- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
4 Medi 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Medi 2015
Yn dod i rym
1 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Iechyd 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae’r ffurflen hysbysiad cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn wedi ei phennu mewn perthynas â’r drosedd o brynu neu geisio prynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran unigolyn o dan 18 oed o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014(2).
(2) Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol ddefnyddio ffurflen hysbysiad cosb o faint neu ddyluniad sy’n wahanol i’r ffurflen yn yr Atodlen, ar yr amod nad yw cynnwys y ffurflen hysbysiad cosb yn cael ei newid o’r hyn a bennir yn yr Atodlen ac eithrio fel y’i caniateir gan baragraff (3).
(3) Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol gynnwys mewn ffurflen hysbysiad cosb—
(a)gwybodaeth neu enghreifftiau i gynorthwyo person y’i rhoddir iddo, er enghraifft o ran sut y gellir gwneud taliadau;
(b)gwybodaeth neu enghreifftiau i’w gynorthwyo wrth gyflawni ei swyddogaethau gorfodi o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, er enghraifft i’w gynorthwyo yn ei weithdrefnau gweinyddol neu i brosesu data;
(c)arfbeisiau neu logos.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Medi 2015
Rheoliad 2(1)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan Atodlen 1 i Ddeddf Iechyd 2006, yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â throseddau o dan adran 91(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod modd defnyddio’r ffurflen Hysbysiad Cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn pan honnir bod oedolyn wedi cyflawni’r drosedd o brynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran person o dan 18 oed.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2006 p. 28. Am ystyr “the appropriate national authority” gweler adran 82(1) o Ddeddf Iechyd 2006 (“Deddf 2006”). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau’r “appropriate national authority” o ran Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Mae Atodlen 1 i Ddeddf 2006 yn gymwys gydag addasiadau i drosedd o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (“Deddf 2014”) yn rhinwedd adran 91(5) o Ddeddf 2014. Estynnwyd adran 91 o Ddeddf 2014 i gynnwys cynhyrchion nicotin perthnasol gan reoliad 2 o O.S. 2015/895.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: