- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff anifail buchol yn ei feddiant neu o dan ei ofal y mae'n rhaid ei brofi yn unol â phwynt 3(1) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw, neu gorff unrhyw afr a oedd yn 18 mis oed neu'n hyn pan fu farw—
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru o fewn 24 awr ar ôl adeg marwolaeth neu adeg lladd yr anifail, neu'r adeg y daw'r corff i'w feddiant neu o dan ei ofal; a
(b)ei gadw hyd nes cesglir ef gan neu ar ran Gweinidogion Cymru,
ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â geifr a gigyddir i'w bwyta gan bobl neu a leddir yn unol ag Atodlen 4.
2. Os ganwyd neu os magwyd anifail buchol yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996, mae'n dramgwydd—
(a)ei draddodi i ladd-dy ar gyfer ei fwyta gan bobl (pa un a yw'r anifail yn fyw neu'n farw); neu
(b)ei gigydda mewn lladd-dy ar gyfer ei fwyta gan bobl.
3.—(1) Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle mae anifeiliaid buchol fel a nodir ym mhwynt 2(1) neu 2(2) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned yn cael eu cigydda —
(a)gymryd sampl o goesyn yr ymennydd yn unol â phwynt 1 o Bennod C o Atodiad X i Reoliad TSE y Gymuned;
(b)sicrhau y gellir adnabod yr anifail y cymerwyd y sampl ohono; ac
(c)trefnu i'r sampl gael ei danfon i labordy profi sydd wedi ei gymeradwyo,
ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad, hysbysu meddiannydd lladd-dy os yw anifail yn dod o fewn y categorïau a nodir ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A i Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned (ac eithrio yn achos anifail marw a draddodir i ladd-dy ynghyd â datganiad ysgrifenedig gan filfeddyg sy'n datgan bod yr anifail o fewn un o'r categorïau hynny).
(3) Yn unol â phwynt 5 o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i feddiannydd lladd-dy i fynnu ei fod yn cymryd sampl o unrhyw anifail buchol a gigyddir yn y lladd-dy, ac anfon y sampl i'w brofi yn unol ag is-baragraff (1).
4.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo labordy i brofi samplau a gymerir o dan baragraff 3 os bodlonir Gweinidogion Cymru—
(a)y bydd y labordy yn cynnal y profion yn unol â Phennod C o Atodiad X i Reoliad TSE y Gymuned;
(b)bod gan y labordy weithdrefnau digonol ar gyfer rheoli ansawdd; ac
(c)bod gan y labordy weithdrefnau digonol i sicrhau adnabyddiaeth gywir o'r samplau ac i hysbysu'r lladd-dy sy'n eu traddodi a Gweinidogion Cymru ynghylch canlyniad y prawf.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru godi'r ffioedd a nodir yn y tabl canlynol am gymeradwyaeth ddechreuol ac asesiad ansawdd parhaus ar gyfer labordy—
Ffi(£) | |
---|---|
Cymeradwyaeth ddechreuol | 29,770 |
Prawf hyfedredd blynyddol ac arolygu dilynol am y flwyddyn gyntaf ar ôl cymeradwyo. | 8,834 |
Profion hyfedredd blynyddol o'r ail flwyddyn ymlaen | 4,135 |
Prawf hyfedredd sengl (yn dilyn methiant yn y profion hyfedredd blynyddol) | 1,385 |
Cyfradd yr awr am arolygydd (ar gyfer unrhyw arolygiadau ychwanegol sydd eu hangen i wirio cydymffurfiaeth â'r materion a nodir yn is-baragraffau (1)(a) i (c)) | 87.24 |
(3) ystyr “labordy profi cymeradwy” (“approved testing laboratory”) yw labordy a gymeradwyir o dan y paragraff hwn neu labordy mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwyir gan yr awdurdod cymwys i gynnal y prawf.
5.—(1) Cyflawnir tramgwydd gan feddiannydd sy'n defnyddio lladd-dy i gigydda anifeiliaid buchol dros 30 mis oed i'w bwyta gan bobl, oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo'r Dull Gofynnol o Weithredu (“DGW”) ar gyfer y lladd-dy hwnnw a'r meddiannydd hwnnw.
(2) Rhaid i'r DGW, o leiaf—
(a)ddisgrifio'r gweithdrefnau a fydd yn cael eu dilyn i gydymffurfio â Rhan 1 o'r Atodlen hon; a
(b)disgrifio'r holl systemau a gweithdrefnau a nodir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r DGW os bodlonir hwy y cydymffurfir â holl ofynion Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r meddiannydd ddangos hynny yn ystod asesiad a fydd yn parhau am ddau ddiwrnod lle bydd anifeiliaid yn cael eu cigydda (gan ddefnyddio anifeiliaid buchol o dan 30 mis oed oni fydd y lladd-dy yn gweithredu at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig (1)).
(4) Os cigyddir anifeiliaid buchol sydd dros 30 mis oed ar gyfer eu bwyta gan bobl mewn unrhyw fodd ac eithrio yn unol â'r DGW, mae meddiannydd y lladd-dy yn euog o dramgwydd.
6.—(1) Mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol y cymerir sampl ohono, rhaid i feddiannydd y lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy, at ddibenion pwynt 6(3) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned a hyd nes ceir canlyniad y prawf, naill ai—
(a)gadw yn ei feddiant yr holl garcasau a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) y bydd rhaid eu gwaredu os bydd y canlyniad yn bositif; neu
(b)eu gwaredu yn unol ag is-baragraff (2).
(2) At ddibenion pwyntiau 6(4) a 6(5) o'r Rhan honno, os ceir canlyniad positif ar gyfer anifail y cymerwyd sampl ohono, rhaid i'r meddiannydd waredu ar unwaith—
(a)carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen); a
(b)oni fydd rhanddirymiad wedi ei ganiatáu o dan is-baragraff (5), carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl,
yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno.
(3) Os nad anfonwyd sampl at labordy profi cymeradwy i gael ei brofi yn unol â pharagraff 3 o'r Atodlen hon, neu os ceir canlyniad prawf annigonol, mewn perthynas ag anifail y mae'n ofynnol ei brofi o dan yr Atodlen hon, rhaid i'r meddiannydd ar waredu unwaith —
(a)carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen); a
(b)oni fydd rhanddirymiad wedi ei ganiatáu o dan is-baragraff (5), carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys y gwaed ond nid y croen) yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl,
yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno; ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, ystyr “canlyniad prawf annigonol” (“insufficient test result”) yw ardystiad gan labordy profi cymeradwy nad oedd y sampl a anfonwyd i'r labordy o ansawdd digonol neu nad oedd o faint digonol i gael canlyniad prawf.
(4) Os ceir canlyniad dim prawf mewn perthynas ag anifail y mae'n ofynnol ei brofi o dan yr Atodlen hon, rhaid i'r meddiannydd ar unwaith waredu carcas a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â phwynt 6(4) o'r Rhan honno; ac at ddibenion yr is-baragraff hwn ystyr “canlyniad dim prawf” (“no-test result”) yw canlyniad negyddol o sampl, yn dilyn profion lluosog a chyflym wedi i labordy profi cymeradwy ardystio bod profion o'r fath yn angenrheidiol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ganiatáu rhanddirymiad o dan bwynt 6(6) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned os bodlonir hwy bod system wedi ei sefydlu sy'n atal halogi rhwng carcasau.
(6) Mewn perthynas ag unrhyw ddefaid neu eifr a ddewisir ar gyfer samplu, rhaid i feddiannydd lladd-dy, marchnad ledr neu danerdy —
(a)at ddibenion pwynt 7(3) o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, gadw yn ei feddiant y carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) hyd nes ceir canlyniad y prawf; a
(b)os bydd y canlyniad yn bositif, gwaredu'r carcas a phob rhan o'r corff ar unwaith (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â phwynt 7(4) o'r Rhan honno.
(7) Yn y paragraff hwn, caniateir i bwerau arolygydd gael eu harfer hefyd gan berson a benodir fel y cyfryw mewn perthynas â marchnad ledr neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.
(8) Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag is-baragraffau (1) i (4) neu (6) yn euog o dramgwydd.
7.—(1) Os yw canlyniad prawf yn bositif ar anifail a gigyddwyd i'w fwyta gan bobl, rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal am y carcas a phob rhan o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen)—
(a)yr anifail hwnnw; a,
(b)os dinistrir hwy oherwydd y canlyniad positif hwnnw, yr anifail a oedd yn union ragflaenu'r anifail hwnnw ar y llinell gigydda a'r ddau anifail a ddaeth yn union ar ei ôl.
(2) Yr iawndal fydd y gwerth ar y farchnad, a sefydlir o dan y weithdrefn yn rheoliad 11, gyda'r meddiannydd yn talu unrhyw ffi am enwebu a chyflogi prisiwr.
(3) Ni fydd iawndal yn daladwy mewn unrhyw achos arall.
OJ Rhif L 99, 20.4.96, t. 14, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L 337, 22.12.2005, t. 25).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: