Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1217 (Cy. 306)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

1 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “map” (“map”) yw’r map sydd wedi ei farcio “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili;

pan ddangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013], ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol CaerffiliLL+C

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ei rhannu’n 31 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 3 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Rhymni: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

4.  Yng nghymuned Rhymni—

(a)mae’r rhan o ward Pontlotyn a ddangosir â llinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i ward Twyncarno;

(b)mae’r rhan o ward [F2Moriah] [F2Dewi Sant] a ddangosir â chroeslinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i ward Twyncarno.

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn ergl. 4(b) wedi eu hamnewid (18.3.2022 at ddibenion penodedig ac ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/314), erglau. 1(2)(3), 2(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 4 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Rhymni: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

5.  Yng nghymuned Rhymni—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dewi Sant yw 1;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Twyncarno yw 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 5 mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10Ergl. 5 mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2021

Erthygl 3

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. mewn grym ar 3.11.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12Atod. mewn grym ar 4.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Aber ValleyCwm AberCymuned Cwm Aber3
Aberbargoed and BargoedAberbargod a BargodWardiau Aberbargod, Bargod a’r Parc o gymuned Bargod3
AbercarnAber-carnCymuned Aber-carn2
ArgoedArgoedCymuned Argoed1
Bedwas and TrethomasBedwas a ThrethomasWardiau Bedwas a Threthomas o gymuned Bedwas, Trethomas a Machen3
BlackwoodCoed-duonCymuned Coed-duon3
Cefn Fforest and PengamCefn Fforest a PhengamCymunedau Cefn Fforest a Phengam3
CrosskeysCrosskeysCymuned Crosskeys1
CrumlinCrymlynCymuned Crymlyn2
Darran ValleyCwm DarranCymuned Cwm Darran1
GilfachGilfachWard Gilfach o gymuned Bargod1
HengoedHengoedWardiau Cefn Hengoed a Hengoed o gymuned Gelli-gaer2
LlanbradachLlanbradachCymuned Llanbradach a Phwll-y-pant2
Machen and RudryMachen a RhydriWard Machen o gymuned Bedwas, Trethomas a Machen a chymuned Rhydri2
MaesycwmmerMaesycwmwrCymuned Maesycwmwr1
Morgan JonesMorgan JonesWardiau Bryncenydd, Parcyfelin a Thonyfelin o gymuned Caerffili3
Moriah and PontlottynMoriah a PhontlotynWardiau Abertyswg, Moriah, Dewi Sant a Phontlotyn o gymuned Rhymni2
NelsonNelsonCymuned Nelson2
New TredegarTredegar NewyddCymuned Tredegar Newydd2
NewbridgeTrecelynCymuned Trecelyn3
PenmaenPenmaenCymuned Penmaen2
PenyrheolPenyrheolCymuned Penyrheol, Trecenydd ac Eneu’r-glyn4
PontllanfraithPontllan-fraithCymuned Pontllan-fraith3
Risca EastDwyrain RhisgaCymuned Dwyrain Rhisga3
Risca WestGorllewin RhisgaCymuned Gorllewin Rhisga2
St CattwgSant CatwgWardiau Cascade, Greenhill a Thir-y-berth o gymuned Gelli-gaer3
St MartinsSant MartinWardiau’r Castell, Twyn, Watford a Chwrt Rawlin o gymuned Caerffili3
Twyn CarnoTwyncarnoWard Twyncarno o gymuned Rhymni1
VanY FanCymuned y Fan2
YnysdduYnys-dduCymuned Ynys-ddu2
Ystrad MynachYstrad MynachWard Ystrad Mynach o gymuned Gelli-gaer2

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Caerffili. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 33 i 30, a lleihau nifer y cynghorwyr o 73 i 69.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Pontlotyn, Moriah a Thwyncarno yng nghymuned Rhymni.

Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dewi Sant a Thwyncarno o gymuned Rhymni.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r map y mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill