2021 Rhif 1081 (Cy. 256)
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mawrth 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2)

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3)

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.

Dehongli2.

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Powys;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys3.

(1)

Mae wardiau etholiadol Sir Powys, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2)

Mae Sir Powys wedi ei rhannu’n 60 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.

Cymuned y Trallwng: newidiadau i wardiau cymunedol4.

Yng nghymuned y Trallwng—

(a)

mae’r rhan o ward Llanerchyddol a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;

(b)

mae’r rhan o ward Gungrog a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;

(c)

mae’r rhan o ward Gungrog a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Llanerchyddol.

Cymuned y Trallwng: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol5.

Yng nghymuned y Trallwng—

(a)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Castell yw 5;

(b)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gungrog yw 5;

(c)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Llanerchyddol yw 5.

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 3

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Aber-craf and Ystradgynlais

Aber-craf ac Ystradgynlais

Wardiau Aber-craf ac Ystradgynlais o gymuned Ystradgynlais

2

Banwy, Llanfihangel and Llanwddyn

Banwy, Llanfihangel a Llanwddyn

Cymunedau Banwy, Llanfihangel, Llangynog, Llanwddyn, a Phen-y-bont-fawr

1

Berriew and Castle Caereinion

Aberriw a Chastell Caereinion

Cymunedau Aberriw a Chastell Caereinion

1

Brecon East

Dwyrain Aberhonddu

Wardiau Dwyrain Sant Ioan a Santes Fair o gymuned Aberhonddu

2

Brecon West

Gorllewin Aberhonddu

Wardiau Dewi Sant Fewnol a Gorllewin Sant Ioan o gymuned Aberhonddu

2

Bronllys and Felin-fach

Bronllys a Felin-fach

Cymunedau Bronllys, Erwyd, a Felin-fach

1

Builth

Llanfair-ym-Muallt

Cymuned Llanfair-ym-Muallt

1

Caersws

Caersŵs

Cymunedau Carno a Chaersŵs

1

Churchstoke

Yr Ystog

Cymuned yr Ystog

1

Crickhowell with Cwmdu and Tretower

Crucywel gyda Chwm-du a Thretŵr

Wardiau Cwm-du a Thretŵr o gymuned Cwm-du a’r Cylch, a chymunedau Crucywel a Dyffryn Grwyne

2

Cwm-twrch

Cwm-twrch

Ward Cwm-twrch o gymuned Ystradgynlais

1

Disserth and Trecoed with Newbridge

Diserth a Thre-coed gyda’r Bontnewydd-ar-Wy

Ward y Bontnewydd-ar-Wy o gymuned Llanllŷr, a chymuned Diserth a Thre-coed

1

Dolforwyn

Dolforwyn

Cymunedau Aber-miwl gyda Llandysul, a Betws Cedewain

1

Forden and Montgomery

Ffordun a Threfaldwyn

Ward Ffordun o gymuned Ffordun gyda Thre’r-llai a Threlystan, a chymuned Trefaldwyn

1

Glantwymyn

Glantwymyn

Cymunedau Cadfarch a Glantwymyn

1

Glasbury

Y Clas-ar-Wy

Cymunedau Cleiro a’r Clas-ar-Wy

1

Guilsfield

Cegidfa

Cymuned Cegidfa

1

Gwernyfed

Gwernyfed

Cymunedau Gwernyfed a Llanigon

1

Hay

Y Gelli

Cymuned y Gelli

1

Ithon Valley

Dyffryn Ieithon

Cymunedau Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Fynydd, Llanbister, Llanddewi Ystradenni a Phen-y-bont

1

Kerry

Ceri

Wardiau Ceri a Sarn o gymuned Ceri

1

Knighton with Beguildy

Trefyclo gyda Bugeildy

Cymunedau Bugeildy a Threfyclo

2

Llanafanfawr with Garth

Llanafan-fawr gyda Garth

Ward Garth o gymuned Treflys, a chymunedau Cilmeri, Duhonw, Llanafan-fawr, a Llanwrthwl

1

Llanbrynmair

Llanbrynmair

Cymunedau Llanbrynmair a Threfeglwys

1

Llandinam with Dolfor

Llandinam gyda Dolfor

Ward Dolfor o gymuned Ceri, a chymunedau Llandinam, a Mochdre gyda Phenystrywaid

1

Llandrindod North

Gogledd Llandrindod

Ward Gogledd Llandrindod o gymuned Llandrindod

1

Llandrindod South

De Llandrindod

Wardiau Dwyrain Llandrindod, Gorllewin Llandrindod, De Llandrindod Rhif 1, a De Llandrindod Rhif 2 o gymuned Llandrindod

2

Llandrinio

Llandrinio

Cymuned Llandrinio

1

Llandysilio

Llandysilio

Cymuned Llandysilio

1

Llanelwedd

Llanelwedd

Cymunedau Aberedw, Glasgwm, Llanelwedd a Chastell-paen

1

Llanfair Caereinion and Llanerfyl

Llanfair Caereinion a Llanerfyl

Cymunedau Llanerfyl a Llanfair Caereinion

1

Llanfyllin

Llanfyllin

Cymuned Llanfyllin

1

Llangattock and Llangynidr

Llangatwg a Llangynidr

Cymunedau Llangatwg a Llangynidr

1

Llangors with Bwlch

Llan-gors gyda Bwlch

Ward Bwlch o gymuned Cwm-du a’r Cylch, a chymuned Llan-gors

1

Llangunllo with Norton

Llangynllo gyda Norton

Ward Norton o gymuned Llanandras, a chymunedau Llanfihangel Rhydieithon, Llangynllo, a Hwytyn

1

Llangyniew and Meifod

Llangynyw a Meifod

Cymunedau Llangynyw a Meifod

1

Llanidloes

Llanidloes

Cymunedau Llangurig, Llanidloes Allanol, a Llanidloes

2

Llanrhaeadr-ym-Mochnant and Llansilin

Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin

Cymunedau Llangedwyn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a Llansilin

1

Llansantffraid

Llansanffraid

Cymuned Llansanffraid

1

Llanwrtyd Wells

Llanwrtyd

Ward Beulah o gymuned Treflys, a chymunedau Llangamarch a Llanwrtyd

1

Llanyre with Nantmel

Llanllŷr gyda Nantmel

Ward Llanfihangel Helygen a Llanllŷr o gymuned Llanllŷr, a chymunedau Abaty Cwm-hir, Nantmel, a Saint Harmon

1

Machynlleth

Machynlleth

Cymuned Machynlleth

1

Maescar and Llywel

Maes-car a Llywel

Cymunedau Crai, Llywel, a Maes-car

1

Newtown Central and South

Canol a De’r Drenewydd

Wardiau Canol a De’r Drenewydd o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn

2

Newtown East

Dwyrain y Drenewydd

Ward Dwyrain y Drenewydd o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn

1

Newtown North

Gogledd y Drenewydd

Ward Gogledd Llanllwchaearn o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn

1

Newtown West

Gorllewin y Drenewydd

Ward Gorllewin Llanllwchaearn o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn

1

Old Radnor

Pencraig

Cymunedau Llanfair Llythynwg, Maesyfed a Phencraig

1

Presteigne

Llanandras

Ward Tref Llanandras o gymuned Llanandras

1

Rhayader

Rhaeadr Gwy

Cymuned Rhaeadr Gwy

1

Rhiwcynon

Rhiwcynon

Cymunedau Aberhafesb, Dwyriw, Manafon, a Thregynon

1

Talgarth

Talgarth

Cymuned Talgarth

1

Talybont-on-Usk

Tal-y-bont ar Wysg

Cymunedau Glyn Tarell, Llanfrynach, a Thal-y-bont ar Wysg

1

Tawe Uchaf

Tawe Uchaf

Cymunedau Ystradfellte a Thawe Uchaf

1

Trelystan and Trewern

Trelystan a Thre-wern

Ward Trelystan o gymuned Ffordun gyda Thre’r-llai a Threlystan, a chymuned Tre-wern

1

Welshpool Castle

Y Trallwng Castell

Ward y Castell o gymuned y Trallwng

1

Welshpool Gungrog

Y Trallwng Gungrog

Ward Gungrog o gymuned y Trallwng

1

Welshpool Llanerchyddol

Y Trallwng Llanerchyddol

Ward Llanerchyddol o gymuned y Trallwng

1

Ynyscedwyn

Ynysgedwyn

Ward Ynysgedwyn o gymuned Ystradgynlais

1

Yscir with Honddu Isaf and Llanddew

Ysgir gyda Honddu Isaf a Llan-ddew

Cymunedau Honddu Isaf, Llan-ddew, Merthyr Cynog, Trallong, ac Ysgir

1

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mawrth 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Powys. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 73 i 60, a lleihau nifer y cynghorwyr o 73 i 68.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Powys ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Powys.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Llanerchyddol, Gungrog a’r Castell yng nghymuned y Trallwng. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Sir Powys. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Powys yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.