Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1081 (Cy. 256)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

22 Medi 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mawrth 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Powys;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Powys, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Powys wedi ei rhannu’n 60 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Cymuned y Trallwng: newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Yng nghymuned y Trallwng—

(a)mae’r rhan o ward Llanerchyddol a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;

(b)mae’r rhan o ward Gungrog a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;

(c)mae’r rhan o ward Gungrog a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Llanerchyddol.

Cymuned y Trallwng: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

5.  Yng nghymuned y Trallwng—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Castell yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gungrog yw 5;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Llanerchyddol yw 5.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Medi 2021

Erthygl 3

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Aber-craf and YstradgynlaisAber-craf ac YstradgynlaisWardiau Aber-craf ac Ystradgynlais o gymuned Ystradgynlais2
Banwy, Llanfihangel and LlanwddynBanwy, Llanfihangel a LlanwddynCymunedau Banwy, Llanfihangel, Llangynog, Llanwddyn, a Phen-y-bont-fawr1
Berriew and Castle CaereinionAberriw a Chastell CaereinionCymunedau Aberriw a Chastell Caereinion1
Brecon EastDwyrain AberhondduWardiau Dwyrain Sant Ioan a Santes Fair o gymuned Aberhonddu2
Brecon WestGorllewin AberhondduWardiau Dewi Sant Fewnol a Gorllewin Sant Ioan o gymuned Aberhonddu2
Bronllys and Felin-fachBronllys a Felin-fachCymunedau Bronllys, Erwyd, a Felin-fach1
BuilthLlanfair-ym-MualltCymuned Llanfair-ym-Muallt1
CaerswsCaersŵsCymunedau Carno a Chaersŵs1
ChurchstokeYr YstogCymuned yr Ystog1
Crickhowell with Cwmdu and TretowerCrucywel gyda Chwm-du a ThretŵrWardiau Cwm-du a Thretŵr o gymuned Cwm-du a’r Cylch, a chymunedau Crucywel a Dyffryn Grwyne2
Cwm-twrchCwm-twrchWard Cwm-twrch o gymuned Ystradgynlais1
Disserth and Trecoed with NewbridgeDiserth a Thre-coed gyda’r Bontnewydd-ar-WyWard y Bontnewydd-ar-Wy o gymuned Llanllŷr, a chymuned Diserth a Thre-coed1
DolforwynDolforwynCymunedau Aber-miwl gyda Llandysul, a Betws Cedewain1
Forden and MontgomeryFfordun a ThrefaldwynWard Ffordun o gymuned Ffordun gyda Thre’r-llai a Threlystan, a chymuned Trefaldwyn1
GlantwymynGlantwymynCymunedau Cadfarch a Glantwymyn1
GlasburyY Clas-ar-WyCymunedau Cleiro a’r Clas-ar-Wy1
GuilsfieldCegidfaCymuned Cegidfa1
GwernyfedGwernyfedCymunedau Gwernyfed a Llanigon1
HayY GelliCymuned y Gelli1
Ithon ValleyDyffryn IeithonCymunedau Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Fynydd, Llanbister, Llanddewi Ystradenni a Phen-y-bont1
KerryCeriWardiau Ceri a Sarn o gymuned Ceri1
Knighton with BeguildyTrefyclo gyda BugeildyCymunedau Bugeildy a Threfyclo2
Llanafanfawr with GarthLlanafan-fawr gyda GarthWard Garth o gymuned Treflys, a chymunedau Cilmeri, Duhonw, Llanafan-fawr, a Llanwrthwl1
LlanbrynmairLlanbrynmairCymunedau Llanbrynmair a Threfeglwys1
Llandinam with DolforLlandinam gyda DolforWard Dolfor o gymuned Ceri, a chymunedau Llandinam, a Mochdre gyda Phenystrywaid1
Llandrindod NorthGogledd LlandrindodWard Gogledd Llandrindod o gymuned Llandrindod1
Llandrindod SouthDe LlandrindodWardiau Dwyrain Llandrindod, Gorllewin Llandrindod, De Llandrindod Rhif 1, a De Llandrindod Rhif 2 o gymuned Llandrindod2
LlandrinioLlandrinioCymuned Llandrinio1
LlandysilioLlandysilioCymuned Llandysilio1
LlanelweddLlanelweddCymunedau Aberedw, Glasgwm, Llanelwedd a Chastell-paen1
Llanfair Caereinion and LlanerfylLlanfair Caereinion a LlanerfylCymunedau Llanerfyl a Llanfair Caereinion1
LlanfyllinLlanfyllinCymuned Llanfyllin1
Llangattock and LlangynidrLlangatwg a LlangynidrCymunedau Llangatwg a Llangynidr1
Llangors with BwlchLlan-gors gyda BwlchWard Bwlch o gymuned Cwm-du a’r Cylch, a chymuned Llan-gors1
Llangunllo with NortonLlangynllo gyda NortonWard Norton o gymuned Llanandras, a chymunedau Llanfihangel Rhydieithon, Llangynllo, a Hwytyn1
Llangyniew and MeifodLlangynyw a MeifodCymunedau Llangynyw a Meifod1
LlanidloesLlanidloesCymunedau Llangurig, Llanidloes Allanol, a Llanidloes2
Llanrhaeadr-ym-Mochnant and LlansilinLlanrhaeadr-ym-Mochnant a LlansilinCymunedau Llangedwyn, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a Llansilin1
LlansantffraidLlansanffraidCymuned Llansanffraid1
Llanwrtyd WellsLlanwrtydWard Beulah o gymuned Treflys, a chymunedau Llangamarch a Llanwrtyd1
Llanyre with NantmelLlanllŷr gyda NantmelWard Llanfihangel Helygen a Llanllŷr o gymuned Llanllŷr, a chymunedau Abaty Cwm-hir, Nantmel, a Saint Harmon1
MachynllethMachynllethCymuned Machynlleth1
Maescar and LlywelMaes-car a LlywelCymunedau Crai, Llywel, a Maes-car1
Newtown Central and SouthCanol a De’r DrenewyddWardiau Canol a De’r Drenewydd o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn2
Newtown EastDwyrain y DrenewyddWard Dwyrain y Drenewydd o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn1
Newtown NorthGogledd y DrenewyddWard Gogledd Llanllwchaearn o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn1
Newtown WestGorllewin y DrenewyddWard Gorllewin Llanllwchaearn o dref y Drenewydd a Llanllwchaearn1
Old RadnorPencraigCymunedau Llanfair Llythynwg, Maesyfed a Phencraig1
PresteigneLlanandrasWard Tref Llanandras o gymuned Llanandras1
RhayaderRhaeadr GwyCymuned Rhaeadr Gwy1
RhiwcynonRhiwcynonCymunedau Aberhafesb, Dwyriw, Manafon, a Thregynon1
TalgarthTalgarthCymuned Talgarth1
Talybont-on-UskTal-y-bont ar WysgCymunedau Glyn Tarell, Llanfrynach, a Thal-y-bont ar Wysg1
Tawe UchafTawe UchafCymunedau Ystradfellte a Thawe Uchaf1
Trelystan and TrewernTrelystan a Thre-wernWard Trelystan o gymuned Ffordun gyda Thre’r-llai a Threlystan, a chymuned Tre-wern1
Welshpool CastleY Trallwng CastellWard y Castell o gymuned y Trallwng1
Welshpool GungrogY Trallwng GungrogWard Gungrog o gymuned y Trallwng1
Welshpool LlanerchyddolY Trallwng LlanerchyddolWard Llanerchyddol o gymuned y Trallwng1
YnyscedwynYnysgedwynWard Ynysgedwyn o gymuned Ystradgynlais1
Yscir with Honddu Isaf and LlanddewYsgir gyda Honddu Isaf a Llan-ddewCymunedau Honddu Isaf, Llan-ddew, Merthyr Cynog, Trallong, ac Ysgir1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mawrth 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Powys. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 73 i 60, a lleihau nifer y cynghorwyr o 73 i 68.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Powys ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Powys.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Llanerchyddol, Gungrog a’r Castell yng nghymuned y Trallwng. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Sir Powys. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Powys yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.