Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 16/03/2016

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 04/09/2015.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Erthyglau 8 a 28

ATODLEN 1LL+CF1Cydnabod Cais

Diwygiadau Testunol

F1Atod. 1: yn y Cydnabod Cais mae'r geiriau “Os byddwch yn apelio, rhaid ichi apelio o fewn y cyfnod o 6 mis” hyd at “(“y dyddiad perthnasol”)]………..” wedi eu hepgor (22.6.2015) yn rhinwedd gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330). erglau. 1(1), 11(1) (gyda ergl. 12)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 2(1)

[F2ATODLEN 1ALL+CDefnydd Datblygiad Masnachol Bach

SiopauLL+C

1.  Defnydd ar gyfer pob un o’r dibenion canlynol neu unrhyw un neu ragor ohonynt—

(a)ar gyfer manwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth,

(b)fel swyddfa bost,

(c)ar gyfer gwerthu tocynnau neu fel asiantaeth deithio,

(ch)ar gyfer gwerthu brechdanau neu fwyd oer arall i’w fwyta i ffwrdd o’r fangre,

(d)ar gyfer trin gwallt,

(dd)ar gyfer trefnu angladdau,

(e)ar gyfer arddangos nwyddau sydd ar werth,

(f)ar gyfer hurio nwyddau neu eitemau domestig neu bersonol,

(ff)ar gyfer golchi neu lanhau dillad neu ffabrigau yn y fangre,

(g)ar gyfer derbyn nwyddau i’w golchi, eu glanhau neu eu hatgyweirio,

pan fo’r gwerthu, yr arddangos neu’r gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Gwasanaethau ariannol a phroffesiynolLL+C

2.  Defnydd ar gyfer darparu—

(a)gwasanaethau ariannol,

(b)gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd neu feddygol), neu

(c)unrhyw wasanaethau eraill (gan gynnwys defnydd fel swyddfa fetio) y mae’n briodol eu darparu mewn ardal siopa,

pan ddarperir y gwasanaethau yn bennaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Bwyd a diodLL+C

3.  Defnydd ar gyfer gwerthu bwyd neu ddiod ar gyfer ei fwyta neu ei yfed yn y fangre neu fwyd poeth ar gyfer ei fwyta i ffwrdd o’r fangre.]

Erthyglau 10 a 25

ATODLEN 2LL+CF3F4Hysbysiadau o dan Erthyglau 10 a 25

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn Atod. 2 a fewnosodwyd cyn y diffiniad o "perchennog" yn yr Hysbysiad o dan Erthygl 10 o Gais am Ganiatâd Cynllunio (22.6.2015) gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 11(3)(a) (gyda ergl. 12)

F4Geiriau yn Atod. 2 a fewnosodwyd cyn y diffiniad o "perchennog" yn yr Hysbysiad Apêl o dan Erthyglau 10 a 25 (22.6.2015) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 (O.S. 2015/1330), erglau. 1(1), 11(3)(b) (gydag ergl. 12)

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 12

ATODLEN 3LL+CCyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthyglau 14 a 15

ATODLEN 4LL+CYmgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 4 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

TABL

ParagraffDisgrifiad o'r datblygiadYmgynghorai
(a)Datblygiad sy'n debygol o effeithio ar dir yn ardal awdurdod cynllunio lleol arallYr awdurdod cynllunio lleol arall hwnnw
(b)Datblygiad, y gwnaed cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas ag ef i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: gwneud cais)(1), pan fo'r datblygiad hwnnw'n debygol o effeithio ar dir o fewn ardal cyngor cymunedY cyngor cymuned
(c)

Datblygiad, o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch at ddiben y ddarpariaeth hon, oherwydd presenoldeb sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy o fewn ei chyffiniau [F5 (ac eithrio ar safle niwclear perthnasol) ] , ac sy'n cynnwys darparu—

(i)

llety preswyl;

(ii)

mwy na 250 metr sgwâr o arwynebedd llawr manwerthu;

(iii)

mwy na 500 metr sgwâr o arwynebedd llawr swyddfa; neu

(iv)

mwy na 750 metr sgwâr o arwynebedd llawr i'w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu sydd, rywfodd arall, yn debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y personau sy'n gweithio yn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch neu'n ymweld â hi

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
([F6ca)

Datblygiad, o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan y Swyddfa dros Reoli Niwclear at ddiben y ddarpariaeth hon, oherwydd presenoldeb sylweddau gwenwynig, tra adweithiol, ffrwydrol neu fflamadwy o fewn ei chyffiniau, ar safle niwclear perthnasol ac sy'n cynnwys darparu—

(i) llety preswyl;

(ii) mwy na 250 metr sgw�r o arwynebedd llawr manwerthu;

(iii) mwy na 500 metr sgw�r o arwynebedd llawr swyddfa; neu

(iv) mwy na 750 metr sgw�r o arwynebedd llawr i'w ddefnyddio ar gyfer proses ddiwydiannol,

neu sydd, rywfodd arall, yn debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y personau sy'n gweithio yn yr ardal yr hysbyswyd yn ei chylch neu'n ymweld � hi.

Y Swyddfa dros Reoli Niwclear]
(ch)

Datblygiad sy'n debygol o arwain at gynnydd sylweddol ym maint, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig—

(i)

sy'n ymuno neu'n ymadael â chefnffordd; neu

Gweinidogion Cymru

(ii)yn defnyddio croesfan dros reilffordd

Gweithredwr y rhwydwaith sy'n cynnwys y rheilffordd dan sylw neu a gyfansoddir o'r rheilffordd honno, a Gweinidogion Cymru
(d)Datblygiad sy'n debygol o arwain at gynnydd sylweddol ym maint, neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig sy'n ymuno neu'n ymadael â ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedigYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(dd)Datblygiad sy'n debygol o beryglu'r gwaith o wella neu adeiladu ffordd ddosbarthiadol neu briffordd arfaethedigYr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol
(e)

Datblygiad sy'n cynnwys—

(i)

ffurfio, llunweddu neu newid unrhyw fynedfa i briffordd (ac eithrio cefnffordd); neu

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol

(ii)adeiladu priffordd neu fynedfa breifat i fangre, sy'n darparu mynediad i ffordd y mae gorchymyn tollau mewn grym mewn perthynas â hi

Yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol, ac yn achos ffordd sy'n ddarostyngedig i gonsesiwn, y consesiynydd
(f)Datblygiad a gyfansoddir o lunweddu neu adeiladu, neu sy'n cynnwys llunweddu neu adeiladu, stryd newydd.Yr awdurdod priffyrdd lleol
(ff)Datblygiad sy'n ymwneud â darparu adeilad neu biblinell mewn ardal o weithfeydd glo, yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan yr Awdurdod GloYr Awdurdod Glo
(g)Datblygiad sy'n cynnwys neu'n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio [F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru]
(ng)Datblygiad sy'n debygol o effeithio ar safle heneb gofrestredigGweinidogion Cymru
(h)Datblygiad sy'n ymwneud â chyflawni gwaith neu weithrediadau yng ngwely neu ar lannau afon neu ffrwd [F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru”]
(i)Datblygiad at y diben o buro neu storio olewau mwynol a'u deilliadau [F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru]
(j)Datblygiad sy'n ymwneud â defnyddio tir ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff [F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru]
(l)Datblygiad mewn cysylltiad â chadw, trin neu waredu carthion, gwastraff masnachu, slyri neu slwtsh (ac eithrio gosod carthffosydd, adeiladu gorsafoedd pwmpio ar linell o garthffosydd, adeiladu tanciau carthion a charthbyllau i wasanaethu tai annedd sengl neu garafannau sengl neu a deiladau sengl lle na fydd mwy na deg person fel arfer yn preswylio, yn gweithio neu'n ymgasglu, a gweithiau atodol i'r cyfryw) [F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru]
(ll)Datblygiad mewn perthynas â defnyddio tir fel mynwent [F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru]
(m)

Datblygiad sydd—

(i)

mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu'n debygol o effeithio ar safle o'r fath; neu

(ii)

o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan [F8Corff Adnoddau Naturiol Cymru] , ac sydd o fewn dau gilometr i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig,

y rhoddwyd hysbysiad yn ei gylch, neu sy'n cael effaith fel pe bai hysbysiad wedi ei roi yn ei gylch, i'r awdurdod cynllunio lleol gan [F8Corff Adnoddau Naturiol Cymru] , yn unol ag adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig)(2)

[F8Corff Adnoddau Naturiol Cymru]
(n)Datblygiad sy'n ymwneud ag unrhyw dir sydd â theatr arnoYr Ymddiriedolaeth Theatrau
(o)

Datblygiad nad yw'n ddatblygiad at ddibenion amaethyddol ac nad yw'n cydweddu â darpariaethau cynllun datblygu ac yn ymwneud ag—

(i)

colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol o'r graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir am y tro (neu a ddefnyddid ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol; neu

(ii)

colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir am y tro (neu a ddefnyddid ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo'r datblygiad yn debygol o arwain at golled bellach o dir amaethyddol a thrwy hynny'n cyrraedd cyfanswm cronnol o 20 hectar neu ragor

Gweinidogion Cymru
(p)

Datblygiad o fewn 250 metr i dir—

(i)

a ddefnyddir, neu sydd wedi ei ddefnyddio, ar unrhyw adeg yn ystod y 30 mlynedd cyn y cais perthnasol, ar gyfer dyddodi sbwriel neu wastraff; a

(ii)

yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan [F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru] at ddibenion y ddarpariaeth hon

[F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru]
(ph)Datblygiad at ddibenion ffermio pysgod [F7Corff Adnoddau Naturiol Cymru]
(r)

Datblygiad—

(i)

sy'n debygol o beryglu'r defnydd, neu o arwain at golli'r defnydd, o dir a ddefnyddir fel maes chwarae; neu

(ii)

sydd ar dir:

(aa)

a ddefnyddiwyd fel maes chwarae ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd cyn gwneud y cais perthnasol, ac sy'n parhau heb ei ddatblygu; neu

(bb)

a neilltuwyd i'w ddefnyddio fel maes chwarae mewn cynllun datblygu neu mewn cynigion ar gyfer cynllun o'r fath neu addasu neu ddisodli cynllun o'r fath; neu

(iii)

sy'n cynnwys disodli'r arwyneb o laswellt ar lain chwarae o faes chwarae gan arwyneb artiffisial, arwyneb o waith llaw neu arwyneb cyfansawdd

Cyngor Chwaraeon Cymru
(rh)

Datblygiad sy'n debygol o effeithio ar—

(i)

unrhyw ddyfrffordd fewndirol (boed naturiol neu artiffisial) neu gronfa ddŵr sy'n eiddo i, neu a reolir gan Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain(3); neu

(ii)

unrhyw sianel cyflenwi camlas, cwrs dŵr, dihangfa neu gwlfert,

sydd o fewn ardal yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei chylch gan Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain at ddibenion y ddarpariaeth hon

Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain
(s)

Datblygiad—

(i)

[F9sy’n cynnwys lleoli sefydliadau newydd;

(ii)

sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol y mae Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU yn eu cwmpasu; neu

(iii)

sy’n newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle gallai’r lleoliad neu’r datblygiad fod yn ffynhonnell y risg o ddamwain fawr, neu gynyddu’r risg neu ganlyniadau damwain fawr.]

[F10“Awdurdod COMAH cymwys, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, y person sy’n rheoli’r tir y mae unrhyw sefydliad presennol dan sylw wedi ei leoli arno”;]

Dehongli'r TablLL+C

Yn y Tabl uchod—

(a)ym [F11mharagraffau (c)(iv) ac (ca)(iv) ] , ystyr “proses ddiwydiannol” (“industrial process”) yw proses sydd ar gyfer, neu'n atodol i, unrhyw un o'r dibenion canlynol—

(i)

gwneud unrhyw wrthrych neu ran o unrhyw wrthrych (gan gynnwys llong neu gwch, neu ffilm, fideo neu recordiad sain);

(ii)

newid, atgyweirio, cynnal, addurno, gorffen, glanhau, golchi, pacio, canio, addasu ar gyfer gwerthu, datgymalu neu chwalu unrhyw wrthrych; neu

(iii)

cael, naddu neu drin mwynau yng nghwrs unrhyw fasnach neu fusnes heblaw amaethyddiaeth, ac eithrio proses a ymgymerir ar dir a ddefnyddir fel mwynglawdd neu sy'n gyfagos i fwynglawdd ac a feddiennir ynghyd â'r mwynglawdd (ac yn yr is-baragraff hwn, ystyr “mwynglawdd” (“mine”) yw unrhyw safle lle y cyflawnir gweithrediadau mwyngloddio);

[F12(aa)ym mharagraffau (c) ac (ca) ystyr “safle niwclear perthnasol” (“relevant nuclear site”) yw safle sydd—

(i)yn safle niwclear ym Mhrydain Fawr (o fewn yr ystyr a roddir i “GB nuclear site” yn adran 68 o Ddeddf Ynni 2013);

(ii)yn safle amddiffyn awdurdodedig (o fewn yr ystyr a roddir i “authorised defence site” gan Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi) 1998); neu

(iii)yn safle adeiladu niwclear newydd (o fewn yr ystyr a roddir i “new nuclear build site” gan y Rheoliadau hynny).]

(b)ym mharagraff (ch)(ii), mae i “rhwydwaith a “gweithredwr”, yn eu trefn, yr un ystyr ag a roddir i “network” ac “operator” yn Rhan I o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (darparu gwasanaethau rheilffordd)(4);

(c)ym mharagraffau (d) ac (dd), ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”) yw priffordd neu briffordd arfaethedig—

(i)

sy'n ffordd ddosbarthiadol neu'n brif ffordd yn rhinwedd adran 12(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaeth gyffredinol o ran prif ffyrdd a ffyrdd dosbarthiadol)(5); neu

(ii)

a ddosbarthwyd at ddibenion unrhyw ddeddfiad gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 12(3) o'r Ddeddf honno;

(ch)ym mharagraff (e), mae i “consesiynydd”, “ffordd sy'n ddarostyngedig i gonsesiwn” a “gorchymyn tollau”, yn eu trefn, yr un ystyr a roddir i “concessionaire”, “road subject to a concession” a “toll order” yn Rhan I o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (ffyrdd newydd yng Nghymru a Lloegr)(6);

(d)ym mharagraff (f), mae i “stryd” yr un ystyr a roddir i “street” yn adran 48(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (strydoedd, gwaith stryd ac ymgymerwyr), ac y mae “stryd newydd” (“new street”) yn cynnwys parhad o stryd bresennol;

(dd)ym mharagraff (ng), mae i “heneb gofrestredig” yr un ystyr a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979 (rhestr o henebion)(7);

(e)ym mharagraff (l), ystyr “slyri” (“slurry”) yw ysgarthion a throeth anifeiliaid (pa un a ychwanegwyd dŵr er mwyn eu trin ai peidio), ac y mae i “carafán” yr un ystyr a roddir i “caravan” at ddibenion Rhan I o Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (safleoedd carafannau)(8);

(f)ym mharagraff (m), ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw tir y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) yn gymwys iddo;

(ff)ym mharagraff (n), mae i “theatr” yr un ystyr a roddir i “theatre” yn adran 5 o Ddeddf Ymddiriedolaeth Theatrau 1976 (dehongli)(9);

(g)ym mharagraff (r)—

(i)

ystyr “maes chwarae” (“playing field”) yw'r cyfan o safle sy'n cwmpasu o leiaf un llain chwarae;

(ii)

ystyr “llain chwarae” (“playing pitch”) yw man wedi ei amlinellu y mae ei arwynebedd ynghyd ag unrhyw redegfa iddo, yn 0.2 hectar neu'n fwy, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pêl-droed, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Wyddelig, bando, hyrli, polo neu bolo beiciau; ac

[F13(ng)ym mharagraff (s)—

(i)mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwnnw ac yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno; a

(ii)ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”) yw—

(aa)mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

(bb)fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.]

Erthygl 24

ATODLEN 5LL+CHysbysiad pan wrthodir caniatâd cynllunio neu pan roddir caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990

Hysbysiad sydd i'w anfon at geisydd pan fo awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod caniatâd cynllunio neu'n rhoi caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau (sydd i'w harnodi ar hysbysiadau o benderfyniad)

Apelau i Weinidogion CymruLL+C

  • Os ydych wedi eich tramgwyddo gan benderfyniad eich awdurdod cynllunio lleol i wrthod caniatâd ar gyfer y datblygiad arfaethedig neu i roi'r caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, yna gellwch apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

  • Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad eich awdurdod cynllunio lleol, rhaid ichi wneud hynny o fewn cyfnod o 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

  • Rhaid gwneud apelau drwy ddefnyddio ffurflen y gellwch ei chael gan Weinidogion Cymru, yn yr Arolygiaeth Gynllunio, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, neu ar-lein yn www.planningportal.gov.uk/pcs

  • Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cyfnod hwy ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl, ond fel rheol, nid ydynt yn fodlon defnyddio'r pŵer hwnnw ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig sy'n esgusodi'r oedi cyn rhoi hysbysiad o apêl.

  • Nid oes raid i Weinidogion Cymru ystyried apêl os yw'n ymddangos iddynt na fyddai wedi bod yn bosibl i'r awdurdod cynllunio lleol roi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, neu na fyddai wedi bod yn bosibl iddo ei roi heb yr amodau a osodwyd, o ystyried y gofynion statudol, darpariaethau unrhyw orchymyn datblygu ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd o dan orchymyn datblygu.

  • Yn ymarferol, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod ystyried apelau oherwydd, yn unig, fod yr awdurdod cynllunio lleol wedi seilio ei benderfyniad ar gyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau PrynuLL+C

  • Os yw naill ai'r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru wedi gwrthod caniatâd i ddatblygu tir, neu wedi ei roi yn ddarostyngedig i amodau, caiff y perchennog hawlio nad oes modd i'r perchennog ddefnyddio'r tir yn ei gyflwr presennol mewn ffordd sy'n rhesymol fuddiol, nac ychwaith roi'r tir mewn cyflwr a fyddai'n galluogi ei ddefnyddio mewn ffordd resymol fuddiol, drwy gyflawni unrhyw ddatblygiad sydd wedi ei ganiatáu neu y byddid yn ei ganiatáu.

  • Yn yr amgylchiadau hyn, caiff y perchennog gyflwyno hysbysiad prynu i awdurdod cynllunio lleol yr ardal y lleolir y tir ynddi. Bydd yr hysbysiad hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod cynllunio lleol yn prynu buddiant y perchennog yn y tir, yn unol â darpariaethau Rhan VI o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. (Caiff awdurdod cynllunio lleol dderbyn yr hysbysiad a mynd ymlaen i gaffael y tir; neu wrthod yr hysbysiad ac os yw'n gwrthod, rhaid iddo atgyfeirio'r hysbysiad at Weinidogion Cymru.)

Erthygl 27

ATODLEN 6LL+CHysbysiad o dan Erthygl 27

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 28

ATODLEN 7LL+CTystysgrif o Gyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Erthygl 33

ATODLEN 8LL+COFFERYNNAU STATUDOL A DDIRYMIIR

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 8 mewn grym ar 30.4.2012, gweler ergl. 1(1)

Enw'r OfferynCyfeirnodGraddau'r dirymiad
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995(10)OS 1995/419Y Gorchymyn cyfan(11)
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Ffurflenni Cymraeg) 1995OS 1995/3336Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995OS 1995/2803Paragraff 21 o Atodlen 5 ac erthygl 18 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) 1996(12)OS 1996/1817Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 1996OS 1996/525Paragraff 20 o'r Atodlen ac erthygl 3 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) 1997(13)OS 1997/858Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002OS 2002/1877 (Cy.186)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004OS 2004/1434 (Cy.147)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004OS 2004/3156 (Cy.273)Erthygl 11 ac Atodlen 1
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006OS 2006/3390 (Cy.310)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol ac Addasiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006OS 2006/1386 (Cy.136)Erthygl 4
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2008OS 2008/2336 (Cy.199)Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2009OS 2009/1024 (Cy.87)Y Gorchymyn cyfan
(1)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.

(2)

1981 (p. 69); amnewidiwyd adran 28 gan adran 75(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a pharagraff 1 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno.

(3)

Gweler adrannau 1 a 10 o Ddeddf Trafnidiaeth 1962 (p.46).

(4)

1993 p.43; gweler adran 83.

(10)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

(11)

Gweler erthygl 33 am arbedion.

(12)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

(13)

Dirymwyd i'r graddau yr oedd yn gymwys i Loegr gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 2010 (O.S. 2010/2184).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources