- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
16.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen y cyflawnwyd asesiad amgylcheddol ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod cyfrifol—
(a)sicrhau bod copi o'r cynllun a'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef, ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
(b)cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—
(i)teitl y cynllun neu'r rhaglen;
(ii)y dyddiad y mabwysiadwyd hwy;
(iii)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld neu lle gellir cael copi ohonynt, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, a chopi o'r datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4);
(iv)yr amserau pan ellir archwilio; a
(v)y gellir archwilio'n ddi-dâl.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen—
(a)rhaid i'r awdurdod cyfrifol hysbysu—
(i)y cyrff ymgynghori;
(ii)y personau a oedd, o ran y cynllun neu'r rhaglen, yn ymgynghoreion cyhoeddus at ddibenion rheoliad 13; a
(iii)os nad y Cynulliad Cenedlaethol yw'r corff cyfrifol, y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol,
am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r materion—
(a)bod y cynllun neu'r rhaglen wedi cael eu mabwysiadu;
(b)y dyddiad y mabwysiadwyd hwy; a
(c)y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld copi neu lle gellir cael copi—
(i)o'r cynllun neu'r rhaglen, fel y mabwysiadwyd hwy;
(ii)yr adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy; a
(iii)datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4),
(4) Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii) a (3)(c)(iii) —
(a)sut y cafodd ystyriaethau amgylcheddol eu hintegreiddio i'r cynllun neu'r rhaglen;
(b)sut y cymrwyd yr adroddiad amgylcheddol i ystyriaeth;
(c)sut y cymrwyd i ystyriaeth y farn a fynegwyd wrth ymateb—
(i)i'r gwahoddiad yn rheoliad 13(2)(ch);
(ii)y camau a gymrwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol â rheoliad 13(4);
(ch)sut y cymrwyd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw ymgynghori a wnaed o dan reoliad 14;
(d)y rhesymau dros ddewis y cynllun neu'r rhaglen a fabwysiadwyd, yng ngoleuni unrhyw ddewisiadau rhesymol eraill yr ymdriniwyd â hwy; a
(dd)y mesurau sydd i'w cymryd i fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: