Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a), (b) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn
1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2)
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3)
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 9 map a farciwyd “Map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “9”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
3.
(1)
Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2)
Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ei rhannu’n 46 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3)
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4)
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau i ffiniau ward gymunedol
4.
Mae’r rhan o ward Ton-teg ward o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref.
Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
5.
Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref yw 5.
Cymuned Pont-y-clun: diddymu wardiau cymunedol a’u creu
6.
Mae wardiau cymunedol Cefnyrhendy, y Groes-faen, Maes-y-felin a Meisgyn yng nghymuned Pont-y-clun wedi eu diddymu.
7.
Mae cymuned Pont-y-clun i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—
(a)
ward Dwyrain Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 2;
(b)
ward Canol Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 3;
(c)
ward Gorllewin Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 4.
Cymuned Pont-y-clun: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
8.
Yng nghymuned Pont-y-clun—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Pont-y-clun yw 3;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Pont-y-clun yw 4;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Pont-y-clun yw 4.
Cymunedau Llwynypia, Trealaw ac Ystrad: newidiadau i ffiniau cymunedol
9.
(1)
Mae’r rhan o gymuned Ystrad a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.
(2)
Mae’r rhan o gymuned Trealaw a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.
Cymunedau Trehafod a Thref Pontypridd: newidiadau i ffiniau cymunedol
10.
Mae’r rhan o gymuned Tref Pontypridd a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i gymuned Trehafod.
Cymuned Tref Pontypridd: diddymu wardiau cymunedol a’u creu
11.
Mae wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen, a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd wedi eu diddymu.
12.
Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio yng nghymuned Tref Pontypridd—
(a)
ward Canol Rhydfelen a ddangosir â llinellau ar Fap 7;
(b)
ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf a ddangosir â llinellau ar Fap 8;
(c)
ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf a ddangosir â llinellau ar Fap 9.
Cymuned Tref Pontypridd: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
13.
Yng nghymuned Tref Pontypridd—
(a)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Rhydfelen yw 2;
(b)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf yw 2;
(c)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf yw 2;
(d)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhondda yw 3;
(e)
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trefforest yw 3.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
|---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Aberaman | Aberaman | Cymunedau Gogledd Aberaman a De Aberaman | 3 |
Abercynon | Abercynon | Cymuned Abercynon | 2 |
Aberdare East | Dwyrain Aberdâr | Cymuned Dwyrain Aberdâr | 2 |
Aberdare West and Llwydcoed | Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed | Cymunedau Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed | 3 |
Beddau and Tyn-y-nant | Beddau a Thyn-y-nant | Wardiau Beddau a Thyn-y-nant o gymuned Llanilltud Faerdref | 2 |
Brynna and Llanharan | Brynna a Llanharan | Wardiau Brynna, Llanilid a Llanharan o gymuned Llanharan | 3 |
Church Village | Pentre’r Eglwys | Ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref | 2 |
Cilfynydd | Cilfynydd | Ward Cilfynydd o gymuned Tref Pontypridd | 1 |
Cwm Clydach | Cwm Clydach | Cymuned Cwm Clydach | 1 |
Cwmbach | Cwm-bach | Cymuned Cwm-bach | 2 |
Cymer | Cymer | Cymunedau Cymer a Threhafod | 2 |
Ferndale and Maerdy | Glynrhedynog a’r Maerdy | Cymunedau Glynrhedynog a’r Maerdy | 2 |
Gilfach-goch | Gilfach-goch | Cymuned Gilfach-goch | 1 |
Glyn-coch | Glyn-coch | Ward Glyn-coch o gymuned Tref Pontypridd | 1 |
Graig and Pontypridd West | Y Graig a Gorllewin Pontypridd | Wardiau y Graig a Rhondda o gymuned Tref Pontypridd | 2 |
Hawthorn and Lower Rhydfelen | Y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf | Ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf o gymuned Tref Pontypridd | 1 |
Hirwaun, Penderyn and Rhigos | Hirwaun, Penderyn a’r Rhigos | Cymunedau Hirwaun a’r Rhigos | 2 |
Llanharry | Llanhari | Ward Llanhari o gymuned Llanhari | 1 |
Llantrisant and Talbot Green | Llantrisant a Thonysguboriau | Wardiau Tref Llantrisant a Thonysguboriau o gymuned Llantrisant | 2 |
Llantwit Fardre | Llanilltud Faerdref | Wardiau Efail Isaf a Llanilltud Faerdref o gymuned Llanilltud Faerdref | 2 |
Llwyn-y-pia | Llwynypia | Cymuned Llwynypia | 1 |
Mountain Ash | Aberpennar | Cymunedau Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar | 2 |
Penrhiw-ceibr | Penrhiw-ceibr | Cymuned Penrhiw-ceibr | 2 |
Pentre | Pentre | Cymuned Pentre | 2 |
Pen-y-graig | Pen-y-graig | Cymuned Pen-y-graig | 2 |
Pen-y-waun | Pen-y-waun | Cymuned Pen-y-waun | 1 |
Pontyclun Central | Canol Pont-y-clun | Ward Canol Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun | 1 |
Pontyclun East | Dwyrain Pont-y-clun | Ward Dwyrain Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun | 1 |
Pontyclun West | Gorllewin Pont-y-clun | Ward Gorllewin Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun a ward Tylegarw o gymuned Llanhari | 1 |
Pontypridd Town | Tref Pontypridd | Ward Tref Pontypridd o gymuned Tref Pontypridd | 1 |
Porth | Porth | Cymuned Porth | 2 |
Rhydfelen Central | Canol Rhydfelen | Ward Canol Rhydfelen o gymuned Tref Pontypridd | 1 |
Taff’s Well | Ffynnon Taf | Cymuned Ffynnon Taf | 1 |
Ton-teg | Ton-teg | Ward Ton-teg o gymuned Llanilltud Faerdref | 1 |
Tonypandy | Tonypandy | Cymuned Tonypandy | 1 |
Tonyrefail East | Dwyrain Tonyrefail | Wardiau Coedelái, Collena a Thylcha o gymuned Tonyrefail | 2 |
Tonyrefail West | Gorllewin Tonyrefail | Wardiau Penrhiw-fer, Tretomas a Thyn-y-bryn o gymuned Tonyrefail | 2 |
Trallwng | Trallwng | Ward Trallwng o gymuned Tref Pontypridd | 1 |
Trealaw | Trealaw | Cymuned Trealaw | 1 |
Treforest | Trefforest | Ward Trefforest o gymuned Tref Pontypridd | 1 |
Treherbert | Treherbert | Cymuned Treherbert | 2 |
Treorchy | Treorci | Cymuned Treorci | 2 |
Tylorstown and Ynyshir | Tylorstown ac Ynys-hir | Cymunedau Tylorstown ac Ynys-hir | 2 |
Upper Rhydfelen and Glyn-taf | Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf | Ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf o gymuned Tref Pontypridd | 1 |
Ynysybwl | Ynys-y-bwl | Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm | 2 |
Ystrad | Ystrad | Cymuned Ystrad | 2 |
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mawrth 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 52 i 46, ond argymhellwyd bod nifer y cynghorwyr yn parhau yn 75.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Ton-teg a Phentre’r Eglwys yng nghymuned Llanilltud Faerdref. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys.
Mae erthygl 6 yn diddymu’r wardiau cymunedol yng nghymuned Pont-y-clun, ac mae erthygl 7 yn creu wardiau cymunedol newydd Dwyrain Pont-y-clun, Canol Pont-y-clun a Gorllewin Pont-y-clun. Mae erthygl 8 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.
Mae erthygl 9 yn gwneud newidiadau i ffiniau cymunedau Ystrad, Llwynypia a Threalaw.
Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer trosglwyddo ardal o gymuned Tref Pontypridd i gymuned Trehafod.
Mae erthygl 11 yn diddymu wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd. Mae erthygl 12 yn creu wardiau cymunedol newydd Canol Rhydfelen, y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf, a Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf. Mae erthygl 13 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd hyn, ac yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol yn wardiau Cwm Rhondda a Threfforest.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “9” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Cymru), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.