Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 138 (Cy.20)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

22 Ionawr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Ionawr 2008

Yn dod i rym

15 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra cafodd y Rheoliadau hyn eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008, deuant i rym ar 15 Chwefror 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995

2.  Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(3) (“y Rheoliadau Ychwanegion”) wedi'u diwygio'n unol â rheoliadau 3 i 13 isod.

3.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)Yn y diffiniad o “carrier” a “carrier solvent”, ar ôl “miscellaneous additive,” mewnosoder “flavouring,” ;

(b)yn y diffiniad o “Directive 95/2/EC”, yn lle'r ymadrodd “and European Parliament and Council Directive 2003/114/EC” rhodder “, European Parliament and Council Directive 2003/114/EC(4) and European Parliament and Council Directive 2006/52/EC(5);”;

(c)yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC”, yn lle'r ymadrodd “and Commission Directive 2004/45/EC”, rhodder, “Commission Directive 2004/45/EC and Commission Directive 2006/129/EC(6);”; ac

(ch)ar ôl y diffiniad o “food additive”, mewnosoder y diffiniad canlynol—

“food supplement” means a foodstuff the purpose of which is to supplement the normal diet and which is a concentrated source of vitamins or minerals or other substances with a nutritional or physiological effect, alone or in combination, marketed in dose form such as capsules, pastilles, tablets, pills and other similar forms, sachets of powder, ampoules of liquids, drop-dispensing bottles, and other similar forms of liquids and powders designed to be taken in measured small unit quantities;.

4.  Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau), ar ôl paragraff (1F), mewnosoder y paragraff canlynol—

(1G) In any proceedings for an offence under these Regulations in respect of any food additive or food, it shall be a defence to prove that—

(a)the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 15th August 2008; and

(b)the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 5(a), 6(a), 6(b) and (d) or 8 of the Miscellaneous Food Additives and the Sweeteners in Food (Amendment) (Wales) Regulations 2008 had not been made when the food additive or food was placed on the market or labelled..

5.  Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlenni 6, 7 nac 8)—

(a)ychwaneger fel Nodyn (5) y canlynol—

(5) The substances E400, E401, E402, E403, E404, E406, E407, E407a, E410, E412, E413, E414, E415, E417, E418 and E440 may not be used in jelly cups, defined for the purpose of these Regulations as jelly confectionery of a firm consistency, contained in semi-rigid mini-cups or mini-capsules, intended to be ingested in a single bite by exerting pressure on the mini-cup or mini-capsule so as to project the confectionery into the mouth.;

(b)ar ôl y cofnod ynghylch E461, mewnosoder y canlynol—

E 462Ethyl cellulose

6.  Yn Atodlen 2 (cadwolion a gwrthocsidyddion a ganiateir yn amodol) rhan A (sorbadau, bensoadau a p-hydrocsibensoadau)—

(a)hepgorer y cofnodion ar gyfer “E 216 Propyl p-hydroxybenzoate” a “E 217 Sodium propyl p-hydroxybenzoate” yn y tabl cyntaf;

(b)hepgorer y cofnodion ar gyfer “Shrimps, cooked” a “Crayfish tails, cooked and pre-packed Marinated cooked molluscs” yn yr ail dabl;

(c)yn y golofn gyntaf (sy'n dwyn y teitl “Food”) o'r ail dabl, yn lle'r geiriau “Dietetic foods intended for special medical purposes” rhodder “Dietary foods for special medical purposes as defined in Directive 1999/21/EC(7)”;

(ch)ychwaneger y cofnodion canlynol at yr ail dabl ar y diwedd:

Crustaceans and molluscs, cooked10002000
Food supplements supplied in liquid form2000

7.  Yn Atodlen 2 Rhan B (sylffwr diocsid a sylffidau), yn yr ail dabl—

(a)yn lle'r cofnodion ynghylch cramenogion a seffalopodau, rhodder y canlynol—

Crustaceans and cephalopods:
fresh, frozen and deep frozen150*
crustaceans, Panaeidae, Solenoceridae, Aristaeidae family:
— [< =]80 units150*
— > 80 units but [<=] 120 units200*
— > 120 units300*
Cooked50*
cooked crustaceans, Panaeidae, Solenoceridae, Aristaeidae family:
— [<=] 80 units135*
— > 80 units but [<=] 120 units180*
— > 120 units270*
* In edible parts

(b)yn lle'r ymadrodd “Starches (excluding starches for weaning foods, follow-on formulae and infant formulae)” rhodder “Starches (excluding starches in infant formulae, follow-on formulae and processed cereal-based foods and baby foods)”;

(c)ar ddiwedd y tabl ychwaneger y cofnodion canlynol —

Salsicha fresca450
Table grapes10
Fresh lychees10 (measured on edible parts)

8.  Yn Atodlen 2 Rhan C (cadwolion eraill) mae'r tabl a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn wedi'i roi yn lle'r tabl ynghylch E 249, E 250, E 251 ac E 252.

9.  Yn Atodlen 2 Rhan D (gwrthocsidyddion eraill) mae'r tabl a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn wedi'i roi yn lle'r tabl.

10.  Yn Atodlen 3 (ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir)—

(a)yn y cofnod ynghylch E 385 yn y drydedd a'r bedwaredd golofn (sy'n dwyn, yn ôl eu trefn, y teitlau “Food” a “Maximum level”), ychwaneger y cofnodion canlynol—

“Libamáj, egézben és tömbben250 mg/kg

(b)ar ôl y cofnod ynghylch E967 mewnosoder y canlynol—

E 968ErythritolFood in general (except drinks and those foods referred to in Article 2(3) of Directive 95/2/ECQuantum satis
Frozen and deep-frozen unprocessed fish, crustaceans, molluscs and cephalopodsQuantum satis
LiqueursQuantum satis
For purposes other than sweetening

(c)ar ôl y cofnod ynghylch E425 mewnosoder y canlynol—

E 426Soybean hemicelluloseDairy-based drinks intended for retail sale5 g/l
Food supplements1.5 g/l
Emulsified sauces30 g/l
Pre-packaged fine bakery wares intended for retail sale10 g/kg
Pre-packaged ready-to-eat oriental noodles intended for retail sale10 g/kg
Pre-packaged ready-to-eat rice intended for retail sale10 g/kg
Pre-packaged processed potato and rice products (including frozen, deep-frozen, chilled and dried processed products) intended for retail sale10 g/kg
Dehydrated, concentrated, frozen and deep-frozen egg products10 g/kg
Jelly confectionery, except jelly mini-cups10 g/kg

(ch)yn nhrydedd golofn y cofnod ynghylch E 468, yn lle'r ymadrodd “Solid dietary supplements”, rhodder “Food supplements supplied in solid form”;

(d)yn nhrydedd golofn y cofnod ynghylch E 338 i E 452, yn lle'r ymadrodd “Dietary supplements”, rhodder “Food supplements”;

(dd)yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 405, E 416, E 432 i E 436, E 473 ac E 474, E 475, E 491 i E 495, E 551 i E 559 ac E 901 i E 904, yn lle'r ymadrodd “Dietary food supplements”, rhodder “food supplements”;

(e)yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 1201 ac E 1202, yn lle'r ymadrodd “Dietary food supplements in tablet and coated form”, rhodder “Food supplements in tablet and coated form”;

(f)yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 405, E 432 i E 436, E 473 ac E 474, E 475, E 477, E 481 ac E 482, ac E 491 i E 495, yn lle'r ymadrodd “Dietetic foods intended for special medical purposes”, rhodder “Dietary foods for special medical purposes as defined in Directive 1999/21/EC”;

(ff)ym mhedwaredd golofn y cofnodion ynghylch E 1505 i E 1520, ar ôl yr ymadrodd “In the case of beverages,”, mewnosoder yr ymadrodd “with the exception of cream liqueurs,”;

(g)ar ddiwedd y tabl ychwaneger y cofnodion canlynol—

E 1204PullulanFood supplements in capsule and tablet formQuantum satis
Breath-freshening micro-sweets in the form of filmsQuantum satis
E 1452Starch Aluminium Octenyl SuccinateEncapsulated vitamin preparations in food supplements35 g/kg in food supplement

11.  Yn Atodlen 4 (cariwyr a thoddyddion cariwyr a ganiateir)—

(a)ar ôl y cofnod ynghylch E 967, yn y golofn gyntaf, mewnosoder “E 968” ac yn yr ail golofn gyferbyn, mewnosoder “Erythritol”;

(b)ar ôl y cofnod ynghylch E 461, yn y golofn gyntaf, mewnosoder “E 462” ac yn yr ail golofn gyferbyn, mewnosoder “Ethyl cellulose”;

(c)yn nhrydedd golofn y cofnod ynghylch E 551 ac E 552, ychwaneger yr ymadrodd “For E 551: in E 171 titanium dioxide and E 172 iron oxides and hydroxides (max. 90% relative to the pigment).”.

12.  Yn Atodlen 7 (bwydydd y caniateir i nifer cyfyngedig o ychwanegion amrywiol a restrir yn Atodlen 1 gael eu defnyddio)—

(a)yn lle'r cofnod ynghylch caws wedi aeddfedu, rhodder y canlynol—

Ripened cheeseE 170 calcium carbonatequantum satis
E 504 Magnesium carbonates
E 509 Calcium chloride
E 575 Glucono-delta-lactone
E 500ii Sodium hydrogen carbonatequantum satis (only for sour milk cheese)

(b)yn y cofnod ynghylch “pain courant français”, yn y golofn gyntaf, ychwaneger yr ymadrodd “Friss búzankenyér, fehér és félbarna kenyerek”;

(c)yn y cofnod ynghylch “foie gras, foie gras entier, blocs de foie gras”, yn y golofn gyntaf, ychwaneger yr ymadrodd “Libamáj, libamáj egézben, libamáj tömbben”.

13.  Yn Atodlen 8 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach)—

(a)ym mharagraffau 1, 1A ac 1B o'r nodiadau rhagarweiniol, yn lle'r ymadrodd “weaning foods”, rhodder bob tro yr ymadrodd “processed cereal-based foods and baby foods”;

(b)yn Rhan 3 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd diddyfnu i fabanod a phlant bach y mae eu hiechyd yn dda),

(i)hepgor y cofnod ynghylch E 473; a

(ii)yn y man lle mae'n ymddangos yn y teitl ac yn nhrydedd golofn y cofnodion ynghylch E 170 i E 526, E 500 i E 503, E 338, E 410 i E 440, E 1404 i E 1450, ac E 1451, yn lle'r ymadrodd “weaning foods”, rhodder “processed cereal-based foods and baby foods”.

(c)yn Rhan 4 (ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd deietegol i fabanod a phlant bach at ddibenion meddygol arbennig fel y'u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 1999/21/EC), ar ôl y cofnod ynghylch E 472c mewnosoder y cofnod canlynol—

E 473Sucrose esters of fatty acidsProducts containing hydrolysed proteins, peptides and amino acids120 mg/l

Diwygio Rheoliadau Melysyddion Mewn Bwyd 1995

14.—(1Mae Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(8) wedi'u diwygio'n unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “Directive 94/35/EC”, yn lle'r ymadrodd “and by Directive 2003/115/EC”, rhodder “ and by European Parliament and Council Directives 2003/115/EC(9) and 2006/52/EC(10).”;

(b)yn y diffiniad o “Directive 95/31/EC”, yn lle'r ymadrodd “and by Directive 2004/46/EC”, rhodder “and by Directives 2004/46/EC and 2006/128/EC(11).”.

(3Yn Atodlen 1 (melysyddion a ganiateir a'r bwydydd y caniateir eu defnyddio ynddynt neu arnynt)—

(a)yng ngholofn 1 ar ôl “E 967” ychwaneger “E 968”; a

(b)yng ngholofn 2 ar ôl “Xylitol” ychwaneger “Erythritol”.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

22 Ionawr 2008

Rheoliad 8

ATODLEN 1Y cofnodion sydd i'w rhoi yn lle'r rhai yn Rhan C o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Ychwanegion

EC No.NameFoodMaximum amount that may be added during manufacture (expressed as NaNO2)Maximum residual level (expressed as NaNO2)
mg/kgmg/kg
E 249Potassium nitrite(x)Meat Products150
E 250Sodium ) nitrite(xSterilised meat products(Fo > 3,00)(y)100
Traditional immersion cured meat products(1):
Wiltshire bacon(1·1);175
Entremeada, entrecosto, chispe, orelheira e cabeça (salgados)
Toucinho fumado(1·2);
and similar products
Wiltshire ham(1·1);100
and similar products
Rohschinken, nassgepökelt(1·6); and similar products50
Cured tongue(1·3)50
Traditional dry cured meat products(2):
Dry cured bacon(2·1);and similar products175
Dry cured ham(2·1);100
Jamón curado, paleta curada, lomo embuchado y cecina(2·2); Presunto, presunto da pà and paio do lombo(2·3);and similar products
Rohschinken, trockengepökelt(2·5); and similar products50
Other traditionally cured meat products(3);
Vysoèina180
Selský salám
Turistický trvanlivý salám
Polièan
Herkules
Lovecký salám
Dunajská klobása
Paprikás(3·5);
and similar products
Rohschinken, trocken-/nassgepökelt(3·1); and similar products50
Jellied veal and brisket(3·2)
E 251Potassium nitrate(z)Non-heat-treated meat products150
E 252Sodium nitrate(z)
Traditional immersion cured meat products(1);
Kylmäsavustettu poronliha/Kallrökt renkött(1·4);300
Wiltshire bacon and Wiltshire ham(1·1)250
Entremeada, entrecosto, chispe, orelheira a cabeça (salgados),
Toucinho fumado(1·2);
Rohschinken, nassgepökelt(1·6);
and similar products
Bacon, Filet de bacon(1·5); and similar products250 without added E 249 or E 250
Cured tongue(1·3)10
Traditional dry cured meat products(2);
Dry cured bacon and Dry cured ham(2·1);250
Jamón curado ,paleta curada, lomo embuchado y cecina(2·2);
Presunto, presunto da pá and paio do lombo(2·3);
Rohschinken, trockengepökelt(2·5); and similar products
Jambon sec, jambon sel sec et autres pièces maturées séchées similaires(2·4)250 without added E 249 or E 250

Rheoliad 9

ATODLEN 2Y cofnodion sydd i'w rhoi yn lle'r rhai yn Rhan D o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Ychwanegion

EC NoNameFoodMaximum level (mg/kg)
* When combinations of gallates, TBHQ, BHA and BHT are used, the individual levels must be reduced proportionally
E 310Propyl gallateFats and oils for the professional manufacture of heat-treated foods200* (gallates, TBHQ and BHA, individually or in combination)
E 311Octyl gallateFrying oil and frying fat, excluding olive pomace oil100* (BHT), both expressed on fat
E 312Dodecyl gallate
E 319Tertiary-butyl hydroquinone (TBHQ)Lard; — fish oil beef, poultry and sheep fat
E 320Butylated hydroxyanisole (BHA)Cake mixes; cereal-based snack foods; milk powder for vending machines200 (gallates, TBHQ and BHA, individually or in combination) expressed on fat
E 321Butylated hydroxytoluene (BHT)Dehydrated soups and broths; sauces; dehydrated meat; processed nuts; pre-cooked cereals
Seasonings and condiments200 (gallates and BHA, individually or in combination) expressed on fat
Dehydrated potatoes25 (gallates, TBHQ and BHA, individually or in combination)
Chewing gum; food supplements400 (gallates, TBHQ, BHT and BHA, individually or in combination)
Essential oils1,000 (gallates, TBHQ and BHA, individually or in combination)
Flavourings other than essential oils100*(gallates, individually or in combination)
200*(TBHQ and BHA, individually or in combination)
E 315Erythorbic acidCured meat products and preserved meat products500 expressed as erythorbic acid
E 316Sodium erythorbatePreserved and semi-preserved fish products; Frozen and deep-frozen fish with red skin1,500 expressed as erythorbic acid
E 5864-HexylresorcinolFresh, frozen and deep-frozen crustaceans2 as residues in crustacean meat

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, ac sy'n diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (OS 1995/3187 fel y'i diwygiwyd) (“y Rheoliadau Ychwanegion”) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu—

(a)Cyfarwyddeb 2006/52/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion a Chyfarwyddeb 94/35/EC ar felysyddion sydd i'w defnyddio mewn bwydydd (OJ Rhif L204, 26.7.2006, t. 10), fel y cywirwyd Cyfarwyddeb 2006/52/EC gan Gorigendwm (OJ Rhif L78, 17.3.2007, t. 32); a

(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/129/EC sy'n diwygio a chywiro Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n gosod meini prawf penodol ynghylch purdeb ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau neu felysyddion (OJ Rhif L346, 9.12.2006, t. 15).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio hefyd Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (OS 1995/3123 fel y'u diwygiwyd) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu Cyfarwyddeb 2006/52/EC a grybwyllwyd uchod a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/128/EC sy'n diwygio ac yn cywiro Cyfarwyddeb 95/31/EC sy'n gosod meini prawf penodol o ran purdeb ynghylch melysyddion sydd i'w defnyddio mewn bwydydd.

3.  Yn benodol mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ychwanegion drwy—

(a)diwygio diffiniadau penodol a ddefnyddir yn y Rheoliadau Ychwanegion, gan gynnwys diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y GE a ddiwygiwyd yn ddiweddar (rheoliad 3);

(b)gwneud darpariaeth drosiannol i ganiatáu marchnata ychwanegion bwyd neu fwyd a roddwyd ar y farchnad neu a labelwyd cyn 15 Awst 2008 os byddai'r marchnata hwnnw wedi bod yn gyfreithlon o dan y Rheoliadau Ychwanegion cyn iddynt gael eu diwygio gan y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);

(c)pennu ychwanegion penodol na chaniateir eu defnyddio i weithgynhyrchu cwpanau jeli (rheoliad 5(a));

(ch)ychwanegu sylwedd newydd at yr ychwanegion a ganiateir ac a restrir yn Atodlen 1, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlenni 6, 7 nac 8 (rheoliad 5(b));

(d)newid terfynau penodol, tynnu sylweddau penodol o'r tabl o gadwolion a gwrthocsidyddion a ganiateir yn amodol yn Rhan A o Atodlen 2 ac ychwanegu sylweddau eraill at y rhestr honno (rheoliad 6);

(dd)diwygio'r cofnodion ynglŷn â chramenogion a seffalopodau, diwygio'r cyfeiriadau at fwydydd i fabanod a phlant bach ac ychwanegu dau gofnod newydd at Ran B o Atodlen 2, sy'n ymdrin â sylffwr diocsid a sylffidau (rheoliad 7);

(e)rhoi Rhan C newydd yn lle'r hen Ran C o Atodlen 2 sy'n ymwneud â photasiwm nitraid a nitrad a sodiwm nitraid a nitrad (rheoliad 8 ac Atodlen 1);

(f)rhoi Rhan D newydd yn lle'r hen Ran D o Atodlen 2 sy'n ymwneud â defnyddio gwrthocsidyddion penodol (rheoliad 9 ac Atodlen 2);

(ff)ychwanegu sylweddau penodol a diwygio'r amodau defnydd ar gyfer rhai sylweddau a ganiateir eisoes yn Atodlen 3, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir, ac sy'n diwygio ymadroddion penodol sydd wedi'u diffinio ac a ddefnyddir yn yr Atodlen honno (rheoliad 10);

(g)ychwanegu dau sylwedd a diwygio'r amodau defnydd ar gyfer un a ganiateir eisoes yn Atodlen 4 sy'n ymwneud â chariwyr a thoddyddion cariwyr a ganiateir (rheoliad 11);

(ng)diwygio Atodlen 7, ynghylch bwydydd y caniateir defnyddio nifer cyfyngedig o ychwanegion ynddynt, drwy ychwanegu bwydydd penodol ac ychwanegu un ychwanegyn at y rhai a ganiateir mewn un bwyd neilltuol (rheoliad 12); ac

(h)diwygio ymadrodd a ddiffiniwyd ar gyfer dosbarth bwydydd lle mae'n ymddangos yn Atodlen 8, sy'n ymwneud ag ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn bwydydd i fabanod a phlant bach, ac ychwanegu sylwedd a ganiateir at yr Atodlen honno (rheoliad 13).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Melysyddion Mewn Bwyd 1995 drwy—

(a)diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y GE a ddiwygiwyd yn ddiweddar (rheoliad 14(2)); a

(b)ychwanegu sylwedd at Atodlen 1, sy'n ymwneud â melysyddion a ganiateir a'r bwydydd y caniateir eu defnyddio ynddynt neu arnynt (rheoliad 14(3)).

5.  Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990.

Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990.

Trosglwyddwyd swyddogaethau, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(4)

OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.58.

(5)

OJ Rhif L204, 26.7.2006, t.10.

(6)

OJ Rhif L346, 9.12.2006, t.15.

(7)

OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29.

(9)

OJ Rhif L24, 29.1.2004, t.65.

(10)

OJ Rhif L204, 26.7.2006, t.10.

(11)

OJ Rhif L346, 9.12.2006, t.6.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources