Search Legislation

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1080 (Cy. 255)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

22 Medi 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mawrth 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a), (b) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 9 map a farciwyd “Map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “9”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013], ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon TafLL+C

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ei rhannu’n 46 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 3 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau i ffiniau ward gymunedolLL+C

4.  Mae’r rhan o ward Ton-teg ward o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 4 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

5.  Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref yw 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 5 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Pont-y-clun: diddymu wardiau cymunedol a’u creuLL+C

6.  Mae wardiau cymunedol Cefnyrhendy, y Groes-faen, Maes-y-felin a Meisgyn yng nghymuned Pont-y-clun wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 6 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

7.  Mae cymuned Pont-y-clun i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—

(a)ward Dwyrain Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 2;

(b)ward Canol Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 3;

(c)ward Gorllewin Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Ergl. 7 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I14Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Pont-y-clun: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

8.  Yng nghymuned Pont-y-clun—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Pont-y-clun yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Pont-y-clun yw 4;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Pont-y-clun yw 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 8 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I16Ergl. 8 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Llwynypia, Trealaw ac Ystrad: newidiadau i ffiniau cymunedolLL+C

9.—(1Mae’r rhan o gymuned Ystrad a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.

(2Mae’r rhan o gymuned Trealaw a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Ergl. 9 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I18Ergl. 9 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Trehafod a Thref Pontypridd: newidiadau i ffiniau cymunedolLL+C

10.  Mae’r rhan o gymuned Tref Pontypridd a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i gymuned Trehafod.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Ergl. 10 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I20Ergl. 10 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Tref Pontypridd: diddymu wardiau cymunedol a’u creuLL+C

11.  Mae wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen, a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Ergl. 11 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I22Ergl. 11 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

12.  Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio yng nghymuned Tref Pontypridd—

(a)ward Canol Rhydfelen a ddangosir â llinellau ar Fap 7;

(b)ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf a ddangosir â llinellau ar Fap 8;

(c)ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf a ddangosir â llinellau ar Fap 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Ergl. 12 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I24Ergl. 12 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Tref Pontypridd: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

13.  Yng nghymuned Tref Pontypridd—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Rhydfelen yw 2;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf yw 2;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf yw 2;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhondda yw 3;

(e)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trefforest yw 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Ergl. 13 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I26Ergl. 13 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Medi 2021

Erthygl 3

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I28Atod. mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
AberamanAberamanCymunedau Gogledd Aberaman a De Aberaman3
AbercynonAbercynonCymuned Abercynon2
Aberdare EastDwyrain AberdârCymuned Dwyrain Aberdâr2
Aberdare West and LlwydcoedGorllewin Aberdâr a LlwydcoedCymunedau Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed3
Beddau and Tyn-y-nantBeddau a Thyn-y-nantWardiau Beddau a Thyn-y-nant o gymuned Llanilltud Faerdref2
Brynna and LlanharanBrynna a LlanharanWardiau Brynna, Llanilid a Llanharan o gymuned Llanharan3
Church VillagePentre’r EglwysWard Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref2
CilfynyddCilfynyddWard Cilfynydd o gymuned Tref Pontypridd1
Cwm ClydachCwm ClydachCymuned Cwm Clydach1
CwmbachCwm-bachCymuned Cwm-bach2
CymerCymerCymunedau Cymer a Threhafod2
Ferndale and MaerdyGlynrhedynog a’r MaerdyCymunedau Glynrhedynog a’r Maerdy2
Gilfach-gochGilfach-gochCymuned Gilfach-goch1
Glyn-cochGlyn-cochWard Glyn-coch o gymuned Tref Pontypridd1
Graig and Pontypridd WestY Graig a Gorllewin PontypriddWardiau y Graig a Rhondda o gymuned Tref Pontypridd2
Hawthorn and Lower RhydfelenY Ddraenen-wen a Rhydfelen IsafWard y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf o gymuned Tref Pontypridd1
Hirwaun, Penderyn and RhigosHirwaun, Penderyn a’r RhigosCymunedau Hirwaun a’r Rhigos2
LlanharryLlanhariWard Llanhari o gymuned Llanhari1
Llantrisant and Talbot GreenLlantrisant a ThonysguboriauWardiau Tref Llantrisant a Thonysguboriau o gymuned Llantrisant2
Llantwit FardreLlanilltud FaerdrefWardiau Efail Isaf a Llanilltud Faerdref o gymuned Llanilltud Faerdref2
Llwyn-y-piaLlwynypiaCymuned Llwynypia1
Mountain AshAberpennarCymunedau Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar2
Penrhiw-ceibrPenrhiw-ceibrCymuned Penrhiw-ceibr2
PentrePentreCymuned Pentre2
Pen-y-graigPen-y-graigCymuned Pen-y-graig2
Pen-y-waunPen-y-waunCymuned Pen-y-waun1
Pontyclun CentralCanol Pont-y-clunWard Canol Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun1
Pontyclun EastDwyrain Pont-y-clunWard Dwyrain Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun1
Pontyclun WestGorllewin Pont-y-clunWard Gorllewin Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun a ward Tylegarw o gymuned Llanhari1
Pontypridd TownTref PontypriddWard Tref Pontypridd o gymuned Tref Pontypridd1
PorthPorthCymuned Porth2
Rhydfelen CentralCanol RhydfelenWard Canol Rhydfelen o gymuned Tref Pontypridd1
Taff’s WellFfynnon TafCymuned Ffynnon Taf1
Ton-tegTon-tegWard Ton-teg o gymuned Llanilltud Faerdref1
TonypandyTonypandyCymuned Tonypandy1
Tonyrefail EastDwyrain TonyrefailWardiau Coedelái, Collena a Thylcha o gymuned Tonyrefail2
Tonyrefail WestGorllewin TonyrefailWardiau Penrhiw-fer, Tretomas a Thyn-y-bryn o gymuned Tonyrefail2
TrallwngTrallwngWard Trallwng o gymuned Tref Pontypridd1
TrealawTrealawCymuned Trealaw1
TreforestTrefforestWard Trefforest o gymuned Tref Pontypridd1
TreherbertTreherbertCymuned Treherbert2
TreorchyTreorciCymuned Treorci2
Tylorstown and YnyshirTylorstown ac Ynys-hirCymunedau Tylorstown ac Ynys-hir2
Upper Rhydfelen and Glyn-tafRhydfelen Uchaf a Glyn-tafWard Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf o gymuned Tref Pontypridd1
YnysybwlYnys-y-bwlCymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm2
YstradYstradCymuned Ystrad2

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mawrth 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 52 i 46, ond argymhellwyd bod nifer y cynghorwyr yn parhau yn 75.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Ton-teg a Phentre’r Eglwys yng nghymuned Llanilltud Faerdref. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys.

Mae erthygl 6 yn diddymu’r wardiau cymunedol yng nghymuned Pont-y-clun, ac mae erthygl 7 yn creu wardiau cymunedol newydd Dwyrain Pont-y-clun, Canol Pont-y-clun a Gorllewin Pont-y-clun. Mae erthygl 8 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.

Mae erthygl 9 yn gwneud newidiadau i ffiniau cymunedau Ystrad, Llwynypia a Threalaw.

Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer trosglwyddo ardal o gymuned Tref Pontypridd i gymuned Trehafod.

Mae erthygl 11 yn diddymu wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd. Mae erthygl 12 yn creu wardiau cymunedol newydd Canol Rhydfelen, y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf, a Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf. Mae erthygl 13 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd hyn, ac yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol yn wardiau Cwm Rhondda a Threfforest.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “9” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Cymru), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”), ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources