Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Erthyglau 8 a 28

ATODLEN 1LL+CF1Cydnabod Cais

Diwygiadau Testunol

F1Atod. 1: yn y Cydnabod Cais mae'r geiriau “Os byddwch yn apelio, rhaid ichi apelio o fewn y cyfnod o 6 mis” hyd at “(“y dyddiad perthnasol”)]………..” wedi eu hepgor (22.6.2015) yn rhinwedd gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330). erglau. 1(1), 11(1) (gyda ergl. 12)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 2(1)

[F2ATODLEN 1ALL+CDefnydd Datblygiad Masnachol Bach

SiopauLL+C

1.  Defnydd ar gyfer pob un o’r dibenion canlynol neu unrhyw un neu ragor ohonynt—

(a)ar gyfer manwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth,

(b)fel swyddfa bost,

(c)ar gyfer gwerthu tocynnau neu fel asiantaeth deithio,

(ch)ar gyfer gwerthu brechdanau neu fwyd oer arall i’w fwyta i ffwrdd o’r fangre,

(d)ar gyfer trin gwallt,

(dd)ar gyfer trefnu angladdau,

(e)ar gyfer arddangos nwyddau sydd ar werth,

(f)ar gyfer hurio nwyddau neu eitemau domestig neu bersonol,

(ff)ar gyfer golchi neu lanhau dillad neu ffabrigau yn y fangre,

(g)ar gyfer derbyn nwyddau i’w golchi, eu glanhau neu eu hatgyweirio,

pan fo’r gwerthu, yr arddangos neu’r gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Gwasanaethau ariannol a phroffesiynolLL+C

2.  Defnydd ar gyfer darparu—

(a)gwasanaethau ariannol,

(b)gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd neu feddygol), neu

(c)unrhyw wasanaethau eraill (gan gynnwys defnydd fel swyddfa fetio) y mae’n briodol eu darparu mewn ardal siopa,

pan ddarperir y gwasanaethau yn bennaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Bwyd a diodLL+C

3.  Defnydd ar gyfer gwerthu bwyd neu ddiod ar gyfer ei fwyta neu ei yfed yn y fangre neu fwyd poeth ar gyfer ei fwyta i ffwrdd o’r fangre.]

Erthyglau 2C a 2D

[F3ATODLEN 1BLL+CCYHOEDDUSRWYDD AC YMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Erthygl 2D]

ATODLEN 1CLL+CYMGYNGHORI CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Erthyglau 10 a 25

ATODLEN 2LL+CF4F5Hysbysiadau o dan Erthyglau 10 a 25

Diwygiadau Testunol

F4Geiriau yn Atod. 2 a fewnosodwyd cyn y diffiniad o "perchennog" yn yr Hysbysiad o dan Erthygl 10 o Gais am Ganiatâd Cynllunio (22.6.2015) gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 11(3)(a) (gyda ergl. 12)

F5Geiriau yn Atod. 2 a fewnosodwyd cyn y diffiniad o "perchennog" yn yr Hysbysiad Apêl o dan Erthyglau 10 a 25 (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 11(3)(b) (gydag ergl. 12)

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 12

ATODLEN 3LL+CF6Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthyglau 14 a 15

[F7ATODLEN 4LL+CYmgyngoriadau cyn Rhoi Caniatâd

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 4 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

TABL

ParagraffDisgrifiad o’r DatblygiadYmgynghorai
(a)Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar dir yn ardal awdurdod cynllunio lleol arallYr awdurdod cynllunio lleol perthnasol
(b)Datblygiad y gwnaed cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas ag ef i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais), pan fo’r datblygiad hwnnw’n debygol o effeithio ar dir yn ardal cyngor cymunedY cyngor cymuned
(c)

Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau (ac eithrio ar safle niwclear perthnasol), a’r datblygiad yn cynnwys darparu—

(i) llety preswyl;

(ii) mwy na 250metr sgwâro arwynebedd llawr manwerthu;

(iii) mwy na 500 metr sgwâro arwynebedd llawr swyddfa; neu

(iv) mwy na 750 metr sgwâro arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
(d)

Datblygiad o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear at ddibenion y ddarpariaeth hon oherwydd bod sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy yn bresennol yn y cyffiniau ar safle niwclear perthnasol, a’r datblygiad yn cynnwys darparu—

(i) llety preswyl;

(ii) mwy na 250 metr sgwâro arwynebedd llawr manwerthu;

(iii) mwy na 500 metr sgwâro arwynebedd llawr swyddfa; neu

(iv) mwy na 750 metr sgwâro arwynebedd llawr sydd i’w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu rywfodd arall yn debygol o achosi cynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n gweithio o fewn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch, neu sy’n ymweld â’r ardal honno.

Y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear
(e)Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd sylweddol ym maint y traffig, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig—
(i) sy’n ymuno neu’n ymadael â chefnffordd; neuGweinidogion Cymru
(ii) yn defnyddio croesfan dros reilfforddGweithredwr y rhwydwaith sy’n cynnwys y rheilffordd o dan sylw, a Gweinidogion Cymru
(f)Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd sylweddol ym maint y traffig, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig sy’n ymuno neu’n ymadael â ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedigYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(g)Datblygiad sy’n debygol o amharu ar wella neu adeiladu ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedigYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(h)Datblygiad sy’n ymwneud â—
(i) ffurfio, gosod neu addasu unrhyw fynedfa i briffordd (ac eithrio cefnffordd); neuYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(ii) adeiladu priffordd neu fynedfa breifat i fangre, sy’n darparu mynediad i ffordd sydd â gorchymyn tollau mewn grym arni.Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol, ac yn achos ffordd sy’n ddarostyngedig i gonsesiwn, y consesiynydd
(i)Datblygiad sydd at y diben o osod neu adeiladu stryd newydd neu sy’n cynnwys gwaith o’r fathYr awdurdod priffyrdd lleol
(j)Datblygiad, ac eithrio datblygiad gan ddeiliad tŷ, o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan yr Awdurdod Glo at ddiben y ddarpariaeth hon, oherwydd y risg o ansefydlogrwydd a achosir gan fwyngloddio.Yr Awdurdod Glo
(k)Datblygiad sy’n ymwneud â, neu’n cynnwys, gweithrediadau mwyngloddioCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(l)

(i) Datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig.

(ii) Datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r criteria canlynol—

a) bod o fewn pellter o 0.5 cilometr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig;

b) bod o fewn pellter o 1 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 15 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 0.2 hectar neu fwy;

c) bod o fewn pellter o 2 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 50 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 0.5 hectar neu fwy;

d) bod o fewn pellter o 3 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 75 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 1 hectar neu fwy; neu

e) bod o fewn pellter o 5 cilometr o berimedr heneb gofrestredig ac yn 100 metr o uchder neu’n uwch, neu gydag arwynebedd o 1 hectar neu fwy.

(iii) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar barc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig neu leoliad parc neu ardd o’r fath;

(iv) Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig pan fo Asesiad Effaith Amgylcheddol yn ofynnol; neu

(v) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar werth cyffredinol eithriadol Safle Treftadaeth y Byd.

Gweinidogion Cymru
(m)Datblygiad sy’n ymwneud â chyflawni gwaith neu weithrediadau ar wely neu ar lannau afon neu ffrwdCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(n)Datblygiad at y diben o buro neu storio olewau mwynol a’u deilliadauCorff Adnoddau Naturiol Cymru
(o)Datblygiad sy’n ymwneud â chadw, trin neu waredu carthion, gwastraff masnachol, slyri neu slwtsh (ac eithrio gosod carthffosydd, adeiladu tai pwmpio mewn llinell o garthffosydd, adeiladu tanciau carthion neu garthbyllau sy’n gwasanaethu tai annedd sengl neu garafanau sengl neu adeiladau sengl lle na fydd mwy na deg o bobl fel arfer yn preswylio, gweithio neu ymgynnull, a gwaith sy’n ategol i hynny)Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(p)Datblygiad sy’n ymwneud â defnyddio tir fel mynwent

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol

(q)

Datblygiad sydd—

(i) mewn neu’n debygol o effeithio ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; neu

(ii) mewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ac sydd o fewn dau gilometr i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y rhoddwyd hysbysiad ohoni, neu sy’n cael effaith fel pe bai hysbysiad ohoni wedi ei roi i’r awdurdod cynllunio lleol gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn unol ag adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) fel y’i cymhwysir yng Nghymru gan adran 27AA o’r Ddeddf honno

Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(r)

Datblygiad sy’n ymwneud ag—

(i) unrhyw dir sydd â theatr arno;

(ii) datblygiad preswyl (ac eithrio datblygiad gan ddeiliad tŷ) o fewn 50 metr i theatr (nad yw’n dod o fewn paragraff (i)); neu

(iii) theatr arfaethedig.

Yr Ymddiriedolaeth Theatrau
(s)

Datblygiad nad yw at ddibenion amaethyddol, nad yw’n unol â darpariaethau cynllun datblygu, ac sy’n golygu—

(i) colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu

(ii) colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir ar y pryd (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad yn debygol o arwain at golled bellach o dir amaethyddol a fyddai’n peri bod y golled gronnus o dir amaethyddol yn 20 hectar neu’n fwy.

Gweinidogion Cymru
(t)

Datblygiad sydd o fewn 250 metr i dir—

(i) a ddefnyddir, neu sydd wedi ei ddefnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 30 mlynedd cyn y cais perthnasol, ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff ; a

(ii) yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddibenion y ddarpariaeth hon

Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(u)

Datblygiad—

(i) sy’n debygol o amharu ar ddefnyddio tir, neu arwain at golli’r defnydd o dir, a ddefnyddir fel maes chwarae; neu

(ii) sydd ar dir—

(aa) a ddefnyddiwyd fel maes chwarae ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd cyn gwneud y cais perthnasol ac sy’n parhau heb ei ddatblygu; neu

(bb) a ddyrannwyd ar gyfer ei ddefnyddio fel maes chwarae mewn cynllun datblygu neu mewn cynigion ar gyfer cynllun o’r fath neu ar gyfer ei addasu neu ei amnewid; neu

(iii) sy’n golygu gosod arwyneb artiffisial, arwyneb o wneuthuriad dynol neu arwyneb cyfansawdd ar lain chwarae yn lle arwyneb o laswellt

Cyngor Chwaraeon Cymru
(v)

Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar—

(i) unrhyw ddyfrffordd fewndirol (boed naturiol neu artiffisial) neu gronfa ddŵr sy’n eiddo i’r Canal and River Trust neu a reolir ganddi; neu

(ii) unrhyw sianel gyflenwi, cwrs dŵr, dihangfa dŵr neu gwlfert ar gyfer camlas, sydd o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch at ddibenion y ddarpariaeth hon gan y Canal and River Trust.

The Canal and River Trust
(w)

Datblygiad—

(i) sy’n ymwneud â lleoli sefydliadau newydd;

(ii) sydd at y diben o addasu sefydliadau presennol sydd o fewn cwmpas Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU; neu

(iii) sydd yn newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle y gallai lleoli neu ddatblygu achosi neu gynyddu’r risg o ddamwain fawr, neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr.

Yr awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd â rheolaeth o’r tir y lleolir arno unrhyw sefydliad presennol o dan sylw, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015
(x)

Datblygiad—

(i) ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C2;

(ii) sy’n ymwneud â, neu sy’n cynnwys, datblygiad gwasanaethau brys neu ddatblygiad a all fod mewn perygl mawr, ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C1 neu ar dir yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddiben y ddarpariaeth hon.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(y)

Datblygiad—

(i) sy’n ymwneud â datblygiad preswyl newydd (gan gynnwys unedau sengl); a

(ii) sy’n ddatblygiad mawr nad yw’n dod o fewn paragraff (i).

Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol

Dehongli’r TablLL+C

Yn y Tabl uchod—

(a)ym mharagraffau (c)(iv) a (d)(iv), ystyr “proses ddiwydiannol” (“industrial process”) yw proses sydd ar gyfer neu sy’n ategu unrhyw un o’r dibenion canlynol—

(i)gwneud unrhyw wrthrych neu ran o unrhyw wrthrych (gan gynnwys llong neu gwch, neu ffilm, fideo neu recordiad sain);

(ii)newid, atgyweirio, cynnal, addurno, gorffen, glanhau, golchi, pacio, canio, addasu ar gyfer gwerthu, datgymalu neu ddymchwel unrhyw wrthrych; neu

(iii)cael, naddu neu drin mwynau yng nghwrs unrhyw fasnach neu fusnes ac eithrio amaethyddiaeth, a chan eithrio proses a gyflawnir ar dir a ddefnyddir fel mwynglawdd, neu sy’n cydffinio ac yn cael ei feddiannu ar y cyd â mwynglawdd (ac yn yr is-baragraff hwn, ystyr “mwynglawdd” (“mine”) yw unrhyw safle y cyflawnir gweithrediadau mwyngloddio ynddo);

(b)ym mharagraffau (c) a (d) ystyr “safle niwclear perthnasol” (“relevant nuclear site”) yw safle sydd yn —

(i)safle niwclear Prydain Fawr (o fewn yr ystyr a roddir i “GB nuclear site” gan adran 68 o Ddeddf Ynni 2013) ;

(ii)safle amddiffyn awdurdodedig ( yn yr ystyr a roddir i “authorised defence site” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi)1998); neu

(iii)safle niwclear newydd-adeiledig (yn yr ystyr a roddir i “new nuclear build site” gan reoliad 2A(1) o’r Rheoliadau hynny).

(c)ym mharagraff (e), mae i “rhwydwaith” a “gweithredwr”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “network” ac i “operator” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (darparu gwasanaethau rheilffordd);

(d)ym mharagraffau (f) ac (g), ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig sydd—

(i)yn ffordd ddosbarthiadol neu’n brif ffordd yn yr ystyron, yn eu trefn, o “classified road” neu “principal road” at ddibenion adran 12(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol o ran prif ffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol); neu

(ii)yn ddosbarthiadol at ddibenion unrhyw ddeddfiad gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 12(3) o’r Ddeddf honno;

(e)ym mharagraff (h), mae i “consesiynydd”, “ffordd sy’n ddarostyngedig i gonsesiwn” a “gorchymyn tollau”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “concessionaire”, “road subject to a concession” a “toll order” yn Rhan I o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (ffyrdd newydd yng Nghymru a Lloegr);

(f)ym mharagraff (i), mae i “stryd” yr ystyr a roddir i “street” yn adran 48(1 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (strydoedd, gwaith stryd ac ymgymerwyr), ac mae “stryd newydd” (“new street”) yn cynnwys estyniad o stryd bresennol;

(g)ym mharagraff (j), ystyr “datblygiad gan ddeiliad tŷ” (“householder development”) yw—

(i)ehangu neu wella tŷ annedd neu ei addasu rywfodd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

(ii)newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhad o’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(aa)unrhyw newid defnydd arall,

(bb)codi tŷ annedd, neu

(cc)newid nifer yr anheddau mewn adeilad;

(h)ym mharagraff (l)—

(i)mae i “heneb gofrestredig” yr ystyr a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rhestr o henebion);

(ii)rhaid dehongli cyfeiriad at uchder datblygiad fel cyfeiriad at ei uchder a fesurir o lefel y ddaear; ac at ddibenion y paragraff hwn ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”) yw lefel arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad o dan sylw neu, os nad yw lefel arwyneb y ddaear y lleolir y datblygiad arno, neu y bwriedir ei leoli arno, yn wastad, lefel y rhan uchaf o arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad;

(iii)mae “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic park or garden”) a “tirwedd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic landscape”) yn golygu bod y parc, yr ardd neu’r dirwedd yn gynwysedig yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru;

(iv)ystyr “Safle Treftadaeth y Byd” (“World Heritage Site”) yw tir sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd, a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972;

(i)ym mharagraff (o)—

(i)ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a throeth anifeiliaid (pa un a ychwanegwyd dŵr ai peidio ar gyfer ei drin), a

(ii)mae i “carafán” yr ystyr a roddir i “caravan” gan adran 29(1) o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (safleoedd carafanau);

(j)ym mharagraff (q), ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw tir y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) y gymwys iddo;

(k)ym mharagraff (r), mae i “theatr” yr ystyr a roddir i “theatre” yn adran 5 o Ddeddf Ymddiriedolaeth Theatrau 1976 (dehongli) a mae i “datblygiad gan ddeiliad tŷ” (“householder development”) yr un ystyr ag ym mharagraff (j);

(l)ym mharagraff (u)—

(i)ystyr “maes chwarae” (“playing field”) yw’r cyfan o safle sy’n cynnwys o leiaf un llain chwarae;

(ii)ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw arwynebedd wedi ei amlinellu yn benodol sydd, ynghyd ag unrhyw arwynebedd ymylol, yn 0.2 hectar neu’n fwy, ac a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed y gymdeithas, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Gwyddelig, bando, hyrli, polo neu polo beic;

(m)ym mharagraff (w)—

(i)mae i’r ymadroddion sy’n ymddangos yn y paragraff hwnnw ac y mae eu cyfystyron Saesneg yn ymddangos yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyron ag y sydd i’r cyfystyron Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb honno; a

(ii)ystyr “awdurdod cymwys rheoli peryglon damweiniau mawr” (“control of major accident hazards competent authority”) yw—

(aa)mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd;

(bb)fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, yn gweithredu ar y cyd; ac

(n)ym mharagraff (x)—

ystyr “Parth Llifogydd C2” (“Flood Zone C2”) yw ardal o’r orlifdir sydd heb seilwaith arwyddocaol i’w amddiffyn rhag llifogydd;

ystyr “Parth Llifogydd C1” (“Flood Zone C1”) yw ardal o orlifdir sydd wedi ei datblygu ac a wasanaethir gan seilwaith arwyddocaol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd; ac

mae i “datblygiad gwasanaethau brys” (“emergency services development”) a “datblygiad a all fod mewn perygl mawr” (“highly vulnerable development”) yr un ystyron ag yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012]

Erthygl 24

ATODLEN 5LL+CHysbysiad pan wrthodir caniatâd cynllunio neu pan roddir caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

Hysbysiad sydd i'w anfon at geisydd pan fo awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod caniatâd cynllunio neu'n rhoi caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau (sydd i'w harnodi ar hysbysiadau o benderfyniad)

Apelau i Weinidogion CymruLL+C

  • Os ydych wedi eich tramgwyddo gan benderfyniad eich awdurdod cynllunio lleol i wrthod caniatâd ar gyfer y datblygiad arfaethedig neu i roi'r caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, yna gellwch apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

  • Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad eich awdurdod cynllunio lleol, rhaid ichi wneud hynny o fewn cyfnod o 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

  • Rhaid gwneud apelau drwy ddefnyddio ffurflen y gellwch ei chael gan Weinidogion Cymru, yn yr Arolygiaeth Gynllunio, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, neu ar-lein yn www.planningportal.gov.uk/pcs

  • Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cyfnod hwy ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl, ond fel rheol, nid ydynt yn fodlon defnyddio'r pŵer hwnnw ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig sy'n esgusodi'r oedi cyn rhoi hysbysiad o apêl.

  • Nid oes raid i Weinidogion Cymru ystyried apêl os yw'n ymddangos iddynt na fyddai wedi bod yn bosibl i'r awdurdod cynllunio lleol roi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, neu na fyddai wedi bod yn bosibl iddo ei roi heb yr amodau a osodwyd, o ystyried y gofynion statudol, darpariaethau unrhyw orchymyn datblygu ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd o dan orchymyn datblygu.

  • Yn ymarferol, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod ystyried apelau oherwydd, yn unig, fod yr awdurdod cynllunio lleol wedi seilio ei benderfyniad ar gyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau PrynuLL+C

  • Os yw naill ai'r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru wedi gwrthod caniatâd i ddatblygu tir, neu wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, caiff y perchennog hawlio nad oes modd i'r perchennog ddefnyddio'r tir yn ei gyflwr presennol mewn ffordd sy'n rhesymol fuddiol, nac ychwaith roi'r tir mewn cyflwr a fyddai'n galluogi ei ddefnyddio mewn ffordd resymol fuddiol, drwy gyflawni unrhyw ddatblygiad sydd wedi ei ganiatáu neu y byddid yn ei ganiatáu.

  • Yn yr amgylchiadau hyn, caiff y perchennog gyflwyno hysbysiad prynu i awdurdod cynllunio lleol yr ardal y lleolir y tir ynddi. Bydd yr hysbysiad hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod cynllunio lleol yn prynu buddiant y perchennog yn y tir, yn unol â darpariaethau Rhan VI o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. (Caiff awdurdod cynllunio lleol dderbyn yr hysbysiad a mynd ymlaen i gaffael y tir; neu wrthod yr hysbysiad ac os yw'n gwrthod, rhaid iddo atgyfeirio'r hysbysiad at Weinidogion Cymru.)

Erthygl 24B(2)

[F8ATODLEN 5ALL+C

Erthygl 24B(3)]

ATODLEN 5BLL+C

Erthygl 27

ATODLEN 6LL+CHysbysiad o dan Erthygl 27

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 28

ATODLEN 7LL+CTystysgrif o Gyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 33

ATODLEN 8LL+COFFERYNNAU STATUDOL A DDIRYMIIR

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 8 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Enw'r OfferynCyfeirnodGraddau'r dirymiad
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995(1)OS 1995/419Y Gorchymyn cyfan(2)
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Ffurflenni Cymraeg) 1995OS 1995/3336Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995OS 1995/2803Paragraff 21 o Atodlen 5 ac erthygl 18 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) 1996(3)OS 1996/1817Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 1996OS 1996/525Paragraff 20 o'r Atodlen ac erthygl 3 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) 1997(4)OS 1997/858Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002OS 2002/1877 (Cy.186)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004OS 2004/1434 (Cy.147)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004OS 2004/3156 (Cy.273)Erthygl 11 ac Atodlen 1
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006OS 2006/3390 (Cy.310)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol ac Addasiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006OS 2006/1386 (Cy.136)Erthygl 4
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2008OS 2008/2336 (Cy.199)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2009OS 2009/1024 (Cy.87)Y Gorchymyn cyfan
(1)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

(2)

Gweler erthygl 33 am arbedion.

(3)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

(4)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources