Search Legislation

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1656 (Cy.170)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

29 Mehefin 2004

Yn dod i rym

12 Gorffennaf 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â materion sy'n ymwneud ag asesiadau o effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran 2 a enwyd a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1DARPARIAETHAU RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Gorffennaf 2004.

Dehongli

2.—(1Yn y rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”), mewn perthynas â chynllun neu raglen, yw—

(a)

yr awdurdod sy'n ei baratoi neu y gwneir hynny ar ei ran; a

(b)

os bydd yr awdurdod hwnnw'n peidio â bod yn gyfrifol, neu'n gyfrifol yn unigol, ar unrhyw adeg benodol, dros gymryd camau mewn perthynas â'r cynllun neu'r rhaglen, y person sydd, ar yr adeg honno, yn gyfrifol (yn unigol neu ar y cyd â'r awdurdod) dros gymryd y camau hynny;

ystyr “Cadw” (“Cadw”) yw'r asiantaeth weithredol sy'n gyfrifol am weinyddu'r ffordd yr mae swyddogaethau sydd wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol ac sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanes yn cael eu harfer;

mae i “corff ymgynghori” yr ystyr a roddir i “consultation body” gan reoliad 4;

ystyr “Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni” (“the Environmental Assessment of Plans and Programmes Directive” ) yw Cyfarwyddeb 2001/42/EC(3) Senedd Ewrop a'r Cyngor ar asesu effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a fflora a ffawna gwyllt, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC(4);

mae cyfeiriadau at “gynlluniau” (“plans”) a “rhaglenni” (“programmes”) yn gyfeiriadau at gynlluniau a rhaglenni, gan gynnwys y rheiny a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd, yn ogystal ag unrhyw addasiadau iddynt, sydd—

(a)

yn destun paratoi neu fabwysiadu, neu'r ddau, gan awdurdod ar lefel genedlaethol, rhanbarthol neu leol; neu

(b)

wedi'u paratoi gan awdurdod ar gyfer eu mabwysiadu, drwy weithdrefn ddeddfwriaethol gan Senedd neu Lywodraeth; ac, yn y naill achos neu'r llall,

(c)

yn ofynnol gan ddarpariaethau deddfwriaethol, rheoleiddiol neu weinyddol;

mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau; ac

ystyr “yr Ysgrifennydd Gwladol” (“Secretary of State”) yw'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am gynnwys y cynllun neu raglen.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac hefyd yn y Gyfarwyddeb Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt yn y Gyfarwyddeb honno.

(3Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, rheoliadau, ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau, rheoliadau, ac Atodlenni'r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynllun neu raglen sy'n ymwneud yn unig â Chymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac unrhyw orchmynion o dan baragraff (2) o'r adran honno(5).

(3At ddibenion y rheoliad hwn, mae dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy'n gyfagos â Chymru i'w trin fel rhan o Gymru; ac mae cyfeiriadau at Gymru i'w dehongli fel pe baent yn cynnwys y dyfroedd tiriogaethol cyfagos.

(4At ddibenion paragraff (3), mae dyfroedd tiriogaethol yn cynnwys unrhyw ddyfroedd tua'r tir o'r ffiniau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt.

Cyrff ymgynghori

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas â phob cynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, mae pob un o'r cyrff canlynol yn gyrff ymgynghori—

(a)Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

(b)Asiantaeth yr Amgylchedd; a

(c)Cadw.

(2Os bydd corff a grybwyllir ym mharagraff (1) ar unrhyw adeg yn awdurdod cyfrifol o ran cynllun neu raglen, rhaid iddo beidio ar yr adeg honno ag arfer swyddogaethau corff ymgynghori o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno; ac mae cyfeiriadau at gyrff ymgynghori yn narpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn i'w dehongli yn unol â hynny.

RHAN 2ASESIAD AMGYLCHEDDOL O GYNLLUNIAU A RHAGLENNI

Asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni: y weithred baratoadol ffurfiol gyntaf ar ôl 21 Gorffennaf 2004

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6) a rheoliad 7—

(a)os yw gweithred baratoadol ffurfiol gyntaf cynllun neu raglen yn digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004; a

(b)os yw'r cynllun neu'r rhaglen o ddisgrifiad a nodir ym mharagraff (2) neu (3),

rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol.

(2Y disgrifiad yw cynllun neu raglen —

(a)a baratowyd ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgodfeydd, ynni, diwydiant, trafnidiaeth, rheoli gwastraff, rheoli dŵr, telathrebu, twristiaeth, cynllunio gwlad a thref neu ddefnydd o dir; a

(b)sy'n gosod y fframwaith ar gyfer caniatâd datblygu yn y dyfodol ar gyfer prosiectau a restrir yn Atodiad I neu II i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC(6).

(3Y disgrifiad yw cynllun neu raglen y penderfynwyd ei bod yn ofynnol eu hasesu yn unol ag Erthygl 6 neu 7 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn sgil yr effaith debygol ar safleoedd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 7 —

(a)os yw gweithred baratoadol ffurfiol gyntaf cynllun neu raglen, heblaw cynllun neu raglen o ddisgrifiad a nodir ym mharagraff (2) neu (3), yn digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004;

(b)os yw'r cynllun neu'r rhaglen yn gosod fframwaith ar gyfer caniatadau datblygu prosiectau; a

(c)os yw'r cynllun neu'r rhaglen yn destun penderfyniad o dan reoliad 9(1), neu gyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), eu bod yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol,

rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol sy'n arwain at eu mabwysiadu.

(5Nid oes dim ym mharagraff (1) neu (4) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflawni asesiad amgylcheddol ar gyfer—

(a)cynllun neu raglen sydd a'u hunig ddiben yn ymwneud ag amddiffyn cenedlaethol neu argyfwng sifil;

(b)cynllun neu raglen ariannol neu gyllidebol; neu

(c)cynllun neu raglen a gydariannwyd o dan—

(i)cyfnod rhaglennu 2000-2006 ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999; neu

(ii)cyfnod rhaglennu 2000-2007 ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999.

(6Nid oes angen cyflawni asesiad amgylcheddol ar gyfer—

(a)cynllun neu raglen o'r disgrifiad a nodir ym mharagraff (2) neu (3) sy'n penderfynu defnydd ardal fechan ar lefel leol; neu

(b)mân addasiad i gynllun neu raglen o ddisgrifiad a nodir yn y naill neu'r llall o'r paragraffau hynny,

oni chafodd ei benderfynu o dan reoliad 9(1) bod y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad, yn ôl y digwydd, yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, neu eu bod yn destun cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3).

Asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni: y weithred baratoadol ffurfiol gyntaf ar 21 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 7, —

(a)os nad yw'r cynllun neu raglen y mae'r weithred baratoadol ffurfiol gyntaf mewn perthynas â hwy yn digwydd ar 21 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny wedi cael eu mabwysiadu, neu eu cyflwyno i weithdrefn ddeddfwriaethol i'w mabwysiadu, cyn 22 Gorffennaf 2006; a

(b)os yw'r cynllun neu raglen o fath y byddai angen asesiad amgylcheddol ar eu cyfer, yn rhinwedd rheoliad 5(1), pe bai'r weithred gyntaf yn eu paratoad wedi digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004; neu

(c)os yw'r awdurdod cyfrifol o'r farn y byddai wedi penderfynu bod y cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, pe bai penderfyniad o dan reoliad 9(1) mewn perthynas â'r cynllun neu raglen wedi'u gwneud ar ôl 21 Gorffennaf 2004,

rhaid i'r awdurdod cyfrifol gyflawni asesiad amgylcheddol, neu sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni, yn unol â Rhan 3, yn ystod paratoi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno a chyn iddynt gael eu mabwysiadu neu eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol ar gyfer eu mabwysiadu.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflawni asesiad amgylcheddol ar gynllun neu raglen benodol os bydd yr awdurdod cyfrifol—

(a)yn penderfynu nad yw asesiad o'r fath yn ddichonadwy; a

(b)yn hysbysu'r cyhoedd o'i benderfyniad.

Asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd

7.  Rhaid i asesiad amgylcheddol sy'n ofynnol gan unrhyw ddarpariaeth o'r Rhan hon ar gyfer cynllun neu raglen a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd gael ei gyflawni gan yr awdurdod cyfrifol gan gydymffurfio â darpariaethau penodol yn neddfwriaeth berthnasol y Gymuned.

Cyfyngiad ar fabwysiadu neu gyflwyno cynlluniau, rhaglenni neu addasiadau

8.—(1Nid yw cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'n ofynnol cael penderfyniad o dan reoliad 9(1) mewn perthynas â hwy i gael eu mabwysiadu na'u cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol at ddibenion eu mabwysiadu—

(a)os yw'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol yn sgil y penderfyniad, neu gyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), cyn i ofynion paragraff (3) isod gael eu bodloni;

(b)ym mhob achos arall, cyn bod y penderfyniad wedi cael ei wneud o dan reoliad 9(1).

(2Nid yw cynllun neu raglen y mae'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol ar eu cyfer gan unrhyw ddarpariaeth o'r Rhan hon i gael eu mabwysiadu na'u cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol at ddibenion eu mabwysiadu —

(a)os yw'n gynllun neu raglen a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd, cyn bod yr asesiad amgylcheddol wedi'i gyflawni fel y crybwyllir yn rheoliad 7;

(b)ym mhob achos arall, cyn bod gofynion paragraff (3) isod, a'r gofynion hynny yn Rhan 3 sy'n gymwys mewn perthynas â'r cynllun neu'r rhaglen, wedi'u bodloni.

(3Mae'r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried—

(a)yr adroddiad amgylcheddol ar gyfer y cynllun neu'r rhaglen;

(b)pob barn a fynegwyd wrth ymateb i wahoddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2)(ch);

(c)pob barn a fynegwyd wrth ymateb i gamau a gymrwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol â rheoliad 13(4); ac

(ch)canlyniad unrhyw ymgynghori a ddechreuwyd o dan reoliad 14.

Penderfyniadau'r awdurdod cyfrifol

9.—(1Rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu a yw cynllun, rhaglen neu addasiad o ddisgrifiad y cyfeirir ato —

(a)ym mharagraff (4)(a) a (b) o reoliad 5;

(b)ym mharagraff (6)(a) o'r rheoliad hwnnw; neu

(c)ym mharagraff (6)(b) o'r rheoliad hwnnw,

yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol.

(2Cyn iddo wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod cyfrifol—

(a)ystyried y meini prawf a bennir yn Atodlen 1; a

(b)ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.

(3Os bydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu nad yw'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (ac, yn unol â hynny, nad yw'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol), rhaid iddo baratoi datganiad o'i resymau dros benderfyniad o'r fath.

Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol

10.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg cyn mabwysiadu cynllun, rhaglen neu addasiad neu cyn eu cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol er mwyn eu mabwysiadu (yn ôl y digwydd) ei gwneud yn ofynnol, yn ysgrifenedig, i'r awdurdod cyfrifol anfon at y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)copi o unrhyw benderfyniad o dan baragraff (1) o reoliad 9 ynghylch y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad;

(b)copi o'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad y mae'r penderfyniad yn ymwneud â hwy; a

(c)os yw paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys, datganiad o'r rhesymau a baratowyd yn unol â'r paragraff hwnnw.

(2Rhaid i'r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â'r gofyniad a bennir o dan baragraff (1) o fewn 7 niwrnod ar ôl cael hysbysiad ohono.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo y bydd cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (os anfonwyd copi o'r cynllun, y rhaglen neu'r addasiad ato neu beidio mewn ymateb i'r gofyniad o dan baragraff (1)).

(4Cyn rhoi cyfarwyddyd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)ystyried y meini prawf a bennir yn Atodlen 1; a

(b)ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd, anfon at yr awdurdod cyfrifol ac at bob corff ymgynghori—

(a)copi o'r cyfarwyddyd; a

(b)datganiad o'i resymau dros roi'r cyfarwyddyd.

(6Mewn perthynas â chynllun, rhaglen neu addasiad y rhoddwyd cyfarwyddyd mewn perthynas â hwy—

(a)bydd unrhyw benderfyniad o dan reoliad 9(1) o ran y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad yn peidio â bod yn effeithiol pan ddaw'r cyfarwyddyd i law; a

(b)os na wnaed penderfyniad o dan reoliad 9(1) o ran y cynllun, y rhaglen neu'r addasiad, bydd yr awdurdod cyfrifol yn peidio â bod o dan unrhyw ddyletswydd a osodwyd gan y rheoliad hwnnw.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddyd” yw cyfarwyddyd o dan baragraff (3).

Cyhoeddusrwydd ar gyfer penderfyniadau a chyfarwyddiadau

11.—(1O fewn 28 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o dan reoliad 9(1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon at bob corff ymgynghori—

(a)copi o'r penderfyniad; a

(b)os yw wedi penderfynu nad yw'n ofynnol i'r cynllun neu'r rhaglen gael asesiad amgylcheddol, datganiad o'i resymau dros y penderfyniad hwnnw.

(2Rhaid i'r awdurdod cyfrifol—

(a)sicrhau bod copi o'r penderfyniad, ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sy'n mynd gydag ef, ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a

(b)o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud copi o benderfyniad o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—

(i)teitl y cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'r penderfyniad yn ymwneud â hwy;

(ii)bod yr awdurdod cyfrifol wedi penderfynu bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol, neu yn ôl y digwydd, nad ydynt yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen neu, yn ôl y digwydd, nad oes angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a

(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o'r penderfyniad ac unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sydd gydag ef.

(3Os bydd awdurdod cyfrifol yn cael cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), rhaid iddo—

(a)sicrhau bod copi o'r cyfarwyddyd ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a

(b)o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cyfarwyddyd o'r fath, cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—

(i)teitl y cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy;

(ii)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi cyfarwyddyd bod y cynllun, rhaglen neu addasiad yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol ac, yn unol â hynny, bod angen asesiad amgylcheddol mewn perthynas â'r cynllun, rhaglen neu addasiad; a

(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir archwilio neu lle gellir cael copi o gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol (a datganiad o'i resymau dros roi'r cyfarwyddyd).

(4Nid oes dim ym mharagraff (2)(b)(iii) neu (3)(b)(iii) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o'r dogfennau o dan sylw yn ddi-dâl; ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol.

RHAN 3ADRODDIADAU AMGYLCHEDDOL A GWEITHDREFNAU YMGYNGHORI

Paratoi adroddiad amgylcheddol

12.—(1Os oes asesiad amgylcheddol yn ofynnol gan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2, rhaid i'r awdurdod cyfrifol baratoi adroddiad amgylcheddol, neu sicrhau bod un yn cael ei baratoi, yn unol â pharagraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r adroddiad ddynodi, disgrifio a gwerthuso'r effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd—

(a)yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen; a

(b)drwy ddewisiadau eraill rhesymol, gan gymryd i ystyriaeth amcanion a sgôp daearyddol y cynllun neu'r rhaglen.

(3Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 y gall fod angen rhesymol amdani, gan gymryd i ystyriaeth—

(a)yr wybodaeth gyfredol a'r dulliau asesu;

(b)cynnwys a lefel y manylder yn y cynllun neu'r rhaglen;

(c)statws y cynllun neu'r rhaglen yn y broses o wneud penderfyniadau; a

(ch)i ba raddau y mae'n fwy priodol asesu rhai materion ar wahanol lefelau yn y broses honno er mwyn osgoi dyblygu'r asesiad.

(4Gellir rhoi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 drwy gyfeirio at wybodaeth berthnasol a gafwyd ar lefelau eraill y broses benderfynu neu drwy ddeddfwriaeth arall y Gymuned.

(5Wrth benderfynu ar sgôp a lefel manylion yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr adroddiad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.

(6Os bydd corff ymgynghori yn dymuno ymateb i ymgynghoriad o dan baragraff (5), rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod o 5 wythnos gan ddechrau ar y dyddiad pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau.

Y gweithdrefnau ymgynghori

13.—(1Rhaid trefnu bod pob cynllun drafft neu raglen ddrafft y paratowyd adroddiad amgylcheddol ar eu cyfer yn unol â rheoliad 12, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, ar gael yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn; cyfeirir at ddogfennau o'r fath fel “y dogfennau perthnasol” yn y rheoliad hwn.

(2Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl paratoi'r dogfennau perthnasol, rhaid i'r awdurdod cyfrifol—

(a)anfon copi o'r dogfennau hynny at bob corff ymgynghori;

(b)cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn paratoad y dogfennau perthnasol i sylw'r personau, ym marn yr awdurdod, yr effeithir arnynt neu y mae'n debygol yr effeithir arnynt, neu mae ganddynt fuddiant yn y penderfyniadau sy'n ymwneud ag asesu a mabwysiadu'r cynllun neu'r rhaglen o dan sylw, sy'n ofynnol o dan y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (“yr ymgynghoreion cyhoeddus”);

(c)hysbysu'r cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus o'r cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld y dogfennau perthnasol, neu lle gellir cael copi ohonynt; a

(ch)gwahodd y cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus i fynegi eu barn ar y dogfennau perthnasol, gan nodi'r cyfeiriad y dylid anfon y farn iddo ac yn ystod pa gyfnod y mae'n rhaid ei derbyn.

(3Rhaid i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(ch)—

(a)beidio â bod yn llai na 28 diwrnod; a

(b)fod am yr hyd hwnnw a fydd yn sicrhau y bydd y cyrff ymgynghori a'r ymgynghoreion cyhoeddus yn cael cyfle effeithiol i fynegi eu barn ar y dogfennau perthnasol.

(4Rhaid i'r awdurdod cyfrifol sicrhau bod copi o'r dogfennau perthnasol ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl.

(5Nid oes dim ym mharagraff (2)(c) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cyfrifol ddarparu copïau yn ddi-dâl ond os codir tâl, rhaid iddo fod yn swm rhesymol.

Ymgynghori trawsffiniol

14.—(1Os bydd awdurdod cyfrifol, heblaw'r Cynulliad Cenedlaethol, o'r farn bod cynllun neu raglen y mae'n awdurdod cyfrifol ar eu cyfer yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar amgylchedd Aelod-wladwriaeth arall, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl ffurfio'r farn honno—

(a)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i farn a'r rhesymau amdani; a

(b)rhoi copi o'r cynllun neu'r rhaglen o dan sylw a'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef i'r Cynulliad Cenedlaethol

(2Os hysbyswyd y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r awdurdod cyfrifol, o fewn cyfnod y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod (a hwnnw'n gyfnod nad yw'n llai na 21 diwrnod), roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth arall honno am y cynllun neu'r rhaglen, neu'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef, y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys —

(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, boed yn sgil hysbysiad o dan baragraff (1)(a) neu fel arall, yn ystyried y byddai gweithredu cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar amgylchedd Aelod-wladwriaeth arall; neu

(b)os yw Aelod-wladwriaeth y mae'n debygol yr effeithir arni'n arwyddocaol wrth weithredu cynllun neu raglen o'r fath yn gwneud cais am y dogfennau a bennir ym mharagraff (4)(a).

(4Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)anfon copi o'r cynllun neu'r rhaglen, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, at yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)hysbysu'r awdurdod cyfrifol bod paragraff (3)(a) neu (b) yn gymwys, yn ôl y digwydd; a

(c)cyfarwyddo'r awdurdod cyfrifol bod yn rhaid iddo beidio â mabwysiadu, neu gyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol ar gyfer eu mabwysiadu, y cynllun neu'r rhaglen nes bod yr ymarfer ymgynghori wedi'i gwblhau.

Cynlluniau a rhaglenni Aelod-wladwriaethau eraill

15.  Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn oddi wrth Aelod-wladwriaeth (boed yn ymateb i gais a wnaed gan y Deyrnas Unedig yn y cyswllt hwnnw o dan Gyfarwyddeb Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni neu beidio) gopi o gynllun drafft neu raglen ddrafft —

(a)sy'n cael ei baratoi mewn perthynas ag unrhyw ran o'r Aelod-wladwriaeth honno; a

(b)y mae eu gweithredu yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar amgylchedd unrhyw rhan o'r Deyrnas Unedig,

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon unrhyw wybodaeth y mae'n ei derbyn at yr Ysgrifennydd Gwladol.

RHAN 4GWEITHDREFNAU ÔL-FABWYSIADU

Gwybodaeth o ran mabwysiadu cynllun neu raglen

16.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen y cyflawnwyd asesiad amgylcheddol ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod cyfrifol—

(a)sicrhau bod copi o'r cynllun a'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef, ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a

(b)cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—

(i)teitl y cynllun neu'r rhaglen;

(ii)y dyddiad y mabwysiadwyd hwy;

(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld neu lle gellir cael copi ohonynt, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, a chopi o'r datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4);

(iv)yr amserau pan ellir archwilio; a

(v)y gellir archwilio'n ddi-dâl.

(2Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen—

(a)rhaid i'r awdurdod cyfrifol hysbysu—

(i)y cyrff ymgynghori;

(ii)y personau a oedd, o ran y cynllun neu'r rhaglen, yn ymgynghoreion cyhoeddus at ddibenion rheoliad 13; a

(iii)os nad y Cynulliad Cenedlaethol yw'r corff cyfrifol, y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol,

am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).

(3Dyma'r materion—

(a)bod y cynllun neu'r rhaglen wedi cael eu mabwysiadu;

(b)y dyddiad y mabwysiadwyd hwy; a

(c)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld copi neu lle gellir cael copi—

(i)o'r cynllun neu'r rhaglen, fel y mabwysiadwyd hwy;

(ii)yr adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy; a

(iii)datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4),

(4Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii) a (3)(c)(iii) —

(a)sut y cafodd ystyriaethau amgylcheddol eu hintegreiddio i'r cynllun neu'r rhaglen;

(b)sut y cymrwyd yr adroddiad amgylcheddol i ystyriaeth;

(c)sut y cymrwyd i ystyriaeth y farn a fynegwyd wrth ymateb—

(i)i'r gwahoddiad yn rheoliad 13(2)(ch);

(ii)y camau a gymrwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol â rheoliad 13(4);

(ch)sut y cymrwyd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw ymgynghori a wnaed o dan reoliad 14;

(d)y rhesymau dros ddewis y cynllun neu'r rhaglen a fabwysiadwyd, yng ngoleuni unrhyw ddewisiadau rhesymol eraill yr ymdriniwyd â hwy; a

(dd)y mesurau sydd i'w cymryd i fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.

Monitro gweithredu cynlluniau a rhaglenni

17.—(1Rhaid i'r awdurdod cyfrifol fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu pob cynllun neu raglen er mwyn canfod effeithiau andwyol na ragwelwyd hwy mewn cyfnod cynnar, a gallu cymryd camau i adfer y sefyllfa pan fydd yn briodol.

(2Gallai trefniadau monitro'r awdurdod cyfrifol gynnwys neu gael eu ffurfio o drefniadau a sefydlwyd heblaw at y diben datganedig o gydymffurfio â pharagraff (1).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mehefin 2004

Rheoliadau 9(2)(a) a 10(4)(a)

ATODLEN 1Y MEINI PRAWF AR GYFER PENDERFYNU ARWYDDOCÅD TEBYGOL YR EFFEITHIAU AR YR AMGYLCHEDD

1.  Nodweddion y cynlluniau a'r rhaglenni, gan ystyried yn benodol—

(a)i ba raddau y mae'r cynllun neu raglen yn gosod fframwaith ar gyfer prosiectau a gweithgareddau eraill, naill ai o ran lleoliad, natur, maint ac amodau gweithredu neu drwy ddyrannu adnoddau;

(b)i ba raddau y mae'r cynllun neu raglen yn dylanwadu ar gynlluniau a rhaglenni eraill gan gynnwys y rhai sydd mewn hierarchaeth;

(c)pa mor berthnasol yw'r cynllun neu raglen ar gyfer integreiddio ystyriaethau amgylcheddol yn benodol gyda'r bwriad o hybu datblygu cynaliadwy;

(ch)y problemau amgylcheddol sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen; a

(d)pa mor berthnasol yw'r cynllun neu'r rhaglen ar gyfer gweithredu deddfwriaeth y Gymuned ar yr amgylchedd.

2.  Nodweddion yr effeithiau a'r ardal y mae'n debygol yr effeithir arni, gan ystyried yn benodol—

(a)tebygolrwydd, hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effeithiau;

(b)natur gronnol yr effeithiau;

(c)natur drawsffiniol yr effeithiau;

(ch)y risgiau i iechyd dynol neu i'r amgylchedd;

(d)maintioli a hyd a lled yr effeithiau (yr arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth y mae'n debygol yr effeithir arnynt);

(dd)pa mor hawdd yw creithio'r ardal y mae'n debygol yr effeithir arni, a gwerth yr ardal honno, oherwydd—

(i)nodweddion naturiol arbennig neu dreftadaeth ddiwylliannol;

(ii)mynd dros ben safonau ansawdd amgylcheddol neu werthoedd terfyn; neu

(iii)defnydd dwys o'r tir; a

(e)yr effeithiau ar fannau neu dirluniau y cydnabyddir bod iddynt statws gwarchod cenedlaethol, Cymunedol neu ryngwladol.

Rheoliad 12(3)

ATODLEN 2GWYBODAETH AR GYFER ADRODDIADAU AMGYLCHEDDOL

1.  Amlinelliad o gynnwys a phrif amcanion y cynllun neu'r rhaglen, a'u perthynas (os oes un) â chynlluniau a rhaglenni eraill.

2.  Agweddau perthnasol cyflwr cyfredol yr amgylchedd a'i esblygiad tebygol heb weithredu'r cynllun neu'r rhaglen.

3.  Nodweddion amgylcheddol yr ardaloedd y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn arwyddocaol.

4.  Unrhyw broblemau amgylcheddol presennol sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen gan gynnwys, yn benodol, y rhai sy'n ymwneud ag unrhyw ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol arbennig, megis ardaloedd a ddynodwyd yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt(8) a'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

5.  Amcanion diogelu'r amgylchedd, a sefydlwyd ar lefel ryngwladol, Gymunedol neu Aelod-wladwriaethol, sy'n berthnasol i'r cynllun neu'r rhaglen a'r dull y cyflawnwyd yr amcanion hynny ac unrhyw ystyriaethau amgylcheddol a gymrwyd i ystyriaeth wrth eu paratoi.

6.  Yr effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd, gan gynnwys effeithiau byr, canolig a hirdymor, ac effeithiau parhaol a thros dro, effeithiau cadarnhaol a negyddol, ac effeithiau eilaidd, cronnol, a synergyddol, ar faterion gan gynnwys—

(a)bioamrywiaeth;

(b)poblogaeth;

(c)iechyd dynol;

(ch)ffawna;

(d)fflora;

(dd)pridd;

(e)dŵ r;

(f)awyr;

(ff)ffactorau hinsoddol;

(g)asedau materol;

(ng)y dreftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol;

(h)tirlun; a

(i)y gydberthynas rhwng y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (h).

7.  Y mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac os yw'n bosibl i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.

8.  Amlinelliad o'r rhesymau dros ddethol y dewisiadau amgen yr ymdrinnir â hwy, a disgrifiad o'r dull y gwnaed yr asesiad gan gynnwys unrhyw anawsterau a gafwyd wrth gasglu'r wybodaeth ofynnol.

9.  Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir o ran monitro yn unol â rheoliad 17.

10.  Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 9.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2001/42/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar asesu effeithiau cynlluniau a rhaglenni penodol ar yr amgylchedd (“y Gyfarwyddeb”) o ran cynlluniau a rhaglenni sy'n ymwneud yn unig â Chymru.

Gweithredir y Gyfarwyddeb, mewn perthynas â chynlluniau a rhaglenni sy'n ymwneud â Chymru yn ogystal â rhan arall o'r Deyrnas Unedig, drwy Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni 2004.

Nid yw'r Gyfarwyddeb, ac yn unol â hynny, y Rheoliadau hyn, yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni sydd yn ymwneud yn unig ag amddiffyn cenedlaethol neu argyfwng sifil, nac yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni ariannol neu gyllidebol. Nid ydynt yn gymwys ychwaith i gynllun neu raglen a gydariannwyd gan y Gymuned Ewropeaidd o dan gyfnod rhaglennu 2000-2006 ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 na chyfnod rhaglennu 2000-2006 neu 2000-2007 ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 (Erthygl 3.8 a 3.9 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 5(5) o'r Rheoliadau hyn).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni penodol, gan gynnwys y rhai a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd, ac unrhyw addasiadau iddynt, y maent yn ofynnol gan ddarpariaethau deddfwriaethol, rheoliadol neu weinyddol ac y maent naill ai—

(a)yn destun paratoi a/neu fabwysiadu gan awdurdod ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol; neu

(b)wedi'u paratoi gan awdurdod i'w mabwysiadu, drwy weithdrefn ddeddfwriaethol gan Senedd neu Lywodraeth.

Yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir isod, os yw'r weithred baratoi ffurfiol gyntaf mewn perthynas â chynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004, ni all y cynllun neu raglen gael eu mabwysiadu, na'u cyflwyno ar gyfer eu mabwysiadu, oni fuont yn destun asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau hyn (Erthyglau 4.1 a 13.3 o'r Gyfarwyddeb a rheoliadau 5(1) a 7 o'r Rheoliadau hyn).

Mae'r gofyniad am asesiad amgylcheddol yn gymwys, yn benodol, i unrhyw gynllun neu raglen a baratowyd ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgodfeydd, ynni, diwydiant, trafnidiaeth, rheoli gwastraff, rheoli dŵ r, telathrebu, twristiaeth, cynllunio gwlad a thref neu ddefnydd tir, sy'n gosod y fframwaith ar gyfer caniatâd datblygu yn y dyfodol ar gyfer prosiectau a restrir yn Atodiad I neu II i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC; ac i unrhyw gynllun neu raglen y penderfynwyd ei bod yn ofynnol ei asesu yn unol ag Erthygl 6 neu 7 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a fflora a ffawna, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, yn sgil yr effaith debygol ar safleoedd (Erthygl 3.2 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 5(1) i (3) o'r Rheoliadau hyn).

Mae yna eithriadau ar gyfer cynlluniau a rhaglenni sy'n penderfynu defnydd ardal fechan ar lefel leol, ac ar gyfer mân addasiadau, os yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am baratoi'r cynllun neu'r rhaglen (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel yr “awdurdod cyfrifol”) wedi penderfynu o dan reoliad 9(1) o'r Rheoliadau hyn eu bod yn annhebygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (Erthygl 3.3 a rheoliad 5(6) o'r Rheoliadau hyn). Gall penderfyniad yr awdurdod cyfrifol beidio â chael effaith, fodd bynnag, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3).

Mae'r gofyniad am asesiad amgylcheddol yn gymwys hefyd i gynlluniau a rhaglenni eraill sy'n gosod fframwaith ar gyfer caniatâd datblygu yn y dyfodol i brosiectau os ydynt yn destun penderfyniad o dan reoliad 9(1) bod y cynllun neu'r rhaglen yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol (Erthygl 3.4 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 5(4) o'r Rheoliadau hyn). Gall penderfyniad yr awdurdod cyfrifol beidio â chael effaith, fodd bynnag, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o dan reoliad 10(3).

Mae'r gofyniad am asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys os na chafodd cynllun neu raglen y digwyddodd y weithred baratoadol ffurfiol gyntaf mewn perthynas â hwy cyn 21 Gorffennaf 2004 eu mabwysiadu, neu eu cyflwyno ar gyfer eu mabwysiadu, cyn 22 Gorffennaf 2006. Pe byddai angen asesiad amgylcheddol pe bai'r weithred baratoadol ffurfiol gyntaf wedi digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2004, rhaid gwneud y cynllun neu'r rhaglen yn destun asesiad amgylcheddol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo nad yw'n ddichonadwy ac yn hysbysu'r cyhoedd i'r perwyl hwnnw (Erthyglau 4.1 a 13.3 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 6 o'r Rheoliadau hyn).

Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer cyflawni asesiad amgylcheddol o gynlluniau a rhaglenni a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd (heblaw'r rhai a eithrir gan Erthygl 3.9 o'r Gyfarwyddeb) yn unol â'r darpariaethau penodol yn neddfwriaeth berthnasol y Gymuned (Erthygl 11.3 o'r Gyfarwyddeb).

Mae rheoliad 8 yn atal mabwysiadu, neu gyflwyno ar gyfer mabwysiadu, gynllun neu raglen y mae asesiad amgylcheddol yn ofynnol ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn, cyn cwblhau'r asesiad hwnnw. Nid yw asesiad amgylcheddol wedi'i gwblhau nes bod yr adroddiad amgylcheddol ar gyfer y cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno, y farn a fynegwyd yng nghwrs yr ymgynghoriadau gofynnol a chanlyniadau unrhyw ymgynghoriadau trawsffiniol wedi cael eu hystyried (Erthygl 8 o'r Gyfarwyddeb). Mae rheoliad 8 hefyd yn atal mabwysiadu, neu gyflwyno ar gyfer mabwysiadu, gynllun neu raglen tra bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried a yw'r cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol.

Mae rheoliad 9 yn ymwneud â gwneud penderfyniadau gan awdurdodau perthnasol ynglŷn ag a yw cynllun neu raglen yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol. Nodir y meini prawf sydd i'w cymhwyso yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn (Erthygl 3.5 o'r Gyfarwyddeb ac Atodiad II iddi). Ni ellir gwneud y penderfyniadau onid yw'r awdurdod perthnasol wedi ymgynghori â chyrff dynodedig (“y cyrff ymgynghori”). Ymdrinnir â dynodiad y cyrff ymgynghori yn rheoliad 4 (Erthygl 6.3 o'r Gyfarwyddeb). Yn achos pob cynllun a rhaglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cadw ac Asiantaeth yr Amgylchedd fydd y cyrff ymgynghori, neu bydd y cyrff ymgynghori yn cynnwys y cyrff hynny.

Mae rheoliad 10 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i fynnu bod awdurdod cyfrifol yn rhoi dogfennau perthnasol iddo. Mae hefyd yn ei alluogi i gyfarwyddo bod cynllun neu raglen penodol yn debygol o gael effeithiau amgylcheddol arwyddocaol. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cyfarwyddyd o'r fath, bydd unrhyw benderfyniad i'r gwrthwyneb a wnaed o dan reoliad 9(1) o'r Rheoliadau hyn gan awdurdod cyfrifol yn peidio â bod yn effeithiol. Os nad yw awdurdod cyfrifol wedi gwneud unrhyw benderfyniad o dan y ddarpariaeth honno, bydd cyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ryddhau o'r ddyletswydd i wneud hynny.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi'r penderfyniadau o dan reoliad 9 (Erthygl 3.7 o'r Gyfarwyddeb) a'r cyfarwyddiadau o dan reoliad 10.

Mae asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau hyn yn cynnwys paratoi adroddiad amgylcheddol (Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb a rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn). Pennir y materion sydd i'w cynnwys yn yr adroddiad amgylcheddol yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn (Erthygl 5.1 o'r Gyfarwyddeb ac Atodiad II iddi).

Mae rheoliad 13 yn pennu'r gweithdrefnau ymgynghori y mae'n rhaid eu dilyn mewn perthynas â chynllun drafft neu raglen ddrafft y cafodd adroddiad amgylcheddol ei baratoi ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn (Erthyglau 5.4 a 6 o'r Gyfarwyddeb).

Mae rheoliadau 14 a 15 yn ymwneud ag ymgynghori trawsffiniol ac yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer ymgynghori mewn perthynas â'r cynlluniau a'r rhaglenni drafft hynny a baratowyd yng Nghymru sy'n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd mewn Aelod-wladwriaethau eraill (Erthygl 7 o'r Gyfarwyddeb).

Mae rheoliad 16 yn ymwneud â gweithdrefnau ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen a fu'n destun asesiad amgylcheddol o dan y Rheoliadau. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r person a baratôdd y cynllun neu'r rhaglen hysbysu eu bod wedi cael eu mabwysiadu a threfnu bod y cynllun neu'r rhaglen a gwybodaeth arall a bennir ar gael i'w harchwilio (Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb).

Mae rheoliad 17 yn ymwneud â monitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu cynlluniau a rhaglenni (Erthygl 10 o'r Gyfarwyddeb). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r person a baratôdd y cynllun neu'r rhaglen fonitro er mwyn canfod, mewn cyfnod cynnar, effeithiau andwyol na ragwelwyd hwy, a gallu cymryd camau i adfer y sefyllfa pan fydd hynny yn briodol.

(3)

O.J. Rhif L 197, 21.07.2001, t.30.

(4)

O.J. Rhif L 206, 22.7.1992. Ceir y Gyfarwyddeb ddiwygio ddiweddaraf yn O.J. Rhif L 305, 8.11.1997, t.42.

(5)

1998 p.38. Gweler Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo (O.S. 1999/672).

(6)

O.J. Rhif L 175, 5.7.1985, t.40. Ceir y Gyfarwyddeb ddiwygio yn O.J. L73, 14.3.1997, t.5.

(8)

O.J. Rhif L 103/1, 25.4.79.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources