- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Mae hawl mynediad gan arolygwyr i unrhyw fangre at y diben o sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid iddynt, os gofynnir iddynt, ddangos rhyw ddogfen sydd wedi ei dilysu yn briodol ac yn dangos eu hawdurdod cyn arfer eu hawl o dan baragraff (1).
(3) Cânt arfer eu hawl o dan baragraff (1) ar bob adeg rhesymol o'r dydd.
(4) Cânt fynd gyda hwy—
(a)pa bynnag bersonau eraill y tybiant sy'n angenrheidiol; a
(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at y diben o orfodi ymrwymiad Cymunedol.
(5) Os yw arolygwyr yn mynd i mewn i fangre na feddiennir gan neb ar y pryd, rhaid iddynt adael y fangre honno (mor bell ag y bo'n ymarfer yn rhesymol) wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag ydoedd cyn dyfodiad yr arolygwyr.
(6) Os yw ynad heddwch, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd o dan lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn, a naill ai—
(a)gwrthodwyd mynediad, neu disgwylir y bydd mynediad yn cael ei wrthod, ac (yn y naill achos neu'r llall) rhoddwyd hysbysiad i'r meddiannydd y gwneir cais am warant;
(b)byddai gofyn am gael mynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn difetha pwrpas mynd i mewn; neu
(c)bod yr achos yn achos brys; neu
(ch)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad, drwy warant lofnodedig, awdurdodi arolygwyr i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.
(7) Mae gwarant o dan yr adran hon yn ddilys am un mis.
(8) Yn y rheoliad hwn mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—
(a)mangre ddomestig os defnyddir hi at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn; a
(b)unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu adeiledd (symudol neu fel arall).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: