Enwi a chychwyn

1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2)

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3)

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.
Annotations:
Commencement Information

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Dehongli

2.

Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 9 map a farciwyd “Map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “9”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

3.

(1)

Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2)

Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ei rhannu’n 46 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3)

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4)

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5)

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.
Annotations:
Commencement Information

I5Ergl. 3 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau i ffiniau ward gymunedol

4.

Mae’r rhan o ward Ton-teg ward o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref.

Annotations:
Commencement Information

I7Ergl. 4 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

5.

Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref yw 5.

Annotations:
Commencement Information

I9Ergl. 5 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Pont-y-clun: diddymu wardiau cymunedol a’u creu

6.

Mae wardiau cymunedol Cefnyrhendy, y Groes-faen, Maes-y-felin a Meisgyn yng nghymuned Pont-y-clun wedi eu diddymu.

Annotations:
Commencement Information

I11Ergl. 6 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

7.

Mae cymuned Pont-y-clun i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—

(a)

ward Dwyrain Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 2;

(b)

ward Canol Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 3;

(c)

ward Gorllewin Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 4.

Annotations:
Commencement Information

I13Ergl. 7 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I14Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Pont-y-clun: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

8.

Yng nghymuned Pont-y-clun—

(a)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Pont-y-clun yw 3;

(b)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Pont-y-clun yw 4;

(c)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Pont-y-clun yw 4.

Annotations:
Commencement Information

I15Ergl. 8 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I16Ergl. 8 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Llwynypia, Trealaw ac Ystrad: newidiadau i ffiniau cymunedol

9.

(1)

Mae’r rhan o gymuned Ystrad a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.

(2)

Mae’r rhan o gymuned Trealaw a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.

Annotations:
Commencement Information

I17Ergl. 9 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I18Ergl. 9 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Trehafod a Thref Pontypridd: newidiadau i ffiniau cymunedol

10.

Mae’r rhan o gymuned Tref Pontypridd a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i gymuned Trehafod.

Annotations:
Commencement Information

I19Ergl. 10 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I20Ergl. 10 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Tref Pontypridd: diddymu wardiau cymunedol a’u creu

11.

Mae wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen, a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd wedi eu diddymu.

Annotations:
Commencement Information

I21Ergl. 11 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I22Ergl. 11 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

12.

Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio yng nghymuned Tref Pontypridd—

(a)

ward Canol Rhydfelen a ddangosir â llinellau ar Fap 7;

(b)

ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf a ddangosir â llinellau ar Fap 8;

(c)

ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf a ddangosir â llinellau ar Fap 9.

Annotations:
Commencement Information

I23Ergl. 12 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I24Ergl. 12 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Tref Pontypridd: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

13.

Yng nghymuned Tref Pontypridd—

(a)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Rhydfelen yw 2;

(b)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf yw 2;

(c)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf yw 2;

(d)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhondda yw 3;

(e)

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trefforest yw 3.

Annotations:
Commencement Information

I25Ergl. 13 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I26Ergl. 13 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru