- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
2 Awst 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
(3) ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2); ac
(4) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
2. Y diwrnodau sydd wedi eu pennu er mwyn i adran 1 o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) ddod i rym yw—
(a)3 Awst 2016 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25D o Ddeddf 2006 (lefelau staff nyrsio: canllawiau);
(b)6 Ebrill 2017 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25A o Ddeddf 2006 (dyletswydd i roi sylw i ddarparu digon o nyrsys); ac
(c)6 Ebrill 2018 i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 25B, 25C a 25E o Ddeddf 2006 (dyletswydd i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio, lefelau staff nyrsio: y dull o gyfrifo a lefelau staff nyrsio: adroddiadau).
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
2 Awst 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae tair adran i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Daeth adrannau 2 (cychwyn) a 3 (enw byr) i rym ar 21 Mawrth 2016, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 1 o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) mewn tri cham. Mae adran 1 yn mewnosod adrannau newydd 25A i 25E yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”).
Mae erthygl 2(a) yn dwyn i rym adran 1 o’r Ddeddf ar 3 Awst 2016 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25D (lefelau staff nyrsio: canllawiau) o Ddeddf 2006.
Mae adran 25D yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyflwyno canllawiau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru (pan fo hynny’n gymwys) ar y dyletswyddau o dan adrannau 25B a 25C.
Mae erthygl 2(b) yn dwyn i rym adran 1 o’r Ddeddf ar 6 Ebrill 2017 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25A (dyletswydd i roi sylw i ddarparu digon o nyrsys) o Ddeddf 2006.
Mae adran 25A yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru, wrth ystyried faint o nyrsys y mae eu hangen i fodloni’r holl ofynion rhesymol, i roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys ofalu am gleifion mewn modd sensitif.
Mae erthygl 2(c) yn dwyn i rym adran 1 o’r Ddeddf ar 6 Ebrill 2018 i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 25B, 25C a 25E o Ddeddf 2006 (dyletswydd i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio, lefelau staff nyrsio: y dull o gyfrifo a lefelau staff nyrsio: adroddiadau).
Mae adran 25B yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio mewn lleoliadau penodedig ac i hysbysu cleifion am y lefel honno.
Mae adran 25C yn nodi’r dull o gyfrifo’r lefel staff nyrsio.
Mae adran 25E yn nodi’r gofynion adrodd ar gyfer y Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: