Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3)
Dehongli2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “map” (“map”) yw’r map sydd wedi ei farcio “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili;
pan ddangosir bod ffin ar y map yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ei rhannu’n 31 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Cymuned Rhymni: newidiadau i wardiau cymunedol4.
Yng nghymuned Rhymni—
(a)
mae’r rhan o ward Pontlotyn a ddangosir â llinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i ward Twyncarno;
Cymuned Rhymni: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol5.
Yng nghymuned Rhymni—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dewi Sant yw 1;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Twyncarno yw 5.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Aber Valley | Cwm Aber | Cymuned Cwm Aber | 3 |
Aberbargoed and Bargoed | Aberbargod a Bargod | Wardiau Aberbargod, Bargod a’r Parc o gymuned Bargod | 3 |
Abercarn | Aber-carn | Cymuned Aber-carn | 2 |
Argoed | Argoed | Cymuned Argoed | 1 |
Bedwas and Trethomas | Bedwas a Threthomas | Wardiau Bedwas a Threthomas o gymuned Bedwas, Trethomas a Machen | 3 |
Blackwood | Coed-duon | Cymuned Coed-duon | 3 |
Cefn Fforest and Pengam | Cefn Fforest a Phengam | Cymunedau Cefn Fforest a Phengam | 3 |
Crosskeys | Crosskeys | Cymuned Crosskeys | 1 |
Crumlin | Crymlyn | Cymuned Crymlyn | 2 |
Darran Valley | Cwm Darran | Cymuned Cwm Darran | 1 |
Gilfach | Gilfach | Ward Gilfach o gymuned Bargod | 1 |
Hengoed | Hengoed | Wardiau Cefn Hengoed a Hengoed o gymuned Gelli-gaer | 2 |
Llanbradach | Llanbradach | Cymuned Llanbradach a Phwll-y-pant | 2 |
Machen and Rudry | Machen a Rhydri | Ward Machen o gymuned Bedwas, Trethomas a Machen a chymuned Rhydri | 2 |
Maesycwmmer | Maesycwmwr | Cymuned Maesycwmwr | 1 |
Morgan Jones | Morgan Jones | Wardiau Bryncenydd, Parcyfelin a Thonyfelin o gymuned Caerffili | 3 |
Moriah and Pontlottyn | Moriah a Phontlotyn | Wardiau Abertyswg, Moriah, Dewi Sant a Phontlotyn o gymuned Rhymni | 2 |
Nelson | Nelson | Cymuned Nelson | 2 |
New Tredegar | Tredegar Newydd | Cymuned Tredegar Newydd | 2 |
Newbridge | Trecelyn | Cymuned Trecelyn | 3 |
Penmaen | Penmaen | Cymuned Penmaen | 2 |
Penyrheol | Penyrheol | Cymuned Penyrheol, Trecenydd ac Eneu’r-glyn | 4 |
Pontllanfraith | Pontllan-fraith | Cymuned Pontllan-fraith | 3 |
Risca East | Dwyrain Rhisga | Cymuned Dwyrain Rhisga | 3 |
Risca West | Gorllewin Rhisga | Cymuned Gorllewin Rhisga | 2 |
St Cattwg | Sant Catwg | Wardiau Cascade, Greenhill a Thir-y-berth o gymuned Gelli-gaer | 3 |
St Martins | Sant Martin | Wardiau’r Castell, Twyn, Watford a Chwrt Rawlin o gymuned Caerffili | 3 |
Twyn Carno | Twyncarno | Ward Twyncarno o gymuned Rhymni | 1 |
Van | Y Fan | Cymuned y Fan | 2 |
Ynysddu | Ynys-ddu | Cymuned Ynys-ddu | 2 |
Ystrad Mynach | Ystrad Mynach | Ward Ystrad Mynach o gymuned Gelli-gaer | 2 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Caerffili. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 33 i 30, a lleihau nifer y cynghorwyr o 73 i 69.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Pontlotyn, Moriah a Thwyncarno yng nghymuned Rhymni.
Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dewi Sant a Thwyncarno o gymuned Rhymni.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r map y mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.