- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Nid yw cynllun, rhaglen neu addasiad y mae'n ofynnol cael penderfyniad o dan reoliad 9(1) mewn perthynas â hwy i gael eu mabwysiadu na'u cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol at ddibenion eu mabwysiadu—
(a)os yw'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol yn sgil y penderfyniad, neu gyfarwyddyd o dan reoliad 10(3), cyn i ofynion paragraff (3) isod gael eu bodloni;
(b)ym mhob achos arall, cyn bod y penderfyniad wedi cael ei wneud o dan reoliad 9(1).
(2) Nid yw cynllun neu raglen y mae'n ofynnol cael asesiad amgylcheddol ar eu cyfer gan unrhyw ddarpariaeth o'r Rhan hon i gael eu mabwysiadu na'u cyflwyno i'r weithdrefn ddeddfwriaethol at ddibenion eu mabwysiadu —
(a)os yw'n gynllun neu raglen a gydariennir gan y Gymuned Ewropeaidd, cyn bod yr asesiad amgylcheddol wedi'i gyflawni fel y crybwyllir yn rheoliad 7;
(b)ym mhob achos arall, cyn bod gofynion paragraff (3) isod, a'r gofynion hynny yn Rhan 3 sy'n gymwys mewn perthynas â'r cynllun neu'r rhaglen, wedi'u bodloni.
(3) Mae'r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ystyried—
(a)yr adroddiad amgylcheddol ar gyfer y cynllun neu'r rhaglen;
(b)pob barn a fynegwyd wrth ymateb i wahoddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2)(ch);
(c)pob barn a fynegwyd wrth ymateb i gamau a gymrwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol â rheoliad 13(4); ac
(ch)canlyniad unrhyw ymgynghori a ddechreuwyd o dan reoliad 14.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: