mewnosodwyd gan adran 202(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(30)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 52(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 7 o Atodlen 15 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(31)

Mewnosodwyd gan O.S. 2017/16.

(32)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 3 o Atodlen 18 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(33)

Fel y’i mewnosodwyd gan baragraff 6 o Atodlen 18 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

(34)

Diwygiwyd adran 11 gan adran 34(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) ac Atodlen 4 i’r ddeddf honno, adran 3 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a Rhan 1 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, adran 14 o Fesur Eglwys Loegr (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (Rhif 1) a pharagraff 12(1) o Atodlen 5 i’r mesur hwnnw, adrannau 186(2), 187(2) a 188 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 6 o Atodlen 14 a pharagraff 3 o Atodlen 16 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(35)

Diwygiwyd adran 4 gan adrannau 184 a 185 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 18 i’r ddeddf honno.

(36)

Diwygiwyd adran 10 drwy adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 13(2) o Atodlen 2 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(37)

Diwygiwyd adran 13 gan adrannau 62(3), 139 a 146 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15) a pharagraffau 27 a 28 o Atodlen 13 a Rhan 3 o Atodlen 23 i’r ddeddf honno.

(38)

Diwygiwyd adran 11 gan adran 34(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) ac Atodlen 4 i’r ddeddf honno, adran 3 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a Rhan 1 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, adran 14 o Fesurau Eglwys Loegr (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (Rhif 1) a pharagraff 12(1) o Atodlen 5 i’r mesur hwnnw, adrannau 186(2), 187(2) a 188 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraff 6 o Atodlen 14 a pharagraff 3 o Atodlen 16 i’r ddeddf honno ac O.S. 2009/1307.

(39)

Diwygiwyd adran 272 gan baragraff 103(1) a (2) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21).

(42)

1990 p. 43. Diwygiwyd adran 82 gan adran 5 o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p. 40), paragraff 6 o Atodlen 17 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), adran 103(1), (4) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a Deddf yr Amgylchedd 2005 (p. 16) ac O.S. 2015/664.

(43)

Diwygiwyd adran 79(1) gan adran 2(2) o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993, adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a pharagraff 2(a) o Atodlen 17 a pharagraff 89(2) o Atodlen 22 i’r ddeddf honno, adrannau 101(2) a 102(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 (p. 16) ac adrannau 109(2), 110(2), 111(2) a 112(2)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd etc (yr Alban) 2008 (dsa.8).

(44)

Diwygiwyd adran 61 gan Atodlen 7 i Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55), paragraff 15(3) o Atodlen 15 i Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), Atodlen 24 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 10 o Atodlen 6 i Ddeddf Adeiladu (yr Alban) 2003 (dsa.8).

(46)

O.S. 1969/17 (Noder bod y rhain wedi cael ei dirymu).

(49)

Mewnosodwyd adran 90(2A) gan adran 16(1) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 (p. 42).

(53)

Diwygiwyd adran 11 gan adran 34(1) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p. 67) ac Atodlen 4 i’r ddeddf honno, adran 3 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a Rhan 1 o Atodlen 1 i’r ddeddf honno, adran 14 o Fesur Eglwys Loegr (Darpariaethau Amrywiol) 2006 (Rhif 1), a pharagraff 12(1) o Atodlen 5 i’r mesur hwnnw, adrannau 186(2), 187(2) a 188 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraff 6 o Atodlen 14 a pharagraff 3 o Atodlen 6 i’r ddeddf honno (p. 22) ac O.S. 2009/1307.

(54)

Mewnosodwyd adran 11A gan adran 186(3) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

(55)

Mewnosodwyd adran 11B gan adran 187(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(56)

Diwygiwyd adran 12 gan adran 56(2) o Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23) a Rhan 1 o Atodlen 9 i’r ddeddf honno a pharagraff 4 o Atodlen 16 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.

(57)

Diwygiwyd adran 13 gan adrannau 62(3), 139(4) i (9) a 146 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15) a pharagraffau 27 ac 28 o Atodlen 13 a Rhan 3 o Atodlen 23 i’r ddeddf honno.

(58)

Mewnosodwyd gan adran 199(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a pharagraffau 1 a 3 o Ran 1 o Atodlen 17 i’r ddeddf honno.

(59)

Diwygiwyd adrannau 272 i 274 gan baragraff 103(1) a (2) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21).

(60)

Diwygiwyd adran 279(3) gan baragraffau 103(1) a (2), a diwygiwyd adran 280 gan baragraff 104 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebu 2003. Diwygiwyd adrannau 280 a 282 gan O.S. 2009/1307.

(62)

Diwygiwyd y diffiniad o “ymgymerwyr cyfleustod cyhoeddus” gan adran 190(3) o Ddeddf Dŵr 1989 (p. 15) a Rhan 1 o Atodlen 27 i’r ddeddf honno ac adran 112(4) o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) ac Atodlen 18 i’r ddeddf honno.

(63)

2003 p. 21. (Mae diwygiadau i adran 151(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn).

(65)

Diwygiwyd adran 102(4) gan adran 96 o Ddeddf Dŵr 2003. Diwygiwyd adran 104 gan adran 96 o Ddeddf Dŵr 2003 a Rhan 3 o Atodlen 9 i’r ddeddf honno a chan adran 42(3) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

(66)

1986 p. 44. Diffinnir “cludwr nwy” yn adran 7. Amnewidiwyd adran 7 newydd gan adran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p. 45) ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan adran 76 o Ddeddf Cyfleustodau 2000.

(67)

Diffinnir “ymgymerwr dŵr” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978.

(68)

1993 p. 43. Diwygiwyd adran 8 gan baragraff 4 o Atodlen 17 a Rhan 4 o Atodlen 31 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38), paragraffau 3 a 5 o Atodlen 2 i Ddeddf Rheilffyrdd a Diogelwch Trafnidiaeth 2003 (p. 20) a pharagraff 3 o Atodlen 1 a Rhan 1 o Atodlen 13 i Ddeddf Rheilffyrdd 2005 (p. 14).

(70)

Diffinnir “cytundeb ynglŷn â mynediad” yn adran 83.

(71)

Ychwanegwyd paragraff 1(3A) at y cod (Atodlen 2 i Ddeddf Telathrebu 1984) gan baragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf Cyfathrebu 2003.

(72)

Diffinnir “The electronic communications code” yn adran 106(1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources