RHAN 2Darpariaethau ynghylch Gweithfeydd
Pwerau atodol
Gweithfeydd diogelu ar adeiladau13.
(1)
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, caiff yr ymgymerwr ar ei draul ei hun gyflawni’r cyfryw weithfeydd diogelu ar unrhyw adeilad sydd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir ag y barna’r ymgymerwr yn angenrheidiol neu’n hwylus.
(2)
Caiff gweithfeydd diogelu eu cyflawni—
(a)
ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod y gwaith adeiladu yng nghyffiniau adeiladu unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig; neu
(b)
ar ôl cwblhau’r rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig yng nghyffiniau’r adeilad ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod yr agorwyd y rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig yn gyntaf i’w defnyddio.
(3)
At ddiben penderfynu sut mae’r swyddogaethau o dan yr erthygl hon yn cael eu harfer, caiff yr ymgymerwr fynd i mewn i unrhyw adeilad sy’n dod o dan baragraff (1) ac unrhyw dir o fewn ei gwrtil a chynnal arolwg.
(4)
At ddiben cyflawni gweithfeydd diogelu o dan yr erthygl hon ar adeilad, caiff yr ymgymerwr (yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6))—
(a)
mynd i mewn i’r adeilad ac unrhyw dir o fewn ei gwrtil; a
(b)
pan na fo modd cyflawni’r gweithfeydd yn rhesymol gyfleus heb fynd ar dir sy’n gyfagos i’r adeilad ond y tu allan i’w gwrtil, fynd ar y tir cyfagos (ond nid unrhyw adeilad sydd wedi’i godi arno).
(5)
Cyn arfer—
(a)
hawl o dan baragraff (1) i gyflawni gweithfeydd diogelu ar adeilad;
(b)
hawl o dan baragraff (3) i fynd i mewn i adeilad a thir o fewn ei gwrtil;
(c)
hawl o dan baragraff (4)(a) i fynd i mewn i adeilad a thir o fewn ei gwrtil; neu
(d)
hawl o dan baragraff (4)(b) i fynd ar dir,
rhaid i’r ymgymerwr, ac eithrio mewn argyfwng, gyflwyno hysbysiad sy’n rhoi 56 diwrnod o leiaf o rybudd i berchenogion a meddianwyr yr adeilad neu’r tir am ei fwriad i arfer yr hawl honno ac, mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (c), bennu’r gweithfeydd diogelu y bwriedir eu cyflawni.
(6)
Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (5)(a), (c) neu (d), caiff perchennog neu feddiannydd yr adeilad neu’r tir dan sylw, drwy gyflwyno gwrth-hysbysiad o fewn y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i’r cwestiwn ynghylch a yw’n angenrheidiol neu’n hwylus cyflawni’r gweithfeydd diogelu neu fynd i mewn i’r adeilad neu ar y tir gael ei gyfeirio at gymrodeddwr o dan erthygl 49 (cymrodeddu).
(7)
Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr unrhyw adeilad neu dir y mae’r pwerau a roddir gan yr erthygl hon wedi cael eu harfer mewn perthynas â hwy am unrhyw golled neu ddifrod a achosir iddynt drwy arfer y pwerau hynny.
(8)
Pan—
(a)
fo gweithfeydd diogelu yn cael eu cyflawni o dan yr erthygl hon ar adeilad; ac
(b)
o fewn cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod yr agorwyd y rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a adeiladwyd yng nghyffiniau’r adeilad yn gyntaf i’w defnyddio ymddengys bod y gweithfeydd awdurdodedig yn annigonol i ddiogelu’r adeilad rhag difrod a achosir gan y gweithrediad adeiladu neu gynnal a chadw’r rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig,
rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr yr adeilad am golled neu ddifrod a ddioddefwyd ganddynt.
(9)
(10)
Rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan baragraff (7) neu (8) gael ei benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(11)
Yn yr erthygl hon, ystyr “gweithfeydd diogelu” mewn perthynas ag adeilad yw—
(a)
tanategu, atgyfnerthu ac unrhyw weithfeydd eraill a wneir er mwyn atal difrod a all gael ei achosi i’r adeilad oherwydd adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu’r gweithfeydd awdurdodedig; ac
(b)
unrhyw weithfeydd a wneir er mwyn unioni unrhyw ddifrod a achoswyd i’r adeilad oherwydd adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu’r gweithfeydd awdurdodedig.