- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
1 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I2Ergl. 1 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “map” (“map”) yw’r map sydd wedi ei farcio “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili;
pan ddangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013], ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 2 wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 27
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 2 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I4Ergl. 2 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
3.—(1) Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ei rhannu’n 31 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 3 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I6Ergl. 3 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
4. Yng nghymuned Rhymni—
(a)mae’r rhan o ward Pontlotyn a ddangosir â llinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i ward Twyncarno;
(b)mae’r rhan o ward [F2Moriah] [F2Dewi Sant] a ddangosir â chroeslinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i ward Twyncarno.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn ergl. 4(b) wedi eu hamnewid (18.3.2022 at ddibenion penodedig ac ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/314), erglau. 1(2)(3), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 4 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I8Ergl. 4 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
5. Yng nghymuned Rhymni—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dewi Sant yw 1;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Twyncarno yw 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Ergl. 5 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I10Ergl. 5 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2021
Erthygl 3
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I12Atod. mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
| Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
| Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
| Aber Valley | Cwm Aber | Cymuned Cwm Aber | 3 |
| Aberbargoed and Bargoed | Aberbargod a Bargod | Wardiau Aberbargod, Bargod a’r Parc o gymuned Bargod | 3 |
| Abercarn | Aber-carn | Cymuned Aber-carn | 2 |
| Argoed | Argoed | Cymuned Argoed | 1 |
| Bedwas and Trethomas | Bedwas a Threthomas | Wardiau Bedwas a Threthomas o gymuned Bedwas, Trethomas a Machen | 3 |
| Blackwood | Coed-duon | Cymuned Coed-duon | 3 |
| Cefn Fforest and Pengam | Cefn Fforest a Phengam | Cymunedau Cefn Fforest a Phengam | 3 |
| Crosskeys | Crosskeys | Cymuned Crosskeys | 1 |
| Crumlin | Crymlyn | Cymuned Crymlyn | 2 |
| Darran Valley | Cwm Darran | Cymuned Cwm Darran | 1 |
| Gilfach | Gilfach | Ward Gilfach o gymuned Bargod | 1 |
| Hengoed | Hengoed | Wardiau Cefn Hengoed a Hengoed o gymuned Gelli-gaer | 2 |
| Llanbradach | Llanbradach | Cymuned Llanbradach a Phwll-y-pant | 2 |
| Machen and Rudry | Machen a Rhydri | Ward Machen o gymuned Bedwas, Trethomas a Machen a chymuned Rhydri | 2 |
| Maesycwmmer | Maesycwmwr | Cymuned Maesycwmwr | 1 |
| Morgan Jones | Morgan Jones | Wardiau Bryncenydd, Parcyfelin a Thonyfelin o gymuned Caerffili | 3 |
| Moriah and Pontlottyn | Moriah a Phontlotyn | Wardiau Abertyswg, Moriah, Dewi Sant a Phontlotyn o gymuned Rhymni | 2 |
| Nelson | Nelson | Cymuned Nelson | 2 |
| New Tredegar | Tredegar Newydd | Cymuned Tredegar Newydd | 2 |
| Newbridge | Trecelyn | Cymuned Trecelyn | 3 |
| Penmaen | Penmaen | Cymuned Penmaen | 2 |
| Penyrheol | Penyrheol | Cymuned Penyrheol, Trecenydd ac Eneu’r-glyn | 4 |
| Pontllanfraith | Pontllan-fraith | Cymuned Pontllan-fraith | 3 |
| Risca East | Dwyrain Rhisga | Cymuned Dwyrain Rhisga | 3 |
| Risca West | Gorllewin Rhisga | Cymuned Gorllewin Rhisga | 2 |
| St Cattwg | Sant Catwg | Wardiau Cascade, Greenhill a Thir-y-berth o gymuned Gelli-gaer | 3 |
| St Martins | Sant Martin | Wardiau’r Castell, Twyn, Watford a Chwrt Rawlin o gymuned Caerffili | 3 |
| Twyn Carno | Twyncarno | Ward Twyncarno o gymuned Rhymni | 1 |
| Van | Y Fan | Cymuned y Fan | 2 |
| Ynysddu | Ynys-ddu | Cymuned Ynys-ddu | 2 |
| Ystrad Mynach | Ystrad Mynach | Ward Ystrad Mynach o gymuned Gelli-gaer | 2 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Caerffili. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 33 i 30, a lleihau nifer y cynghorwyr o 73 i 69.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Pontlotyn, Moriah a Thwyncarno yng nghymuned Rhymni.
Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dewi Sant a Thwyncarno o gymuned Rhymni.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r map y mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: