2016 Rhif 829 (Cy. 208) (C. 59)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn) 2016

Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 20161 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn) 2016.

(2)

Yn y Gorchymyn hwn—

(3)

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20062; ac

(4)

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.

Y diwrnodau sydd wedi eu pennu er mwyn i adran 1 o’r Ddeddf ddod i rym2.

Y diwrnodau sydd wedi eu pennu er mwyn i adran 1 o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) ddod i rym yw—

(a)

3 Awst 2016 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25D o Ddeddf 2006 (lefelau staff nyrsio: canllawiau);

(b)

6 Ebrill 2017 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25A o Ddeddf 2006 (dyletswydd i roi sylw i ddarparu digon o nyrsys); ac

(c)

6 Ebrill 2018 i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 25B, 25C a 25E o Ddeddf 2006 (dyletswydd i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio, lefelau staff nyrsio: y dull o gyfrifo a lefelau staff nyrsio: adroddiadau).

Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae tair adran i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Daeth adrannau 2 (cychwyn) a 3 (enw byr) i rym ar 21 Mawrth 2016, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 1 o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) mewn tri cham. Mae adran 1 yn mewnosod adrannau newydd 25A i 25E yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”).

Mae erthygl 2(a) yn dwyn i rym adran 1 o’r Ddeddf ar 3 Awst 2016 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25D (lefelau staff nyrsio: canllawiau) o Ddeddf 2006.

Mae adran 25D yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyflwyno canllawiau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru (pan fo hynny’n gymwys) ar y dyletswyddau o dan adrannau 25B a 25C.

Mae erthygl 2(b) yn dwyn i rym adran 1 o’r Ddeddf ar 6 Ebrill 2017 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25A (dyletswydd i roi sylw i ddarparu digon o nyrsys) o Ddeddf 2006.

Mae adran 25A yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru, wrth ystyried faint o nyrsys y mae eu hangen i fodloni’r holl ofynion rhesymol, i roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys ofalu am gleifion mewn modd sensitif.

Mae erthygl 2(c) yn dwyn i rym adran 1 o’r Ddeddf ar 6 Ebrill 2018 i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 25B, 25C a 25E o Ddeddf 2006 (dyletswydd i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio, lefelau staff nyrsio: y dull o gyfrifo a lefelau staff nyrsio: adroddiadau).

Mae adran 25B yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio mewn lleoliadau penodedig ac i hysbysu cleifion am y lefel honno.

Mae adran 25C yn nodi’r dull o gyfrifo’r lefel staff nyrsio.

Mae adran 25E yn nodi’r gofynion adrodd ar gyfer y Ddeddf.