Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1663 (Cy. 215)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015

Gwnaed

4 Medi 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Medi 2015

Yn dod i rym

1 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Iechyd 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Ffurflen hysbysiad cosb benodedig

2.—(1Mae’r ffurflen hysbysiad cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn wedi ei phennu mewn perthynas â’r drosedd o brynu neu geisio prynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran unigolyn o dan 18 oed o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014(2).

(2Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol ddefnyddio ffurflen hysbysiad cosb o faint neu ddyluniad sy’n wahanol i’r ffurflen yn yr Atodlen, ar yr amod nad yw cynnwys y ffurflen hysbysiad cosb yn cael ei newid o’r hyn a bennir yn yr Atodlen ac eithrio fel y’i caniateir gan baragraff (3).

(3Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol gynnwys mewn ffurflen hysbysiad cosb—

(a)gwybodaeth neu enghreifftiau i gynorthwyo person y’i rhoddir iddo, er enghraifft o ran sut y gellir gwneud taliadau;

(b)gwybodaeth neu enghreifftiau i’w gynorthwyo wrth gyflawni ei swyddogaethau gorfodi o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, er enghraifft i’w gynorthwyo yn ei weithdrefnau gweinyddol neu i brosesu data;

(c)arfbeisiau neu logos.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Medi 2015

Rheoliad 2(1)

ATODLEN

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan Atodlen 1 i Ddeddf Iechyd 2006, yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â throseddau o dan adran 91(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod modd defnyddio’r ffurflen Hysbysiad Cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn pan honnir bod oedolyn wedi cyflawni’r drosedd o brynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran person o dan 18 oed.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2006 p. 28. Am ystyr “the appropriate national authority” gweler adran 82(1) o Ddeddf Iechyd 2006 (“Deddf 2006”). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau’r “appropriate national authority” o ran Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Mae Atodlen 1 i Ddeddf 2006 yn gymwys gydag addasiadau i drosedd o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (“Deddf 2014”) yn rhinwedd adran 91(5) o Ddeddf 2014. Estynnwyd adran 91 o Ddeddf 2014 i gynnwys cynhyrchion nicotin perthnasol gan reoliad 2 o O.S. 2015/895.