- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
22 Medi 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mawrth 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Powys;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3.—(1) Mae wardiau etholiadol Sir Powys, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Powys wedi ei rhannu’n 60 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
4. Yng nghymuned y Trallwng—
(a)mae’r rhan o ward Llanerchyddol a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;
(b)mae’r rhan o ward Gungrog a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;
(c)mae’r rhan o ward Gungrog a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Llanerchyddol.
5. Yng nghymuned y Trallwng—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Castell yw 5;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gungrog yw 5;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Llanerchyddol yw 5.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2021
Erthygl 3
| Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
| Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
| Aber-craf and Ystradgynlais | Aber-craf ac Ystradgynlais | Wardiau Aber-craf ac Ystradgynlais o gymuned Ystradgynlais | 2 |
| Banwy, Llanfihangel and Llanwddyn | Banwy, Llanfihangel a Llanwddyn | Cymunedau Banwy, Llanfihangel, Llangynog, Llanwddyn, a Phen-y-bont-fawr | 1 |
| Berriew and Castle Caereinion | Aberriw a Chastell Caereinion | Cymunedau Aberriw a Chastell Caereinion | 1 |
| Brecon East | Dwyrain Aberhonddu | Wardiau Dwyrain Sant Ioan a Santes Fair o gymuned Aberhonddu | 2 |
| Brecon West | Gorllewin Aberhonddu | Wardiau Dewi Sant Fewnol a Gorllewin Sant Ioan o gymuned Aberhonddu | 2 |
| Bronllys and Felin-fach | Bronllys a Felin-fach | Cymunedau Bronllys, Erwyd, a Felin-fach | 1 |
| Builth | Llanfair-ym-Muallt | Cymuned Llanfair-ym-Muallt | 1 |
| Caersws | Caersŵs | Cymunedau Carno a Chaersŵs | 1 |
| Churchstoke | Yr Ystog | Cymuned yr Ystog | 1 |
| Crickhowell with Cwmdu and Tretower | Crucywel gyda Chwm-du a Thretŵr | Wardiau Cwm-du a Thretŵr o gymuned Cwm-du a’r Cylch, a chymunedau Crucywel a Dyffryn Grwyne | 2 |
| Cwm-twrch | Cwm-twrch | Ward Cwm-twrch o gymuned Ystradgynlais | 1 |
| Disserth and Trecoed with Newbridge | Diserth a Thre-coed gyda’r Bontnewydd-ar-Wy | Ward y Bontnewydd-ar-Wy o gymuned Llanllŷr, a chymuned Diserth a Thre-coed | 1 |
| Dolforwyn | Dolforwyn | Cymunedau Aber-miwl gyda Llandysul, a Betws Cedewain | 1 |
| Forden and Montgomery | Ffordun a Threfaldwyn | Ward Ffordun o gymuned Ffordun gyda Thre’r-llai a Threlystan, a chymuned Trefaldwyn | 1 |
| Glantwymyn | Glantwymyn | Cymunedau Cadfarch a Glantwymyn | 1 |
| Glasbury | Y Clas-ar-Wy | Cymunedau Cleiro a’r Clas-ar-Wy | 1 |
| Guilsfield | Cegidfa | Cymuned Cegidfa | 1 |
| Gwernyfed | Gwernyfed | Cymunedau Gwernyfed a Llanigon | 1 |
| Hay | Y Gelli | Cymuned y Gelli | 1 |
| Ithon Valley | Dyffryn Ieithon | Cymunedau Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Fynydd, Llanbister, Llanddewi Ystradenni a Phen-y-bont | 1 |
| Kerry | Ceri | Wardiau Ceri a Sarn o gymuned Ceri | 1 |
| Knighton with Beguildy | Trefyclo gyda Bugeildy | Cymunedau Bugeildy a Threfyclo | 2 |
| Llanafanfawr with Garth | Llanafan-fawr gyda Garth | Ward Garth o gymuned Treflys, a chymunedau Cilmeri, Duhonw, Llanafan-fawr, a Llanwrthwl | 1 |
| Llanbrynmair | Llanbrynmair | Cymunedau Llanbrynmair a Threfeglwys | 1 |
| Llandinam with Dolfor | Llandinam gyda Dolfor | Ward Dolfor o gymuned Ceri, a chymunedau Llandinam, a Mochdre gyda Phenystrywaid | 1 |
| Llandrindod North | Gogledd Llandrindod | Ward Gogledd Llandrindod o gymuned Llandrindod | 1 |
| Llandrindod South | De Llandrindod | Wardiau Dwyrain Llandrindod, Gorllewin Llandrindod, De Llandrindod Rhif 1, a De Llandrindod Rhif 2 o gymuned Llandrindod | 2 |
| Llandrinio | Llandrinio | Cymuned Llandrinio | 1 |
| Llandysilio | Llandysilio | Cymuned Llandysilio | 1 |
| Llanelwedd | Llanelwedd | Cymunedau Aberedw, Glasgwm, Llanelwedd a Chastell-paen | 1 |
| Llanfair Caereinion and Llanerfyl | Llanfair Caereinion a Llanerfyl | Cymunedau Llanerfyl a Llanfair Caereinion | 1 |
| Llanfyllin | Llanfyllin | Cymuned Llanfyllin | 1 |
| Llangattock and Llangynidr | Llangatwg a Llangynidr | Cymunedau Llangatwg a Llangynidr | 1 |
| Llangors with Bwlch | Llan-gors gyda Bwlch | Ward Bwlch o gymuned Cwm-du a’r Cylch, a chymuned Llan-gors | 1 |
| Llangunllo with Norton | Llangynllo gyda Norton | Ward Norton o gymuned Llanandras, a chymunedau Llanfihangel Rhydieithon, Llangynllo, a Hwytyn | 1 |
| Llangyniew and Meifod | Llangynyw a Meifod | Cymunedau Llangynyw a Meifod | 1 |
| Llanidloes | Llanidloes | Cymunedau Llangurig, Llanidloes Allanol, a Llanidloes | 2 |
| Llanrhaeadr-ym-Mochnant and Llansilin | Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin | Cymunedau Llangedwyn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a Llansilin | 1 |
| Llansantffraid | Llansanffraid | Cymuned Llansanffraid | 1 |
| Llanwrtyd Wells | Llanwrtyd | Ward Beulah o gymuned Treflys, a chymunedau Llangamarch a Llanwrtyd | 1 |
| Llanyre with Nantmel | Llanllŷr gyda Nantmel | Ward Llanfihangel Helygen a Llanllŷr o gymuned Llanllŷr, a chymunedau Abaty Cwm-hir, Nantmel, a Saint Harmon | 1 |
| Machynlleth | Machynlleth | Cymuned Machynlleth | 1 |
| Maescar and Llywel | Maes-car a Llywel | Cymunedau Crai, Llywel, a Maes-car | 1 |
| Newtown Central and South | Canol a De’r Drenewydd | Wardiau Canol a De’r Drenewydd o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn | 2 |
| Newtown East | Dwyrain y Drenewydd | Ward Dwyrain y Drenewydd o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn | 1 |
| Newtown North | Gogledd y Drenewydd | Ward Gogledd Llanllwchaearn o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn | 1 |
| Newtown West | Gorllewin y Drenewydd | Ward Gorllewin Llanllwchaearn o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn | 1 |
| Old Radnor | Pencraig | Cymunedau Llanfair Llythynwg, Maesyfed a Phencraig | 1 |
| Presteigne | Llanandras | Ward Tref Llanandras o gymuned Llanandras | 1 |
| Rhayader | Rhaeadr Gwy | Cymuned Rhaeadr Gwy | 1 |
| Rhiwcynon | Rhiwcynon | Cymunedau Aberhafesb, Dwyriw, Manafon, a Thregynon | 1 |
| Talgarth | Talgarth | Cymuned Talgarth | 1 |
| Talybont-on-Usk | Tal-y-bont ar Wysg | Cymunedau Glyn Tarell, Llanfrynach, a Thal-y-bont ar Wysg | 1 |
| Tawe Uchaf | Tawe Uchaf | Cymunedau Ystradfellte a Thawe Uchaf | 1 |
| Trelystan and Trewern | Trelystan a Thre-wern | Ward Trelystan o gymuned Ffordun gyda Thre’r-llai a Threlystan, a chymuned Tre-wern | 1 |
| Welshpool Castle | Y Trallwng Castell | Ward y Castell o gymuned y Trallwng | 1 |
| Welshpool Gungrog | Y Trallwng Gungrog | Ward Gungrog o gymuned y Trallwng | 1 |
| Welshpool Llanerchyddol | Y Trallwng Llanerchyddol | Ward Llanerchyddol o gymuned y Trallwng | 1 |
| Ynyscedwyn | Ynysgedwyn | Ward Ynysgedwyn o gymuned Ystradgynlais | 1 |
| Yscir with Honddu Isaf and Llanddew | Ysgir gyda Honddu Isaf a Llan-ddew | Cymunedau Honddu Isaf, Llan-ddew, Merthyr Cynog, Trallong, ac Ysgir | 1 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mawrth 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Powys. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 73 i 60, a lleihau nifer y cynghorwyr o 73 i 68.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Powys ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Powys.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Llanerchyddol, Gungrog a’r Castell yng nghymuned y Trallwng. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Sir Powys. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Powys yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: