Search Legislation

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(2);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 9 map a farciwyd “Map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “9”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013], ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon TafLL+C

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ei rhannu’n 46 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 3 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau i ffiniau ward gymunedolLL+C

4.  Mae’r rhan o ward Ton-teg ward o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 4 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

5.  Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref yw 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 5 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Pont-y-clun: diddymu wardiau cymunedol a’u creuLL+C

6.  Mae wardiau cymunedol Cefnyrhendy, y Groes-faen, Maes-y-felin a Meisgyn yng nghymuned Pont-y-clun wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 6 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

7.  Mae cymuned Pont-y-clun i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—

(a)ward Dwyrain Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 2;

(b)ward Canol Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 3;

(c)ward Gorllewin Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Ergl. 7 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I14Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Pont-y-clun: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

8.  Yng nghymuned Pont-y-clun—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Pont-y-clun yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Pont-y-clun yw 4;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Pont-y-clun yw 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 8 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I16Ergl. 8 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Llwynypia, Trealaw ac Ystrad: newidiadau i ffiniau cymunedolLL+C

9.—(1Mae’r rhan o gymuned Ystrad a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.

(2Mae’r rhan o gymuned Trealaw a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Ergl. 9 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I18Ergl. 9 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Trehafod a Thref Pontypridd: newidiadau i ffiniau cymunedolLL+C

10.  Mae’r rhan o gymuned Tref Pontypridd a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i gymuned Trehafod.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Ergl. 10 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I20Ergl. 10 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Tref Pontypridd: diddymu wardiau cymunedol a’u creuLL+C

11.  Mae wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen, a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd wedi eu diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Ergl. 11 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I22Ergl. 11 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

12.  Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio yng nghymuned Tref Pontypridd—

(a)ward Canol Rhydfelen a ddangosir â llinellau ar Fap 7;

(b)ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf a ddangosir â llinellau ar Fap 8;

(c)ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf a ddangosir â llinellau ar Fap 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Ergl. 12 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I24Ergl. 12 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Tref Pontypridd: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

13.  Yng nghymuned Tref Pontypridd—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Rhydfelen yw 2;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf yw 2;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf yw 2;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhondda yw 3;

(e)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trefforest yw 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Ergl. 13 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I26Ergl. 13 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Medi 2021

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources