- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau 9(2)(a) a 10(4)(a)
1. Nodweddion y cynlluniau a'r rhaglenni, gan ystyried yn benodol—
(a)i ba raddau y mae'r cynllun neu raglen yn gosod fframwaith ar gyfer prosiectau a gweithgareddau eraill, naill ai o ran lleoliad, natur, maint ac amodau gweithredu neu drwy ddyrannu adnoddau;
(b)i ba raddau y mae'r cynllun neu raglen yn dylanwadu ar gynlluniau a rhaglenni eraill gan gynnwys y rhai sydd mewn hierarchaeth;
(c)pa mor berthnasol yw'r cynllun neu raglen ar gyfer integreiddio ystyriaethau amgylcheddol yn benodol gyda'r bwriad o hybu datblygu cynaliadwy;
(ch)y problemau amgylcheddol sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen; a
(d)pa mor berthnasol yw'r cynllun neu'r rhaglen ar gyfer gweithredu deddfwriaeth y Gymuned ar yr amgylchedd.
2. Nodweddion yr effeithiau a'r ardal y mae'n debygol yr effeithir arni, gan ystyried yn benodol—
(a)tebygolrwydd, hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effeithiau;
(b)natur gronnol yr effeithiau;
(c)natur drawsffiniol yr effeithiau;
(ch)y risgiau i iechyd dynol neu i'r amgylchedd;
(d)maintioli a hyd a lled yr effeithiau (yr arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth y mae'n debygol yr effeithir arnynt);
(dd)pa mor hawdd yw creithio'r ardal y mae'n debygol yr effeithir arni, a gwerth yr ardal honno, oherwydd—
(i)nodweddion naturiol arbennig neu dreftadaeth ddiwylliannol;
(ii)mynd dros ben safonau ansawdd amgylcheddol neu werthoedd terfyn; neu
(iii)defnydd dwys o'r tir; a
(e)yr effeithiau ar fannau neu dirluniau y cydnabyddir bod iddynt statws gwarchod cenedlaethol, Cymunedol neu ryngwladol.
Rheoliad 12(3)
1. Amlinelliad o gynnwys a phrif amcanion y cynllun neu'r rhaglen, a'u perthynas (os oes un) â chynlluniau a rhaglenni eraill.
2. Agweddau perthnasol cyflwr cyfredol yr amgylchedd a'i esblygiad tebygol heb weithredu'r cynllun neu'r rhaglen.
3. Nodweddion amgylcheddol yr ardaloedd y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn arwyddocaol.
4. Unrhyw broblemau amgylcheddol presennol sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen gan gynnwys, yn benodol, y rhai sy'n ymwneud ag unrhyw ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol arbennig, megis ardaloedd a ddynodwyd yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt(1) a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
5. Amcanion diogelu'r amgylchedd, a sefydlwyd ar lefel ryngwladol, Gymunedol neu Aelod-wladwriaethol, sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen a'r dull y cyflawnwyd yr amcanion hynny ac unrhyw ystyriaethau amgylcheddol a gymrwyd i ystyriaeth wrth eu paratoi.
6. Yr effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd, gan gynnwys effeithiau byr, canolig a hirdymor, ac effeithiau parhaol a thros dro, effeithiau cadarnhaol a negyddol, ac effeithiau eilaidd, cronnol, a synergyddol, ar faterion gan gynnwys—
(a)bioamrywiaeth;
(b)poblogaeth;
(c)iechyd dynol;
(ch)ffawna;
(d)fflora;
(dd)pridd;
(e)dŵ r;
(f)awyr;
(ff)ffactorau hinsoddol;
(g)asedau materol;
(ng)y dreftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol;
(h)tirlun; a
(i)y gydberthynas rhwng y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (h).
7. Y mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.
8. Amlinelliad o'r rhesymau dros ddethol y dewisiadau amgen yr ymdrinnir â hwy, a disgrifiad o'r dull y gwnaed yr asesiad gan gynnwys unrhyw anawsterau a gafwyd wrth gasglu'r wybodaeth ofynnol.
9. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir o ran monitro yn unol â rheoliad 17.
10. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 9.
O.J. Rhif L 103/1, 25.4.79.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: